Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DAFYDD AP GWILYM (parhâd o dudalen I I). Dau beth newydd. Ceir deubeth newydd gan Dafydd ap Gwilym. — ei fesur, sef y cywydd, a deunydd ei gerdd. Y mae tyfiant, mesurau cerdd dafod, yn enwedig yng Nghymru. yn un o'r rhyfedd- odau hynny na all neb eu hesbonio. Hyd y bedwaredd ganrif ar ddeg nid oes sôîi yng Nghymru am y cywydd deuair hirion, sydd yn brif fesur Dafydd. Darn o farddoniaeth a wneir o gwpledi saith sillaf, y naill linell yn diweddu'n acennog a'r llall yn ddi-acen, yw'r cywydd. Yn ystod tair canrif daeth y cywydd yn hoff fesur y beirdd, ac y mae wedi cael sylw beirdd mwyaf Cymru ar bob adeg yn hanes ein llên. Dafydd ap Gwilym yw'r cyntaf i'w ddefnyddio yn rheolaidd ac yn aml, ac y mae'r beirniaid yn cytuno iddo ef wneuthur llawer i ddod ag ef i fri, a bod geiriau Gruffydd Grug yn wir: Hoff oedd yng Ngwynedd, meddynt, Yn newydd ei gywydd gynt. Tad tair canrif. Nid oes sicrwydd ymhlith ysgolheigion o ba Ie y tarddodd na pha fodd y cafodd Dafydd afael yn y cywydd. Y mae'n debyg i rai o fesurau'r beirdd Gwyddelig; y mae'n debyg, hefyd, i rai o fesurau Lladin yr Eglwys Gatholig yn y Canol Oesoedd; a gwêl rhai gysylltiad rhyngddo â mesurau beirdd Ffrainc. IANTO A'R LLYFR EMYNAU (parhâd o dudalen 6). O, mi ddweda' wrthyt-ti. Y mae pobl flaenaf ein henwad ni wedi penderfynu mai doeth yw cael llyfr newydd." Ie, doeth,' meddai Ianto. Mi garwn wybod b'le mae'r doethineb yn dod i mewn. Meddyliwch am yr hen emyn adnabyddus Dwy aden colomen pe cawn,' ac yn y llyfr newydd, Adenydd colomen pe cawn.' Hollti blew yw peth fel hyn. 'Rwy'n credu nad yw'r cyfan ond money- mahing affair rhyw lond dwrn o bobl, ac am lawer o'r hen donau bendigedig maen'-hw' wedi tynnu eu hymysgaroedd allan, ac y maent wedi dieithrio nes bron bod yn amhosibl eu hadnabod." Ond rhaid iti gofio, Evan, fod y tonau hyn yn ymddangos yn y llyfr newydd fel yr oeddynt yn y gwreiddiol, ac y mae yn ddyletswydd arnom ni ymarfer â hwy, a gwella caniadaeth y cysegr." A 'wyddoch-chi, Tom Piters," meddai Ianto, yr wyf i yn ystyried bod pob tôn dda a gyfansoddwyd yn ddarganfyddiad. Y mae'n union fel dyfais y ceir patent arni, ond ar ôl ei defnyddio am ysbaid fe welir trwy brofiad fod lIe i wella arni, ac fe ddaw allan eilwaith fel improved patent, ac fe gydnebydd pawb y gwelliant. Felly am y tonau yma. Y gwreiddiol oedd y patent, a'r tonau fel yr oeddynt yn Tuedda pawb i gredu, ar bwys y defnydd a wneir yn Gymraeg o'r gair cywydd," mai ei ganu gyda'r tannau a wneid i ddechrau,-syniad sydd yn agor maes gwych o ymchwil ynglŷn â dylanwad cerddoriaeth ar farddoniaeth. Ond, o ba le bynnag y daeth y mesur cywydd, gan Dafydd ap Gwilym y'i defnyddiwyd ef gyntaf; ef a'i gwnaeth yn brif fesur beirdd Cymru gynt, a'i ysbrydoliaeth ef a roddodd ffurf ar fynegiant barddonol Cymru am dair canrif. Y beirdd crwydrad. Nid yw problem y mesur newydd yn ddim wrth broblem dylanwadau tramor ar fater barddoniaeth Dafydd. Dengys yr Athro Ifor Williams, yn ei ragymadrodd i'w ddetholiad o gywyddau Dafydd ap Gwilym, fel y derbyniodd Cymru, o Brofens (un o daleithiau Ffrainc), ysbryd- iaeth farddonol yn union fel y derbyniodd Ffrainc ysbrydiaeth a bywyd o Gymru trwy chwedlau'r Mabinogion. Ni ddaeth yr ysbrydiaeth hon yn union- gyrchol i Gymru, ond y cyfrwng y daeth trwyddo oedd caniadau'r urddau lleyg a berthynai i'r Eglwys Gatholig. Dosbarth pwysig yn Ewrob yn y Canol Oesoedd oedd yr ysgolheigion crwydrad, y clerici vagantes, fel y gelwid hwy. Crwydrent o wlad i wlad, o brifysgol i brif- ysgol, yn byw'n ddi-ofal, ac am hynny yn derbyn