Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYMRAES YN RHUFAIN DAU GYMRO'N MYND I RWSIA. MI gefais lythyr y diwrnod o'r blaen o Rufain, oddi wrth Miss Hilda Isaacs, Cymrawd o Brifysgol Cymru, sydd ar hyn o bryd yn Rhufain,­yn llyfrgell y Vatican, plas y Pab, yn chwilota hen hanes Cymru. Peth diddorol iawn i mi," meddai, ydyw gweld Cyfreithiau Hywel Dda a'r Record of Caernarvon mewn llyfrgell yn Rhufain, yn ogystal â chyhoeddiadau eraill pwysig iawn (i mi) yn ymwneud â Chymru. Un o'r bobl sydd wedi bod yn garedig iawn wrthyf i yma, a'm helpu fi'n ddir- fawr, ydyw'r Cardinal Ehrl, Pennaeth Coflyfrdy'r Vatican, gŵr a ordeiniwyd yng Ngholeg Beuno, coleg y Jeswitiaid yng Ngogledd Cymru." Dr. Morris, Clynnog. UN o Gaerdydd ydyw Miss Isaacs. Yr wyf eisoes," meddai, wedi dod o hyd i gryn dipyn o ddeunydd go bwysig. Byddaf yn gweithio o wyth y bore hyd 12.30 yn y Coflyfrdy, a byddaf weithiau'n gweithio yn y Coleg Seisnig enwog yma." Dr. Morris, Clynnog, oedd prifathro cyntaf y coleg yma. Fe'i penodwyd ef gan y Pab yn 1579, ond fe gollodd ei swydd yr un flwyddyn oherwydd ffrae rhwng yr efrydwyr o Saeson a'r efrydwyr o Gymry oedd yno (fe ochrai'r Dr. Morris gyda'r Cymry). Ond bu'r Dr. Morris yn Warden yr Ysbyty Seisnig yma nes iddo foddi yn 1580. Yn Rhufain yr oedd pan ysgrifennodd ei lyfr Cymraeg, Athrawiaeth Gristnogol. (Wedi ffoi o Gymru i Rufain yr oedd y Dr. -yr un pryd â'r Dr. Gruffydd Roberts, Milan.) Wrth Lyn Nemi. DYWED Miss Isaacs hefyd Y mae'r tywydd yma'n hyfryd, a byddaf yn mynd o amgylch lawer iawn i weld y wlad. Ddydd Llun diwethaf yr oeddwn wrth Lyn Nemi, tua 30 milltir o Rufain, yn gweld bad enwog yr Ymherodr Nero a achubwyd o'r llyn gan Mussolini. Gŵr rhyfeddol ydyw II Duce, ac y mae'n gwneud gwaith mawr dros Rufain a'r Eidal. Atgyweirio ym mhob man. Y mae'r ddinas yn cael ei chadw yn lân iawn hefyd, a 'd oes neb yn cael cardota. Rheolir trafnidiaeth yn dda iawn hefyd." Miss Isaacs a Mr. A. O. Roberts (o Benrhyndeudraeth) ydyw'r Cymry mwyaf diddorol yn Rhufain yn awr, hyd y gwn i. Mr. E. W. Cemlyn Jones. CEFAIS gyfle i ysgwyd llaw â Mr. E. W. Cemlyn Jones cyn iddo ym- adael â Llundain i fynd i Rwsia gyda Mr. Frank Owen, A. S. Nid aros mewn gwestai de luxe y byddant, meddai, ond byw gyda'r bobl eu hunain- Mr. RICHARD HUGHES. a chario'u paciau ar eu cefnau pa le bynnag yr ânt. 