Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFROL II. RHIF 4. Y FORD GRON GwASG Y DYWYSOGAETH, WRECSAM. London Manager: Mr. E. Greenwood, 231-2 Strand. Parlys. YMAE parlys marw yn prysur- ddisgyn ar fasnach y byd, ac ymddiriedaeth y naill wlad yn y llall yn mynd yn llai ac yn llai. Eisoes y mae'n amhosibl talu o rai gwledydd i wledydd eraill, ac oni wneir rhywbeth yn fuan i newid polisi pob gwlad nid oes o'n blaen ond methiant a chwymp. Yr Achos. ydym mewn anawsterau na bu erioed eu tebyg. Beth a'u hachosodd? Diffyg gweld ymhell a diffyg deall ar ran gwladweinwyr mewn llywodraeth ar ôl llywodraeth. Wrth weld cynifer o gen- hedloedd yn methu talu eu dyledion fe droes y gwladweinwyr bron bob un at yr hyn y tybient ei fod yn feddyginiaeth tollau nchel ar nwyddau o wledydd eraill gan dybio mai ar brynu gormod o nwyddau o wledydd eraill yr oedd y bai. Ond wrth reswm, wrth brynu llai o wledydd eraill fe brynodd gwledydd eraill lai oddi arnynt hwythau, gyda'r canlyniad fod gwledydd a arferai werthu i wledydd *raill er mwyn talu am yr hyn a brynent oddi arnynt yn methu fforddio gwneud hynny. Cyhyd â bod cenhedloedd yn gallu ben- thyca'n hawdd, a thalu dyledion heddiw trwy chwyddo dyledion yfory, 'doedd dim perygl i'r cancr ddod i'r golwg. Ond cyn gynted ag y methwyd benthyca, 'doedd dim «ndani ond cwymp. Gwlad a gwlad. k A NALLU Awstria i werthu digon o'i chynnyrch i dalu ei dyledion ac i brynu gan wledydd eraill oedd wrth wraidd helyntion y Banc Anstalt y gwanwyn diwethaf. Yna hynny'n effeithio ar yr Almaen; banciau America yn tynnu'n ôl eu credit o wledydd eraill, ac o'r Almaen yn arbennig; pryder Llundain a New York; tynnu arian Ffrainc ac America o Lundain ac arian gwledydd eraill o America; Prydain yn ymwadu â'r safon aur, a Ffrainc, America ac eraill felly'n methu tynnu eu holl arian o Lundain; cwymp y bunt yn peri eolledion trymion i fanciau Ffrainc ac America; pobl yn Ffrainc ac America yn tynnu eu harian o'r banciau ac yn eu cadw yn y tŷ. Dyna'r camre, yn fras. Y Perygl. r oedd yn amhosibl i bethau fel hyn ddigwydd heb ganlyniadau gwleid- yddol o bwys mawr. Gwelsom Brydain yn gysgod tollau i wahardd nwyddau neill- tuol o'r Cyfandir, ac yn sôn am greu mesurau fydd yn sicr o rwystro dyfod â chynnyrch America i Brydain. Fel hyn y deuir â rhagor fyth o bryder a chyfyngder dros y Cyfandir ac America i gyd. Gweithredoedd fel hyn sy'n dyfod â'r parlys yn agos. Os daw, ac os daw'n gyffredin, fe fydd pobl ardaloedd gweith- faol pob gwlad, a phobl gwledydd gweithfaol yn arbennig, wyneb yn wyneb â pherygl newyn. Rhaid, felly i'r holl lywodraethau gyda'i gilydd ffurfio rhyw gynllun i roddi echwyn a chreu ymddiriedaeth. Dyledion. OND meddyginiaeth dros dro fydd hynny. Rhaid chwilio am ryw feddyginiaeth a saif. Yr oedd y Gynhadledd ar Ddyledion Rhyfel i fod i gyfarfod ar y 25 o lonawr. Disgwylid y buasai honno'n