Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Taith Foduro O GAERGYBI AM GAERDYDD TAITH dros ddau can milltir ydyw hon i fynd yn syth, dilynwch yr Holi Hed i Amwythig, a throwch yno tua Henffordd a'r Fenni a Chasnewydd ar Wysg. Nid ffordd anniddorol mo hon, a dyma'r orau os oes arnoch frys i gyrraedd pen y daith; ond i adnabod Cymru a'i thir a'i ffyrdd, diddorol fydd troi oddi arni cyn hir iawn a dewis ambell un nas troedir mor aml â'r briffordd. Wrth gychwyn o Gaergybi fe fyddwch, am a wn i, yn cychwyn ar y ffordd yr âi Cybi ar hyd-ddi gynt i gyfarfod â Seiriol; ac wrth ddilyn y ffordd fawr dros wastad- eddau Môn chwi welwch fynyddoedd Eryri yn ymgodi o'ch blaen, a'r Wyddfa yn y canol, ac yn ymestyn hyd at leision drumau'r Eifl ar y ddê. Athen y Gogledd." Croesi'r bont dros Fenai drachefn, a chadw ar y chwith, a nesáu ymhen milltir neu ddwy at ddinas Bangor. Gelwir hi yn Athen Gogledd Cymru, ac y mae'n haeddu'r enw o achos ei cholegau, bump ohonynt, a hen ysgol y Friars, heb sôn am yr ysgolion eraill a godwyd yn ddiweddarach ac o achos ei heglwys gadeiriol, er nad ydyw hon, efallai, i'w chymharu ag eglwys Ty-ddewi. Gellir osgoi'r strydoedd culion sydd yng ngwaelod y ddinas trwy droi ar y chwith ar ei chyffiniau a dal i lawr tua'r Garth, heibio i'r Coleg Normal; troi ar y ddê, ac yna ar y chwith, gan ail-gyrraedd y ffordd fawr wrth yrnyl Pafiliwn yr Eisteddfod Genedl- aethol a'r Penrhyn Arms, cartref cyntaf Coleg y Brifysgol. Os gellwch, sefwch yma am ennyd a throwch i edrych i fyny tua'r Coleg newydd ar y bryn gyferbyn, sydd megis yn gwylio dros y dref a'i wyneb tua'r mynyddoedd. Rachub. Gadael y ddinas a gweld y fynwent newydd ar y ddê a muriau Castell Pen- rhyn ar y chwith; yna troi ar y ddê yn Llandegai am Feth- esda. Cyn cyrraedd yno (nid yw'r daith ond rhyw bum milltir) y mae ffordd yn troi ar y ddê am Gaer- narfon ac un yn dod i mewn ar y chwith o Rachub a Llan- Uechid. Byddai 'n dda gennyf wybod ystyr y Ue cyntaf. Gwelais ei a 1 w n Rachyb hefyd, ond gellid tybio m a i Rachub sy'n iawn. A.c am Lanllechid fe ddaw'r hen bennill i 'n cof am gariad y bardd yn huno Yn y llwch ym mhlwy' Llanllechid. Chwareli a mynyddoedd. Chwareli a mynyddoedd, a Nant Ffrancon yn dechrau ymagor o'n blaen. Y mae'r ffordd yn araf, araf ddringo, a bron heb yn wybod inni wele ni ar ben y bwlch ac yng ngolwg Llyn Ogwen-y llyn a rhyw dduwch rhyfedd yn gorchuddio ei wyneb, a chysgod- ion y mynyddoedd oddi amgylch. Y mae'r ffordd yn ymdroelli o gwmpas y llyn, ac yn dringo o hyd megis i ganol yr unigeddau. Ond cyn hir dyma ni'n dechrau disgyn ac, o'r diwedd, yn cyrraedd Capel Curig, a'r ffordd o Gaernarfon yn ymuno â ni ar y ddê. Ni allaf basio'r fan heb feddwl am Robert Roberts, druan (y Sgolor Mawr) yn