Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

agos i Lyn Macquarrie, oddeutu wyth milltir o Newcastle. Y mae y Llwch hwn yn 365 o filltiroedd o'i amgylch, ac y mae golygfeydd ardderchog wrth dramwyo arno. Cadeirydd y dydd oedd Mr. E. John (Uywydd y Gymdeithas am y flwyddyn). Yr ysgrifennydd ydyw Mr. W. H. Wailrins (genedigol yn Awstralia o rieni Cymreig), brawd i'r Aelod Seneddol, Mr. David Watkins. Mr. R. Jones ydyw'r trysorydd. A.S. o Gymro. Traddodwyd anerchiadau gan y Llywydd yn Gymraeg, a chan Mr. D. Watkins a Mr. W. J. Morgan yn Saesneg, yr olaf yn cymryd lle Mr. W. Davies (Gweinidog Addysg yn Senedd New South Wales: gwr o Abertileri gynt). Cafwyd canu ardderchog (o dan ar- weiniad Mr. Morgan) 0 lawer o hen GALW AM BWYLLGOR RADIO CYMREIG (parhâd o dudalen 20). Credaf bod. Y mae radio yn galw am ddull arbennig o wrando. Hyd yma, rhaid inni gofio, gwrando heb weld ydyw. Y mae rhyw unigrwydd yn perthyn iddo hefyd. Taena ysbryd gwrando yn gyflym dros gynulleidfa fawr, a hawdd yw ei deimlo o'r naill i'r llall; ond tuedd y radio, gan ei fod yn dibynnu ar beiriannau, ydyw unigoli'r gwrandawyr. Miwsig. Gan mai miwsig yw rhan helaethaf rhaglen y dydd, dyma'r elfen sydd yn fwyaf agored i ddioddef oddi wrth wrando llac. Clywais un, oedd a'i lond o fiwsig mewn cyngerdd, na châi bleser yn y byd wrth wrando ar ei hoff ddarnau ar y radio. Beth yw'r rheswm? Amlwg ei fod yn methu BEIRDD Y TYWYSOGION (parhâd o dudalen 24). lluoedd a cholli arweinydd ar amrantiad trwy law brad. Heblaw'r teimlad o golled cenedl cawn yn y 'gerdd dristwch personol am golli cyfaill sydd yn rhoddi min i'r teimlad arall hefyd. Dechreua'r awdl: Gwae fi o'r golled, gwae fi o'r dynged, Gwae fi o'r clywed fod clwyf arno. Ond anghofia'r bardd ei dristwch personol wrth gofio am anffawd gwlad, a chawn rai o linellau mwyaf ysgubol barddoniaeth Gymraeg: Oerfelawg calon dan fron o fraw Pam na welwch-chi hynt y gwynt a'r glaw? Pam na welwch-chi'r deri yn ymdaraw? Pam na welwch-chi'r mor yn merwinaw'r tir? Pam na welwch-cbi'r gwir yn ymgyweiriaw? Och hyd atad, Dduw, na ddaw môr dros dir, Pa beth y'n gedir i ohiriaw? Nid oes le y cyrcher rhag carchar braw, Nid oes le y triger, och o'r trigaw, Nid oes na chyngor na chlo, nac egor Unffordd i esgor brwyn gyngor braw. Marwnad merch. Marwnad i ferch yw awdl Gruffydd ap Maredydd, a'i harbenigrwydd yw'r ym- emynau Cymru, a chanwyd hefyd gan barti o feibion. Crybwyllwyd gan y Cadeirydd am farwolaeth Mr. Henry Morgan Wil- liams (gynt o Ddowlais), gáτ a ddaeth i'r wlad hon lawer o flynyddoedd yn ôl. Claddwyd ef yn ystod yr wythnos, a blin oedd gan y Cadeirydd hysbysu'r dorf fod ei weddw wedi marw y bore hwnnw. CYMRY AMWYTHIG. Y MAE Cymrodorion Amwythig (Shrewsbury) wedi ail-ethol Mr. J. P. Hughes yn llywydd a Mr. Hugh Hughes yn gadeirydd. Hefyd etholwyd Mr. E. Thomas yn ysgrifennydd a Mr. T. E. Morgan yn drysorydd. Ar y 25 o'r mis hwn bydd y Gym- deithas yn mynd ar drip i Meifod, lie y caiff yr aelodau wrando hanes Tywysogion Powys. LLYFRGELL CYMRY LLUNDAIN. Y MAE gan Gymdeithas Cymru Ieuanc dri digwydd- iad diddorol i edrych ymlaen atynt y mis hwn: dawns yn y Clybdy nos Fercher, Mehefin 3; parti yng ngardd Mr. O. Picton Davies (" Court- lands," Clapham Park) brynhawn Sadwrn, Mehefin 13; a thrip y Pwyll- gor Hanes i Salisbury, Winchester, a Stonehenge ddydd Sadwrn, Mehefin 20. Ceisir yn awr adeiladu llyfrgell dda, ddefnyddiol yng Nghlybdy'r Gym- deithas, ac y mae pwyllgor wedi ei benodi i ofalu amdani. Nid hel at ei gilydd lyfrau y gellir eu benthyg o unrhyw lyfrgell gyhoeddus ydyw'r bwriad, ond trefnu ystafell ddarllen fydd yn galon y ty ac yn hollol Gymreig ei chÿmeriad. Pennaf dymuniad y pwyllgor