Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cymru'n Galw! Gan JOHN RHYS P'/e mae'n talentau radio?- Y B.B.C. yn chwilio— Eisiau canu llon-Stesion i Gymru—Pawb i gyfrannu —Pwyllgor!— 0 b'le daẅr deunydd? O S bydd gŵr yn ddarllenydd cyson o gyfnodolion Cymreig, gan amlaf gŵr prudd ei ysbryd ydyw. Sŵn anobaith, a rhyw dinc o hiraeth am a fu yn hanes y wlad a glywir o ba le byn- nag y chwytho'r gwynt. Prin yw'r eithriad. Fe gaiff y byd glywed am y prudd-der an- orthrech yma cyn bo hir! Oni chlywsoch fod rai o brifon y radio Seisnig ar ymchwil yng Nghymru heddiw am wyr a merched cymwys i waith y radio? Gwyr a chan- ddynt ddawn i lonni pobl sy'n eisiau; rhai a medr i gyfleu'r ddawn honno i glust y byd. Ba le y'u ceir yng Nghymru? Llais da, poced wag. MEDDYLIER am y llu cantorion a feddwn fel cenedl a lleisiau ardderchog i fynegi caneuon ysgafn, llon a digri; meddyliwch eto am y pethau prudd a thrwm a genir inni oddi ar lwyfannau'r wlad. Ar gyfrif llais, pe cystadleua'r gwyr hyn ag artistiaid Lloegr neu'r cyfandir, ni byddent byth ur eu cythlwng fel amryw ohonynt heddiw. Yn rhinwedd eu cyfoeth lleisiol aent ar lam allan o fyd cyni i fwyn- hau cysuron bywyd trwy weini cysur a llon- der i eraill. A gwyr a fedr gysuro'r ddynol- iaeth yw'r gofyn ymhob rhan o'r byd heddiw. Stynt eto? W RTH sôn am y radio, mawr yw'r si a glywir am orsaf i Gymru. Ai stynt yw hyn eto? Un rhyfedd a fu'r Celt erioed am chwennych rhywbeth hwnt i'w afael, ac wedi iddo ei gael. wedi brwydr galed weithiau, ni wna ond taflu'r peth gwyn o'i law, am fod iawn ddefnydd ohono y tu hwnt naill i'w allu neu'i amynedd. Man gwyn man draw a wêl y Celtiaid π hyd, a hyn a arbeniga'r Cymro yn eu plith. Y pris yn gyntaf. WRTH reswm. delfryd ymgyrraedd ato yw radio i Gymru. Byddai stesion fach brcifat i ni'n hunain. fel petai. yn gychwyn ar yr oes euraid yng Nghymru. Ond, ni ddaw 'r wy'n ofni, o siarad nac ymbil ar yr awdurdodau Seisnig. Na mae'n rhaid inni godi stesion i'n hunain. Peidiwch ag ofni; nid oes gan Gwmni Radio Llundain unrhyw fonopoli ar yr awyr. Profer maint y galw am radio i'r Cymro i ddechrau. Gofynner i bob un a dorro'i enw o'i blaid i gyfrannu swm penodol at y gost o adeiladu a phan fydd y swm angenrheid- iol mewn llaw-ddim munud cyn hynny- aed ymlaen yn hyderus gyda'r gwaith. Dethol a doeth." BYDD yn rhaid inni wrth Bwyllgor, wrth gwrs-un cryf, dylanwadol, gwyr dethol a doeth, fel pwyllgorau Cymru'n gyffredin. Cynrychiolaeth deg o wahanol adrannau'r Brifysgol, i gychwyn, ond gofaler am y cyf- artaiedd rhwng y Dê a'r Gogledd; gofaler, yn benuaf dim, i'r enwadau gael eu cyn- rychioli'n iawn. Nid da rhy o'r un ohonynt. Cydbwysedd hollol a weddai i Bwyllgor fel hwn. Hwylusir pethau hefyd os bydd cynrychiolwyr o'r gwahanol undebau, urddau. a chymdeithasau arno, heb sôn am gymdeithasau y merched, tebyg i Gym- deithas y Dorcas a'r cyffelyb. Maddeuer i mi, gyfeillion mwyn, os methais enwi eich cymdeithas glodus chwi, ond nid yw'r directori wrth law. Gyda'i gilydd. CASGLER y gâd hon dan unto yn-wel, mewn lle canolog er trafod y pwnc yn drylwyr. Pan