Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O AM FFYDD S.R.! GAN J. D. POWELL King's School, Pontefract, Yorhshire. HEDDWCH A RHYFEL: Ysgrifau Samuel Roberts; Hughes a'i Fab. Llyfrau'r Ford Gron, Rhif 7. Tud. 48 x v. Pris 6c. TYYMA lyfr y dylesid fod wedi ei gyhoeddi lawer iawn o amser yn ôl bellach gobeithiaf y gwerthir ef a'i ddarllen ym mhob cornel o Gymru. Yn y dyddiau hyn try meddwl pawb at Genefa a dyrys fater diarfogi a ddadleuir yno. Dywedaf yn bendant na bu neb yng Nghymru nac yn unrhyw wlad arall a siaradodd yn fwy croyw a mwy huawdl ar faterion heddwch a rhyfel na Samuel Roberts, Llanbrynmair. Darllener i ddechrau yr amlinelliad a rydd S.R. o'i gredo ar fater heddwch a rhyfcl a chymharer hwn â chyfansoddiad Cynghrair y Cenhedloedd. Ni roddwyd y peth yn gliriach erioed, heb fefl ar dafod yr ysgrifennydd, a heb un gair ynddo am Security o'i ddechrau i'w ddiwedd. Cyfeillion Clebran." Bu S.R. yn aelod ffyddlon o Gymdeithas Heddwch trwy ei fywyd (trowch i dudalen 14 yn y llyfr) a gweithiodd yn egnïol dros ei delfrydau ar y llwyfan a thrwy'r wasg. Darllener, er enghraifft, yr amlinelliad a rydd o amcanion y Gymdeithas a gweler sut y proffwyda ddyfodiad Cynghrair y Cen- hedloedd. Cyflafareddiad, diarfogi, gwerthu caethion, y fasnach opiwm, rhyddfasnach drwy'r gwledydd,-y maent oll yma, gan mlynedd, ymron, cyn sefydlu'r Cynghrair. Bu S.R. wrthi'n daer yn amddiffyn y Gym- deithas, drwy ei oes. Yr un oedd gelynion heddwch y pryd hwnnw â heddiw. Efallai fod eu rhif yn fwy, ond ni ellir bod yn sicr. hyd yn oed am hynny, oherwydd cyfeillion clebran yw llawer iawn o gyfeillion y Cyng- hrair. Ymosodwyd ar Gymdeithas Heddwch ar lawer cyfrif. Galwodd yr Arglwydd Palmerston aelodau'r Gymdeithas yn set of well-mtentioned fanatics much too good to be entrusted with political functions in this wicked and sinful world." Ysgubo'r dynion bach. Ond darllener ateb S.R. i elynion y Gym- deithas (tudalen 20 yn y llyfr) a gweler sut y gall un dyn, wedi ei danio drwyddo gan y gwirionedd, ysgubo o'i ffordd holl bigau aneffeithiol y dynion bach. Y mae'n iechyd ddarllen siarad plaen fel hwn. Dyry; S.R. mewn gwahanol rifynnau o'r Cronicl Bach, hanes y cynadleddau a gynhaliodd Cymdeithaa Heddwch. Yng Nghronicl Chwefror, 1853, ceir hanes Cyn- D oedd arno ef ddim ofn Heddwch Dolfach. Llanbrynmair; a'r Hen Gapel (Capel S.R.) yn y coed uwchben. hadledd Manceinion. Penderfynwyd yno gasglu £ 10.000 i ledaenu egwyddorion y Gymdeithas. Yng Nghronicl Tachwedd. 1853, ceir hanes Cynhadledd Edinburgh. Ond yr adroddiad pwysicaf o ddigon yw ad- roddiad Cynhadledd Frankfort, yn yr Almaen. Aeth S.R. ei hun i hon yn Awst. 1850, a dyry'r hanes yng Nghronicl Medi (tudalcn 15 yn y Ilyfr). Yn Frankfort. Buasai'n dda gennyf weled mwy 0 hanes y gynhadledd hon yn y llyfryn. Cymerodd rai o brif arweinwyr heddwch yn Ewrop ran ynddi. Yr ysgrifenyddion. er enghraifft. oedd Cobden, Burritt a Henry Richard Pasiodd benderfyniadau pwysig iawn hefyd. Yn wyneb yr hyn a ddadleuir yn Genefa ar fyr, ystyrier y trydydd penderfyniad a basiodd Fod cynnal byddinoedd arfog yn llygru moesau ac yn trymhau beichiau gwledydd Ewrop, a bod y Gynhadledd yn taer ddeisyfu ar lywodraethau i gyduno yn gymydogol i leihau ei byddinoedd." A'r pedwerydd: Fod y Gynhadledd yn hollol ang- hymeradwyo yr arferiad i ariandai mawrion roddi arian ar lôg i deyrnasoedd allu cynnal rhyfel." Diodde'i Erlid. Heblaw gweithio dros achos heddwch yn gyffredinol fel yma, ysgrifennodd S.R. lawer iawn ar ryfeloedd y dydd (gweler tudalen 30 ac ymlaen). Yn fawr a mân nid gormod dywedyd iddo ysgrifennu cannoedd o erthyglau ar y pwnc hwn yn unig. Dioddef- odd lawer iawn dros yr hyn a wnaeth. Cafodd lawer o'i erlid a'i oganu," meddir yn Helyntion Bywyd S.R." (tud. 64). am feiddio yngan dim yn erbyn y rhyfeloedd gwaedlyd yn India a rhyfel opiwin Lloegr yn China; a'r rhyfeloedd barbaraidd yn Ybyssynia a Caffraria a man- nau eraill yn Affrica; ac am resymu yn erbyn rhyfyg Ffrainc a Lloegr yn ymfeddwi ac yn ymgynddeiriogi i ryfela yn erbyn Rwssia tua'r Crimea a mannau eraill; a chafodd ei erlid yn drymach fyth am fod ei gydwybod yn anghymeradwyo gwallgof- rwydd cynddaredd poethwyllt yr Unol Daleithiau ar adeg cychwyniad eu rhyfel mawr cartrefol." Condemnio Lloegr. Nid yw'n anodd syniad, i ryw fesur, beth bynnag, yr erlid a fu ar ôl S.R. am yr hyn a ddywedodd ani y rhyfeloedd hyn. Gwyddom rywbeth heddiw am yr ysbryd hwnnw na fyn wybod am gamgymeriadau ei wlad ei hun. Yn amser S.R. yr oedd yr ysbryd hwnnw'n ganwaith mwy gwresog, a gwae'r dyn a feiddiai ei groesi. Beiddiodd S.R. ei groesi bob tro. Condemniodd Loegr yn ddiarbed am bob rhyfel y bu'n ymladd ynddi yn ei ddydd ef, a chafodd oddef am hynny. Y byd heddiw. Aeth S.R. o'i waith at ei wobr. Beth a wnawn ni heddiw? Ar ôl tair blynedd ar ddeg o heddwch pa beth yw gwaith Ewrop gyfan? Yn prysur gynhyddu arfau a milwyr ac yn prysur baratoi am y rhyfel nesaf. Ar ôl y ffordd blentynnaidd y bu'r Cynghrair yn trin achos China a Japan ym Manchuria collodd llawer yr ychydig ffydd a fu ganddynt ynddo ac nid oes ganddynt fawr obaith y gwneir rhyw lawer yn Genefa i leihau arfau. [7 dudalen 98.