Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Stori fuddugol Eisteddfod Myfyrwyr Cymru, 1931. Y GWAHANIAETH. "DYDD,' meddai Beti wrthi hi ei hun, ` mi fydd yn reit neis cael bod adref ar ddydd fy mhen blwydd, dipyn gwell na phe tawn-i y fan hyn.' Fel hyn y teimlai hi heno. Yr oedd bron yn ddiwedd tymor ar Beti ac, fel y gwyr pobl ein colegau, nid yw diwedd y tymor mewn coleg mor ddymunol â'r rhannau eraill ohono. Yr oedd ei ffrindiau i gyd wedi mynd allan, a dyna lle'r oedd Beti ers oriau yn eistedd ar gadair esmwyth o flaen y tân yn ei hystafell, a llyfr yn ei llaw a'i meddwl ymhell, bell. Er mai un fach ysgafn-galon, ddi-ofid, ddi-hitio oedd Beti i bob golwg, yr oedd mwy o ddyfnder yn ei chymeriad nag a feddyliai nemor neb. Nid oedd yn rhyw gamp o 'sgolor, ond nid oedd yn ddi-ddawn; yr oedd hi'n hoff o ganu, hoff o farddon- iaeth, ac ni chaed ei gwell mewn cwmni. Y peth mwyaf ynglŷn â hi oedd ei dychymyg di-reol: nid oedd ben ar ei breuddwydion na therfyn i'w ffansi, a hyn, efallai, a'i rhwystrai rhag sylweddoli mai gwastraffu amser oedd dal llyfr wrth y tân. Heno, y peth mwyaf ar ei meddwl oedd bod dydd ei phen blwydd yn un ar hugain oed yn dynesu. Methai'n lân â choelio'i bod wedi byw cyhyd ar yr hen ddaear yma. Be 'dwy'-i wedi bod yn 'neud? gofynnai iddi hi ei hun, ac 'roedd hi fel petae'n clywed ateb o rywle-" Breuddwydio." Nid oedd fyth yn hawdd deall meddwl Beti, a hynny, efallai, am nad oedd-hi wedi cwrdd â nemor neb erioed y gallai-hi agor ei chalon iddynt. Er na bu hi'n ôl o ddim erioed yn ei chartref a'i gwnâi hi'n gysurus, yr oedd un peth na chawsai yno, sef cyd- ymdeimlad-hynny yw, rhywun i'w deall hi i'r gwaelod. Yr oedd yn byw mewn tý- braf ym mhentref tlws Llanawel. Coedllai oedd enw'r tý, ac er pan fuasai farw ei mam yno y gwnaethai ei chartref gyda'i modryb- chwaer hynaf ei mam. Pan oedd yng nghanol ei breuddwydion dyma gnoc ar y drws, a daeth geneth i mewn (nid un o'i ffrindiau pennaf, chwaith) ac, fel pe bai ar golli ei gwynt, meddai: Wyddet-ti fod y rhestr Gymraeg allan? Na wyddwn i," meddai Beti'n ddi-daro. A chan i'r ferch fethu â'i chynhyrfu y ffordd yna, cynigiodd wedyn: Maen'-hw'n deud bod llawer o pips y tro yma." 0," meddai hithau wedyn, gan roi ysgydwad i glustog oedd wrth ei chefn a'i setlo ei hun i lawr yn fwy cysurus yn ei chadair. Ac wrth fethu gweled dim effaith, aeth y ferch allan yn ei hôl, ac eilwaith syllodd Beti i ganol y tân i gael ail-afael ar ei breuddwydion am un ar hugain a bywyd. Miss CISSIE GRIFFITHS Nantyfyda, Aberhosan, Machynlleth, Sir Drefaìdwyn. Efrydydd yng Ngholeg Aberystwyth. YMHEN tri diwrnod ar ôl hyn yr oedd Beti gyda'i modryb yng Nghoedllai, yn ben ac yn bont yno. Yr oedd gan Modryb Elin a Beti feddwl mawr o'i gilydd, ond ni welwyd dwy mor wahanol erioed. Pan ofynnai Beti am rywbeth ni wrthodai ei modryb byth; nid am ei bod yn deall pam yr oedd ar Beti ei eisiau, ond yn unig am mai hi oedd yn gofyn. Pan aeth Beti adref y tro hwn yr oedd ymwelydd yng Nghoedllai; a mawr oedd llawenydd Beti pan glywodd. Modryb arall iddi oedd hon, ond nid fel modryb yr edrychai Beti ar hon: chwaer ieuengaf