Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

WYAU SALAD. Y mae pawb yn hoff o'r rhain. Tynnu plisgyn, dyweder, banner dwsin o wyau wedi eu berwi'n galed, a thorri slisen ddestlus o ben pob un. Tynnu'r melyn allan, a'u cymysgu ag ychydig bast anchory, ymenyn, hufen- salad, a cayenne. Rhoddi'r gymysgedd yma'n ôl yn yr wyau gan ei bentyrru'n dda ar y top, a dodi'r wyau ar wely letys newydd a berw. Ychwanegu rhuddyglau (radishes) atynt. PEINAPL A OHAWS HUFEN. Y mae'n dda gan bob plant beinapl, a gellir gwneud defnydd da o dun o slisiau. Trefnu dail letys newydd ar ddysgl a'r slisiau peinapl arnynt. Cymryd un neu ragor o'r darnau bach caws hufen sy'n awr mor rhad, eu gwneud yn beli yr un faint â'i gilydd, a dodi un o'r rhain ar bob slisen beinapl. Dodi tipyn o sudd lemon arnynt, a'u bwyta gyda hufen- salad. 'Rwyn Caru'r Glaw Pan fydd yn ohwipio'r môr, a'i yrru, yn gynnes a glân, yn erbyn fy wyneb. Wrth weld y tir yn derbyn pob diferyn fel march sychedig mewn anialdir. Wrth weld y ffarmwr yn gwenu dan sefyll wrth ei ddrws a'i ddwylo'n isel ym mhoced ei drywsus. Pan fydd yn tywallt i lawr ar derfyn diwrnod mwll. Pan fyddaf yn cerdded, mewn esgid- iau da, ar draws y rhosydd, a gweld y cymylau'n gorwedd yn drwm ar y mynydd- oedd pell. Pan fydd y palmentydd yn sgleinio yng ngolau lampau'r stryd, a minnau'n mynd heibio i ffenestr olau a gweld plant yn chwarae o amgylch y tân. Wrth glywed aroglau'r pridd, a chlywed afonig yn byrlymu ymlaen dros y cerrig garw. Pan ddeffroaf yn y nos a'i glywed yn disgyn yn dyner ar ddaear a gafodd ei llosgi gan yr haul am dridiau. 'Rwy'n caru'r glaw oherwydd mai ef ydyw rhodd fwyaf Natur i fyd sy'n tyfu. Peidiwch â grwgnach am y glaw. 'Wnewch-chwi ddim os gwyddoch mor ofnadwy ydyw sychder mawr, ac os gwel- soch wyr a gwragedd yn dyrchafu dwylo creithiog i weddïo am gawod fechan. Yr ydym yn byw mewn ynys a elwir gan rai yn Wlad y Glaw, ond ein meysydd glas, iraidd, ydyw'n trysor pennaf. Yr Anfarwol Ifan Harris (Parhdd o dudalen 18.) Undeb yn ystod yt Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor. Mrs. Alun Williams, yr Ysgol Ganol, Pwllbeli, ydyw'r ysgrifennydd. Nid yw pobl Cymru," meddai Major Wheldon yn Llangefni, yn gallu gwerth- fawrogi celfyddyd drama, am mai ysbwriel ydyw'r dramâu a gynigir i'w sylw." Ni fyn llawer iawn o gwmnïau ond ysbwriel, ysywaeth, ac actiwyd llawer ohono yn ystod y gaeaf diwethaf led-led y wlad. Mormoniaid Sir Fflint At Olygydd Y FORD GRON. "Y^N ei ysgrif ddiddorol yn Y FoRD GRON ddiwethaf, dywed Mr. D. J. Ll. Davies fod llawer o drigolion Sir Gaer- fyrddin wedi ymuno â'r Sect hon yn y blynyddoedd a fu. Credaf y gellir dweud hynny hefyd am rannau