cerdded o Lanrwst i Gaernarfon ar dywydd mawr yng nghanol y gaeaf, a gwraig y gwesty yng Nghapel Curig yn tosturio wrtho ac yn rhoddi iddo rywbeth i'w gynhesu cyn iddo fentro tua Phen y Gwryd a Bwlch Llan- beris. Glaw Betws y Coed. Y mae'r ffordd yn disgyn am bedair milltir neu bump i Fetws y Coed, ac yn croesi'r afon, unwaith neu ddwy, gan droi yn eithaf sydyn. Gwyliwch, felly, rhag ofn. (Ond y mae'n debyg eich bod yn yriedydd prof- iadol erbyn hyn.) Un o'r pethau mawr ym Metws y Coed, hyd y gwn i, ydyw'r glaw. Bron bob tro y byddaf i yno, beth bynnag, ceir digon ohono; ond nid yw hynny'n amharu dim ar degwch y pentref yng nghesail y mynyddoedd gyda doldir Conwy o'ch blaen. Croeswch bont Waterloo, trowch ar y ddê, a deliwch ymlaen ar y ffordd fawr, gan ddringo o hyd tua Phentre Foelas, ac yna Gan T. I. ELLIS chwi gewch yrru â'ch holl nerth i Gerrig y Drudion. Ond gellir oedi hefyd; beth am Blas Iolyn a Glan y Gors, heb sôn am hen westy Cernioge ? A sylwch fel y mae 'r wlad, yng ngeiriau fy nghyfaill o Lanrwst, yn agor ei mynwes i'r nen." Byd newydd. Ymhen tua milltir neu lai o'r Cerrig chwi welwch ffordd yn troi ar y ddê i gyfeiriad y Bala. Dilynwch hon, a chewch fyd newydd, fel pe baech yn gadael plasty gwych am fwthyn bychan, dinod. Y mae'r ffordd yn gul, ac unigedd bryniau Meirion o'ch amgylch. Yn Frongoch deuwch at y ffordd sy'n arwain i Ffestiniog dros y Migneint, a throwch ar y chwith iddi a chyrraedd y Bala ymhen tair milltir, gan ddisgyn i'r dref heibio i'r Coleg. Oedwch yno i dalu'ch teyrnged i'r dewrion: Lewis Edwards, Thomas Charles Edwards, Hugh Williams, Ellis Edwards, John Owen Thomas ac yn olaf, ond nid yn lleiaf- Dafydd Williams. Yr unigeddau. Trowch i'r ddê ar hyd Stryd y Bala, ac yna ar y chwith gyferbyn â'r White Lion i basio'r Capel Mawr. Cyn hir deuir at lan y llyn a gwelir Aran Benllyn yn ymgodi yr ochr draw i'r dŵr. 0 hyn ymlaen y mae'r ffordd dros y Berwyn yn arw, braidd, ac yn gul, ond os hoff gennych unigeddau'r mynydd ac ysblander golygfeydd, dyna'r ffordd i chwi. Peidiwch â throi i fyny ar y ddê (yn wir, cewch rybudd i beidio) i gyfeiriad Rhosy- gwaliau; deliwch ymlaen, a Dyfrdwy oddi tanoch ar y chwith, am filltir neu ddwy, ac yna trowch i fyny ar y ddê i ddringo tua'r Berwyn. Ond i chwi yrru'n hamddenol a digyffro, nid yw'r ffordd yn anodd; ac erbyn i chwi gyrraedd i'r uchelfannau tua Milltir Gerrig, wele dâl ardderchog i chwi am eich llafur. Nid af yn awr i ddechrau disgrifio ehang- der yr olygfa; ewch yno i'w mwynhau, ao fe erys yn hir yn eich cof. Yma y mae'r ffordd yn dechrau disgyn ar ochr y mynydd, a'r cwm yn ymagor islaw ar y ddê. Cyn hir dyma ni ym mhentref bychan Llangynog. Y FORD GRON Y MIS NESAF Rhifyn arbennig i fis yr Eisteddfod COFIWCH ORDRO'CH COPI.