Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BYD Y MERCHED Sut i ddewis LLIW; Bwyd o Scotland. Gan MEGAN ELLIS. FE fydd fy fErindiau'n aml yn methu bod yn siwr a fydd lliwiau neilltuol yn edrych yn dda arnynt, a dyma'r cyng- horion y byddaf innau'n eu rhoi Gall y ferch â gwallt golau, neu wallt euraid, wisgo gwyrdd neu las y môr, neu ddu, yn ddiogel, ac fe edrych yn dda iawn mewn gwyn gyda'r nos. Fe gaiff y ferch â gwallt tywyll iawn hyf- rydwch o wisgo lliw llachar-coch, ysgarlad, fflam neu felyn-a hefyd liwiau gwin cyfoethog, a gwyrdd. Y ferch fwyaf anodd i gael lliwiau i weddu iddi ydyw'r un nad yw'n olau nac yn dywyll. Fe ddylai hi wneud ei gorau o liw ei llygaid a'i phryd. Hynny yw, os glas pendant ydyw ei llygaid, fe edrychant yn harddach os gwisgir ffroc las asur. Os glaswyrdd ydyw ei llygaid, gwisged las turguoise ac fe edrych yn swynol. Os brown ydyw ei llygaid, fe ddylai wisgo lliwiau'r hydref, o aur i ruddgoch. Os pryd glân, heb fawr liw, sy gan ferch, fe fydd ffroc wyrdd gwan yn hyfryd iddi. Os oes ganddi liw da, fe fydd ffroc frown tywyll neu goch tywyll yn gweddu'n nod- edig iddi, a gwneud iddi edrych yn ferch yr awyr iach. Os pryd melynddu sy ganddi, dylid chwilio am liw iechyd, gan ddewis lliwiau dwfn, cyfoethog, heb ddim awgrym ynddynt o ddisgleirdeb neu erwinder. Brown tywyll yn troi'n goch — dyna'r lliwiau a ddylai merch o bryd felly eu cadw yn ei B RI NEWYDD AR LAES (' lace '). Defnyddir laes y dyddiau hyn i orffen gwisgoedd. Er enghraifft, fe geir set yn cynnwys coler-groesi- trosodd a chyffs, yn edrych yn hyfryd ar gôt fach yn cyrraedd at y canol. Ac y mae'r fantell laes dros yr ysgwydd yn edrycW yn swynol ar ffroc sidan tywyll. meddwl wrth dde- wis dillad. Fe wna lliwiau'r grug y tro'n dda iddi hefyd. TRIMIO. Rheol hawdd i'w chofio ynglŷn â thrimio y dyddiau hyn ydyw-trimio ar y tu blaen i wisgoedd prynhawn, a thrimio y tu ôl i wisgoedd gyda'r nos. BOTYMAU. Y mae bri mawr ar fotymau ar hyn o bryd, ac ambell got yn fotymau o'r goler bron i'r hem. Y mae llawer o ffrociau gwlan hefyd i'w gweled, a botymau i lawr y tu blaen. Y mae'r ffroc sy'n cau drosodd yn cael ei chau gan o chwech i ddwsin o fotymau, a maint y botymau yn dibynnu ar eu nifer. LLEWYSAU HIR. Y mae llewysau hir ar ynau gyda'r nos yn dyfod yn fwyfwy ffasiynol. Bwyd o'r Alban. Y mae pobl Scotland ar lawer ystyr yn debyg i ni y Cymry. Maent yn byw'n debyg inni, yn enwedig yn y wlad, a'r gwragedd yn gwybod sut i wneud bwyd iach ond darbodus. Os ewch i dy yn y wlad yn Scotland, y mae gwraig y ty yn sicr o gynnig i chwi fara ceirch cartre, neu fara sunsur neu fara byr (shortbread). Yn awr mi ddywedaf wrthych sut y bydd gwragedd Scotland yn gwneud y pethau hyn: BARA CEIRCH. 4 llond llwy fwrdd o flawd ceirch (heb fod yn rhy fán na rhy fras), ½ owns o fenyn, ½ llond dwy de o halen, a ½ llond cwpan de o ddŵr berwi. Toddi'r ymenyn yn y dŵr, a'i droi'n gyf- lym i'r blawd ceirch a'r halen tra bod y dŵr yn berwi. Tylino am foment, rolio'r cyfan allan yn denau, a'i siapio'n grwn. Ei farcio'n chwarteri, a chrasu am tua 15 munud mewn popty (ffwrn) poeth. Peidier ag iro'r tun y gosodir y bara ceirch arno. Rhodder y bara yn y popty cyn i'r dŵr oeri. BARA SUNSUR. Llond cwpan de o flawd, pinsiaid o halen, ½ llond cwpan de o flawd ceirch TAIR ENGHRAIFFT o'r siwt folero ffasiynol. Brethyn du dwl ydyw'r gyntaf, yn cael ei gwisgo gyda blows satin wen y gellir ei golchi. Deunydd gwlanog gwyrdd emrald ydyw'r ail, a'r bolero'n cau ar draws y tu blaen ag un botwm ac am y canol â botwm arall gwna coler (scarff) crêp sidan melynlwyd i'r siwt edrych yn ddel iawn. Brethyn glas tywyll ydyw'r drydedd gyda phlygion a blows satin melynlwyd. mân, ½ llond cwpan de o siwgr, ½ llond llwy de o sunsur mâl, dau lwmpyn o fenyn (pob un gymaint â chneuen Ffrengig go nobl), llond llwy de o had carwai mân, llond llwy de o 'bicarbonate of soda,' llond llwy fwrdd o driagl, wy, a thua llond cwpan de o laeth (llefrith). Rhedeg y blawd a'r halen i bowlen, rhwbio ymenyn iddynt, ac yna'r defnyddiau sychion eraill, a'r wy wedi ei guro. Cynesu'r triagl a'i ddodi atynt, gyda digon o laeth i wneud y gymysgedd yn ddigon tew i ddisgyn yn hawdd oddi ar y llwy. Cymysgu'n dda. Dodi papur irad dros du mewn y tun, troi'r gymysgedd iddo, a chrasu mewn ffwrn gymhedrol am tua 30 munud. Gwyliwch yn ofalus, neu mi lysg. H ET DAIR CORNEL mewn ffelt du meddai, wedi ei thrimio ar y cefn â dolenni rhuban gwyrdd.