felly ydyw casglu dygymod â'r sain heb weld y gerddorfa neu'r côr. Prawf, er hynny, o ddatblygiad mwynhad miwsig ar y radio ydyw cynnydd araf ond sicr diddordeb pobl yn y miwsig siambr (chamber music). O'r chwarae teuluol y cychwyn hwn (yn union fel y daw'r rhan- gan a'r fadrigal o'r canu teuluol), ac y mae iddo symledd cynllun a naws y gyfeillach- anhepgorion i'r radio. Ond dyna faes rhywun arall. Y cylch gwrando. Nid yw gwrando'r radio yn waith unig i gyd. Mewn cannoedd o ysgolion dilynir y gwersi hanes, ieithoedd a llenyddiaeth gyda blas. deimlad a geir ynddi o greulondeb angau yn dwyn ymaith brydferthwoh ieuenctid a'i guddio yn y bedd. Llawnder a hapusrwydd bywyd o'i gyfer- bynnu ac unigedd marwolaeth yw testun y gerdd, ac y mae'r modd y dywedir hyn yn gelfydd iawn: Adeilwyd bedd gwedd gwiwder, F' enaid, i'th gylch o fynor; Adeilodd cof dy alar I'm calon ddilon ddolur. Lle bu ra (fur) a gwyrdd, lle bu rudd a glas, Neud gloes angau gystudd; Lle bu aur am ei deurudd, Lle bu borffor, côr a'i cudd. I Dduw, i Fair, i'r Saint. Y mae cryn amrywiaeth yng nghanu'r beirdd. Cawn gerddi crefyddol i Dduw, tywysog y Nef (yr awdl yn aml yn debyg i foliant tywysog daearol ond bod enw Duw yn lle enw tywysog); cawn gerddi i Fair ac i'r Saint; cân Gwynfardd Brycheiniog i Ddewi Sant, cân Llywelyn Fardd i Gadfan Sant­canys i'r Saint Cymraeg y canent fel rheol. Cawn un gerdd grefyddol gan fynach, llyfrau Cymraeg a llyfrau am Gymnu Byddai Mr. Alun Jones, y cadeirydd neu Mr. Goronwy 0. Jones, neu Mr. Cecii Williams, neu Mr. Vyrnwy J. Lewis; neu Miss Janet Evans, yr ysgrifennydd, yn falch o gael rhoddion o lyfrau neu roddion o arian at brynu llyfrau. Y mae Côr Meibion Llundain wrthi'n paratoi ar gyfer yr eisteddfod a gynhelir yn Central Hall, Westminster, fis Tachwedd nesaf. The Tyrol yw'r darn prawf. FOR SALE.-Light Horse Lorry; Light Van, four-wheeler. Quantity Spokes. Collings and Mail Float Shafts. Two Horse Hearses, glass sides. Ley- land 3-ton Lorry on pneumatics. Light Dog Cart, rubber-tyred. What offers? — J. Fred Francis & Sons, Ltd., Coach- builders, Colwyn Bay. Darperir mwy a mwy ar gyfer y cylch gwrando. Gwneir hyn, wrth reswm, o safbwynt addysg, ac y mae cynnydd eithr- iadol ar yr adran yma i waith y radio. Y mae'r brwdfrydedd yng nghylchoedd gwrando rhai mewn oed. Bydd rhai blaen- llaw yn fynych yn mynd i Goleg Harlech a cholegau eraill i gael eu hyfforddi sut i arwain cylch gwrando. Ar hyn o bryd y mae llawer iawn o wasanaeth y radio yn y cyfeiriad yma yn cael ei golli yng Nghymru. Onid yw'r angen yn fawr am bwyllgor radio Cymreig, mewn cyswllt addysgol uniongyrchol â'r dosbarthiadau a'r cymdeithasau llenyddol trwy'r wlad? Pan ddaw cyfle radio Cymru credaf y defnyddir ef yn synhwyrol, ac y bydd gwrando eiddgar a deallus arno. y Brawd Fadog ap Gwallter-cerdd sy'n wahanol i gerddi duwiol y gweddill o'r beirdd ac yn gosod y Brawd Fadog ymhlith gwir feirdd crefyddol Cymru. Cymysgedd ryfedd yw gwaith y beirdd hyn, weithiau'n codi am ysbeidiau byrion i dir uchel farddoniaeth, yn rhy aml yn drwm gan eiriau diystyr a diangen. Bywyd y brawddegau. Lle y mae gwendid, bai traddodiad rhy gaeth yw; lIe y mae prydferthwch, cyfyd y farddoniaeth uwchlaw rheol a llifa bywyd trwy'r geiriau a'r brawddegau. A'i farnu fel barddoniaeth, maes anodd yw gwaith Beirdd y Tywysogion, ond yma ac acw ceir trysor yn guddiedig ynddo. Ar y llaw arall, fel cymorth i astudio hanes tŵf barddoniaeth Gymraeg a'r traddodiad barddol, y mae'n werthfawr iawn, a defnyddir ef i orffen y darlun a geir wrth astudio'r Cyfreithiau a'r Mabinogion. Ysywaeth, y mae llawer o waith caled cyn y ceir darlun gorffenedig o gyfnod diddorol iawn yn hanes ein gwlad.