Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Taith Foduro YN Y BRYNIAU Unig. T. I. ELLIS. Y TRO hwn cawn fynd trwy barthau o'r wlad sy'n nodedig am ogoneddus- rwydd eu golygfeydd. Cychwyn o Ddolgellau dros y bont a throi ar y chwith; ymlaen, bron ar lan yr afon, heibio i ysgol y Dr. Williams, a thrwy'r coed gydag ambell i gipolwg i lawr i gyfeiriad y Bermo. Cyn hir croeswn afon Mawddach a throi ar y ddê yn Llanelltyd am Drawsfynydd; fe bery'r coed o hyd, â'r ffordd yn gulach, ond gwych yw'r golyg- feydd o'n cwmpas. Ar ôl pasio'r Ganllwyd a throi dros y bont, deuwn allan ar ffordd sy'n ymestyn yn syth ac yn union o'n blaenau am filltir- oedd: hen ffordd Rufeinig, meddent hwy. Erbyn hyn y mae wyneb y wlad yn wahanol; corsydd a mynydd-dir, a rhyw unigedd swynol dros ben-unigedd sy'n perthyn, rywfodd, i fryniau Meirionnydd. A fuoch-chi erioed yn y tren o'r Bala i Ffestiniog, a'r tren yn sefyll yn stesion Cwm Prysor? 'Rwy'n cofio un tro pan oedd y glaw'n dylifo i lawr, a niwl y mynydd yn gorchuddio'r gorwelion I fyny ac i lawr â ni, ac yna, ar ôl pasio erchyllterau cyffiniau gwersyll Trawsfynydd, deuwn i'r pentre bychan. Pwy a all weld cofgolofn Hedd Wyn heb oedi am funud neu ddau? Tyner yw'r lleuad heno — tros fawnog Trawsfynydd yn dringo; Tithau'n drist a than dy ro Ger y ffos ddu'n gorffwyso. Prydferthwch y Dyffryn. Wrth adael Trawsfynydd daw'r llyn newydd i'r golwg ar y chwith, a'r ffordd newydd hefyd. Dyfais dyn yw'r llyn, ond eto nid ymddengys fel pe bai'n amharu dim ar olwg y wlad, ao o'r pellter y mae'r olygfa arno'n hardd ddigon. Wedi gadael y llyn, peidiwch â throi ar y ddê am Ffestiniog, ond daliwch ymlaen am ychydig, ac yna trowch ar y ddê a 'disgyn yn raddol i Ddyffryn Maentwrog. Croesi'r bont, a phasio'r Oakley Arms: gellwch ddal ymlaen a dringo-euthum innau'r ffordd honno unwaith, heibio i'r Rhyd, ond os oes gennych barch i'ch càr, peidiwch. Y mae'n well 0 lawer i chwi gadw at y ffordd fawr a gyrru'n araf: peidiwch â brysio, i chwi gael mwynhau tawelwch a phrydferthwch y dyffryn. Cyn hir cyrhaeddwch sgwâr y Penrhyn. Trowch ar y ddê, a dilynwch y ffordd drwy'r pentref a thros y lein fach hyd nes cyrraedd pen y bryn ac edrych i lawr dros y gwastadedd i Lanfrothen, a'r Wyddfa yn ymsythu i'r nen yn union o'ch blaen. (Y mae'n rhaid gadael rhyfeddodau Porth Meirion am y tro.) Ffordd fach wladaidd, dda ei hwyneb, ydyw hi o hyn ymlaen i Bont Aberglaslyn, ond y mae'n ddigon hawdd ei dilyn ac yn werth ei thrafaelio. Swn di-baid. Ymhen rhyw chwe milltir dyma ni wrth y bont-un o ryfeddodau Cymru, onid e? Y mae'n ddigon posibl y bydd hi'n glawio­ felly y bydd hi bob tro, bron, y byddaf i yno -ond y mae hynny, i'm t'b i, yn ych- wanegu at wychter y lle. Sŵn di-baid, di- derfyn: y creigiau bron yn cau o'ch am- gylch, ac wrth edrych i gyfeiriad y môr, rhyw dawelwch rhyfedd. 