Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYDDIADUR DAFYDD HUWS SIOP NEWYDD, LLANARFON GWENER, IONAWR 1: Dymuno blwyddyn newydd dda i'r teulu. Derbyn parrot oddiwrth Huw fy mrawd o Affrica bell. SADWRN, ION. 2 Mari y ferch yn cyr- raedd adre hanner nos o'r ddawns. Ei galw yn ferch y diafol. Ei holi a'i rhybuddio. Y cyfan ddywedodd oedd, Helô, nhad." SUL, Ion. 3: Seion y bore. Ciniawa ar anrheg Huw. Y cig yn flasus ond gwydn. Poen dirfawr yn yr ysgaroedd. Galw'r meddyg at Catrin y wraig. LLUN, ION. 4: Gwraig yr Henblas yn cwyno na chafodd ond naw orange yn lle dwsin. Egluro iddi fy mod wedi dodi dwsin yn y bag, ond gan fod tair ohonynt yn ddrwg, i mi eu tynnu allan i arbed trafferth iddi. MAWRTH, ION. 5: Morwyn newydd yn cyrraedd. Gwerthu ceffyl i Morgan Prys, y saer. Prynu barometer. Catrin yn dwrdio, ac yn gofyn beth oedd diben y Bod Mawr yn rhoddi rhiwmatis i mi. Mercher, Ion. 6: Dod i lawr y bore a chlywed y forwyn newydd yn canu emyn. Dweud wrthi fy mod yn falch am ei bod yn eneth dduwiol. Eglurodd hithau mai berwi wyau yr oedd. Tri phennill i'w berwi'n feddal, a phum pennill i'w berwi'n galed. IAU, Ion. 7: Catrin yn wael iawn. Meddwl ei bod yn y nefoedd ac yn chware telyn ar haerns y gwelv. Dweud wrthi mai cyfeiliorni yr oedd, ac na fuaswn i gyda hi pe bai hi yn y nefoedd. Gwener, Ion. 8: Prynu ceffyl arall. Saith a chwech am y ceffyl, a gini am yr harnis. Gan mai Herod yw ei enw, amryw yn gofyn ai i'r brenin o'r un enw y perthynai unwaith. Sadwrn, Ion. 9: Llygod yn difetha'r nwyddau yn y siop. Holi Mari Puw, y Felin, am gath. Gwrthod talu swllt a naw am gath bach. Sul, Ion. 10: Teimlo'n wael. Clefyd y Sul, a beio cig tramor Huw. LLUN, Ion. 11: Morgan y saer yn fy nghyhuddo o werthu ceffyl castiog iddo. Ei fod yn neidio a strancio wrth dynnu bŵs mewn angladdau. Teulu- oedd parchus yn cwyno. 'Kol ei fachu yn yr hers heb gael dim cwynion hyd yn hyn. MAWRTH, IoN. 12: Difrod mawr gan y llygod. Gweled Mari Puw eilwaith ynglyn ă'r gath. Mari yn gofyn wyth swllt, gan fod y gath wedi bwyta'r caneri. MERCHER, Ion. 13: Yn ffair y Betws. Gwlyb iawn. Galw yn y Bull. Gwlyb ofnadwy. IAU, Ion. 14: Catrin yn ddrwg ei thymer. Taflu tecell a chadair ataf. Pan welais hi yn edrych i gyfeiriad y piano, rhedais allan o'r tŷ. GWENER, Ion. 15: Penderfynu gwneud i ffwrdd à Carlo y ci. Y forwyn yn bendant yn erbyn, gan ei fod yn arbed llawer arni trwy lanhau y rhan fwyaf o'r platiau. Sadwrn, Ion. 16: Isaac y gwas yn hwyr iawn. Cysgwr trwm ydw i," meddai, neb i alw arna i. mam i ffwrdd ers dydd Mercher." Holi lle y bu Iau a Gwener. Caei trafferth i'w argyhoeddi ei bod yn Sadwm. Scl. Ion. 17: Cyfarfod pregethu yn Seion. Cael eglurhad ar Sodom a Gomorrah. Wedi arfer meddwl mai gwr a gwraig oeddynt. Llun, Ion. 18: Y forwyn yn gwneud pastai anferth, llathen o hyd. Egluro mai pastai riwbob ydoedd. Mawrth, Ion. 19: Gwraig ifanc, newydd briodi, yn cwyno am y blawd. Dweud bod ei gŵr wedi methu bwyta ei chrempog, gan eu bod yn wydn dros ben. MERCHER, Ion. 20: Poen yn fy mhen. Galw'r meddyg. Fy annog i fwyta pysgod i fagu ymen- nydd. Gofyn iddo pa bysgod. Dweud wrthyf am ddechrau gyda morfil neu ddau. Iau, Ion. 21: Mari y ferch yn holi pwy oedd Shylocfc. Ei dwrdio am beidio â darllen ei Beibl. Gwener, Ion. 22: Catrin yn wael eto. Ofn marw. Y gweinidog yn galw ac yn ei chysuro, pan