'D oes dim porters yn Rwsia! Bu'r ddau'n cydweithio ar nofel Saesneg ers rhai misoedd, a chan mai yn y Rwsia newydd y mae'r olygfa, aethant allan yno ill dau i adnabod y wlad drostynt eu hunain. Gwn eu bod wedi darllen rhai ugeiniau o lyfrau ar y pwnc, ond cyn cyhoeddi'r gwaith yr oedd arnynt eisiau ymgydnabyddu ag awyrgylch tir y Soviet. Rwsiad a Chymraeg. CEFAIS y pleser o ddarllen y nofel, a gallaf eich sicrhau ei bod yn un o'r rhai mwyaf cyffrous, a'i bod ar yr un pryd yn cyfrannu gwybodaeth helaeth am fro sy'n anhysbys iawn i'r rhan fwyaf ohonom. Ni saif dim llawer o'n rhagfarnau ynglŷn â Rwsia ar ôl inni ddarllen hon. Nid gwiw imi eto ddweud beth yw'r teitl, ond bydd un o brif gymeriadau'r stori yn beiriannydd awenyddol sy'n byw yn ardal y Caucasus-yn troi cynulleidfa'r opera o gynddaredd i orfoledd un nos trwy lamu ar ei gadair yng nghanol cythrwfl a chanu Dafydd y Garreg Wen." Pa fodd y daeth yr hen alaw i'r fan honno? A pha fodd y medrai Ivan Ivano- vitch Gymraeg ac yntau wedi ei eni a'i fagu yn y Trans-Caucasus? Wel-rhaid i chwi aros am y gyfrol i ddadlennu'r dirgelwch hwn a llawer cyfrinach arall fydd yr un mor annisgwyl. Aelod o'r Orsedd YMAE Mr. Cemlyn Jones wedi gwneud enw iddo ei hun eisoes ym myd celfyddyd. Ef yw un o'r beirniaid darluniau mwyaf craff a goleuedig yng Nghymru, ac yr oedd yr Arddangosfa a drefnwyd ganddo ynglyn ag Eisteddfod Caergybi yn gosod safon newydd i'r ochr hon i'r Wyl Genedlaethol. Y mae yn aelod selog o'r Orsedd, ac yn awyddus am weld ffurfio Bwrdd Celfyddyd i gynorthwyo'r pwyllgorau lleol o flwyddyn i flwyddyn. Ond pa beth bynnag fu ei fri ym myd celfyddyd, neu ym myd gwleidydd- iaeth, yr wyf yn sicr mai byd y nofel a gaiff ei waith gorau o hyn allan. Un o Sir Fôn ydyw, a bu'n gadeirydd y Cyngor Sir yno, ond ym Mhenmaenmawr y bydd yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser pan fydd yng Nghymru. Mr. Frank Owen yw'r aelod ieuengaf yn y Senedd. Tybed a fydd iddo yntau droi oddi wrth wleidyddiaeth at lenyddiaeth ar ôl ei drip yn Rwsia? Neu oddi wrth Rydd- frydiaeth at Gomiwnistiaeth? O'r Pwll i'r Senedd. WEL, dyma Ddyffryn Ogwr, yn ardal y glo, i gael ei gynrychioli eto yn y Senedd gan löwr. 'D oedd neb, wrth reswm, yn disgwyl dim arall. Yr wyf yn adnabod Mr. Ted Williams, yr Aelod newydd, yn iawn. Deuddeg oed ydoedd pan gafodd ei jòb gyntaf mewn gwaith glo, ac wyth swllt yr wythnos oedd ei gyflog. Aeth i goleg llafur am gyfnod, ac yna dychwelyd i'r pyllau. Bu'n gynrychiolwr i'r glowyr ac yn gynghorwr sir. Yn awr, yn, 41 oed, y mae'n mynd i Westminster. Y mae cyfleusterau bob amser i wyr fel Mr. Ted Williams. Derbyn yr Eisteddfod. Y MAF tipyn o holi eisoes pa dref yng Ngogledd Cymru sydd i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1933. Os nad wyf yn camgymryd yn arw, y mae cryn anfodlonrwydd oherwydd y dull