Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwawr Llenyddiaeth Cymru, III. BEIRDD Y TYWYSOGION. Dyma hanes y beirdd a ganai pan oedd Cymrun ymdrechun waedlyd yn erbyn Sais a Norman, a phan gyfansoddwyd rhai o linellau mwyaf ysgubol barddoniaeth Gymraeg. ADEG gyffrous, ryfelgar yn hanes Cymru oedd cyfnod Beirdd y Tywysogion, sef rhwng y blynyddoedd 1100 a 1400. Ar un pryd ymdrechai'r wlad am annibyniaeth a bywyd yn erbyn Sais a Norman; bryd arall yr oedd llaw llwyth yn erbyn llwyth i ddial sarhad a cham perth- nasau. Ar ddechrau'r cyfnod fe ddigwyddodd deubeth a adawodd effaith drom ar fywyd Cymru. Yn 1077 daeth Rhys ap Tewdwr yn ôl o Lydaw ac adfeddiannu'i deyrnas yn y De. Yn 1080 daeth Gruffydd ap Cynan o Iwerddon a derbyn tywysogaeth Gwynedd. Anodd peidio â chysylltu'r deffroad llen- yddol â'r cyfnod newydd gwleidyddol. Y mae lle i gredu mai yn y De yr ysgrifennwyd y Mabinogion; yn y Gogledd yn arbennig cawn gorff mawr o farddoniaeth. Y bardd yn swyddog. I ddeall y farddoniaeth hon yn iawn rhaid cadw mewn cof safle bwysig gym- deithasol y bardd-yr oedd yn un o swydd- ogion y llys, a hawliau arbennig ganddo, yn ôl cyfraith Hywel, i dderbyn bwyd a dillad gan ei dywysog. Yr oedd hefyd ysgolion barddol a graddau mewn barddoniaeth; rhaid oedd i'r bardd cyn dod yn bencerdd fynd trwy bob rhan o'r cwrs; yna câi gadair yn y llys fel y câi'r swyddogion eraill. Yr oedd barddoniaeth yn alwedigaeth, ac yn alwedigaeth bwysig-mor bwysig fel nad oedd hawl i fab caeth ymgymryd â hi, a thebyg yw bod yn rhaid i ŵr hannu o deulu barddol cyn y caniateid iddo ddod yn fardd. Dynion llawn bywyd. Cryfder cymdeithasol y beirdd oedd, ar un olwg, eu gelyn mwyaf. Yr oedd y traddodiad barddonol yn gryf, ac yn cyfyngu ar y testunau y caent ganu arnynt. Yn fwy na dim cyfyngai'r traddodiad ar y dull y caent ganu ynddo, a cheir tuedd i gredu bod canu mewn dull henaidd ac anodd yn rhinwedd ynddo'i hun. Ond, er hynny, fe gawn yng ngwaith gorau beirdd y Tywysogion gip ar bersonol- iaeth gref ac ysbryd balch annibynnol. Gwelwn ddynion nwydus, llawn bywyd, ac y mae mwy o ynni a grym yn eu gwaith nag yng ngwaith bron yr un cyfnod arall yn hanes llên Cymru. Ysbryd wedi ei danio. Yr oedd Cymru'r oes honno mor Gymreig ag y bu erioed, na chynt na chwedyn. Nid oedd dylanwad estron ond gwan ac an- effeithiol. Yr oedd cariad at ddaear Cymru a'i hiaith a'i phobl yn gryf. 0 LYFR COCH HERGEST Uyndewis i riein virein vein dec. hirwen yny llenn lh6 ehoec. am dewif fynh6yr fynhya6 ar wreigeid: ban dyw- eit. o v2eid wedeid wouec. am dewis gyt rann gyhyd2ec abun: abot yn gyfrin amriíi am rec. dewis y6 gennyf y hardlió ,g6anec. y doeth yth gyuoeth dy goeth gymraec. Dewis y6 gennyfy di, beth y6 gennyt ty vi. beth adewy di dec y gofteg. dewiffeis y vun ual nat attrec gennyf. ia6n y6 dewiffaö dewis [dyn tec. » — Cynddelw. SEF, O'R CHWECHED LINELL YMLAEN Dewis yw gennyf i harddliw gwaneg Y doeth i'th gyfoeth dy goeth Gymraeg. Dewis yw gennyf i di, {.