Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

STORI Darlun g a n R. L. H uw s. Bryn y Fynwent CYNULLIAD rhyfedd oeddem y noson hQÌlno. Yn nhy ein cyfaill Morgan Prys, Glan-yr-afon, yr oeddem-ffermdy tua phedair milltir i'r gogledd o dref Machynlleth. Ychydig ohonom oedd wedi cwrdd o'r blaen. Achlysur dathlu pen blwydd merch Morgan Prys oedd wedi ein dwyn at ein gilydd. Noson arw yn Nhachwedd ydoedd. Tu allan, disgynnai'r glaw a rhuai gwynt y nos yn y llwyn. Nid oeddem yn rhy hapus y tu fewn chwaith. Yr oeddem, yn ddiau, yn gwmni rhyfedd. I Forgan Prys rhaid ein bod yn debycach i gynhulliad gwylnos nag i rai wedi eu gwahodd i swper pen blwydd. Llewyrchodd goleuni 'r tân ar Forgan Prys a gwelem ŵr tua hanner cant oed, mawr o gorff a chryf ac iach ei wedd. Yr oedd ei lygaid yn craffu ar ei ferch Megan a eistedd- ai ar yr ysgiw, wrth ochr tair o'r gwahodd- edigion. Yr oedd y tair hyn gryn dipyn yn hýn na Megan, ac nid oedd hi'n edrych fel pe bai yn mwynhau llawer ar eu cwmni. A dweud y gwir, yr oeddem i gyd yn dawel ac yn gysglyd (a pha ryfedd — yr oeddem wedi bwyta swper trwm, ac onid oedd y cloc eisoes wedi taro un ar ddeg?). Yna galwodd Morgan Prys ar ei was Dafydd Huws i adfywio'r cwmni ag ystori. Yr oedd Dafydd yn eistedd mewn cadair dderw wrth y tân, ei ddwylo wedi eu plethu ar ei benliniau, a'i ben wedi ei ogwyddo'n isel. Yr oedd heibio'r trigain a deg oed, a thystiai llinellau ei dalcen am frwydr galed yn erbyn amser ac anffawd. Ond rhyfeddach na hyn oedd prudd-der dwys ei olwg. Yr oedd pawb wedi clywed am ddiflaniad ei fam ac am farwolaeth hynod ac anamserol ei dad. Yn wir yr oeddynt wedi bod yn destun siarad yr ardal- oedd yng ngwanwyn 1850. Ac eto, yr oedd rhyw dristwch dwys yn pruddhau wynepryd Dafydd na ellid ei esbonio hyd yn oed gan y fath amgylchiadau trist â hynny. Ond ust! y mae Dafydd yn dechrau ei stori. Mae Morgan Prys wedi tanio'i bibell, ac y mae'r gwahoddedigion yn nesu at y tân. Mae'r cwbl yn ddistaw a 'does yr un sŵn ond y glaw yn disgyn y tu allan a gwynt y nos yn rhuo yn y llwyn. JpY mhlant annwyl-i, gwanwyn 1850 ydoedd pan roddodd fy nhad ­oedd eisoes a'i galon wedi ei rhwygo gan ofid a hiraeth ar ôl fy mam, derfyn ar ei fywyd. Yr ydych i gyd yn cofio'r hanes. Fe gafodd tref Machynlleth ei synnu'n ddirfawr gan y newydd trist. Ond o'r fath ergyd oedd i mi! — colli tad na fu erioed ei well. Fe haerai rhai pobl faleisus ei fod yn greulon, ond' fu neb yn fwy caredig i mi. 'Anghofia'i byth mo'r olwg arno y bore y cawsom ef yn farw. Yr oedd ei lygaid, oedd unwaith mor brydferth a disglair, yn edrych yn erchyll ac fe pe baent yn ym- wthio o'i ben. Yr oedd gwaed yn llif ar ei dalcen, ac O- fedra-i byth mo'i ddisgrifio. Ar ôl yr holl flynyddoedd mae'r olygfa'n fyw o flaen fy llygaid. Un o Aberhonddu oedd fy mam a aeth mor sydyn o hanes dynion. Dynes hawdd- gar a da. Un o Langannog yn Sir Aberteifi, oedd fy nhad. Lawer gwaith y clywais ef yn siarad am y pentref bychan. Byddai'n sôn am dano mor aml nes byddai mam yn fynych yn gofyn iddo a oedd pentref arall mewn bod. Iddo ef yr oedd Llangannog yn Alpha ac yn Omega. Y flwyddyn ar ôl marw fy nhad, gan nad oeddwn yn hoffi Machynlleth, mi ben- derfynais ymweled â'r pentref y ganwyd ac y claddwyd fy nhad ynddo, a chael gwaith yno os gallwn. Ni wyddai neb ple'r oedd fy mam, er y credai'r rhan fwyaf mai syrthio i'r afon a wnaeth, a chael ei chludo ganddi i'r môr. Mi deimlais felly y byddai'n rhyw gysur i mi gael byw yn yr ardal lle gorwedd- ai fy nhad. Ac felly, ar y noson olaf o fis Mai, 1850, mi gyrhaeddais Langannog. 