Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Saith Rhyfeddod Cymru Dyma ysgrif o'r Cyfaill, cylchgrawn misol Presbyteriaid Cymreig America, gan y golygydd, y Parch. E. Llytê'elyn Williams, New York. Dü Mr. J. M. N. Jeffries, un o newydd- JJ iadurwyr y Daily Mail, ar daith trwy Gymru, ac fe ysgrifennodd fel un a garai gyhoeddi'r gwir am ein gwlad. Yn ei ysgrif olaf, cyfeiriai at y pethau a elwir yn saith rhyfeddod Cymru," sef: 1, Pistyll Rhaeadr; 2, Clochdy Wrecsam; 3. Yr Wyddfa; 4, Pren yw Overton; 5, Ffynnon Gwenfrewi; 6, Pont Llangollen, 7, Clychau Gresford. Dywedai fod yn rhaid cael rhestr newydd, ac awgryma'r rhain: Yr Wyddfa, Ffynnon Gwenfrewi, Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi, Pistyll Rhaeadr neu Bont y Gŵr Drwg, Castell Caernarfon, Pont- meirion, a Charnedd Bryn Gelli Ddu. Rhyfeddodau yn ymwneud â byd natur a chelfyddyd yw'r rhain. Tarawodd i'n meddwl mai diddorol iawn fai cael rhestr o Ffynnon Gwenfrewi (Treffynnon, Sir Ffiint) tua chan mlynedd yn 01. saith rhyfeddod mwyaf Cymru, ym myd meddwl a diwylliant. Beth am y rhestr hon fel un cynnig. 1. Y Mabinogi, a fu'n rhoi adsain i len- yddiaeth ramantus y Canol oesoedd, yn ogystal ag yn ysbrydiaeth i fbirdd diweddar- ach. 2. Cyfreithiau Hywel Dda, sy'n wyrth o gyfiawnder a thegwch mewn cyfnod mor fore yn hanes gwareiddiad y Gorllewin. 3. Ein henglynion gorau, a gymer eu lle yn esmwyth ochr yn ochr ag epigramau enwog y byd Groegaidd yn ei gyfnod mwyaf euraid. 4. Ein hemynau, nad oes eu gwell ymysg unrhyw genedl, os na chyfrifìr emynau urdd- asol y Lladinwyr yn yr Eglwys Gatholig. 5. Ein Hysgol Sul cyn i falldod yr arhol- iadau ddisgyn arnynt, ac ymlid ymaith yi* hen ddull socrataidd o addysgu. 6. Ein halawon hynaf, a gostrela enaid ac ysbryd cenedl mor llwyddiannus â Spirituals pobl ddu America. 7. Ein Heisteddfod, er gwaetha rhai arwyddion ei bod yn dechrau colli ei gafael ar y werin fel magwrfa diwylliant. Teimlad arall. Mae arnom awydd dilyn y syniad hwn o nodi saith rhyfeddod Cymru o'i gymhwyso at ein bywyd heddiw. 0 bell yr edrychwn arno, a dichon fod y pwyslais ar rai agweddau ohono oblegid hynny yn ang- hywir. Ond, o ddarllen a chlustfeinio, dyma'r seithbeth a enwem ni. 1. Safle unig ei gwleidydd enwoca. 2. Bywio g r w y d d mudiad Urdd Gobaith Cymru. 3. Y modd eithriadol yr apelia newyddian i'r byd newyddiadurol, sef Y Ford Gron, at gorff y werin. 4. Tlodi Cymru ym myd y nofel a'r ddrama, a chymaint defnydd wrth law i ysgrifennu camp- waith. 5. Y parodrwydd gyda'r hwn y derbynnir dysgeidiaeth Karl Barth gan rai o'r pregethwyr ifanc mwyaf ysgolheig- aidd, heb sylweddoli bod ei ragosodiadau yn seil- iedig ar Ffwndamental- iaeth ac Uchelgalfiniaeth ronc. 6. A d f y w i a d yr Eglwys Esgobol, a'r teimlad oynhyddol mai hi biau'r dvfodol ym mywyd crefyddol Cymru. DAW myrdd o ryfeddodau Ceir gweld o'r diwedd sylwedd Daw hil y lleisiau mwynion, A phawb am dro yn dawel Ffarwel, bregethau meithion, Mwyach, bydd rhaid eu llunio Am ddim ond pris y leisens — Daw crefydd 'n ôl i'r aelwyd, Darlithiau o'r Brifysgol, Dirgelion Economeg- Sydd heddiw bron yn deilchion Hwynthwy yn wir wna'n hachub Bu adeg pan fu'r Cymro Ni fynnai ef byth wrando, Ond, dan orfodaeth Radio, Ac edwyn pawb y coegyn Ffarwel i siou Eisteddfod, Ni feiddia neb ail-godi Daw Cymru yn wlad lonydd, Ag eithrio sgrech y Radio 7. Y chwyldro mawr ar fywyd gwledig y lleoedd hynny oedd gynt yn anghysbell, a hefyd ar arferion masnachol a chrefyddol y genedl, trwy gynnydd y teithio mewn moduron. Ac eithrio, hwyrach, y pedwerydd pwynt, prin y gallasai neb, hyd yn oed ddeng mlynedd yn ôl, ragweled a phroffwydo y deuai'r pethau hyn mor fuan i fywyd y genedl. A rhyfeddod i bawb ohonom yw gweled Cymru yn cael ei hysgwyd mor llwyr o'r hen rigolau, a hynny megis mewn munud awr. Buasai un neu ddau o'r cyfnewidiadau a enwyd uchod yn hen ddigon i greu problem, ond pan ddeuant yn bentwr gyda'i gilydd, meddiennir y galon gan fraw dieithriol. Un peth sydd yn gwbl sicr, sef nad Cymru Fu moGymruFydd. E. L. WILLIAMS. Radio i Gymru. 0 gorn y Radio Fawr; Ymysg holl Gymry'r llawr; A'u cân yn llon a ffri, Yn sŵn y Jiwbili! Rhaid llosgi yr hen stoc,- At fesur bysedd cloc; Ryw chweugain gron i'r Stât. Heb neb yn estyn plât. A gawn yn gwbwl rad; Am fodd i lywio'r bad Ar fôr ystormus fyd: A'n dwyn i'r hafan glyd. Yn dafod bron i gyd, Parablu oedd ei fyd; Daw arno'r oesol ust, Wrth faint a hyd ei glust A drama'n capel Ni Y pethau hyll a fu! Heb gwrdd, ymgôm na chân 0 ogof Nyth-y-Frân! JOHN RHYS.