Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Byd y Ddrama. Rhagor am Yx yí nfarwol Yfan H arris." GAN RHYS PUW. PRIN yr oeddwn wedi gorffen darllen ysgrif werthfawr Miss Ellen Evans yn Y Foed Gron ddiwethaf, yn disgrifio dull merched Coleg y Barri o actio'u dramâu heb ddim celfi llwyfan ond cyrten plaen, pan ddaeth llythyr ataf oddi wrth Cynan, y bardd, gŵr sydd ers peth amser yn gweithio'n galed ym myd y ddrama. Y mae fy nghwmni i ym Mhenmaen- mawr," meddai, yn hen gynefin â chwarae o flaen cyrten yn lle golyg- feydd.' Ac â ymlaen i ddweud: 0 flaen llenni glas o felfed y chwaraewyd Pasiant Rhyfel a Heddwch gennyf ym Mhafiliwn Caernarfon y llynedd, ac o flaen yr un Uenni y chwaraeir holl Basiant Cenhadol Lerpwl. Yr unig gelfi llwyfan yw grisiau llwyd yn esgyn i'r rostrwm yn y cefndir. Yn n lle newid y llenni, newidir y goleuadau i gyfleu gwahanol olygfeydd. Hefyd y mae fy nosbarth allan yn Llanfair- fechan wrthi'n dysgu Tri Chryfion Byd Twm o'r Nant i'w chwarae yn yr Hydref. (Pa bryd y rhoed hi yng Ngogledd Cymru o'r blaen?) 0 flaen cyrten y rhoir hon hefyd,-a darn o Weledigaeth Angau y Bardd Cwsg o'i blaen. Y mae Mrs. Phillips Williams yma hefyd wedi cyfieithu Y Tad (Strindbergl. a'i chwmni wedi ei pherfformio. Yr wyf yn falch o glywed am bob arwyddion fel hyn fod cwmnïau Cymreig yn torri tir newydd wrth ddewis dramâu, ac yn dewis dulliau mwy celfydd o lwyfannu. Drama ysbryd. 'Faint o'm darllenwyr sy'n gwybod bod thriller eisoes wedi ei hysgrifennu yn Gymraeg ? Fe'i chwaraewyd hi deirgwaith yng Ngholeg Aberystwyth, ac unwaith hefyd yn y Felinfach, Sir Aberteifi, lle'r enillodd wobr mewn cystadleuaeth, ryw ddwy flynedd yn ôl. Lluest-y-Bwci ydyw ei henw. Daw ysbryd," a phen ysgerbwd yn lle wyneb ganddo, i'r golwg tua diwedd y ddrama. Wedi gorffen y chwarae yn y Felinfach fe gerddodd yr ysbryd yn ei wisg wen i mewn i ystafell gefn yn y neuadd lle'r oedd merched Dyffryn Aeron (sy'n enwog am eu prydferthwch) yn gwneud bwyd. Gellid clywed yr ysgrechian am filltiroedd. Dramau Un-Act newydd. Fe fu cystadleuaeth ddiddorol yn y De yn ddiweddar­cystadleuaeth cyfansoddi drama un act, dan nawdd y Joint Com- mittee for the Promotion of Educational Facilities in the South Wales and Mon- mouthshire Coalfields. (Dyna i chwi lond ceg. Pam, yn enw'r nefoedd, na chawn ni enw syml ar bwyllgor? Pam, Mr. Jenkin James? Pam, Mr. D. T. Davies? Pam, Mr. John Davies?) Cefnogi ysgrifenwyr newydd oedd amcan y gystadleuaeth. Fe roddwyd un beirniad ar y rhai Saesneg (Mr. Edward Taig), ac un ar y rhai Cymraeg (Mr. Idwal Jones), a'u gwaith oedd dewis tair yr un i'w chwarae yn y Theatr Fach, Trecynon. Dyna a wnaethant, a chlywais fod y naill feirniad a'r llall — ar wahân i'w gilydd-wedi dewis dwy ddrama o waith yr un dau awdur. Fe berfformir y rhai buddugol yn Nhre- cynon ac fe ddewisir y rhai gorau oll, yn Gymraeg ac yn Saesneg, i dderbyn f 5 yr un gan fwrdd o feirniaid. Y mae £ yn edrych yn ddigon bychan ar ôl cymaint o helbul, ond rhaid cyfaddef bod hon yn ffordd go dda o gefnogi ysgrifenwyr newydd. Yr Anfarwol Ifan Harris. Mi soniais yn fy nodiadau fis Ebrill am ddrama ddigrif Mr. Idwal Jones, Yr An- farwol Ifan Harris." Mr. Idwal Jones. Mr. Dai Williams. Yn fuan wedyn cefais lythyr oddi wrth Mr. H. O. Hughes, Cefn Mawr, Llangaffo, Sir Fôn, oedd yn un o feirniaid y ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaer- gybi, 1927, pan enillodd y ddrama hon y brif wobr. Dywed: Rhoddodd ei darllen foddhad mawr i mi, a cheisiais gan gwmnîau adnabyddus ei chwarae, ond ni lwyddais. Búm hefyd yng Nghaernarfon yn