Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PASIANT MAWR LERPWL. Gan W. EILIAN ROBERTS. SWN Jiwbili a glyw-wyd yn Lerpwl y dyddiau diwethaf hyn. Cafwyd y Pasiant a'r Arddangosfa Genhadol yn y St. George's Hall, a mawr oedd y llwyddiant a'r canmol. I gylch eglwysi Cymraeg Lerpwl fe dorrodd Cynan lwybr newydd gyda Phasiant y Newyddion Da." Un rhan yn unig o'r Pasiant a gaed yn Gymraeg, sef yr episôd a ddarluniai ddyfodiad yr Efengyl i Brydain. Edrydd y lleill hanes llwydd yr Efengyl yn Iwerddon, Canada, Affrica, China, ac India. Gan fod yr episodau hyn yn Saesneg, ynghyd â'r prolôg a'r epilôg, fe enill- wyd cydymdeimlad a gwasanaeth eglwysi Cymraeg a Saesneg y Method- istiaid Calnnaidd yn y cylch. Gweithredodd y ddwy adran megis un i sicrhau llwyddiant yr ymdrech ac, er nad yw'r ffigurau gennym ar hyn o bryd, deallwn fod swm sylweddol wedi ei sicrhau i gronfa'r Genhadaeth Dramor. Bu pawb a gymerai ran yn y Pasiant yn falch o'r cyfle ac yn uchel eu teyrnged i Gynan hefyd, ac yn ôl sibrwd a glywsom, hwyrach y bydd galw ar y chwaraeyddion yn fuan eto gyda drama-basiant arall. 'Ddim mor Gymreig a'u henw. Ddechrau mis Mai hefyd y dathlodd eglwys Wesleaid Mynydd Seion ei jiwbili, a daeth tyrfa dda ynghyd i fwynhau'r wledd a estynnwyd iddynt gan Mr. a Mrs. Moses Hughes, Wallasey. Yn yr hwyr bu cyfarfod cyhoeddus i ddathlu'r achlysur, a phregethwyd y Sul gan y Parch. W. 0. Evans. Pryn- hawn Sul bu cyfarfod Saesneg dan nawdd pobl ieuainc yr eglwys, pryd yr anerchwyd gan y Parch. G. Rowland Owen, a datganwyd yn ystod y cyfarfod gan Mr. R. Meirion Morris, Bwlch- gwyn. Ar y 9 a'r 10 o Fai bu hefyd eglwys Annibynnol Clifton-road, Birkenhead, yn dathlu cyffelyb achlysur; pregeth- wyd yno gan y Parchn. W. J. Nichol- son, Porthmadog, a J. P. Gough, Plas- marl. Erbyn hyn, y mae amryw o eglwysi'r cylch o bob enwad wedi gweled eu jiwbili, rhai ers llawer blwyddyn bellach, ac erys pob un ohonynt yn ieuanc eu hysbryd. Gresynem am un peth, serch hynny, sef nad yw pob eglwys mor Gymreig- aidd â'i henw, ac os ydynt am ddathlu eu canmlwyddiant fel eglwysi Cymreig rhaid wrth fwy o ymdrech ymysg y plant a'r ieuainc i gadw'r hen iaith yn fyw." GWRES AWSTRALIA. YSGRIFENNA Mr. Baldwyn. M. Davies (gynt o Fachynlleth), ysgrif- ennydd Cymdeithas Dewi Sant, Black- stone, Queensland, Awstralia: Y mae gan ein cymdeithas ni oddeutu 60 o aelodau. Mr. B. H. Lewis (o'r Rhondda) ydyw'r llywydd, a Mr. Alfred Nathan (hefyd o'r Rhondda) ydyw'r trysorydd. Y mae'n rhy dwym i gynnal cyfar- fodydd y dyddiau hyn (ar hyn o bryd y mae'r thermometer yn dangos 105 gradd), ond fe gwrddwn ymhen wyth- nos nen ddwy, ac ar Ddydd Gŵyl Dewi fe gawn gymanfa gann a phregeth yn Gymraeg (a ledaenir, mae'n debyg, ar Radio 4QG, Brisbane). CROESO'R WLADFA GYMREIG I'R TYWYSOG. ODDI WRTH OHEBYDD ARBENNIG. PAN oedd Tywysog Cymru yn ymweled â'r