ei mam oedd Janet, ac yr oedd yn fwy fel chwaer i Beti na neb arall. Er nad oeddynt wedi treulio llawer o amser gyda'i gilydd canfu Beti fod rhyw agosrwydd anarferol a rhyw fath o ddeall- twriaeth cyfrin rhyngddi hi â Janet bob amser. Ni chafodd Janet goleg fel Beti, eto nid oedd yn anwybodus. Dywedid bod Janet yn dlos iawn yn ferch ifanc--croen glân, gwallt du dwys, a llygaid disglair; yn wir, nid oedd Beti'n annhebyg iawn iddi. Ond gwelsai Janet ddyddiau blin; priod- odd yn ifanc ac, yn union fel ei chwaer hynaf, yn fuan ar ôl priodi fe analluogwyd ei gŵr mewn damwain a'i wneud yn anabl i ddilyn ei grefft. 0 'r ddamwain hon, hefyd, mewn rhyw dair blynedd bu farw ei gŵr, ac wedi hynny ymegnïodd Janet i'w chadw ei hun. Cymerasai siop bapurau newyddion ac ar honno yn awr y gwnâi ei bywoliaeth. Gan CISSIE GRIFFITHS. UN noson-yn wir, y noson o flaen pen blwydd Beti ydoedd-eisteddai'r tair o flaen tanllwyth o dân, er ei bod yn reit hwyr ac yn agos i amser gwely. Syllai'r tair i ganol y tân, a gŵyr pawb mai peth difyr i edrych arno yw tân coed-y mae ynddo fwy o amrywiaeth nag sy mewn tân glo. Beth bynnag, cododd ymddiddan rhyng- ddynt. Dechreuwyd sôn am hwn-a'r-llall o bobl yr ardal. Soniai Elin Ifans yn ôl ei harfer am hwn-a-hwn mewn profedig- aeth a'r llall yn dwyn y groes am un yn 'i chael hi'n esmwyth ac am un arall yn 'i blyndro hi." Dyna'i ffordd hi o siarad, nid am ei bod hi'n cael bywyd caled, ond am fod gwell gan rai sôn am fywyd yn nhermau tristwch na llawenydd. Edrych ar fywyd o un saf- bwynt y maent, ac un o'r rhain oedd Elin Ifans. Rywbryd yn yr ymddiddan, fel ymgais i droi'r stori, dywedodd Janet: Wel, Bet fach, yfory mi fyddi'n un ar hugain. Wel, Bet "-a chan dynnu llaw dros ei gwallt du-" ydw', 'rydw' inne'n cofio dydd fy mhen blwydd yn un ar hugain. Ac fel petae wrth reddf, teimlodd Beti ryw dynerwch nerfus yng nghyffyrddiad ei llaw, ac edrychodd Beti i fyw llygaid Janet yn union fel petae hi'n deall y cwbl. Ac am funud bu distawrwydd. Torrwyd y distawrwydd, ac mewn tôn dipyn yn wahanol, oherwydd nid oedd yr awyrgylch yn effeithio dim ar Elin Ifans, dywedodd: Cofio,' ddwedaist-ti? 'Cofio!' rhaid nad oedd dim llawer ar dy feddwl di'r pryd hynny, neu 'fuaset-ti ddim yn cofio." Nid oedd dim yn gas yn ei geiriau, a deallai'r ddwy arall hynny'n iawn. Aeth ymlaen: Rown i 'n briod ers dwy flynedd, a'r adeg hynny y dechreuodd Wmffre golli'i iechyd, a 'fu dim llun arno byth wedi hynny, druan bach." Ni wyddai Beti ond y lleiaf am fywyd cynnar ei modryb, oherwydd anaml y soniai amdano wrth hi. Naddo," meddai wedyn, "dim llun byth, a dyna ddiwedd ar fy mywyd i." Cododd Beti ddau lygad syn arni. Dyna syniad newydd iddi wedyn, sef meddwl am rywun yn teimlo'n un ar hugain oed bod bywyd drosodd iddi. Bu distawrwydd wedyn am dipyn, ond yn sydyn reit cododd Elin Ifans ac, fel petae wedi anghofio'r cwbl, dywedodd: Mae'r iâr goch ar ben ei hamser heno. Gwell imi roi tro iddi cyn mynd i'r gwely." Ac aeth allan. Yr oedd Beti megis mewn penbleth. Sylwodd Janet arni ac, fel pe bai yn ei deall yn union, dywedodd yn sionc reit: [Parhâd ar waelod y tudalen nesaf.