gofyn i Gwynfor a wyddai ef am ryw gwmni oedd yn ei hactio. Dywedodd yntau iddo glywed am un cwmni oedd wedi dechrau mynd'drosti ond wedi ei rhoddi heibio cyn ei hactio. Ni chlywais am ei hactio nes darllen bod cwmni Llanelli yn gwneud hynny, a'u bod, yn eu hym- weliad â'r Gogledd, wedi derbyn canmoliaeth y newyddiaduron. Gwelais ar ôl hynny i'r Archdderwydd, Pedrog, gyfeirio at Yr Anfarwol Ifan Harris ddydd Gŵyl Ddewi yng Nghaerdydd. Ysgrifennais ato i ofyn ei farn amdani, a dywedodd: Tybiwn fod y theme yn bwrpasol, y datblygiad ohono'n naturiol, a'r plot yn effeithiol iawn." Gwelaf yn awr oddi wrth eich nodion chwi fod cwmni Aberystwyth a chwmni Seion, Wrecsam, yn actio'r ddrama, a'ch bod yn ystyried hon yn un o'r comedies gorau sy gennym, etc. Yr hyn sydd yn fy synnu ydyw fod cwmnîoedd Cymreig wedi cymryd y fath amser cyn actio Yr Anfarwol Ifan Harris," a gweled ei gwerth. Clywais lawer o weithiau eu bod yn methu â dod o hyd i ddrama foddhaol yng Nghymru, ac oher- wydd toynny yn troi en golygon i Loegr a gwledydd tramor 1 Yr wyf yn gobeithio y bydd eich sylwadau yn Y Fobd GRON yn rhoddi i eraill y fath bleser ag y maent wedi ei roddi i mi. Mr. Dai Williams. A chan sôn am Mr. Idwal Jones, gwelaf fod ei ddrama Toddi'r Ia i fod ar y radio yn y West Regional Programme o Gaerdydd ac Abertawe ar Mehefin 2. Bydd Mr. Jones ei hun yn cymryd rhan, a hefyd Mr. Dai Williams, sy'n feistr yn Ysgol Sir Tregaron. Fe ddaeth Mr. Williams i gryn fri yng ngorllewin Cymru gyda'i ddehongliad o Jack yn y ddrama P'Un," a gwnaeth argraff ddofn pan roddwyd y ddrama ar y radio fis Chwefror diwethaf. Y mae gan Mr. Williams ryw ddull digrif dioglyd o chwarae, dull sy'n creu argraff neilltuol o naturiol (ymarfer caled a thalent lled uchel sy'n cyfrif am y diogi hwn ar y llwyfan). Y mae ei ddull o ganu caneuon digrif hefyd yn tynnu llawer o sylw. Y ferch sydd nesaf at ei galon yn niwedd P'Un ydyw'r un a ddewisodd o ddifrif calon fis Awst diwethaf pan briodwyd hwy yn Llangeitho. Y ddwy ferch fydd yn cymryd rhan yn Toddi'r Ia ydyw Miss Annie Morris a Miss Irfonwy Jones (Ysbyty Ystwyth). Mi glywais Mr. John Hughes, y cerddor o Dreorci, yn dweud mai llais Miss Morris oedd y mwyaf melodaidd a glywodd yn llefaru erioed. Yn adran miwsig Coleg Aberystwyth y mae Miss Jones, ac y mae'n bur adnabyddus fel cantores yng Nghered- igion. Trem yn 01 eto. Un o berfformiadau mwyaf diddorol y Gogledd yn ddiweddar oedd perfformiad Cwmni'r Ddraig Goch. Caernarfon, dan gyfarwyddyd Gwynfor, o Trem yn 01 (gwaith Gwynfor ei hun). Hon oedd un o'r dramâu mwyaf poblog- aidd flynyddoedd yn ôl. Y mae'n ddrwg gennyf na welais i mo'r perfformiad, ond dywed cyfaill wrthyf ei fod cystal un ag a gafwyd erioed. Y mae Cwmni'r Ddraig Goch wedi parhau yn ddi-fwlch i berfformio dramâu ers pan sefydlwyd ef yn 1902. Tybed na allai Caernarfon gynnal wythnos ddrama fel y gwna Abertawe? Cymdeithas ddrama. Fe ddaeth tri chwmni Dyffryn Nantlle (Arfon) at ei gilydd i Benygroes yn ddi- weddar, ac, wedi i Mr. Gwallter S. Jones ddweud hanes cychwyn y mudiad ac i Gwynfor annerch, fe ffurfiwyd cymdeithas ddrama. Bwriada'r Gymdeithas gyfarfod bob mis i drafod a darllen dramâu, efrydu hanes y ddrama Gymraeg, a chael darlithiau ar gelfyddyd drama ac actio. Y mae'r ddrama'n gwreiddio hefyd yn nhir Llyn, ac yn ddiweddar fe gafwyd perfformiadau da o ddwy ddrama fer gan gwmni Llithfaen, sef Fel y caent fywyd (T. J. Williams) a'r Pwyllgor." Teimlir yn y Gogledd mai mantais fawr i'r cwmnïau fyddai ymuno ag Undeb Drama'r Gogledd. Fe fydd cyfarfod arbennig o'r [Parhâd ar dudalen 17.