ymgynullont, peidier â gadael i'r un microffon na riportar ymddang- os yno. Ac am a wn i, gwell fydd symud y teliffôn hefyd. Bydd digon o stŵr o'r tu mewn, a digon o ôl cyfathrach o'r tu allan heb i lais o'r nef na'r ddaear ymyrryd. Sut Ysgrifennydd. BWRIWCH y bydd i Bwyllgor unedig felly gyfarfod cyn bo hir (nid chwarae â'r pwnc, neu oedi'r ystyriaeth a ddylid), a bwriwch hefyd fod yr Ysgrifennydd (gwr a etholir i'r swydd yn sgîl ei wybodaeth eang am y gwifrau cudd a'u tynwyr yng Nghymru) yn digon llygadlym i fesur y pwnc yn ei holl agweddau, bydd rhaid gofyn i hwnnw gyflwyno rhaglen fanwl o'r eitemau y bydd yn rhaid pendroni trostynt a'u pwyso yn.ofalus cyn i neb hedfan i'r awyr heb ganddo esgyll a'i cynhalio yno. Siarad cyhoeddus afler. MEDDYLIER o ddifrif, am un agwedd yn unig, golygwedd bwysig hyd yn oed i'r Saeson a'u hadnoddau di-ben draw. 0 ba le, tybed, y caem ni ddigon o ddeu- nydd i ddenu gwrandawiad cyson y genedl. ei hun, heb sôn am ddiddori y byd y tu allan? Heblaw hyn, petai'r deunydd gennym, a oes gennym ddigonedd o wyr addas i'w gyf- lwyno i glust y byd ? Ain ein hareithyddiaeth, aflêr ac anghyu- nil ydyw fel rheol, a phrin ydyw olion dysg- yblaeth ar ein lleisiau cyhoeddus. Torchi llewys. MAE gennym ddigon o gantorion, eto prin ydyw'r deunydd at eu gwasanaeth. Ofer, yn wir, fydd rhygnu ar yr hen bethau o hyd. Er ceined ydyw'n ceinciau o'u clywed yn eu priod le ac amser, ni byddant yn fyw yn hir o'u hystrydebu. Bydd yn rhaid i'n cerddorion dorchi'u llewys at waith dyfal i gyfarfod ag angen y grefft newydd. Hyderaf o galon y cânt weledigaeth newydd am hyfrydwch y byd a'i fywyd, ac y daw yn ôl i Gymru unwaith eto yn sgîl y weledigaeth honno yr hawddfyd a'r llonder a nodweddai ein cerddi cynnar. Daw cyfle ardderchog i'n corau, a hwyrach yr adferir unwaith eto y bedwar- awd i'w lle urddasol gynt. Parthed miwsig offerynnol, bron yn gyfangwbl, bydd yn rhaid inni bwyso at waith tramor, ond wrth lwc, oherwydd llafur mawr rhai o garedigion cerdd yng Nghymru, y mae gen- nym heddiw fwy o lawer o offerynwyr nag a fu ugain mlynedd yn ôl. Deffrowch, gerddorion Cymru, mae'r dydd yn glasu! Gwyliwn Y N òl pob tebyg, brwydro a wna'r Cymro nes cael ei degan newydd, ond, gyfeillion oil, ffei ohonom os goddefwn iddo ollwng y peth gwyn o'i law, gan ddibrisio'r mwyn- iant a'r budd a ddaw i fywyd ein cenedl fach hoffus ni. O'i hyrwyddo a'i ddefnyddio yn iawn, bydd yn hwb mwy nerthol na dim a gawsom erioed yn ein hanes. Ond, ond, gwylier nad aiff y fendith yn ysglyfaeth i neb ond a garo ei wlad â chariad anniffoddadwy. Yn awr, paratoi. VN y cyfamser, ai gormod yw gofyn i 'r Brifysgol wneuthur ei rhan er paratoi ein pobl ifainc gogyfer â gwaith y radio, mewn cerdd, areitheg, a drama? Yn wyneb byd sy'n newid ei safbwyht mor gyflym, onid yw'n hen bryd i'w hawdurdodau i ddarpar addysg neillduol i addasu bechgyn a merched Cymru i gymryd eu lle o flaen y microffôn fel llais Cymru i glust a chalon yjiyd oll. Cadair areithyddiaeth, cadair cerdd, a chadair drama ym mhob cangen o'r coleg yw'n gofyn ni yn wyneb ein cyfrifoldeb i'r BYD yfory.