Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Achub y Plant rhag MEDDWL Darlun 0 ADDYSG ag A fawr. Porthaddysg, F'ANNWYL Ddylluan Ddoeth, 'Does gennyt ti ddim syniad faint o bethau rhyfeddol a ddysgais-i ac a glywais-i ers pan ysgrifennais atat o'r blaen. Yr ydwyf wedi newid yn ofnadwy eleni, ac ni allaf lai na gwenu wrth feddwl am y syniadau oedd gennyf unwaith. Ond och! 'rwyf bron wylo wrth feddwl dy fod di a llawer o'th gydwladwyr yn dal atyn' hw' o hyd. Mae hi'n ddyletswydd arnaf, 'rwy'n teimlo, dy berswadio di i fwrw heibio'r syn- iadau hen-ffasiwn yna, a'th oleuo di ar egwyddorion diweddaraf Addysg. YR ARCHOFFEIRIAID. Haimer munud! 'Wyt-ti'n cael dy siomi am fy mod i'n ysgrifennu am bwnc sy'n ym- ddangos yn sych a blinderus? Coelia di fi. y mae'n fater chwildroadol yma, a phobl yn colli eu pennau arno. A dweud y gwir, y mae sbelio'r gair Addysg heb A fawr iawn yn frad bron; a sôn amdano mewn llais naturiol yn gabledd. Yn wir, fe ddylid gwisgo dillad cymwys cyn siarad amdano­-sachau gwlân o waith llaw fyddai orau, wedi eu clymu am y canol â gwregysau raffia. Y mae gennym ni yma fagad arbennig o selotiaid wedi eu gwisgo felly Archoffeiriaid ac Offeiriadesau y dduwies fawr Handartikraftis. Hwynt-hwy yn awr sy'n trefnu ac yn goruchwylio holl ddirgelion Addysg. MOR ANGHYSURUS. Mae'n debyg dy fod di'n dal i gredu y dylai plant fynd i'r ysgol i'w dysgu i feddwl? Yr hen beth gwirion! Fe wyddom ni'n well yma! Gan fod ein plant ni i gyd wedi cael y fôt wrth gael eu geni, y mae'n gwleid- yddwyr a'u swyddogaethyddion wedi deall mor angenrheidiol ydyw peri ei bod bron vn amhosibl i blentyn feddwl. Meddwl di mor anghysurus i'n Gwladweiniaeth fyddai pobl a fôt ganddynt a'r rheini'n medru meddwl Felly fe ddarperir i'n plant gyfundrefn Addysg orfodol sy'n gostus iawn ond sy'n guaranteed i rwystro meddwl cyn belled ag y gellir. Y mae hyn yn llawer brafiach i'r gwleidyddwyr. Y mae hefyd yn garedicach tuag at rai o inspectors ein hysgolion elfen- nol-pobl y gallai unrhyw fachgen call deu- ddeg oed ddadlennu tlodi eu meddyliau. Ac oni fyddai hynny yn anheg a di-barch? Felly fe gefnogwyd yr inspectors hyn i ys- grifennu Adroddiadau i Amddiffyn eu Syniadau ac i blanio cyfundrefn newydd i gadw eu hurddas. Wrth gwrs, yr oedd hyn yn waith caled iawn i'r bobl hyn. Yr oeddent yn gwybod y dylid bwrw dros y bwrdd bob dim a allai beri i blentyn feddwl, ond anodd oedd cytuno ar ble i gychwyn! Yr oedd ar bob un eisiau achub ei urddas ei hun yn gyntaf, fel y gelli feddwl. Yr inspectors druan, pwy a wel fai arnynt? Yr oedd yn rhaid llenwi timc-table ysgol rywsut! Ac yr oedd ar famau teuluoedd (er fod y rhain yn mynd yn brinach ac yn debyg o gael eu diddymu'n llwyr maes o law) eisiau rhywrai eraill i ofalu am eu plant yn ystod y dydd ac i ateb cwestiynau lletchwith (er na fydd athrawon byth yn ateb cwestiynau lletchwith ond ag atebion mwy lletchwith). Beth oedd i'w wneud ? Y FRAWDOLIAETH NEWYDD. Yma y daeth offeiriaid ac offeiriadesau Handartikraftis ymlaen. Gyda hunan-ym- wadiad nefolaidd a gwladgarwch dwys fe ymadawsant â'u cylch cyfrin a chyn- nig dysgu eu dirgeledigaethau i'r ieu- ainc. Yn wir, fe ddarfu iddynt hyd yn oed awgrymu gwneud eu gwisg hynod hwy yn wisg swyddogol i frawdoliaeth fawr newydd yr Handartikraftiaid. 