Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CARTREFI HEIRDD CYMRU, VIII. MWYNDER Cefn Mabl I. SAIF Cefn Mabli'n uchel ar dir coediog sydd ag afon Rhymni'n troelli wrth ei droed. Parha'r tir bryniog tua'r gogledd gan droi tua'r gorllewin yn drum amlwg. Tua'r de a thua'r dwyrain, y tu hwnt i deresi'r ardd, tir isel sy'n ymagor, a Rhymni'n ymdroi ymlaen nes cyrraedd Môr Hafren. A thu draw i'r darn dwr disglair hwnnw, sydd a llongau Caerdydd a Chas- newydd yn hwylio hyd-ddo, ymgyfyd bryn- iau Gwlad yr Haf. Y mae rhywbeth hoffus iawn yng ngolwg plasty Cefn Mabli. Y mae mor naturiol, mor llawn cydymdeimlad, mor ddiymhon- gar. Braf ydyw ei ffrynt hir, gyda'i ffenestri swynol a'i eglwys Gothig. Y mae'r set o goed magnolia mawr sy'n gorchuddio cymaint o'r muriau yn hollol gydnaws â natur y lle, ac y mae'r holl amgylchedd yr un mor gymwys. Hanes cynnar. Un o'r hanesion cynaraf sydd ar gael am Gefn Mabli ydyw hanes Dafydd, wyr John ap levan, arglwydd Kemeys a Began, yn priodi Cecil, merch ac etifedd Llywelyn ap Evan ap Llywelyn ap Meurig, Cefn Mabli, yn nechrau'r bymthegfed ganrif, ac yn meddu'r ystad. Nid oes hanes ar gael am hynafiaid ei wraig, ond yr oeddynt yn gwbl Gymreig. Ni wyddom chwaith pa fath dý oedd Cefn Mabli yr adeg honno. Ychydig o olion o'r gwaith Gothig gwreiddiol sydd i'w gweld yn awr, oherwydd fe ail-adeiladwyd y capel bach a chefn y tý (sy'n Gothig ill dau) mewn amser diweddar. Beddrodau'r teulu. Rhwng yr adeg pan ddaeth Dafydd Kemeys i feddu Cefn Mabli â'r adeg pan fu farw Syr Charles Kemeys yn y ddeunawfed ganrif, fe lifodd llawer o ddwr o dan y bont sy'n cysylltu Cefn Mabli ym Morgannwg ag eglwys Michaelstone-y-Fedw yn Sir Fynwy, Ue y mae beddrodau'r teulu. Yn ystod y tair canrif yma, fe drigodd tri aelod ar ddeg o'r teulu yng Nghefn Mabli. Ychydig cyn 1600, yn oes Elsbeth, yr oedd Rhys Kemeys yn far-gyfreithiwr yn Llun- dain a daeth i adnabod cymydog iddo, Dr. Aubrey o Lantrithyd, oedd yn Feistr ar un o'r llysoedd. Priododd Rhys ferch Dr. Aubrey, Wilsophet. Byr fu oes eu mab hynaf a'u hwyrion, ac yn 1637 daeth Cefn Mabli'n feddiant ail fab Rhys, sef Syr Nicholas o Lanfairdiscoed yng Ngwent. Syr Nicholas. Dywedir hod Syr Nicholas yn wr an- ferth ei faint a'i nerth." Eisteddai yn y Senedd dros Fwrdeisdref Mynwy ymhell cyn etifeddu Cefn Mabli, ac wedi hynny bu'n Siryf Morgannwg. Yn yr ymdrech rhwng y Brenin â'r Senedd yr oedd Syr Nicholas o blaid y Brenin. Cododd Syr Nicholas fyddin o wyr meirch, ac am beth amser yr oedd yn llywodraethwr Castell Caerdydd. Syr Nicholas oedd yn llywodraethu Castell Chepstow pan gyrhaeddodd byddin Crom- well i Gymru. Gofynnwyd iddo ildio, ond gwrthododd. Aeth Cromwell ymlaen tua Phenfro, gan adael y Cyrnol Ewer i oresgyn Chepstow. 