Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Athro T. GWYNN JONES MEWN CHWE LLYFR. DIGWYDDIAD mwyaf y flwyddyn hon yn y byd llenyddol Cymraeg fydd cyhoeddi holl brif weithiau'r Athro T. Gwynn Jones yn gyfres safonol, unffurf. Ym Mangor y bydd yr Eisteddfod Genedl- aethol eleni. Pan oedd hi ym Mangor yn 1902 Mr. T. Gwynn Jones (Caernarfon y pryd hwnnw) a enillodd y gadair gyda'i awdl enwog Ymadawiad Arthur." Rhoddodd yr awdl honno dro newydd ar farddoniaeth Cymru. Dechreuodd gyfnod newydd. Hyhi oedd utgorn y deffröad," fel petae. Pontiwyd y gwagle rhwng llên ein hoes ni â hen lên glasurol ein cenedl. Daethpwyd ag ysbryd yr hen ramantau'n ôl. Sylw Syr J. Morris-Jones. Mawr fu effaith Ymadawiad Arthur ar wvr ieuainc yr oes honno, ac fe flodeuodd beirdd fel Mr. R. Williams Parry, Dr. T. H. Parry-Williams, a Hedd Wyn o dan ei dylanwad (fe stranciodd Dr. Parry-Williams dipyn yn erbyn y rhamantu, ond y mae i'w weld yn eglur yn ei weithiau cynaraf). Syr John Morris-Jones (Mr. yr adeg honno) oedd un o feirniaid Ymadawiad Arthur," a dywedodd ef iddo ganfod, ar ôl darllen awdl Mr. T. Gwynn Jones, fod yr hyn y disgwyliai ac y gobeithiai amdano wedi digwydd. Athro Llenyddiaeth Gymraeg yng Ngholeg Aberystwyth ydyw Mr. T. Gwynn Jones ers blynyddoedd, ac o 1902 hyd yn awr ni bu pall ar ei ffrwythlondeb llenyddol. Bu'n ddiwyd i'w ryfeddu. Ond y peth syn yw fod ei brif weithiau llenyddol yn anodd eu cael heddiw. Fe gyhoeddwyd ei Ganiadau yn wych iawn beth amser yn ôl gan Wasg Gregynog, ond cyfrol ddrud oedd honno, ac ychydig a argraffwyd. Ni allai'r gwr a'r wraig lengar gyffredin ei fforddio. Am bobl. Yn wir, nid oedd dim rheswm fod gweith- iau'n prif ffigur llenyddol mor anodd eu cael. Ond eleni fe gyhoeddir ei weithiau (barddoniaeth ac erthyglau) yn chwe chyfrol. Bydd y gyntaf o'r wasg y mis nesaf. Manion fydd enw'r gyntaf, ac fe fydd hon yn cynnwys peth o'i farddoniaeth orau. Yna fe ddaw Cymeriadau, cyfrol o ysgrifau ganddo ar Gymry amlwg ei oes- megis Syr John Morris-Jones, yr Athro David Williams, Syr Henry Jones, Mr. Richard Hughes Williams (yr ystorïwr), Syr Edward Anwyl, y Prifathro T. F. Roberts, y Prifathro J. H. Davies, ac Alafon. Y mae'n debyg y bydd mwy o ddarllen ar y gyfrol hon nag ar yr un a ddaeth allan ers talwm. Yna fe ddaw ei Ganiadau, yr un gyfrol ag a gyhoeddwyd am 12s. 6d. gan Wasg Gregynog ac sydd heddiw'n costio £ 2 2s. pan ellir ei chael o gwbl. Bydd ei phris yn yr argraffiad newydd yn isel. Astudiaethau. Ar ôl hon daw dwy gyfrol o Astudiaethau erthyglau ar Dante, Don Quixote, Uhland, Tennyson, ac ysgrifau ar bynciau Yr Athro T. Gwynn.Jones. fel Ein Cymdogion a Ninnau," Llyfrau Ieuenctid," Y Deml Gudd — pob un ohonynt yn arweiniad swynol i wahanol fydoedd diwylliant. Llyfr Beírniadaeth a Myfyrdod fydd y pumed. Dyma enwau rhai o'r ysgrifau fydd ynddo:- Beirdd a Phechaduriaid," Ysgrifennu Stori," Cynghanedd," Cymru a'r Ddrama," Englyna," Cystadlu," Colofnau Mwg," Tangnefedd," Dyn a'r Dyn Arall," Rhieingerddi." Yna daw cyfrol o dychangerddi, ac y mae'n bosibl y bydd y llyfr hwn hefyd yn cynnwys rhai o gyfieithiadau meistrolgar yr Athro Gwynn Jones o'r Almaeneg a'r Wyddeleg ac amryw ieithoedd eraill. Hanes ei fywyd. Ganwyd yr