Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Barn darllenwyr Y Ford Gron "CRAC" YNG NGHYN- LLUN NOFEL TEGLA. At Olygydd Y FORD Gron. GEILW y Parch. Tegla Davies arnaf i amddiffyn fy haeriad ynglyn â'i nofel, Gŵr Pen y Bryn," sef mai'r unig wers y gellir dyfod o hyd iddi yn y nofel ydyw yr un a gyflwynir yn y Gorchymyn Ychwanegol hwnnw, Paid a chael dy ddal.' Mewn nofel o'r natur yma disgwylir i'r digwyddiadau a groniclir effeithio ar enaid a bywyd yr arwr, dylai pob newid a digwydd yn y cymeriad godi yn naturiol o'r nerthoedd sydd ar waith. Datblygiad graddol yn y cymeriad a ddylid ei gael. Ond nid gwir hyn am ŵr Pen y Bryn. Er ei fod ar y cyntaf yn bechadur,' hunan- geisiol a rhagrithiol, a'i fod ar y diwedd yn '.sant,' nid twf graddol a geir, ond yn hytrach newid sydyn a di-ddisgwyl, a hynny ym mhenodau olaf y llyfr. Nid effaith digwyddiadau allanol ydyw hyn yn gymaint â gwaith yr awdur yn cymryd ei dwyllo gan greadigaeth ei ddychymyg ei hun. Nid oes newid o gwbl yng nghymeriad John Williams hyd bedwaredd adran y llyfr. Y pryd hynny teimla Mr. Davies mai gwell peidio â gadael ei arwr yn y fath gyflwr, ac felly cais argyhoeddi'r darllenydd, trwy bregethu ac nid trwy sianelau priodol nofelydd, fod troedigaeth wedi dyfod i'r pechadur. Dywed yr Athro Ifor Williams yn ei Ragair i'r nofel mai'r gamp y cyrchir ati yw disgrifio deffroad graddol enaid gẃr cyffredin trwy bethau cyffredin." Pe llwyddasai'r awdur i wneuthur hyn, yn sicr buasai wedi cynyrchu gwaith ardderchog. o bosibl, y nofel orau yn yr iaith. Fel y mae pethau, amlwg yw fod crac yn y cyn- llun, a Gwr Pen y Bryn yn dioddef oherwvdd hynny. G. O. WILLIAMS. Coleg Icsu, Rhydychcn. Beth am Wythnos Lyfrau ? At Olygydd Y FoRD Gros. CARWN gael cornel o'r Ford GRON i ddadlu dros gynnal Wythnos Lyfrau Cymraeg yn ystod wythnos Gŵyl Ddewi. Yn Sbaen a'r Eidal, ers blynyddoedd bellach, cynhelir wythnos fel hyn, ac y mae wedi bod yn llwyddiannus dros ben. Prynir miloedd ar filoedd o lyfrau y ddwy wlad. Oni ellir trefnu rhywbeth fel hyn yng Ngliymru? Yn 1930 fe sefydlwyd arddangosfa flyn- ydrîol 0 lyfrau Cymru yng Nghaerdydd. Cafwyd wythnos gyffelyb y flwyddyn ddi- wethaf yn Abertawe. Ond nid cael arddangosfa ym mhob tref yng Nghymru yw fy amcan, ond cael wythnos o brynu llyfrau Cymraeg yn gyffredinol trwy Gymru, o Gaergybi i Gaerdydd. Ni fydd angen na phwyllgor na chym- deithas i gychwyn mudiad fel hyn. Pe byddai pob darllenydd o'r FoRD GRON yn penderfyuu prynu un llyfr Cymraeg, yn ystod wythnos Gŵyl Ddewi 1932, fe fyddai'r mudiad wedi ei gychwyn. A fuasai'n bosibl hefyd, fel y gwneir yn Ysbaen. i'r papurau Cymraeg wneud rhestr o lỳfrau cymwys i blant ac i bobl mewn oed o dan wahanol destunau? Dylid gwerthu tua 10,000 0 lyfrau yn ystod wythnos Gwyl Ddewi 1932. Fe fyddai hyn yn fantais amhrisiadwy i'r iaith ac i ddiwylliant Cymru, heb sôn am y calondid a ddygai i'n hawduron. GWILYM DAVIES. Caerdydd. Darlithiau truenus. .4t Oìygijdd Y FORD GRO«. TJARLLENAIS gyda diddordeb erthygl Mr. Percy Ogwen Jones ar beryglon y dosbarthiadau." Y gwir yw bod aml i ddarlith a roir yn y dosbarthiadau'n druenus, heb gysylltiad o gwbl â'r pwnc dan sylw. Clywais am tua tair darlith yn cael eu rhoi ar Robert Owen mewn class economeg! Ie, a darlith ar Denmark! Clywais innau hefyd rai dar- lithoedd hollol fyfyriol-heb odid ddim gwerth ysgolheigaidd ynddynt. Credaf y gall y feirniadaeth, gan ei bod mewn pryd. fod o les. Mae eisiau mwy o feirniadu hollol agored-peth sy braidd yn ddieithr yng Nghymru. Rhaid