ystyried y parlys, a'r dinistr a'i dilynai, ac y byddai'n gyfle i ddysgu'r gwledydd a helpu'r byd i roddi pethau yn eu lle, ac arloesi'r ffordd ar gyfer Cynhadledd Fyd. Oherwydd heb gyd-waith -rhwng y cenhedloedd ni cheir dim. Ond fe ohiriwyd y gynhadledd hyd yr hvdrèt Gresyn. Ond nid oes ond gobeithio y'bydd yr etholiadau yn Ffrainc a'r Almaen yn y gwanwyn ac yn America yn Nhachwedd yn help i greu mwy o gytundeb. Rhaid newid polisi. T TN peth sy'n sicr. Y mae polisi'r byd v ar hyn o bryd yn arwain i ddinistr. Rhaid dileu Iawniau rhyfel neu eu lleihau nes y bydd yn bosibl eu talu heb gyfyngder; rhaid dileu dyledion rhwng yr Allies' gynt, a lleihau tollau rhwng gwlad a gwlad nes bod Hi masnach yn gallu rhedeg yn esmwyth. Phaid cychwyn cyd-weithio rhwng yr holl wledydd i adfer llawnder cyffredinol. 'Ddàw dim lles o dorri i lawr dreuliau, llesteirio prynu o wledydd eraill, a symud pres o un farchnad arian i'r llall neu o un banc i'r lla.ll. Gwneud pethau'n waeth y mae hynny. Gwahanu cenedl oddi wrth genedl ydyw cffaith polisi'r gwledydd ar hyn o bryd, ac y mae wedi arwain pob cenedl i ing heb ei fath. Rhaid wynebu'r ffordd arall, a thrwy weithio gyda'n gilydd gael polisi fydd yn ceisio hyrwyddo lles holl deulu'r cen- hedloedd; polisi fydd, trwy adfer llawnder i'r holl fyd, yn dwyn llawnder i bob gwlad. Y Dosbarthiadau. FE ddarllenir erthygl Mrs. Silyn Roberts ar fudiad addysg y rhai mewn oed, yn y FoRD GRON hon, gyda diddor- deb mawr, fel y darllenwyd beirniadaeth Mr. Percy Ogwen Jones arno dro'n ôl. Deliai Mr. Jones â'r dosbarthiadau eu hunain, ond ag agwedd awdurdodau lleol atynt y delia Mrs. Silyn Roberts. Fe garai y FoRD Gron weled gwario llawer mwy ar addysg rhai mewn oed, ond y gwaethaf yw bod y gwaith yma fel llawer gwaith rhagorol arall yn gorfod dioddef oherwydd beichio'r wlad yn drwm i dalu am ynfydrwydd 1914-18. Ni ddylai brawdgarwch caredig ac annwyl gael sefyll ar ffordd trefnu dos- barthiadau a phynciau i fod o'r gwerth addysgol mwyaf. Nid darpar adloniant yw gwir amcan dosbarth. Credwn fod i'r Brif- ysgol a'r W.E.A. amcan llawer eangach na dysgu gwirioneddau diwinyddiaeth. Dartmoor. FE fethodd carcharorion Dartmoor ddianc, ond fe lwyddasant i'w dwyn hwy eu hunain yn fyw a chofiadwy ger bron llygad y wlad. Pan fyddwn-ni yn y dref ar nos Sadwrn, neu'n canu'n gysurus i'r Arglwydd ar nos Sul, anodd iawn ydyw cofio bod erchylltra anwar fel Dartmoor yn ein gwlad; bod torf (j bechaduriaid wedi eu taflu at ei gilydd mewn hen gastell oer o Ie ym mherfeddion gwlad niwlog, unig Dartmoor. Byddwn yn synnu heddiw fod dynion gan mlynedd yn ôl yn cael eu crogi neu eu traneportio am ladrata dafad. Gan mlynedd i heddiw fe fydd plant ein plant yn rhyfeddu at ein barbareiddiwch ninnau, gan ddangos bys gresynus tua Dartmoor. Ond hyd yn hyn nid ydyw Iesu wedi cario'r dydd, ac ni chaiff carcharorion fynd yn rhydd.