Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR lAR A'I HWY: Darn i'w Adròdd. Gyda nodiadau ymyl dalen gan yr adroddwr Cymreig enwog, RHODRESFAB. DAW'R adroddwr ymlaen ar y llwyfan yn bwyllog, gydag urddas yn ei gerddediad, a rhaglen y cyfarfod, wedi ei rholio, yn ei law ddehau. Bydded iddo sefyll o fewn dwylath i ymyl y llwyfan, gan edrych yn gwbl hunan-feddiannol, heb fod yn herfeiddiol; ei ddwylo o'r tu ôl i'w gefn. Tra bydd yr arweinydd yn galw am osteg, cyflwyno'r adroddwr a chyhoeddi'r adroddiad, edrych yr adroddwr yn gwrtais ar ei draed ac ar y seilin bob yn ail. Nid yw ar un cyfrif i daflu ei olwg ar y gynull- eidfa. Ar öl i gymeradwyaeth y cyflwyno ddistewi, daw gosteg drachefn, ond i'r ar- weinydd godi ei law a galw Sh Gan newid ystum y corff, symud y dwylo o'r tu ôl, a'u plethu am rôl y rhaglen o'r tu blaen, a chydag edrychiad pell-freuddwydiol yn y Uygaid DECHREUER, gyda gwên nefolaidd ac aeliau dyrchafedig. Symuder y fraich ddehau yn araf—wedi ei hanner- ymestyn i ddechrau, ac yna yn ôl ac ymlaen fel y bo angen. Yn bêr- Un bore braf, un dydd o haf, nwyfus A gobaith yn llenwi'r wawr, Ar bererindod i waelod cae Aeth iar, ac eisteddodd i lawr. mf., gan 'Fan hyn,' ebe hi, a'i chalon yn mynd, bwyntio tuag 'Fan hyn,' meddai wrthi ei hun, i tcaered 'Lle na ddaw chwilotwr na lleidr ar dro Dodwyaf un wy, dim ond un." PAWB AT EI HOBI [Can R. H. Jones, Lerpwl.] M AE'N rhyfedd fel y mae pobl yn cymryd at bethau mor wahanol i'w gilydd. Dyna i chwi f'ewyrth, er enghraifft. Dyn bychan bach â chryn giwb ar ei gefn oedd f'ewyrth, ond ni fynnai am bris yn y byd gydnabod mai un bychan ydoedd. Clywais amdano'n cyfeirio at grwbi bach tebyg iddo ef ei hun, a dyma'i eiriau: Ie, ie; dyn canol-seis 'run fath a fi ydi o. Pethau mawr f 'ewyrth oedd plu a bachau pysgota. Un diwrnod tynnodd ei "lyfr sgota" allan o boced ei frest, dadfyclu'r strap, a dechrau troi'r dalennau drosodd mor dringar a gofalus ag y gwelsom ambell un yn cyfrif ei bapurau pumpunt. Wrth gwrs, nid dalennau papur ond dalennau gwlanen oedd y rhain, a'r plu wedi eu bachu'n frith ar hyd-ddynt. Dywed- odd lawer o bethau pwysig am y plu a'r bachau, ond ychydig a ddeallwn i. Mae 'ma werth arian mawr yn y plu 'ma, 'wel di, Rhobet. Dyma iti fach ffasiwn newydd. Weles i 'rioed un 'run fath ă fo. Ond i ti sylwi, mae 'ma dri o fachau ar yr un bonyn, ac ar ddŵr llwyd mae o'n goblyn am ddal. 'Rwyt ti'n nabod y bluen yma. Nac wyt? Wel, dyn â'th helpo di. March Brown ydi hon. Mi Yn felys ber Ac yno bu'n eistedd yn hir, Rhwng twmpath o eithin a brwyn, Yn esmwyth Yn gwrando ar sibrwd ffrydlif y ddôl a hyfryd A thrydar man adar y llwyn. ff. Hi glywai o bell gymhelri y ffarm— Twrf gwyddau a chŵn anghytûn piu mosso. Leusa'r forwyn yn ifraeo'r gwas bach, A chryglais y meistr ei hnn. Yn addolgar 'Rwy'n diolch am orig fel hon Ymhell o drybestod y byd; Yn fclysbcr O fel mae llawenydd yn tonni'n fy mron,- Dof yma i ddodwy o hyd. cryner y llais Wrth gofio yr wyau ddodwyddais i Yng ngodre'r das wair a'r das ŷd, A'r gofid o'u colli bob un, Ffyrnigo Ha mae'n syn imi ddiodde' cyhyd.' Agitato Ond draw yn y pellter 'roedd dau crescendo Lygad mileinig yn fflam, 0 gysgod y beudy 'roedd rhywun a'i drem Ar eisteddle'r iar fach ddi-nam. Aradego Ond hithau, druanes, ni wyddai ddim crescendo. Am y brad oedd yn llenwi bron Wil y gwas bach, gyda'i ddau lygad croes Wrth wylio'r ddodwyddes hon. Allcgro Yn sydyn hi gododd yn syth, Gan adael yn dwt yn y brwyn Un wy—у perffeithiaf a welwyd erioed. clodforus 'Fy Nghampwaith,' ebe'r iar fach fwyn. nwyfus 0 rhag fy hapused,-dychwelaf yn awr,' Ebe'r iar, ac agorodd ei phig, gyda A chlwciodd nes neidiodd pry' genwair mynegiant o'r pridd Gan edrych o'i gwmpas yn ddig. 