wlad hon yn ddiweddar, fe anfonodd Cymry Cwm Hyfryd ddirprwyaeth o'r Sefydlwyr, sef y Bonwr John D. Evans a'r Meddyg Mihangel ap Iwan, i Bariloche i'w gyfarfod, i gyflwyno iddo albwm bychan hardd, neu fath ar lyfr poced, wedi ei wneuthur o ledr Rwsia. Ar ei glawr, mewn llythrennau aur, yr oedd y geiriau: I'w Urddas Brenhinol, Tywysog Cymru, fel arwydd fechan o barch ac edmygedd Cymry Godre'r Andes, Archentina." Ar ganol y ddalen gyntaf yr oedd Arfbais y Weriniaeth Arianin; uwchben ceid Arfbais y Tywysog ar un ochr, a'r Ddraig Goch ar yr ochr arall; ac ar waelod y tudalen ceid y Faner Archentaidd a'r Faner Brydeinig wedi eu clymu ynghyd: y cwbl wedi eu paentio â llaw yn dra chelfyddgar. Y Cyflwyniad. Ar y tudalennau nesaf ceid y Cyflwyniad canlynol, a chyf- ieithiad ohono i'r Saesneg, wedi ei arwyddo gan dros gant o'r Gwladfawyr At Eich Uchelder Brenhinol, Dywysog Cymru. WELE ni, ychydig Gymry, arloeswyr Cwm Hyfryd a'r cylchynion, yn anfon cenhadon i'ch llongyfarch ar eich dyfodiad i'r Weriniaeth Arianin, ac i ddatgan ein hedmygedd o'ch gallu i greu yspryd brawdgarol cydrhwng gwahanol genhedloedd y byd, yn enwedig y cyfeillgarwch ydych yn ennyn rhwng ein Mam-wlad a'r Weriniaeth hon, gwlad ein mabwysiad; heb, ar yr un pryd, esgeuluso ein buddiannau bydol, ond yn hytrach eu cadarnhau. Yr ydym wedi cael pob caredigrwydd yma yn y Weriniaeth Arianin, ac yn ddiolchgar tuag ati ac yn edmygol ohoni, eto nis gallwn lai na charu Cymru lan a chwithau fel ei chynrych- iolydd. Bydd eich dyfodiad yma'n selio'r cyd-ddealltwriaeth a'r cyfeillgarwch hwn. Cynhydded eich dylanwad. Gwnawn a allwn i fyw yn deilwng o Wlad ein haniad. Y dynesydd goreu ydyw dyn da. Duw yn rhwydd i chwi yn eich gorchwylion tra phwysig ydyw ein gweddi ddibaid; Yn y llogellau sydd yn y llyfryn ceir dau wawl-lun diddorol, y naill o sefydlwyr Cwm Hyfryd adeg ymweliad Colonel Holditch a'r Perito Moreno â'r lle, pan oedd y blaenaf yn cynrychioli'r Brenin Edward V11, fel cyflafareddwr y ffin rhwng y wlad hon â Chile; a'r llall o'r sefydlwyr hynny sy'n aelodau o Gynghrair y Cenhedloedd. Holi hynt y Cymry. Er i'r Tywysog fethu â myned i Bariloche, eto fe gafodd y cynrychiolwyr a phawb o'r sefydlwyr a aeth gyda hwy y fraint o ymddiddan ac ysgwyd llaw â'r Tywysog Sior yn y cyfarfod croeso a gynhelid yn Ariandy'r Genedl yn y dref honno. Wedyn aethant oll i gyfarfod Tywysog Cymru i orsaf y rheil- ffordd yn Pilcañen. Pan gyrhaeddodd y modur oedd yn cludo'r Tywysog i'r orsaf, disgynnodd y Tywysog ac aeth yn ebrwydd at y dirprwywyr; ac wedi'r cyfarch gwell, a chyflwyno o'r cynrych- iolwyr iddo'r annerch a dymuniadau da sefydlwyr Godre'r Andes, ymddiddanodd â hwy ennyd, gan holi hynt y Cymry yn y fangre honno. Cyflwynodd ei gofion a'i ddymuniadau da i'r holl Wladfa- wyr, a chanu'n iaoh ac ysgwyd llaw â'r dirprwywyr a phawb o'r Gwladfawyr oedd