< Beth yw gennyt ti fi î Beth a dewi di, deg ei gosteg Dewisais i fun fel nad atreg gennyf. Iawn yw dewisaw dewisddyn deg. Y mae'r teimlad cenedlaethol hwn dan wraidd peth o farddoniaeth wychaf y beirdd hyn; tania'r ymdrech eu hysbryd, ac er bod yma ac acw brudd-der, nid prudd-der ofn a digalondid mohono. Unwaith yn unig y ceir gwir ddigalondid ac anobaith, sef pan gân Gruffydd ap yr Ynad Coch farwnad Llywelyn y Llyw Olaf. Meilyr a Gwalchmai. Y mae'r cyfnod yn agor gyda Meilyr Brydydd yn canu i Drahaearn, gan gyfeirio at frwydr enwog Mynydd Carn. Ar ôl Meilyr daw ei fab Gwalchmai- awgrym bod rhyw fath o olyniaeth deuluol ar un adeg ymhlith y beirdd. canys pan oedd cweryl rhwng Gwalchmai ag Owain Gwynedd dywed y bardd, wrth geisio ennill ffafr y tywysog, mai ei dad ef, Meilyr, oedd bardd tad Owain hefyd. Rhyfel, cariad, natur. Darn enwocaf Gwalchmai yw'r Gor- hoffedd-dull o farddoniaeth sy'n weddol gyffredin ymhlith beirdd y cyfnod, ac y mae pob enghraifft sydd ar gael yn cynnwys yr un elfennau, sef rhyfel, cariad a natur. Wrth ganu ar y tripheth hyn ysgydwa'r beirdd yn rhydd oddi wrth hualau traddod- iad a lleisiant yn glir, ac yn aml yn bryd- ferth, o ddyfnder profiad, ac y mae'r profiad yn brofiad bywyd, nid yn brofiad llyfr. Y bore'n torri. Disgrifia Gwalchmai y bore'n torri ar ôl noson o wylio'r terfyn rhwng Lloegr a Chymru. Yn Nyffryn Hafren yr oedd, heb fod nepell o fryniau Breidden, sy'n agos i'r Gan EDWARD FRANCIS. Trallwm (Welshpool). Disgrifia'r haul yn codi'n gyflym ar fore haf, yr adar yn canu ac afon Hafren yn murmur ar ei rhydau. Chwery'r adar ar y dwr, a'u plu'n disgleirio yn y goleuni: Gwylain yn gware ar wely lliant, Lleithron eu pluawr, pleidiau edrin. Atgoffir ef ganddynt am ei gartref ym Môn, lle'r oedd y ferch a garai. Yna cawn ef yn bostio am ei allu milwrol a'i ddewrder Llachar fy nghleddau Llewychedig aur ar fy nghylchwy (tarian). Ail-ddisgrifia'r wlad o'i gwmpas a'r coed afalau 'n Ilawn blodau gwynion disgrifiad sydd hyd heddiw'n wir am ddyffryn Hafren ddechrau haf. Bardd bostfawr. Wedi Gwalchmai deuir at Gynddelw Brydydd Mawr. Y mae'r enw yn awgrymu bod eraill yn cydnabod bod ganddo safle arbennig ymhlith beirdd y cyfnod; ac y mae hynny'n wir, canys nid yn unig fe ysgrifennodd fwy na neb arall ond ar lawer cyfrif ef yw'r mwyaf nwydus a bostfawr o holl feirdd y cyfnod. I dywysogion Powys y canodd y rhan fwyaf o'i gerddi (y mae dros 40 o awdlau a briodolir iddo), a chanodd hefyd awdl i Dysilio Sant sydd yn ategu'r gred mai gŵr o Bowys ydoedd. Dysg y beirdd. Dyry astudiaeth o waith Cynddelw ddarlun go dda o fardd yn yr oesau hyn. Gellir dychmygu gŵr balch, tymherus, yn gwybod y traddodiad barddonol yn dda; cyfeiria Cynddelw at Daliesin ac Aneirin a'r Gododdin. Hefyd gwyddai am lyfr enwog Sieffre o Fynwy, ac y mae lle i gredu y gwyddai rywfaint o'r iaith Ladin. Cyfeiria at ramadeg enwog y Canol Oesoedd-Llyfr Dwned, sef gwaith Donatius y gramadeg- ydd. Rhaid tybio, felly, fod gradd go uchel o addysg gan y beirdd yn yr oes hon. Anodd gwybod beth yn union oedd maint eu diwyll- iant ysgolheigaidd, ond y mae'n amlwg fod y traddodiad barddonol yn rhoddi lle i faterion heblaw gwybodaeth am reolau barddoniaeth Gymraeg. O ddarllen gwaith Cynddelw gwelir rhes- ymau dros gredu bod rhyw fath o ymryson farddonol ymhlith y beirdd am yr anrhydedd o fod yn bencerdd i'r Tywysog; sonia hefyd am ddisgyblion barddonol, ac fe'i geilw ei hun yn athro. Sicr yw ei fod yn falch o'i safle fel bardd llys, canys dywed mewn un gerdd: Gostegwyr llys, gostegwch, Gosteg, feirdd, bardd a glyw-wch. [Parhâd ar dudalen 24.