Athro T. Gwynn Jones yng Ngwyndrig Uchaf, Betws-yn-Rhos, Sir Ddinbych, yn 1871. Bu mewn ysgolion yng Ngholwyn a Dinbyeh, ond ei addysgu ei hun a wnaeth gan mwyaf. Dywed hefyd fod arno ddyled fawr i Emrys ap Iwan. Ar ôl bod am rai blynyddoedd mewn swyddfeydd papurau newydd yng Nghaer- narfon cymerodd swydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Bu'n dar- lithio yn y Coleg yno ar lenyddiaeth Cymru, ac yno yr enillodd radd M.A. Yn 1920 penodwyd ef yn Athro (neu Broffeswr) Llenyddiaeth Gymraeg yno. R. HUGHES WILLIAMS. Yr haf hwn hefyd fe gyhoeddir Straeon Richard Hughes Williams — gŵr y cyfeir- iwyd ato uchod. Dywedodd yr Athro T. Gwynn Jones amdano: Un o'r dynion cáredicaf a wisgodd esgid erioed oedd Richard Hughes Williams (Dic Tryfan) ac os bu neb erioed yn Gymro hyd fêr ei esgyrn ef oedd Ysgrifennodd rai cannoedd o ystraeon byripn, ac y mae yn eu plith o leiaf rai cystal ag a ysgrif- ennwyd yn unman erioed. Yr oedd yn graff iawn. Gwnâi i'r manylion lleiaf wasanaethu ei amcan. Achwynai beirniad dysgedig yn ddiweddar na bai ystraeon byrion medrus i'w cael yn Gymraeg. Gofynnais iddo a ddarllenasai ef ystraeon Hughes Williams? Y mae Mr. E. Morgan Humphreys wedi ysgrifennu rhagymadrodd arbennig o ddi- ddorol i'r llyfr newydd, lle y dyry ei atgofion ei hun am yr awdur. HEDD WYN. Trydydd digwyddiad diddorol yr haf hwn fydd cyhoeddi argraffiad newydd o farddon- iaeth Hedd Wyn, Cerddi'r Bugail. Y mae'r gyfrol hon allan o brint ers blynyddoedd. Cydnabyddir bod Yr Arwr," awdl cadair ddu Birkenhead, 1917, yn un o gampweithiau'n hoes ni-yn wir, yn un o gerddi godidocaf yr iaith Gymraeg. Ofnir nad ydyw Cymru wedi llawn ddeall hyn, er mor agos ydyw Hedd Wyn at ei chalon. Cyfaill dynol ryw ydyw'r Arwr," — y gŵr a anfonir i'r byd gan y duwiau, weith- iau'n athro mawr, weithiau'n gerddor mawr, weithiau'n fardd, weithiau'n broffwyd. Merch y Drycinoedd ydyw'r ddaear, ac y mae Hedd Wyn yn ei disgrifio hi'n gwrthod yr Arwr (yn lladd ei phroffwydi), ond yn y diwedd y mae'n ei dderbyn. Credir y bydd yr argraffiad newydd o Gerddi'r Bugail yn codi diddordeb mawr newydd yng ngwaith y bardd mawr hwn a laddwyd yn wr ieuanc yn Ffrainc. Bydd y llyfr wedi ei drefnu'n hollol wahanol i'r hen un. Bydd ynddo rai darnau nas cyhoeddwyd o'r blaen, ac fe geir rhagymadrodd gan lenor a bardd a fagwyd gyda Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd ac a oedd yn gyfaill mynwesol iddo. FFRWYTH YMCHWIL (Parhâd o dudalen 8.) Gadewch imi roddi un enghraifft arall o'r un datblygiad. Prin iawn erbyn heddiw yw nifer y rhai na wyddant am y pennill bychan hwn: Yr oedd bachan gerllaw Llangeler A roed gan ei wraig yn y seler; Pan drawodd cyn hir Ar faril o fir, Eb efe: Ei hewyllys a wneler. Ond fe ddichon nad yw'r englyn hwn yr un mor adnabyddus: Yr oedd bachan-wel-yn Ltangeler,—a'i A'i rhodd yn y seler; [wraig Eb e'n chwil ger baril biêr- Wraig, yn ðl d' air y gwneler." A phwy all amau'r cysylltiad rhwng y ddau? Ond ni helaethaf. Y rhan bwysicaf o'n gwaith yw ymchwiliad manwl a chyn- hwysfawr Twm i'r limrig yn ei berthynas ag enwau lleoedd yng Nghymru. Gobeithiaf y caf hwyl arno maes o law i sgrifennu rhywbeth i'r FoRD GRON ar y pwnc. Am- gaeaf ddarlun o Mr. Thomas Thomas.