gochel an- ffaeledigrwydd mewn mudiadau da. AELOD. Sir Gaernarfon. Coesau'r Cymry. At Olygydd Y FORD Gron. WRTH weled ysgrif Mr. Frank Harris ar Mr. Lloyd George, meddyliais y buaswn yn cael rhyw oleuni newydd ar y gẁr enwog hwnnw. Ond pan ddeuthum at y frawddeg ganlynol, cododd chwilfrydedd. Dywed Mr. Harris: Y mae'n anodd gennyf ei drin gyda cliydyindeimlad oherwydd, er bod ein hamcanion gwleidyddol yn fynych yn debyg. y mae ein dull o ymgyrraedd tuag atynt yn hollol anhebyg. Rhwng brodyr yn ami y mae'r anghytuno chwerwaf." Ceisiwn ddyfalu beth allai ei syniadau gwleidyddol fod, pa un ai Ceidwadol ai Llafur ai ynte Cydfeddiannol (Com- munistic). Dywed hefyd fod gan Mr. Lloyd George "gorff byr a choesau anos- geiddig y Cymry." Mae Geiriadur Spurrell yn cyfieithu'r gair anosgeiddig yn "deformed, mis-shapen." Mae'n rhaid fod rhagfarn awdur yr ysgrif hon wedi effeithio ar ei olwg, a hynny wedi peri iddo gael golwg chwithig ar y Cymry. Nid oes deformity ymhlith y Cymry yn fwy na chenhedloedd eraill, ond pan fo pobl wedi cael anaf yn y lofa neu'r chwarel, a heb gael y driniaeth a ddylasent ei chael. M. F. Nodiad Y GOLYGYDD.-Credwn mai ungraceful neu unshapely a olygid wrth anosgeiddig," yn hytrach na deformed. Y rhai anwadal. At Olygydd Y FORD GROn. CWYNAI, arweinwyr Cymru, yn fuan wedi'r rhyfel, oherwydd anwadalwch y bobl ifanc. Erbyn heddiw arwéinwyr crefyddol a pholiticaidd sydd fwyaf ansef- ydlog eu meddyliau. Newid un ei gyffes ffydd a'r llall ei blaid. Am hynny, teg yw cyhoeddi ein barn arnynt Y TURN-eOAT." 1. Crefyddol. Hyd heddiw yn Fedyddiwr—o fwriad Yfory'n Eglwyswr, Bu hwn, do'n Annibynnwr- Cait i'r gwynt-turn-coat yw'r gwr. 2. Gwleidyddol. I'w gyd oed yn Geidwadwr-y bryd aeth, A brwd yw'n Rhyddfrydwr, Hen libyn yn troi'n Labwr, Sylwch-gall fod salach gwr T. J. EVANS. Eglwyswen, Penfro. PERSONALITY Its Nature, Its Operation, and Its Tìeüelopment 5/- net By J. Louis Orton Postage 4d. IN this outstanding book the Author explains, with ruthless logic but amazing simplicity, exactly what Personality is and how it achieves its ends. He makes startlingly clear how one can develop in oneself and one's children a Personality at once strong and magnetic. He shows the means whereby characters and motives can be correctly gauged. He tells you how to have at your command an impelling voice and an ingratiating manner. He reveals the secrets of character-moulding. Fit Yourself to participate in the prosperity which is surely coming. Personality is the World's Greatest Asset. It is not always a natural gift; it can be cultivated, even in the most backward and reserved person, and once achieved, it rapidly changes one's aspect on life. To possess a Strong, Dominant and Magnetic Personality will mean much to you in the Battle of Life. Extract from the Preface There are some persons who imagine that my work as a practical psychologist consists, almost entirely, in impressing, or attempting to impress, my own personality upon others. On the contrary, it is to reveal, as fár as lies in my power, to others certain or their potential but latent powers, and to develop those powers for the furtherance of laudable aims and ambitions. I do not desire to make copyists. Whoever you may be, you will be the better for perusing this remarkable new book. Send for a copy NOW. This book can be obtained through any boolcseller, or direct from THORSONS. 'Publishers, DEPT. 46, 91, ST. MARTIN'S LANE, LONDON, W.C.2 Full lists gladly sent free on reguest.