Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

STORI FER. NYCHDOD. BORE bach ar ddiwrnod yn y Gwan- wyn, a ddaethai'n gynnar. Tywyn- nai'r haul yn egwan fel cannwyll wêr mewn ystafell eang. Safai'r defaid a golwg ddigyffro arnynt, tra sugnai'r wyn â'u holl egni, a'r llaeth i'w weled yn rhedeg i lawr eu cyrn gyddfau, a'u gwynt yn dyfod yn gyflym fel gwynt rhedegwyr wedi gyrfa hir. Yr oedd yr haul yn ddigon uchel erbyn hyn i dywynnu drwy ffenestri llofftydd y Garreg Wen. Syrthiai'i belydrau ar y cwilt patch oedd ar y gwely, ac yn ei oleuni disgleiriai'r lliwiau y naill ar ôl y llall-coch a melyn, glas a phiws a gwyn, darnau o wisg briodas Elin Gruffydd, siôl beisli ei mam, gwisg gyntaf Meredydd. Pesychodd Meredydd besychiad cras, oer a sych, a ddirdynnai ei holl gorff. Troes ar ei dde a phesychodd eilwaith. Cododd yn ei wely, a'i wallt du, trwchus yn amlygu'n fwy welwder croen ei wyneb. Tynnodd allan ei freichiau, ac mor fain a thenau oeddynt ag yr ymddangosai'r dwylo a'r bysedd hirion yn ormod baich iddynt. Ponciai'i figyrnau a'i esgyrn allan, ac yr oedd ei groen yn rychau aml fel croen rhyw anifail wedi sychu. Ar ei wyneb a'i ddwylo yr oedd chwvs poeth; nid dafnau iach, ond megis yr ager o'r tecell pan dry'n ddwr ar wydr a ddelir o'i flaen. Ei lygaid-du fel eirin, aflonydd fel adar gwyllt yng ngharchar-yn drist gan anobaith ac uchelgais nas cyrhaeddwyd. Toc daw rhyw fywyd iddynt. Perliant. Daw cochni annaturiol i'w fochau gwelw, a dechreua chwarae â'i fysedd main, hir, hydeiml ar y cwilt amryliw. Gwibiant o un lliw i'r llall, o'r coch i'r gwyn, o'r glas i'r piws, ac yn ôl i'r coch. Cyfyd ei freich- iau i fyny a dyfod â hwy i lawr drachefn i daro cord. Yna rhed fysedd ei law ddê at yr erchwyn fel pe'n rhedeg slyr hir, yn awr â'i law chwith, yn awr â'i ddwy ar unwaith. Mae'n gwenu, gan ddangos rhes o ddannedd gwynion, glân, a'i holl gorff yn symud i amser y gân sy'n ei feddwl. Yn sydyn erys. Cyll ei asbri. Y mae'r wên yn mynd, ac yn ei lle y mae'i enau'n dynn, a'i wefusau'n wyn heb waed. Sieryd ei lygaid am dristwch y gobeithion nas sylweddolir, am siom bywyd heb gyrraedd ei amcan. am galon wedi torri, am anobaith y dyfodol. Daw'r dwylo i lawr unwaith eto, a chwery'r bysedd drachefn ar y cwrlid, yn awr yn araf ac yn llyfn fel pe i dynnu miwsig o'r lliwiau, miwsig yn llefaru poen a phryder a cholled. Edrych drwy'r ffenestr, ac yn y cae gwêl oenig yn prancio .at ei fam, hithau'n sefyll ac yn peidio pori, ac yntau'n sugno'r maeth. Syrth yn ôl ar ei obennydd: Mam." Mr. J. Gwilym Jones (Llandudno). Ia, 'machgan-i." Nid cynt y gwaeddodd nag y clywid swn dwy glocsen ar lawr cerrig y gegin. Tynnodd Elin Gruffydd ei chlocsiau ar waelod y grisiau, ac aeth i fyny yn nhraed ei 'sanau am yr ugeinfed tro y bore hwnnw. Ia, 'machgan-i, be' gymeri di? Dim byd, mam." Fel hyn yr oedd hi bob tro. Rhedeg bob munud o'r dydd, ac yntau heb fod eisiau dim yn y diwedd. Am eiliad daeth ton o ddiflastod dros ei hwyneb. Caeodd ei llygaid, a'i haeliau'n drwm yn niffyg cwsg. Rhedodd ei llaw ar hyd ei thalcen, eistedd- odd ar y gadair wrth