cerydd yr Eglwys. Er hynny, yr oeddent yn rhan o'r Eglwys. Canent, cymerent ran mewn dramâu, ac ysgrifennent farddoniaeth Ladin, ac y yr hen lyfr, sy newydd ei droi o'r neilltu, oedd yr improved patent. A ydych-chi am ddweud wrthyf i mai doethineb yw gadael yr improved patent i fynd yn ôl at y vatent ? Wel, Evan, y mae'n amlwg fod gyda- chi eli at bob clwyf," meddai'r gweinidog. Mi garwn eich atgofio mai pur anfynych y gwelir chi yn cyd-addoli â ni yn y Gorlan." Mi fyddaf yno bob nos Sul," meddai yntau. Ie," ebe'r gweinidog, ac yr wyf wedi sylwi eisoes, pan fyddwch yn dod, y bydd tua hanner dwsin o rai tebyg i chi yn eich dilyn i'r sedd uchaf yng nghornel y galeri, ac fe fydd eich ymddygiad yn waeth na phe baech-chi ar gae'r bêl droed. B'le byddwch-chi bore Sul, Evan? Yn y gwely," meddai Ianto. Wel. os felly, fe ddylai bod cywilydd arnoch. Yr wyf yn methu gweld bod eisiau cywilyddio am ddweud y gwir," atebai Ianto. Fe ddylsai pob aelod fod yn bresennol bore ddoe-Sabbath pen mis, bore Sul Cymundeb." Nos Sul y dylai'r Cymundeb fod," meddai Ianto. mae llenyddiaeth pob gwlad yn Ewrob tan ddyled iddynt. Erbyn y drydedd ganrif ar ddeg ffurfient fath ar urdd o fewn yr Eglwys, ond gwgai'r urddau crefyddol arnynt oher- wydd eu moesau llac, eu hoffter at win, a'u parodrwydd i ddychan yr awdurdodau. Serch a Natur oedd eu prif destunau, cwynent yn brudd fel y dolurid hwy gan gariad, molent fywyd dirwystr a rhydd yr awyr agored, ac yn aml y mae eu cerddi ar y testunau hyn yn brydferth a swynol. Nid anodd, ychwaith, yw tybio bod Dafydd yn hyddysg yng ngwaith y beirdd hyn; yn wir, fe ddywed yr Athro Ifor Williams y temtir ef i gredu bod Dafydd ei hun yn un o'r beirdd crwydrad, a'i fod yn dywedyd y gwir pan ddywed iddo deithio i Rufain a Sain Siam (sef Sant Iago yn yr Ysbaen), canys gwyddom oddi wrth feirdd eraill y cyfnod fod pererindodau i'r mannau hyn yn gyffredin ymhlith pobl Cymru. Bywyd ac ynni. Pa fodd bynnag, diau i farddoniaeth y clerici vagantes effeithio ar Dafydd ac ar y modd y mynegodd ei deimlad ei hun at fywyd. Ac wrth ddywedyd hyn, nid dywedyd yr ydys mai efelychwr di-fywyd oedd Dafydd, canys po fwyaf a astudir ar farddoniaeth fawr sicraf oll yw fod ym mhob oes ryw ddigwyddiad a dreiddiodd i galon y bardd, a'i gynhyrfu i ganu yn y modd y gwnaeth. Daeth ton o ddylanwad drosto, effeithiodd arno; ond, wedi'r cwbl, y mae cynnyrch y bardd Cymreig yn cynnwys bywyd ac ynni nas ceir yng ngwaith ei gydfeirdd LIadin. Na," meddai'r gweinidog, "y mae cymuno yn y bore yn fendigedig, pan fo'r awyrgylch yn ddymunol. Bore ddoe, yn y Gorlan, yr oedd yr haul yn disgleirio arnom drwy'r ffenestri, a'r adar bach yn canu ar y llwyni o gwmpas y capel; a phopeth yn ein hatgofio yn fwy byw nac erioed fod Duw yn llond pob lle, presennol ym mhob man." Quite 80; a phob amser yn yr hwyr, yn ogystal ag yn y bore," meddai Ianto. Bellach yr oedd yn amlwg ei fod yn blino ar yr ymddiddan. Troes unwaith eto i gael golwg ar y ceiliogod; ac yn ôl drachefn wyneb yn wyneb â'r gweinidog: Wel, Mr. Jones," meddai, er mwyn inni gael deall ein gilydd, mi garwn ofyn un cwestiwn i chi." Y mae i chi groeso," ebr y gweinidog. A oes yna ryw ordors yn y Beibl yn dweud, hyd sicrwydd, mai yn y bore v dylai'r Cymundeb fod? Wel, tybed a oes gyda chi rywbeth i brofi na ddylai fod? meddai'r gweinidog. Oes, yn bendant," meddai yntau. Fe sonnir yn yr Ysgrythurau am y sacrament fel swper, ac nid brecwast." Erbyn hyn yr oedd y bẃs wedi cyrraedd sgwâr y pentref (dipyn ar ôl ei amser). Bore da, Evan," meddai'r ddau gyda'i gilydd, gan ddringo grisiau culion y bẃs, ac ymaith â hwy.