Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Galw am BWYLLGOR RADIO Cymreig. DYWEDIR braidd yn goeglyd y ■*- dyddiau hyn fod rhyw deip diwyll- iedig newydd yn codi-pobl wedi eu meithrin ar raglenni radio. Adroddir stori am ddau gyfaill yn trafod un arall: On'd ydi Robert Jones yn ddyn gwybodus? Rhaid 'i fod yn darllen llawer. Na, gwrando llawer y mae o. Y GW AHANIAETH (parhâd 0 dudalen 19). 'D oeddwn inne' ddim ond ychydig dros un ar hugain pan gyfarfu Ted â'i ddamwain, ac y cefais inne' gyfle i fod yn werthfawr i rywun. Ie, Bet fach, dyna fu dechrau bywyd i mi. 'Theimlais i erioed beth mor angerddol y gallai bywyd fod cyn hynny. Cofia, Bet, y mae gwahaniaeth-y mae pobl a phobl, ac y mae bywyd a bywyd." Cyn i'w Modryb Elin ddod i'r tý oddi wrth yr iâr goch, aeth Beti i'w gwely, i freudd- wydio yn gyntaf, yna i gysgu. Yn gyntaf aeth llu o bethau mân drwy ei meddwl- am droeon bach pryd y tybiasai hi fod bywyd yn cyffwrdd hyd eithaf ei chalon hi. Cofiai am ddyddiau ysgol, am y diwrnod pwysig hwnnw pan ddaeth dyn diarth i siarad i'r ysgol a phryd y penderfynodd hi, yn llawn egni, mai cenhades a fyddai pan dyfai'n fawr. Rhaid oedd gwenu wrth feddwl am hynny. Yna cofiai'r bachgen braf hwnnw yn yr ysgol a aeth â'i bryd yn llwyr, ac am yr adeg pan geisiodd mewn awr wan ei berswadio yntau hefyd i fod yn genhadwr, a chofiai fel y chwarddodd yntau nes gorfod dal ei ochrau pan glywodd hi'n sôn. A dyna fu diwedd ar y genhades a'r cariad hyd y cofiai. Wrth gysgu daeth i'w meddwl am ddechrau bywyd a diwedd bywyd," a rhwng y cwbl ni allai lai na meddwl nad oedd hi wedi amgyffred beth oedd bywyd. DEFFRODD fel arfer drannoeth, bron wedi anghofio'i phenbleth i gyd. Clywsai sŵn siarad i lawr y grisiau, a Er hyn i gyd, y mae gwrando da yn rhinwedd. Er pan sgrifennais y nodiadau o'r blaen i'r FoRD GRoN mi dderbyniais nifer mawr o sylwadau ar y radio gan rai sy'n wrandawyr cyson. Gwaith diddorol dros ben oedd dilyn y gwahanol argraffiadau. Rhaglenni'r Sul. Oddieithr ychydig o bethau eithafol, yr oeddynt yn ddymunol, a rhai yn wir werth- fawr. Yr oedd y canmol yn uchel a gwresog; yr oedd ysbryd diolchgar y cleifion a'r unig (ac y mae perygl inni anghofio bod miloedd ohonynt) yn wir afaelgar. Yr oedd tipyn o feirniadu hefyd. Ond y mae hyn yn hollol reolaidd, ac ni fedr awdurdodau'r radio wgu wrtho, yn enwedig pan fo'n gynnyrch gwrando astud a deallus. Yr oedd tipyn o gwyno nad yw'r radio'n gwneud ei ran ar y Sul. Gofynnid am fwy o amrywiaeth. Amheuai eraill a yw ar- olygwyr y rhaglenni yn dosbarthu oriau difrif a digrif yn iawn. Er enghraifft, daw anerchiadau addysgiadol, neu drafodaeth ar bwnc y dydd, neu fiwsig clasurol-pethau sy'n galw am wrandawiad effro a manwl- cyn i'r gweithiwr, druan, ddadluddedu. Cynigid rhoi eu lIe i bethau ysgafnach nes i'r gwrandawr gael ei wynt ato. chlywsai dinc pedol rydd ei modryb Elin yn mynd yn ôl a blaen ar hyd y gegin, oher- wydd yr oedd yn hen arfer gan Elin Ifans wisgo clocs i weithio yn y bore. Maent yn 'y nghadw i oddi ar y ddaear, a geid ganddi bob amser. 