ochr y gwely, a meddwl, a meddwl, a meddwl. Yr oedd yr afiechyd oedd yn prysur ladd Meredydd yr un mor brysur yn heneiddio'i fam. Torrodd yn hen iawn yr ychydig fisoedd diwethaf, yn mynnu gweini arno'i hun-yn ei balchder gwirion yn gwrthod cymwynasgarwch cymdogion. Yr oedd hi'n bymtheg ar hugain pan briododd hi ag William Gruffydd y Garreg Wen, a phriododd yn erbyn ewyllys ei rhieni. Mae'r dyn vn llawn dyciäe, a'i deulu-o felly o'i flaen." Meddwl, 'merch-i, fe fydd gennyt-ti blant." Ond ofer fu holl ymdrechion ei thad, ofer holl ymbiliadau ei mam; canys onid William Gruffydd oedd berchen y Garreg Wen, ac oni adawodd ei dad, a'r hen lanc ei ewythr, Gan. J. GWILYM JONES. gannoedd o arian ar eu hôl iddo ? Fe fyddai ei gwisg a'i chotwm hi mor wych â rhai Mary Ellis, a'i thy a'i dodrefn mor daclus â thy a dodrefn Alis Williams, Tý Mawr. Ac am y blynyddoedd cyntaf ni chanfu achos na rheswm i edifarhau. Wedi tair blynedd ganwyd plentyn iddynt a galwyd ei enw ef Meredydd, ond ymhen ychydig fisoedd crymodd gwàr William Gruffydd, ysigwyd ef ac aeth, yn y diwedd, fel diffodd cannwyll. Yna, ynghrôg wrth ben gwely Meredydd yr oedd ei Farwnad ER COF ANNWYL AM William GRUFFYDD, PRIOD ELIN GRUFFYDD, YR hwn A FU FARW MAWRTH 28, 1898, YN 41 MLWYDD OED. Ond yr oedd y Garreg Wen ganddi, ac arian yn y banc, a Meredydd ei phlentyn hi -ond plentyn ei dad hefyd. Cofiodd eiriau'i thad, a phenderfynodd, doed a ddelo, eu profi'n anghywir. Nid arbedai na chost nag aberth, ond fe roddai iddo bopeth hyd eitha'i gallu. A ryw ddydd — ryw ddydd, byddai Meredydd Gruffydd mor gryf, mor gyhyrog, mor lân ei gyfan- soddiad â'r un dyn yn yr ardal, yn gefn i'w fam, yn brawf diymwad nad camgymeriad a fu ei phriodas hi. Fe roddai addysg iddo, a rhyw ddydd fe dalai yntau'n ôl iddi. Llawer gwaith y dychmygodd ac y gwelodd hi ei hun yng Nghaernarfon ar fore Sadwrn, ac yn cyfarfod Mary Ellis, efallai, neu Alis. Helo, Elin, sut 'rwyt ti heddiw? Reit dda, diolch." 'Ewyt-ti yma'n fore iawn? Ydw', eisiau galw yn y Bane." Yn y banc ? Ia, y mae Meredydd acw mor ffeind wrtha' i, 'wyst-ti. 'Fu erioed well hogyn i'w fam." Cadwodd ei phenderfyniad. Aeth Mered- ydd o'rysgol elfennol i'r ysgol sir, a mawr ydoedd canmoliaeth ei athrawon iddo. Anfonodd ef i gael gwersi mewn cerddor- iaeth, a daeth yntau'n hoff iawn ohono. Bu'n hynod lwyddiannus mewn arholiadau, mor llwyddiannus nes penderfynu o Elin Gruffydd ei anfon i'r Royal Academy of Music i Lundain. Tair blynedd bryderus a thair blynedd gostus fu'r rheini, ond ni fethodd Elin Gruffydd un wythnos heb anfon yr arian a'r parsel, ac ynddo ddeubwys o ymenyn cartref a dillad glân cynnes. Nid yw awyr Llun- dain mor fain ac iach ag awyr Llan y Groes, a rhaid cael ymenyn cartref i fagu mêr mewn esgyrn. A daethai llythyrau'n ôl, ac fel y llamai ei chalon wrth ddarllen rhai ohonynt, ac mor glir a disglair y dyfodol iddi: F'annwyl Fam, Diolch am y llythyr a'r arian a'r parsel. ac fe ddywedodd wrthyf y byddwn yn sicr o ennill y wobr Heno byddaf yn chwarae yng nghyngerdd y Coleg. fi oedd ar ben y rhestr, 98 allan 0 100 o farciau.