'Chawsai Syr Nicholas ddim digon o amser i gyflenwi'r castell â digon o fwyd, ond ni fynnai ildio. Bu ysgarmes, a lladdwyd Syr Nicholas ac amryw o'i gefnogwyr. Hen ddodrefn. Y mae yng Nghefn Mabli heddiw fyrddau derw a dodrefn eraill sy'n perthyn i adeg Syr Nicholas. Yn y neuadd (sydd a'i llun yma) y mae'r panelau derw y muriau yn cyrraedd y nenfwd. Cyfatebir bwâu'r ffenestri gan fwâu y panelau dros y Не tân a'r drysau. Llenwir y panelau hyn â darluniau o gefn gwlad, a chynnwys pan- elau eraill ddarluniau rhai o hen aelodau'r teulu. Crocbren ac olwyn gi. Hyd y dydd heddiw fe gafodd Cefn Mabli y gofal mwyaf gan y rhai fu'n trigo ynddo. Nid esgeuluswyd ef erioed, ac ni chollodd ddim o awyrgylch yr hen fyd sy'n perthyn iddo. Enghreifftiau o hyn ydyw'r olwyn y dodid ci ynddo i droi'r beran (spit) o flaen tân y gegin; a hefyd y crocbren ar y grisiau cefn. Ai olion ydynt hwy o gyfraith yr Cefn Mabli Y Neuadd. oesoedd canol, ynteu pethau a dducpwyd i fod gan Syr Nicholas Kemeys er mwyn cadw trefn ar adeg o anghydfod gwladol? I'w adeg ef, neu'n agos at hynny, y perthyn y grisiau y saif y crocbren danynt. Ond os defnyddiwyd hwy ganddo, y mae'n ddiamau mai ymarfer yr oedd yr hawl a berthynai i'w gyndad Llywelyn ap Evan ap Llyw- elyn ap Cynrig, o Gefn Mabli." Soned Mr. W. J. Gruffydd. Yn ddiweddar y canodd Mr. W. J. Gruffydd i Gefn Mabli: Yma bu pob rhyw lendid mab a merch, Ar anterth mawr eu bywyd, yn rhoi tro; Bu yma ddawns a chân yn cymell serch Nosweithiau haf i fynwes gwyrda'r fro, A llygaid mwyn ar lawer trannoeth blin Drwy'r ffenestr hon yn gwylio'r curlaw llwyd A hwyr sigliadau duwch llwm y pîn A thruan dranc cyfaredd yr hen nwyd. Awgrym nid oes o'r maith rialti gynt Nac atgof prin o'r hen anobaith hardd,- Dim ond rhyw lais yn lleddfu ar fin y gwynt A rhosyn gwyllt yn hendre rhos yr ardd, Ychydig o'r hen wylo yn y glaw, Ychydig lwch yn Llanfihangel draw. YSGOL WYLIAU GYMRAEG. At Olygydd Y FORD GRos. Dyma raglen yr Ysgol Wyliau Gymraeg, 1931: Egwyddorion Addysgiant Beiblaidd: Yr Athro W. Jenkyn Jones, Aberystwyth. Hyfforddi Athrawon ysgolion dyddiol yn y dulliau o addysgu Cymraeg i blant Miss Mattie Rees, Llanelli. Ymgomio, Darllen ac Ysgrifennu, i rai na fedrant ddim Cymraeg: Mr. T. Williams, Glyn Nedd. Elfennau ac Orgraff yr Iaith Gymraeg: Mr. John Tysul Jones, Abertawe. Llên: y Parch. J. Dyfnallt Owen, Caerfyrddin. Hanes Cymru Mr. Glyn Roberts, Abertawe. Cynghanedd Mr. Lewis Davies, Cymer. Dosbarth Canu (Alawon Gwerin f'c.) Mr. Philip Thomas, Castell Nedd. Y mae'r Rhaglenni yn awr yn barod, a gellir en cael oddi wrth ISAAC L. DAVIES Eryl, (Ysgrifennydd a Chyfarwyddwr). Pontarddulais, Abertawe.