Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

tihan o'r pcntrc, o glôs yr efatl. Ar y chwith, talcen y llythyrdy, y capel, pont ülydach, a hen gapeì Silyn Sant. 0 hir ymdroi ym merw'r dref Meddyliwn imi golli'r haf Hyd on id euthum echdoe'n hwyr I hen Wernogle goediog, A'i gael yn esgyn tua'r nef Drwy simnai Abernennog. DYFFRYN cul, coediog, rhamantus, ar lannau Clydach-afon fechan a lifa i Gothi, yn Sir Gaerfyrddin-yw Cwm Gwernogle. Y mae'r rhan uchaf ohono yn gul, ond fe egyr ychydig tua'r canol, gan gulhau drachefn yn y pen isaf ­rhywbeth yn debyg i siâp cwch. A thua chanol y dyffryn hwnnw, ar y man llydanaf, y saif pentre Gwernogle. Ni welir mo'r pentre nes llamu i'w ganol bron, a rhaid disgyn rhiw wrth nesau ato o bob ochr. Cyfyd bryniau a mynyddoedd talgrib eu hysgwyddau o boptu iddo, fel ysgwyddau rhyw gewri anferth a garai gadw'r dyffryn a'r pentre rhag nwydau'r storm a chorwynt y gaeafau. Enwau tlws. Y mae i'r bencydd hyn enwau tlws iawn. Rhuthra gwynt y gogledd dros rosydd Pen- y-garreg, y Brithdir, a banc Esgairfynwent. Chwyth awel y gorllewin dros Fryn Llywelyn, fforestydd Ty'rlan a Throed-y- rhiw, a bencydd yr Hafod a Chadwgan. Daw gwynt y dwyrain, gyda'i rew ac eira, dros dwyni Ffynnon-y-gog, Pantyceubal, a Llain Olau. A sîa chwa esmwyth y de dros fane y Garth a Hendrefadog. Rhwng y bryniau hyn fe red cornentydd brigwyn. pob un am y cyntaf i uno â Chlydach ar y gwaelod. A dyna'r ffram y sydd i Bentre Gwernogle, ac y mae'r pentre yn deilwng ohoni. Pobl ddirodres. Amaethwyr yw pobl y fro gan mwyaf,- pobl garedig, ddi-rodres, heb ddim math o ffug yn eu blino. Ond er mai pobl wledig ydynt nid rhai anllythrennog mohonynt. Yn wir, dywedodd rhywun, rywbryd, fod un o bob tri a welir yma yn fardd, a'r ddau arall yn gantorion! —Crwys. Hen Gapel Silyn Sant. PENTREFI CYMRU IV. 'entre He ni ddaw Bws [Gan Dringwn o ganol y pentre dros riw serth, serth,—tua hanner canllath o hyd, a dyma ni wrth ddrws yr efail. A pha enw ar hon fel Gefail Pen-y-rhipin," a hithau'n sefyll fel hyn ar lecyn uwch y pentre ? Nid rhaid inni symud o glôs yr efail, a swyn miwsig yr eingion ddur, cyn gweled y pentre i gyd. Yr ysgol. Y tu arall i'r pentre, ar lechwedd bychan gyferbyn â'r efail, saif hen ysgoldy y lle, a'r plant yn gwau fel gwybed^haf o'i chylch. Sylwn ar un peth od: nid oes ond clawdd rhwng lawnt yr ysgol a mynwent y fro. Y mae rhywbeth yn dlws yn y syniad: dechrau bywyd un ochr i'r clawdd, a diwedd bywyd yr ochr arall iddo. Yn nes atom, tua chanol y pentre, y mae Capel yr Annibynwyr. Wrth ymyl y capel, fe lifa Clydach, hithau'n weddol dawel erbyn hyn wedi anghofio ei rhuthro ffwdanus pan oedd yn dechrau'i thaith o Ffynnon-Nant-to. Bron yn ymyl yr afon ar yr ochr arall, dyna hen Gapel Sant Silyn, y capel a drowyd yn dv annedd ers blynyddoedd lawer. Gerllaw cyfyd clochdy yr Eglwys Fach ei ben. Cangen o Eglwys y Plwyf ydyw hon. Un fechan iawn ydyw, a'i deunydd gan mwyaf yw sine. Y dafarn olaf. Dacw Ie arall y sy'n werth sôn am dano ar ei ben ei hun. Tŷ gwag yw hwn ers amser maith, ac y mae golwg ddigon brau a gwael ar ei furiau a'i dô erbyn hyn. Eto, ac er hylled yr olwg arno, nid oes gywilydd o'i achos ar un o wyr yr ardal. Onid yw'r fro a'r pentre yn lanach ac yn burach o'i gael fel hyn, na'i gael yn dafarn fel cynt? Hwn, gyda llaw, oedd tafarn olaf plwy Rhos-y-corn. Nid oes dim arbennig arall yn y pentre. Ceir yma siop neu ddwy, dyrnaid o dai, a llythyrdy. Ceir yma rai crefftwyr gwlad, hefyd, a dywed y weier a'r pyst'a welir yn y cwm fod yma deliffôn. Nid aeth y staen oddi arno eto, gan mor newydd yw, a theimla'r fro yn llawer mwy modern o'i gael. Ni ddpeth y bws i dorri hedd y pentre bach hyd yn hyn, ac ni ddaw hyd yn oed sawyr y tar-macadam i'r cylch! Adfail tafarn y Plou> ar y dde. Dyna gip ar Bentre Gwernogle,-y pentre sy'n deilwng o'i ffrâm. Y plant. Oes, y mae iddo ei hanes hefyd. Wele rai o'i blant a ddringodd o aelwydydd y fro i sylw gwlad: Yr oedd y Parch. Thomas Evans ("Tomos Glyn Cothi ") yn un o arweinydd- ion gwleidyddol mwyaf amlwg ei gyfnod ef, a bu yng Ngharchar Caerfyrddin am na phlygai ei ben fel y mynnai rhai iddo wneud. Erys enw'r Parch. William Thomas (" Gwilym Marles ") yn annwyl yma o hyd. Bardd rhagorol ydoedd ef, ac erys rhai o'i berthynasau yn y dyffryn hyd heddiw. Cafodd y Parch. Evan Jones ("Gurnos") o Wernogle rai o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol. Oni wyr Cymru am dano? Yng Ngwernogle hefyd y ganed y Parch. D. Silyn Evans, Aberdar. Nid rhaid dywedyd rhagor am dano. Un arall a rydd urddas i'r pentre yw'r Parch. T. Eurig Davies, Llanbedr. Pa sawl pentre yng Nghymru a garai fragio mai yn eu cysgod hwy y ganwyd ac y magwyd ef? Gwelir ei rieni eto yn eu 11e bob Sul yng Nghapel y pentre. Pan ganodd utgyrn y rhyfel dro'n ôl, aeth llu o feibion y cwm i wneud eu rhan, a dywed y maen bychan ar fur y capel, na ddaeth y rheini yn ôl i gyd. Nid digraith, 'chwaith, y rhai a ddychwelodd. Edrych ymlaen. Ni orffennwyd mo hanes Gwernogle. Onid yw ei blant heddiw-mewn ysgolion a cholegau-yn prysur ddringo i'r amlwg? A diogel yw gadael traddodiadau'r gorffennol, a'gobeithion y dyfodol, yn eu dwylo hwy. Oes, y mae i Wernogle hanes, hanes sy'n deilwng o'r pentre fel y mae'r pentre yn deilwng o'i ffrâm. EISTEDDFOD LEWIS'S EBRILL, 1932 Gweler cefn Y FORD GRON.