'ddylies i fod pawb yn gwybod am March Brown. Ble cest ti dy fagu, dywed? Ac aeth f'ewyrth yn ei flaen i droi'r gwrthbannau bychain, bachog drosodd gan fwmian rhywbeth wrtho'i hun, nes cyrraedd y wlanen olaf oll. pryd y trodd i graffu arnaf, ac meddai: Weli di'r rheina, machgen i? Y fi wnaeth y rheina bob un. Dyna iti ddwsin o'r Coch-v-Bonddu. v bluen orau dan haul." Gosododd y llyfr sgota yn ei ôl ym mhoced frest ei wasgod, a chan ymsythu (gymaint ag a allai ef) dywedodd yn araf: Felly, 'rwyt ti'n gweld, Rhobet, 'mod i'n werth cryn lawer, rhwng popeth." Ac yntau, druan, ar fin bod ar y plwyf. FLYNYDDOEDD yn ôl, ym Manc yr hen North and South yn Lerpwl, adwaenwn ddyn oedd wedi meddwi'n chwil ar brynu llyfrau. Pob diwrnod olaf o'r mis­diwrnod y tâl -âi'n syth i siop Young yn South Castle- street, i brynu llyfrau, ac ymhen tuag awr ar ôl hynny fe ellid ei weled yn dringo llech- weddau Everton gyda bwndel 0 lyfrau agos gymaint ag ef ei hun. Ac un diwrnod tâl fe brynodd gynifer nes gorfod iddo logi cab wrth ddrws siop Young i 'w cario adref. Agitato Ond Ow! clywodd Leusa o'r tŷ Y wich-lef ym mhellder y cae, llawn ff. A gwaeddodd yn wyllt, Ohoi 1 Wil bach 1 Mae iar wedi dodwy, pie mae?' Alìegro Heb wrando ychwaneg aeth Wil fel gwynt I chwilio yr eithin a'r brwyn; rullentando Cyrhaeddodd y fan lle gwelsai yr iar, A gwelodd yr wy dan ei drwyn. topilaiso A-ha! dyma fo gwaeddai Wil, A rhedodd ar wib at y tŷ— anadler yn Ei wynt yn ei ddwrn a'r wy yn ei law, gyflym A Leusa yn gweiddi, Be sy? gorfoleddus Leusa,' eb efô, atolwg, yr WY A gefais mewn dieithr Ie.' Yn urddasol 'Da was da a ffyddlawn, dos i mewn i'r ty, Mae yr wy i ti amser te.' Yn ddwfn- Aeth yr haul i lawr yn araf, deimladwy Yn araf yr aeth i lawr Gan lusgo'r dydd fel men gydag ef I eigion y twllwch mawr. Yn ddifrif- Y nos Y nos 0, mor ddu ydyw'r nos I ddwys Mae gobaith yn marw draw. Ond Och cyn clwydo o'r iar yn ei chwt Melancolisimo Gwelodd blisgyn ei hwy yn y baw. deigryn yn y Alas 0 fy wy ebe'r iar, llais Gan edrych i'r nefoedd yn syn, A'r dagrau fel marblis yn powlio i lawr A chronni o'i chwmpas yn llyn. gyda Ciliodd yn bendrist i fagddu'r cwt ieir mynegiant A'i chalon ar dorri yn ddwy, Ac yno hi siglai fel meddwyn drwy'r nos yn ochcneidiol Dan ochain, Fy wy, 0 1 fy wy 1 SBARDYN. Cwsg yn dawel, yr hen lyfrbryf hoff, J. G. P. Yr unig gopi o ganeuon Words- worth y sydd ar fy helw, anrheg oddi wrthyt ti ydoedd. Y MAE'N ofynnol i mi fod yn wyliadwrus pa beth a ddywedaf yn awr. Gwn ers llawer blwyddyn bellach mai un o bleserau pennaf fy mhriod yw cael rhyw- beth newydd i'r tŷ—rhyw ddodrefnyn neu addurn, boed fach neu fawr. Dywedais wrthi ryw ddiwrnod yn nechrau Medi y bwriadwn fyned i Lerpwl drannoeth yn un swydd i brynu dodrefnyn bach yn anrheg iddi, ac y deuwn ag ef adref gyda mi. Gloywodd ei gwedd. Ond siom oedd ar ei gruddiau drannoeth pan welodd fì'n dychwelyd heb ddim yn fy llaw ond rhy^ bapur newydd. Ceisiais fy meddiannu fy hun. Gosodais y misolyn oedd yn fy llaw ar y bwrdd, ac agorais ef yn hamddenol o'i blaen, gan ddweud: Be 'dech chi'n feddwl ohoni hi? Be ydw i'n feddwl o be? ebe hithau. Wel o'r Ford Gron, debyg iawn." Gwenodd, chwarddodd, a gwelais innan ei bod wedi maddau imi fy mawr ddireidi Ac eto ofnaf o'm calon mai diwedd y stori fydd gorfod prynu hen ford gron yn anrheg iddi.