Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nyni rfn Gwlad: Mr. Peate yn dweud yr hanes. W. EAMES. CYMRU A'I PHOBL, gan Iorwerth C. Peate. (Gwasg Prifysgol Cymru: 144 td., pris 2/6.) DYMA'R seithfed o Gyfres y Brifysgol a'r Werin, a gellir dweud ar unwaith ei fod gyda goreugwaith y gyfres. Arhosodd gwerin Cymru'n hir am dipyn o ad-daliad am yr aberth a'r ymdrech a wnaeth dros brifysgol, ond gall fwrw ei chryman i'r cynhaeaf yn awr lIe y myn. Gall ddysgu am y tro cyntaf yn llyfr Mr. Peate sut y daeth hi ei hun i fod. Ffarwel, bellach, i'r hen ddamcaniaethau difyr ynghylch Brutus a Chaerdroia. Rhaid rhestru Drych y Prif Oesoedd gyda'r Mabin- ogion; y mae hyd yn oed Celtic Britain John Rhys yn hollol òut-of-date. Nid hanes fel y cyfryw, fodd bynnag, ydyw testun yr awdur, eithr wyneb daear Cymru a'r modd yr effeithiodd eu ham- gylchedd ar hanes ei phobl, eu hiaith, eu crefydd, eu diwydiannau, a'u cartrefi. Y mae'r ymdriniaeth yn ddeheuig ac yn hollol fodern ei dull, ac er bod Mr. Peate yn ysgrifennu fel ysgolhaig y mae ei feistrolaeth ar ei fater, ynghyda'i Gymraeg llithrig a swynol, yn dwyn y darllenydd o fryn i bant ac yn ôl heb flino ond yn awchus am ragor. Y ceirch a'r gwenith. Y mae'r llyfr yn amlwg yn ffrwyth y ddysgeidiaeth ddaearyddol a gysylltir ag enw'r Athro Fleure ac a roddodd gryn fri i Aberystwyth. Cydnebydd Mr. Peate yr ysbrydoliaeth a gafodd trwy ei gysylltiad â'i hen athro, ac fe dâl deyrnged deilwng iawn i'w lafur distaw a diflin yng Nghymru. Ond ei eiddo ef ei hun, mi dybiaf, ydyw'r brodwaith sydd ar y cynllun, megis yn y disgrifiad o fynyddoedd Arfon fel byddin TYMOR COLLI PELI GOLFF (parhâd o dudalen 9). Ond dal i chwilio ar wasgar a wnaethai'r pedwar a'u cefnau at y tân nes y troes un ar ei sawdl, Bag pwy ydi 'nacw? meddai. A'r foment nesaf yr oedd yr hen Ddefi yn picio fel cangarŵ tros y tafodau tân i arbed ei eiddo llawchwith rhag dinistr cyfangwbl. Yr oedd hyn cyn dyddiau insiwrans, neu yno y cawsent fod. Mul o gadi. Er bod un da o'r rhelyw yn costio hanner coron, eto fe dâl cadi da amdano'i hun yn aml, yn enwedig pan fo tymor colli peli tua'i anterth. Ond yr aflwydd ar gwrs dieithr ydyw anhawster taro ar gadi gwerth ei halen, heb sôn am hanner coron. Fe edwyn cadi da bob twll cudd ar y cwrs ag ynddo unrhyw atyniad ar bêl golff. Gŵyr ymosodwyr ar warthaf yr erlidiedig," a thrachefn o unigedd y gweunydd: Yma nid oes rhyferthwy gwynt ar graig na suon graean yn disgyn o'r llethrau, ond cwyn hir yr awel uwchben porfa rydlyd y gors ac wylo glaw ar erwau anhygyrch y waun. Ond os yw'n farddonol (heb fod yn llai derbyniol) ar dro fel hyn, y mae'n efrydydd ffaith a ffigur craff iawn, a'i iaith yn gynnil ac yn gynhwysfawr wrth grynhoi i ychydig o dudalennau yr hyn a wyddys, er enghraifft, am amaethyddiaeth Cymru ac effaith yr hinsawdd a dylanwadau eraill ar ddosbarth- iad y ceirch a'r gwenith a'r anifeiliaid. Y mae'r un dull yn nodweddu'r bennod ar ddiwydiant a chyfnewidiadau poblogaeth, lle y ceir am y tro cyntaf mewn Cymraeg ryw gyfrif o adweithiad y gymdeithas gysefin yng ngwydd yr elfennau dieithr a ddaeth gydag agor y cloddfeydd a'r gweith- feydd. Buaswn i fy hunan yn croesawu ymdriniaeth lawnach ar y celfyddydau, eu