Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dahwn ati i gynllunio. GORSAF Radio 1 Gymru Gan W. EAMES IECHYD i galon, a nerth i benelin pawb a ymdrechodd ac sy'n ymdrechu i gael cyfiawnder i Gymru ym myd y radio. Onid yw hi'n hollol eglur bellach nad oes gan reolwyr y B.B.C. ddim dirnadaeth eto am yr hyn a ddisgwylir gennym ? Ni all y Sais ddim dychmygu am neb yn dewis gwrando neu ddarllen Ffrangeg neu Sbaeneg neu Gymraeg os bydd Saesneg ar gael. Y mae'r peth yn amhosibl yn ei olwg. Ni wrendy ar dystiolaeth ei lygad na'i glust. Y mae'n debyg i'r gŵr hwnnw a glywodd am gamel ac a anghredodd, ac a aeth i weled un, a syllu arno, ac eto'n dal i ddweud, There aint no such animal." Methu deall. Nid cydymdeimlad nac ewyllysgarwch rheolwyr y radio sydd ar fai, ond eu hanallu i amgyffred bod yn well gan gorff cenedl y Cymry Gymraeg na Saesneg. Cwyn leol "-tebyg i gwyn o'r North Regional neu unrhyw ranbarth arall yn Lloegr-fu cwyn Cymru hyd yn hyn yng ngolwg penaethiaid y B.B.C. Fe atebwyd y gwyn yn yr un modd ag y ceisiwyd bodloni cwynion lleol eraill, sef trwy roddi briwsion- yn "arbennig yma ac acw" yn y program Seisnig o Daventry, megis ambell wasan- aeth crefyddol (ar awr pryd y bydd mwyaf- rif pobl Cymru yn eu haddoldai eu hunain) neu ddeng munud yn yr Eisteddfod Genedl- aethol, ac, fel ffafr fawr iawn, sgwrs fel c cldo'r Athro Ifor Williams ar enwau lleoedd, yn Gymraeg. Benthyg scorau. Ni ddaeth i feddwl y rheolwyr eto. y gallai fod tua miliwn o bobl y buasai'n well bethau ganddynt gael program llawn bob nos o bethau tebyg i'r ffafrau eithriadol hyn, a rhoi ambell sgwrs neu berfformiad o Loegr i mewn fel eithriadau i'r rheol. Pa fodd y gwthiwn-ni'r ffaith i'w pen- glogau? Ac os yw hynny y tu hwnt i allu Gorsaf Radio genedlaethol Switzerland yn Beromunster. dyn, pa fodd y cawn ni wasanaeth radio fydd yn ateb gofynion Cymru: newyddion y dydd, a'r tywydd-yn Gymraeg; prisiau'r farchnad yn Gymraeg; gwersi mewn gwyddoniaeth a hanes ac iaith i blant yr ysgol-yn Gymraeg; clywed bandiau Nantlle a'r Rhondda a chorau Ystalyfera ac Eryri; clywed actio ambell ddrama Gymraeg a chlustfeinio ar eisteddfod leol neu gymanfa ganu; gwrando gwyr medrus yn trin pynciau byd-yn Gymraeg? Meddylier am y siarad sydd wedi bod ar y radio yn ddiweddar ar roddi'r byd vn ei le yn wleidyddol ac ariannol, a chymaint a gollwyd yng Nghymru o wybodaeth anhepgor am y pethau hyn oherwydd dieithrwch yr iaith a'r termau. Cymerer sgwrs wythnosol M. Vernon Bartlett ar helyntion tramor. Mae'n hysbys fod hon wedi goleuo cymaint ar feddyliau pobl â dim dau bapur newydd, ac fe fuasai gorsaf radio Gymreig yn gofalu ei bod yn cael ei chyfieithu a'i thraddodi yn Gymraeg. A sicr yw y buasai cyfartaledd y gwrandaw- iad a'r gwerthfawrogiad yn uwch yng Nghymru nag a ddigwydd yn Lloegr. Y program Seisnig. Ni buasai gorsaf Gymreig yn anwybyddi nac yn esgeuluso'r program Seisnig, wrth gwrs. Mae yn hwnnw bethau sydd nid yn unig yn fuddiol ond yn anhepgor i gynnydd gwybodaeth a datblygiad chwaeth. Anaml y try neb ei set radio at raglenni'r Cyfan- dir a chael cystal dewis a glanach perfformio nag a geir yn y rhaglenni Seisnig, yn en- wedig mewn miwsig cerddorfa. Mae hiwmor iachus i'w gael ar dro yn y Vaudeville (er ei fod ar achlysur yn debycach i fwyd-i-ful), ac y mae gwrando ar ambell ddrama, fel Julius Caesar y mis diwethaf, yn amheuthun. Buasai rhaglen Gymreig gytbwys yn rhoddi pob cyfle i fwynhau pethau gorau'r awyr o ba gwrr bynnag. Buasai, ond rhaglen Gymreig o orsaf Gymreig fydd rhaid iddi fod. Pa fodd y ceir gorsaf felly ? Meddwl o newydd. Mae eisiau meddwl am y peth o'r newydd, fel pe na buasai'r B.B.C. mewn bod. Nid oes eisiau sôn am fyned yn groes i'r gyfraith. Ar hyn o bryd, gan y Llythyrdy yn unig, yn gweithredu dwy'r B.B.C., y mae'r hawl i godi gorsaf. O'r gorau. Rhaid archwilio gwrthwynebiad y B.B.C. i godi gorsaf yng Nghymru a wasanaethai'r Gogledd yn ogystal a'r De. Mae yma sialens i bob trydanydd a gwyddonydd gwladgar o Gymro i godi arf dvsg yn erbyn dylni, ac i wneud cystal gwasanaeth i'w genedl ag a wnaeth Trahaiarn a Rhys ap Tewdwr yn eu dydd. Mae gan Ysgotland dair gorsaf. Mae gan wledydd llai na Chymru eu gorsafoedd. Pe bai Cymru'n wlad annibynnol, mae'n ddiau y buasai ganddi dair gorsaf. Gorsaf Gymreig yn Iwerddon? Ond caniataer fod daeareg, ynghyda deddf gwlad, yn gwahardd rhoddi inni ein deisyfiad, sef gorsaf radio drwyadl Gymreig ar Bumlumon, dyweder, neu'r Berwyn beth sy'n rhwystro inni fyned ar ofyn ein cefndryd yn Iwerddon? Fe ellir clywed gorsaf Dulyn yn bur glir ar bron bob set radio yng Ngwynedd a Phowys. Efallai, pe clywai pobl y B.B.C. forî y Cymry'n holi am ddarn o dir yn rhywle rhwng Dulyn a Chorc i sefydlu gorsaf Gym- reig, y buasent yn sylweddoli bod rhywbeth amgen na chwyn leol gennym. Ar hyn o bryd y mae'n ffaith nad ydynt yn ddim nes i ddeall a chaniatáu ein deisyfiad am raglen Gymreig na phe na bai neb wedi sôn gair am y peth wrthynt erioed.