'Anghofia'i byth mo'r noswaith-ac fel yr oedd popeth mor dawel. 'Doedd dim golau i'w weled yn unman ond y sêr, ac nid Gan E. B. BYRON JONES oedd yr un sŵn ac eithrio murmur yr afon dan bont y pentref. Mi gefais lety cysurus, ac yno y bûm yn aros am rai diwrnodau. Yr oeddwn yn ifanc o hyd ac nid heb obaith y cawn anghofio llawer o'r trallod a'r gofid oedd wedi fy ngoddiweddyd hyd yn hyn. Ond 0 fel y siomwyd fi Wrth odre rhes mynyddoedd Pum- lumon, a thuag ugain milltir i'r dwyrain o dref Aberystwyth, y mae Llangannog. 'Does gennych chwi sydd heb fod yno ddim amgyffred o'i dlysni. Y mae rhyw hynod- rwydd tlws yn y pentref sy'n apelio'n rhyfedd i'r llygad, ac y mae un olwg arno yn taflu dyn i ddwys fyfyrdod. "Y capel Methodistaidd bychau yno oedd yr addoldy tlysaf yn yr ardaloedd, ac yr oeddwn i'n rhyfedd o ddedwydd a phrudd pan welais am y tro cyntaf y capel bychan oedd wedi ei ddisgrifio imi mor aml. Fe ddaeth fy nghartref ym Machynlleth yn newydd i'm cof wrth ei ganfod-a fy mam yn eistedd wrth ochr y tân yn gwau hosan, fy nhad yn yr hen gadair dderw a minnau yn ei gôl. Mae yn sôn amdano'i hun yn llanc yn Llangannog. Y mae'n siarad am yr ysgol mewn hen ysgubor, ac am y capel bychan yn y pentref ac am y fynwent gyseg- redig a berthynai iddo. Nid oedd y fynwent, fel y disgwylid, gerllaw'r capel, ond yn hytrach ar ben bryn ryw hanner milltir y tu allan i'r pentref. Mae'n debyg nad oedd tir i'w gael wrth ymyl yr addoldy, a bu rhaid mynd cyn belled â'r bryn, a elwir hyd heddiw yn Fryn y Fynwent. Yr oedd y capel yn annwyl iawn gan fy nhad. a llawer tro y clywais ef yn dweud ei fod yn gobeithio y cawsai dychwelyd i huno i'r fynwent ar ôl ymado a'r bywyd hwn. Teimlaf weithiau yn ddig wrthyf fy hunan am gydsynio â'i ddymun- iad. Ond dyna, 'rwyf yn crwydro beunydd. Dweud yr oeddwn fy mod wedi mudo i Langannog. Mi gefais waith cyfaddas yno a chael fy nghyflogi fel gwas gan Robert Owain, ffermwr cefnog a da oedd yn byw yn Llwynderw, ryw hanner milltir o'r pen- tref. Mi fûm yn hynod o ffodus yn fy newis o waith. a chefais garedigrwydd di- derfyn oddi ar law Robert Owain a'i wraig. Fe ddaeth y misoedd canlynol, felly, â llawer o ddedwyddwch imi. Yr oedd llawer o'r trigolion yn cofio ac yn siarad yn uchel am fy nhad, ac yn talu parch i'w fab o gan- lyniad. Ie, rhai caredig oedd pobl Llan- gannog. yn Gristnogion yng ngwir ystyr y gair, ac yn barod bob amser i gynorthwyo eraill ar hyd llwybr bywyd. Tua'r adeg honno yr oedd rhyw hanes hynod am y fynwent yno. Ni feiddiai un o bobl y pentref fyned heibio'r fynwent wedi nos. oherwydd adroddid fod rhyw ysbrvd, ac iddo gorfi dynol. yn ymsymud dros v beddau yn y tywyllwch. a'i fod hyd yn oed yn crwydro cyn belled â'r heol agored ger- llaw'r fynwent. 'Roeddwn i'n meddwl mai gwaith lled ddifudd oedd hynny, hyd yn oed [7 dìidalen' 98.