Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ai John ab Ynian oedd John Bunyan? » PERERIN Y FFORDD DRAGYWYDD Taith y Pererin gan John Bunyan. Wedi ei drosi i'r Gymraeg gan E. TEGLA Davies. Y darluniau gan CAREY Morris. Wrecsam: Hughes a'i Fab, 1931; td.. i 344. Pris 10s. 6d. Argraffiad ysgol o'r rhan gyntaf, pris 28. 6d. I'R rhan fwyaf o Gymru canol oed a hŷn na hynny, y mae Taith y Pererin eto yn llyfr digon hysbys hyd yn oed os aeth bellach yn llyfr a llai o ddarllen arno. Fe'i darllenais yn hogyn, yn Gym- raeg, cyfieithiad Stephen Hughes a'i dri chyfaill, ac y mae bellach efallai yn ddiogel cyfaddef na wnaeth gymaint o argraff ar fy meddwl ag a ddylasai, yn ôl fel y casglwn oddi wrth ymddiddanion pobl mewn oed a'i darllenasai. Gwyddwn y byddai 'n codi arswyd ar rai ohonynt hwy, yn enwedig hanes y frwydr rhwng Cristion ag Apolyon (" Napoleon," fel y clywais un hen wladwr yn ei alw). Byddai gennyf innau yma ac acw beth cydymdeimlad â rhai o'r pechaduriaid, Meistr Anwybodaeth, er enghraifft (a rhaid i mi gyffesu fy mod hyd heddiw oherwydd mynych sylweddoli f'anwybod fy hun, yn dueddol i gydymdeimlo â'r dosbarth hwnnw). Byddwn hefyd yn rhyfeddu at wybodaeth fanwl a phendant Cristion a Gobeithiol am fwriadau'r Hollalluog ar bob pwynt, ac yn methu'n lân â gweled nad oeddynt hwy lawn mor siaradus ag oedd Siaradus yntau. Tosturio. Tirionwn wrth ambell ddisgrifiad, megis profiad y ddau Bererin pan wnaethant beth mor naturiol â dewis llwybr esmwyth gydag ochr ffordd arw (peth a wnawn fy hun bob dydd wrth fynd i'r ysgol), a mynd oherwydd hynny i drwbl fawr gyda'r cawr Amheuaeth. Byddai gennyf hefyd dipyn o gydymdeimlad â Christion a Ffyddlon yn y Ffair Wagedd, a mwy, os yr un, â'r dynion hynny a geisiodd gadw chwarae teg iddynt yn y ddinas honno. Yn y diwedd, byddai ynof ryw fwy o duedd i dosturio wrth Anwybodaeth oblegid ei yrru drwy'r twll yn y graig i ddistryw nag i lawenhau am y croeso mawr a gafodd y líeill. Syniadau hogyn na freuddwydiodd neb erioed am ei gyfrif yn hogyn da oedd y rhai hyn, wrth gwrs. Aeth blynyddoedd heibio cyn i mi ddarllen y llyfr eilwaith. Y trö bwnnw, yn y Saesneg cysefin y darllenais, a hynny Bwrw Anwybodaeth i Uffern. GAN YR ATHRO T. GWYNN JONES ar ôl darllen tipyn o hanes. A'r tro hwnnw, pethau eraill a dynnai sylw. Rhyw fesur o anghydymdeimlad. efallai, â thuedd Puri- taniaid i'w galw eu hunain yn saint--effaith tuedd natur a darllen cymysg, y mae'n ddiau—­rhywfaint o wrthryfel un a deimlai. o leiaf, fod San Ffransis vn fwynach. Dante yn braffach. a George Herbert (" The Pilgrimage ") yn gynilach lawer na Bunyan mesur o sylweddoli bod gwleidyddiaeth ddigon creulon yn gymysg â mawr dduw- ioldeb Puritaniaid Seisnig hefyd yn eu tro. a rhyw frith syniad fod dynion fyth a hefyd yn debig