tŵf a'u dirywiad, ond diolch am a gafwyd. Yr estron. Efallai mai yn y bennod ar y gymdeithas gysefin y mae Mr. Peate yn ei hwyliau gorau. Gwaith Mr. T. P. Ellis ar Welsh Tribal Law yw'r sylfaen, ond y mae Mr. Peate yn rhoi enaid yn ogystal â chefndir a chyfraith i'r genedl, gan mor gryf yw ei sêl dros draddodiad Cymreig y gweundir. Efallai ei fod yn rhy lawdrwm ar y dylan- wadau o'r tu allan; tuedda estron a th'rais i fynd yn gyfystyr ganddo weith- iau, er y cydnebydd mai cael eu cymhathu â bywyd y wlad fu hanes y Rhufeiniwr a'r Norman ac a ddigwydd eto, yn eithaf tebyg, i'r don ddiwydiannol. Mesur pennau. Gwelais gyfeiriad yn ddiweddar at ym- weliad un o ddisgyblion yr Athro Fleure ag ardal yng Nghymru ynglyn ag ymchwiliad i hiliogaeth pobl y fro honno, ac fe ym- ddengys i'w ymgais i fesur pennau gael edrych arni fel peth rhyfedd iawn ac ennyn tipyn o ddrwgdybiaeth. Cynghorwn bawb ym mh'le i sefyll yn fwyaf manteisiol i wylio a dilyn y bêl pan fo eisiau dreifio o'r golwg; a'r rhan amlaf, y mae ei gyngor ynglŷn â'r lein a'r clwb i'w gymryd yn werth gweithredu arno. Wrth gwrs, gellir cael mul a dim arall, ond bod mul yn well na bod heb ddim ar dywydd poeth a blin. Cof gennym am un o'r rhain-rhyw log o hogyn pengoch mewn hen drywsus clytiog a'i odreon yn blygion trwy'i gilydd yn bochio tros bâr o hen esgidiau fel cychod. Anfonwyd ef yn ei flaen lle'r oedd twll byr a ffos fawr o ddŵr yn rhedeg ar hirdraws o flaen y grin; a gorchymyn iddo sefyll ar fin y ffos i wylio rhag i'r bêl fynd iddi. Wedi llusgo yno, safodd yn wynebu'r tî a'r haul, a'i wyneb yntau fel haul arall yn union yn lein y bêl. Er gweiddi a chwifio Mr. Iorwerth C. Peate. yn y gweundir hwnnw i astudio pennod Mr. Peate ar Hüion," lle y cânt y rhesymau paham yn gryno iawn. Yng ngwyddor anthropoleg y ceir y dull mwyaf modem o astudio dyn a'i dyfiant, ac y mae dadansoddiad Mr. Peate o elfennau poblogaeth Cymru a'u dosbarthiad yng ngoleuni'r egwyddorion newydd yn ddi- ddorol dros ben. Ceir nodiadau ar lyfrau gwerthfawr iawn, a mynegai hwylus. Credaf y buasai geirfa yn ychwanegiad pur ddefnyddiol. Y mae'r Gymraeg ddiweddar yn llawn o eiriau ac ymadroddion nad ydynt yn y geiriaduron sydd yng nghyrraedd y werin. Am du allan y llyfr-ei rwymiad, a'i bapur, a'i brint-y mae'n debyg fod y pris yn cyfyngu'r dewis i fesur, ond nid af- resymol, efallai, disgwyl uwch safon yng nghynnyrch y Brifysgol. breichiau nid oedd modd ei syflyd o'r man lle y safai; ac o'r diwedd cafodd gymryd ei siawns. Trawyd y bêl hefo mashi i fyny i'r entrychion, a disgynnodd fel bwled yn union ar gorun coch y cadi a phicio oddi arno i'r awyr drachefn. Ni feddyliais erioed y buasai yn gwneud y fath glec. Y foment y fflachiodd y bêl oddi ar ei gorun, plygodd yr hogyn yn ei ganol ac eistedd yng ngwagle'r ffos o'i ôl nes dym- chwel â'i draed i fyny i ganol y dŵr a chodi cawod o drochion a'r rheini'n chwalu i bob cyfeiriad. Rhedasom tuag ato, a chyn i ni gyrraedd y ffos fe ymddangosodd pen coch diferol tros y dorlan i'n hwynebu, ac meddai T-t-t-tydi'r bêl ddim yn dŵr! Yn rhyfedd iawn, nid oedd wedi brifo dim: fe'i harbedwyd gan ei gap a'i gnwd gwallt. Ac yn wir, yr oedd y bêl ar ganol y grîn! Eitha peth yw cadi weithiau.