0 dipyn i beth y mae eu dylanwad hwy wedi cynyddu (cawsant gymorth ariannol gan y gwleidyddwyr), ac y mae'r addysg oedd gynt yn yr ysgolion wedi darfod am- dani, oddieithr lle bo rhyw brifathro hen- ffasiwn yn ceisio gwrthsefyll cenlli dat- blygiad (ond pan ymddiswydda ef fe ddaw i'w le ryw ẁr rhyfelgar yn gwisgo arfau newyddach Handartikraftis); ac oddieithr hefyd yn yr ysgolion hynny lle y dysgir meibion a merched y cyfoethógion. Yno y maent yn dal i gredu mai gwell ydyw dysgu plentyn i feddwl. Pam? Nid ydyw'r prifysgolion, yn arbennig y rhai hynaf, mor flaenllaw yn y mater hwn ag y gellid dymuno. Y mae'r meddwl ysgol- heigaidd yn parhau i reoli llawer o'r colegau, ac felly'n cael effaith ar ychydig raddedig- ion. Bu hyn yn faen tramgwydd ar lwybr gorymrîaith Offeiriaid ac Offeiriadesau Handartikraftis yn yr ysgolion paratoi hefyd. YMAITH A HWY. Y fath ffolineb! Ymaith a'r gwýr oed- rannus hyn sy'n ceisio drysu trwy adrodd geiriau gwyr doeth yr oesoedd yn ein herbyn! 0°, fel yr ydym yn hiraethu am y dydd pan ddyry ein prifysgol hynaf ei han- rhydedd uchaf ar y gŵr gwych a gynhyrcho'r cwd raffia mwyaf celfydd, neu'r hambwrdd copr mwyaf morthwyliedig; a dangos o'r diwedd ei dirmyg tuag at ddysg trwy alltud- io awdur traethawd ysgolheigaidd i ryw ogof bell! I lawr ag efrydiaeth ac ysgolheictod! Byw fyth fo Raffia! Dyma arwyddair y Blaid sydd ar y Blaen. Ni fedraf y tro yma roddi manylion am y modd y gweithir y cynllun hwn. Y mae cenhediaeth newydd o athrawon yn cael eu dysgu yn yr egwyddorion hyn-athrawon a wneir yn hollol analluog i gyfrannu i'r plant unrhyw awydd am feddwl. Mor ddedwydd fydd y wlad hon! Mor ddedwydd ydwyf i o fod yma'n awr a'r cyn- llun yn ei blentyndod. 0 na chawn i fyw yma am 20 neu 30 mlynedd arall i weled goruchafiaeth y gyfundrefn ryfeddol hon! Yr eiddot fel erioed, DALEN RYDD. OXFORD MUSIC Works by MIRFTDD OWEN Morfydd Owen died in 1918 at the age of 25. She studied under Dr. David Evans at University College, Cardiff, and Prof. Frederick Corder at the Royal Academy of Music, London. Her remarkable powers as a composer matured early, and the list of her compositions is long, especially in view of her many other activities as singer and adjudicator. Competent authorities had more than once expressed the judgement that she was the most gifted musical genius that Wales has yet produced. so that in her early death Welsh music perhaps lost its brightest hope. Songs To Oub LADY of Soebows (D#—G#) 2s. SLUMBER Song OF THE MADONNA (C—Ab) 28. Memorial Edition, with a portrait, preface, biographical notes, etc: VOLUME i (Selected Songs) 4s. VOLUME u (Early Songs) 4s. Piano SELECTED Piano Wobhs, 3s. Orchestra Noctubne. Full Score, 6s. T HOPKIN Evans Psalm to EARTH (Salm i'r Ddaer), for Tenor or Soprano, Solo, Chorus and Orchestra. Vocal Score, 2s. 6d. SOL-FA EDITION OF CHORUSES, Is. 6d. Chosen for the 1932 National Eisteddfod of Wales (Port Talbot). E. T. DAVIES Welsh Folk DANCES (for Piano Solo). Two Sets, each 2s. OXFORD UNIVERSITY PRESS Æolian Hall, New Bond Street London, W.l UNIVERSITY OF WALES PRESS BOARD University Registry, Cardifi