iawn i'w gilydd. Mab i rîincer oedd John Biinyan. Gelwir sylw at y peth ym mhob hanes amdano a ddarllenais i erioed, ond ni lwyddodd hynny i ennyn dirmyg ynof ato. cr gwaethaf darllen nid ychydig o'r llenyddiaeth Saesneg dra uwchraddol fydd yn sôn yn amharchus iawn am sectaries" a visionaries," a phethau felly-yr oedd Bunyan, wedi'r cwbl, yn gymaint mwy bonheddig na Butler. dyweder, ac yn hygarach hyd yn oed na Milton, o ran hynny, pe na bai onid am na fynnodd gymysgu paganiaeth ail llaw â'i amgyffred ei hun am Gristnogaeth. Yr oedd hanes ei ymdrech cyn ei droedig- aeth yn ddiddorol. Yr oedd ei lyfr yn ddiddorol am fod. ynddo gynifer o bethau dyledus i'r bywyd a'r syniad- au a gondemniai ef ei hun-syniad- au'r oesau canol am ddiawliaid a demoniaid a chewri; ffeiriau ei gyfnod ef ei hun (yn y disgrifiad o'r "Ffair Wagedd "), llysoedd barn ei gyfnod ef ei hun, megis llys y Barnwr Jeffreys, Cymro o Wrecsam—gŵr, boed cyn waethed ag y bo, nad oedd, mae'n lled sicr, lawn cyn waethed â'r gwyr mawr a wasanaethai. Wrth fynd heibio hefyd, onid enw Cymro oedd ar Bunyan ab Ynian (a geir hefyd yn y ffurfiau Anian ac EinionT) Calon defod. Erbyn darllen y trydydd tro, ciliodd y pethau hyn eto ychydig draw, a dechreuodd peth arall ddyfod i'r wyneb—bod Bunyan wedi sylweddoli rhai o'r pethau sydd anesgor yn hanes meddwl ac ysbryd dyn, pethau efallai, na allent ddyfod i'r wyneb cyn bod dyn yn tynnu at ei ganol oed, yn enwedig mewn gwlad fel Cymru a Lloegr, o ran hynny, lIe dirmygwyd symbol ac y dibnsiwyd deiod, y ddau brif foddion i ddysgu plant a phobl ieuainc (" yr adol- esent," er mwyn i'r Cymry dysgedig sy'n mynd yn hen ddeall yn iawn), a thrwy 'r dibristod a'r dirmyg hwnnw gondemnio llawer i ddarganfod trostynt eu hunain pan fo'n rhy hwyr bethau y dylasent fod wedi eu dysgu yn ieuainc a'u cadw, fel defod, os mynnir, er cysur a diogelwch iddynt hwy eu hunain ac eraill. Hanes ysbryd dyn. Gwir mai ei ddiwinyddiaeth, ond odid, oedd bwysig ym meddwl Bunyan ei hun, ond mawredd ei waith yw mai hanes ysbryd dyn a'i ymdrechion i orfod ar ei ddrygau ef ei hun yw'r peth a rydd ef yn y darn hwn o character iwriting. Tebig golli o'r dull hwnnw lawer o'i rym erbyn hyn—od oes coel ar lawer o'r feirn- iarîaeth arwynebol a ddaeth i'r ffasiwn yng Nghymru er pan gam-ddeallodd rhywun ystyr y gair Saesneg hwnnw a criticism of life," ni ddylid galw Taith y Pererin yn llenyddiaeth o gwbl, canys am achub ei enaid y mae'r awdur yn meddwl yn gyson, a phregethu y mae ef yn ddi-baid, a gwr Protestanaidd yw hefyd-pa fodd y gallai ei fath fod yn artist "? Eto, ag addef bod yn ei waith fân nod- weddion a aeth o'r ffasiwn, mai teipiau yw ei gymeriadau, nid creadigaethau," ac mai cul yw'r bywyd y mae ef yn sôn amdano (fel y bywyd a drinir gan Daniel (1 dudalen 98