o Sir Fflint, yn enwedig ardal Talar- goch, Galltmelyd, a Threflawnyd (New- market). Ymddengys eu bod yn lluosog iawn yn Nhreflawnyd ar un adeg. Yr oedd ganddynt eu Tŷ Cwrdd yno, a dywedir eu bod yn dwyn mawr sêl dros eu daliadau crefyddol. Ymfudodd nifer ohonynt ar wahanol adegau oddi yno i Ddinas y Llyn Hallt, a daeth rhai yn amlwg iawn yng nghylchoedd eglwysig y lie fel henuriaid. Hyd y gwyddom, nid oes yno yn awr ddim disgyblion i Ioseph Smith na Brigham Young. Adroddir hanesyn am hen ŵr a rhai o genhadon y Mormoniaid yn yr amser a fu. Ceisient gael ganddo gofleidio'r grefydd newydd, a gofynasant iddo ddarllen llyfr a oedd ganddynt a elwid Utgorn y Saint, gan ddweud y gwnâi hwnnw les i'w ben a'i galon. Na wna' i, yn wir," ebe'r hen ŵr. 'Fydda' i ddim yn darllen ond dau lyfr- llyfr y siop a'r Beibl. Byddaf yn cael bwyd i'r corff drwy un, ac ymborth i'r enaid drwy'r llall, a 'd oes gen' i ddim eisie dim mwy na hyn yn yr hen fyd yma. Felly, cymerwch eich Utgorn i ben y mynydd acw, a chwythwch oddi yno." Rhuddlan. OS YDYCH YN CAEL CAM-DREULIAD o unrhyw fath dyma gyfle i roddi prawf ar y modd cyflymaf a gorau i gael esmwythâd. Gan mai achos cam-dreuliad fel rheol ydyw gormod o asid yn y cylla, y feddyginiaeth resymol ydyw'r un a symuda'r achos hwn. Fe ddyry Bisurated Magnesia esmwythâd buan oherwydd ei fod ar unwaith yn dad-wneud effaith yr asid ac felly'n .gadael i'r treulio fynd ymlaen yn ddi- dramgwydd. Y mae meddygon led-led y byd yn cymeradwyo Bisurated Magnesia, ac yr ydym yn eich gwabodd i roddi prawf arno'n awr. MAGNESIA sy'n symud achos cam-dreuliad. I GAEL PRAWF AM DDIM POSTIWCH Y CWPON HWN HEDDIW I To Dept. K/49, Bismag Ltd., j Braydon Road, London, N.16. Please send free sample of *MINT/PLAIN Bisurated Magnesia. i Name Address i— *Cross out word not reguired. W.H.D. 10s. 6d. 0 WOBR AM RAGLEN GERDDORIAETH Y mae'r FoRD GRON yn cynnig 10s. 6d. o wobr am y rhaglen gerdd- oriaeth orau ar gyfer eisteddfod ben- trefol lle y caniateir tua £ 50 yn wobrau cerddoriaeth. Rhaid i'r gerddoriaeth i gyd fod yn waith cerddorion Cymreig ac ar eiriau Cymraeg. BEIRNIAD: MR. W. S. Gwtnn WILLIAMS. (Darllener ei erthygl ar dudalen 7.) Anfoner y rhaglenni i Swyddfa'r FoRD GRoN, Hughes a'i Fab, Wrec- sam, erbyn Mehefin 30. Rhodder y gair Rhaglen ar gornel y câs. EISTEDDFOD GADEIRIOL LLUNDAIN (semi-national). Central Hall, Westminster, Prynhawn Iau, Tach. 19, 1931. CORAU MEIBION, "The Tyrol," Gwobr £ 75. CORAU CYMYSG, "Be not Afraid," Gwobr £ 50. Unawdau, Barddoniaeth, Adroddiadau. Testunau (2 Stamp Ceiniog) oddi wrth yr Ysgrifenyddion J. DAVIES, 107, Falmouth Road, London, SJE.1. W. J. WILLIAMS, 37, Denmarlc Hül, London,SJL5.