0 Aberglaslyn i Feddgelert, credaf mai mynd yn eithaf ara' deg sydd orau. Gallwn dybio nad yw Beddgelert a'r wlad oddi amgylch yn annhebyg i rannau o'r Yswistir ­ond eto y mae yna wahaniaeth. Cewch ddewis rhwng eich ffyrdd yma eto, ond credaf­er mwyn amrywiaeth, o leiaf­. mai'r peth gorau ydyw troi ar y chwith dros y bont a dringo tua Rhyd-ddu. Afraid, bron, ydyw sôn am y golygfeydd: Moel Hebog ar y naill law a'r Wyddfa ar y llaw arall, heb feddwl am awyrgylch yr holl wlad o'ch cwmpas. Heibio i Lyn Gwellyn, trwy Fetws Garmon a Waenfawr, ac i lawr i Gaer- narfon. Gellid troi yng Nghaeathro ar y ddê a chyfarfod â'r ffordd fawr tua'r Felin- heli, ond nid wy'n ddigon sicr fy hun o'r ffordd i gyfarwyddo neb-hyd yn hyn, beth bynnag. Caernarfon ar nos Sadwrn. A gresyn fyddai peidio â manteisio ar gyfle i ymweld â Chaernarfon; y mae'r castell yn werth ei weld, wrth reswm, a chofgolofn Syr Hugh Owen: a chewch lu o bethau eraill i'ch diddori. Cyrraedd Caernarfon ar hyd Stryd Llyn (Pool-street y Saeson, onid e ?), a throi ar y ddê yn y sgwâr. Peidiwch â mynd drwy'r dref ar nos Sadwrn -y mae'r strydoedd yn gul, a'r tyrfaoedd yn ymwthio i'w canol. Druan o'r modurwr Ar ôl gadael Caernarfon cewch weld Menai cyn hir ar y chwith, a dyna chwi yn ei golwg neu'i chyffiniau yr holl ffordd bron i'r Borth. Twr yr Eryr, Castell Caernarfon. Y mae'r ffordd yn dda, a chyn hir fe fyddwch yn y Felinheli, ac ysbrydion yr hen longwyr yn gwibio o'ch amgylch. Dros y bont. Troi ar y chwith ymhen rhyw filltir a dringo am dipyn: yna disgyn i lawr at y bont wrth stesion Menai Bridge. (Byddwch yn ofalus yma.) Dros y bont-y mae'n rhaid i chwi fynd yn araf drosti-gresyn na chaech oedi i syllu i fyny ac i lawr; a dyma chwi ym Môn o'r diwedd ac ar y lôn bost." Cawn fynd i leoedd anghysbell yr ynys rywdro arall; y tro hwn daliwn ymlaen am Lanfair-a pheidiwch ag anghofio sefyll y tu allan i'r Tŷ Coch i dalu gwrogaeth i goffa- dwriaeth y gŵr amryddawn hwnnw a fu'n arweinydd i ddiwylliant Cymru yn ei ffordd ddihafal ei hun. Ac yna, ymlaen â chwi, dros y gwastad- eddau, fel y gwynt i Gaergybi. GWYLIAU AR DROED (Parhâd o dudalen 9.) paratoi swper. Gofelwch fod pob llewych o dân wedi diffodd cyn y gorweddwch i gysgu. Cadwch noswyl yn gynnar, a chodwch hefyd gyda'r ehedydd." Os bydd cyfle (a dylech fod wedi gofalu am hyn) ewch dros eich pen i afon, llyn, neu fôr tra bo'r tegell yn berwi at frecwast. Yna rhwbiad cyflym gyda'r lliain ac wedyn at y bwyd! Golchwch eich llestri yn lân, a phaciwch bob peth yn ddestlus. Un o'r pethau pwysicaf yn awr ydyw gweled nad ydych yn gadael dim aflerwch ar eich ôl. Ceisiwch bob amser, er eich mwyn eich hunain a'r rhai a ddaw ar eich ôl, adael pob llecyn y campiwch arno mor daclus neu daclusach nag yr oedd cyn i chwi ddyfod yno. Fel hyn mi fyddwch yn helpu i gadw harddwch y wlad ac yn ennill parch v ffermwyr a'r perchenogion tir.