0 dipyn i beth, ymolchodd Beti, ac ym- wisgodd, ac i lawr â hi. Yr oedd hi wedi barnu oddi wrth y swn bod Siân Dafis, yn ôl ei harfer, wedi galw wrth fynd at ei diwrnod golchi i'r Bwlch. Cyn mynd i'r gegin gwrandawodd am foment wrth-y drws. Ie, Siân Dafis oedd yno, yr hen glebran hefyd. Clywai Beti, 'Fu erioed mo'i gwell hi am ddiwrnod o waith." Dyna, meddyliai Beti, un o'i merched sy ganddi hi eto. Mewn eiliad yr oedd Beti gyda hwy, a chyfarchwyd hi'n llawen gan ei dwy fodryb 'Rwyt ti heddiw'n ddynes, yn wir," meddai Elin Ifans. Edrychai Siân Dafis fel pe bai wedi ei syfrdanu gan y swn. Be'-be' sy'n bod, 'te? meddai, gan afael yn nerfus yn ymyl ei ffedog. 'Ydi Miss Beti'n mynd i briodi? meddai, gan ofyn y peth cyntaf a ddaeth i'w meddwl. Wel, nag ydi, ond y mae Beti'n un ar hugain heddiw, Siân Dafis, esboniai Janet. Tewch, da chi," meddai honno, gan edrych ar Beti o'i phen i'r gwaelod, ac yn yr ysgol.o hyd! Wel, yn wir, 'dyw rhai ddim yn gwybod eu geni pan fyddan'-hw'n un ar hugain. Dyna i chi Maggie ni Gan J. HUGH JONES, Gregynog, Dyry pethau fel hyn ryw syniad inni am faint y broblem sydd o flaen cynllunwyr rhaglenni radio. Rhai da am wrando ? Mi ddywedais yn y nodiadau o'r blaen y byddai'n beth da inni ein meithrin ein hunain fel gwrandawyr, er bod y cyfleus- terau'n brin. Bron na bu'n edifar gennyf wedyn am hyn. Cof gennyf fel y byddai'r pregethwr o'r pulpud, a'r arweinydd ar lwyfan yr eisteddfod, yn canmol y gwrando," ac, am a wn i, nid ydynt wedi tewi â gwneud. Ym mh'le, yn wir, y mae gwrandawyr tebyg i gynulliad o Gymry? Adwaenant y peth sydd wrth fodd eu calon a'r peth nad yw dderbyniol, ac ni byddant yn fyr o amlygu eu chwaeth. Gwrando heb weld. Tybed a oes gennym rywbeth i'w ddysgu fel gwrandawyr radio? [ParMd ar dudalen 26. Ond, yn rhyfedd iawn, tawodd yr hen wraig â dweud rhagor, efallai am y gwelai nad oedd neb yn gwrando arni. 'Roedd ei geiriau fel ergyd ar hen archoll i Beti ond, heb aros i feddwl, sylwodd ar y pecyn llythyrau oedd ar y bwrdd. Estyn- nodd atynt, a dechrau eu chwalu fel pe bai'n chwilio am drysor yn eu canol. O'r diwedd dyma hi'n dewis un ohonynt; a chyda gwrid ar ei boch a gwên yn ei llygad, agorodd y câs. 'Roedd Siân Dafis yn dal i edrych arni ac, fel hen sylwedydd craff, meddai hi: Wel, yn wir, 'wn-i ddim nad own i 'n reit ar y dechre, Elin Ifans; 'choelia'-i byth nad oes rhywun spesial wedi sgwennu'r llythyr yna," Er maint ei dig, ni allai Beti beidio â gwenu gyda'r lleill. Bu agos iddi â dweud wrth Siân Dafis am dendio'i busnes, ond, rywfodd, ar y funud ni allai feddwl am ddim i'w ddweud wrthi. Yn ebrwydd cododd Siân Dafis i fynd i ffwrdd. Wrth godi oddi ar ei chadair syrth- iodd ei ffon, a rhedodd Beti i'w chodi iddi. Diolch, Miss Beti," meddai'r hen wraig yn llawen, mi gofia'-i amdanoch-chi pan 'newch-chi ddechrau byw." Chwarddodd Beti. 'D oedd dim arall i'w wneud. 'Roedd pawb a gwrddai yn sôn am fyw, a phawb yn meddwl rhywbeth gwahanol wrth hynny. Yna trodd at Janet, ac meddai wrthi: Fe ddwetsoch y gwir, Janet. Y mae'n rhaid bod yna wahaniaeth yn rhywle.