gyda hwy. GAIMAN, CHUBUT, ARGENTINA, DE America, Ebrill 10. CWM HYFRYD. CYCHWYN DA I'R URDD YM MANCEINION. Gan HENRY ARTHUR JONES. RHODDWYD cychwyn da i Urdd Gobaith Cymru ym Manceinion ddydd Sadwrn, Mai 9, trwy gynnal tê, cwrdd rhestru, a chyngerdd ym Moss Side, o dan arwein- iad y Parch. W. J. Jones (Heywood- street). Ffurfiwyd chwech o adrannau, a rhestrwyd 120 o aelodau, heb gyfrif y cefnogwyr. Dewiswyd y Parch. Hugh Jones (Upper Brook-street) yn llywydd cyntaf y Cylch. Bellach y mae'r adrannau wedi cychwyn ar eu gwaith trwy drefnu eu bywyd haf yn ôl y patrwm a awgrymir yn Llawlyfr yr Urdd; ac, o glustfeinio yn ystod yr wythnosau nesaf, fe glywir seiniau'r Gymraeg ar dafod y plant yn y parciau a'r baddonau cyhoeddus, ac yng nghanol rhyfeddodau Belle Vue. Gwaith araf. Nid yn groyw, efallai, y clywir yr iaith ar y cychwyn, canys yn araf y diddyfnir y plant a'r bobl ieuainc o'r hen ddrwg-arfer o alltudio'u priod iaith o fyd chwarae ac ymddifyrru. Ond deuparth gwaith ei ddechrau. Yr ydym yn obeithiol iawn y bydd degau o'r plant yn gallu enwi blodau a choed y parciau a gwylltfilod Belle Vue yn rhugl yn y Gymraeg cyn i'r haf wneud lle i'r hydref. Boed i fugeiliaid yr Urdd ym Man- ceinion ofalu am naturioldeb a syml- rwydd mewn iaith, a glynu'n dynn wrth Gymraeg lafar. Eisteddfod. Yr oedd Eisteddfod y Ddraig Goch yn llwyddiant mawr, a'r cystadleuwyr yn yr adran gerddoriaeth a'r adrodd yn bur lluosog. Er i'r cyfarfod bara am bedair awr a hanner, cadwyd y diddor- deb hyd y diwedd. Cyfrannodd afiaith a ffraethineb yr arweinydd (Caerwyn) a dawn digymar y beirniad cerdd (Mrs. C. Lloyd Davies, Bangor) lawer at sicrhau hynny. Cymdeithas y Ford Gron. Maes efrydiaeth Cymdeithas y Ford Gron ar hyn o bryd ydyw barddoniaeth Mr. R. Williams-Parry, a darllenwyd papur gwych ar Yr Haf a Cherddi Eraill gan Mr. Percy Ogwen Jones yn y cyfarfod diwethaf. Eir ymlaen yn y cwrdd nesaf i astudio'r sonedau yn fwy manwl, o dan arweiniad Mr. J. Cein- ionydd Roberts. Tristawyd Cymry Manceinion yn fawr pan ddeallwyd fod Miss Lucy A. Murray (y genhades ieuanc o Victoria Park a aeth allan i'r maes yn Sylhet ddeunaw mis yn ôl) wedi syrthio yn aberth i double-pneumonia yn y wlad bell. Cynhaliwyd gwasanaeth teim- ladwy yn yr eglwys i goffáu amdani. Yr oedd Miss Murray yn gymeriad nodedig o brydferth a hnnan-aberthol. CANU AC ATGOFIO YN NEW SOUTH WALES. ODDI WRTH OHEBYDD. Y MAE yn Newcastle, New South Wales, Gymdeithas Gymrodorion sy'n ymdrechu cadw yr hen iaith a'i thraddodiadau. Fe'i cychwynnwyd hi yn y flwyddyn 1888. Byddwn yn cwrdd y dyddiau hyn ar y nos Sadwrn olaf yn y mis, ac er nad ydym yn siarad llawer o'r hen iaith, yr ydym yn ceisio canu hen alawon ac emynau Cymru, a chael darlith neu esboniad yn awr ac yn y man ar hen ddefodau a hanes y Cymry. Dathlwyd Gŵyl Dewi Sant ar y 28 o Chwefror ym Mharc Speers Point, yn