ddywed- odd nad oes neb ond y da yn marw yn ieuanc." Oes faith o'i blaen. Sadwrn, Ion. 23: Cael chwe cheiniog drwg gan rywun. Sul, Ion. 24: Seion bore a hwyr. Rhoi chwech yn y casgliad. LLUN, Ion. 25: Prynu wireless. Yr orau ar y farchnad, meddai'r gwerthwr. Sicrhau pob steaion EISTEDDFOD Y DDYLLUAN DECHREUAIS fy meirniadaeth ar y Gân ddigrif yn y rhifyn diwethaf drwy daeru ei bod yn arferiad ynglyn â phob cystadleuaeth yn Eisteddfod y Ddylluan i ddweud yn eglur beth a ddisgwylir oddi wrth y cystadleuydd. Yn y modd hwn y dangosir sut y daw balchter yn union o flaen cwymp. Derbyniais lythyrau huawdl oddi wrth eisteddfodwyr pybyr yn dweud eu bod wedi methu 'n lân a deall beth a ddisgwylid ar eu llaw yn y gystadleuaeth ddiwethaf a osod- wyd, sef Rhif 6. Gwaeth na hynny, y mae pob un ymron a anfonodd ei ymgais i mewn wedi dehongli'r gŷstadleuaeth yn ôl ei feddwl ei hun-un yn anfon rhestr o benillion, un arall yn anfon traethawd ar y Byd a'i Amserau, un arall yn ceisio troi ysgrif ar y Safon Aur i rigymau triban Morgannwg, un arall—ond be' waeth. Dyna fel y mae pethau. Y mae'r golygydd a minnau'n anghytuno yn ein barn am y gwyrda hyn oll. Yr wyf i yn dal eu bod yn dwp- yn enwedig gan fod un neu ddau wedi llwyddo i'm deall, ac os gall un dyn weld y golau paham na fedr y gweddill? Deil y golygydd ar y llaw arall fod llawer o bendwmpian ac edrych ar wrthrychau tan olau'r lloer wedi pylu fy ngolygon rhag gweled dim yn danbaid yng ngolau'r haul, a rhag fy mynegi fy hun yn eglur, ac na wyddai ef ei hun ddim yn iawn be' gebyst oeddwn i'n drio'i ddweud. Wel, golygydd yw golygydd, ac ni saif hyd yn oed ddoethineb Gw-di-hŵ o flaen llifeiriant ei ddigofaint. Felly, rhaid treio unwaith eto. yn Iwrob. Canu Cymraeg o Gaerdydd. Catrin a minnau yn rhoi encôr iddo. Gofyn trwy'r corn am iddo ail ganu Hela'r Sgyfamog." Dim atebiad. Troi y nobia i chwilio am y Goods Stesion, Aber- daulo, gan fy mod heb ddim siwgr. Dim llwydd- iant. Y nobia yn rhydd yn fy nwylo, a mwg du yn dod o'r wireless. Myned à hi dan y pwmp. Mawrth, ION. 26: Prynu llyfr ar Igonomigs. Prynu cwningen am chwech. Ei chael i ginio. Gwerthu'r croen am wyth geiniog. Darlith i'r forwyn ar igonomigs. MERCHER, Ion. 27 Gwraig tŷ'r cape) yn cwyno bod y bacwn yn ddrwg. Ceisio ei darbwyllo mai home cured ydoedd. Hithau yn gofyn am gig mochyn oedd heb fod yn wael. Cwningen i ginio, tê a swper. Dylanwad y ddarlith. Iau, Ion. 28: Cwningen i frecwast, cinio, tê a swper. Breuddwydio mai cwningen oeddwn, a bod holl gwn Llanarfon ar fy ôl. Deffro, cyn myned i lawr y trydydd tro, mewn môr o chwys. Gwener, Ion. 29: Prynu motor am bedair punt a choron. Codi leisans a'i insiwrio. Prynu spats. Sadwrn, Ion. 30: Y motor ar dan. Llosgi'n ulw. Cael ugain punt o insiwrans. Insiwrio'r siop yn drwm. Bendithio'r llyfr ar igonomigs. SUL, Ion. 31: Seion, cwrdd gweddi. Cymryd rhan. Dim casgliad. Methu dod o hyd i fy spats. Catrin wedi eu hanfon i gael eu gwadnu. (I barhau). CYSTADLEUAETH RHIF 6. Yr unig beth a ofynnir ar law'r cystadleu- ydd ydyw dyfyniad—dyfyniad o waith Dafydd ap Gwilym, neu'r Bardd Cwsg, neu Daniel Owen, neu Ficer Prichard, neu Williams—Parry, neu D. T. Davies, neu un- rhyw waith safonol arall mewn rhyddiaith neu farddoniaeth yn llenyddiaeth Cymru. Dim rhagor o drimins na hynny. Eithr rhaid i'r dyfyniad hwn ddisgrifio, neu daflu goleuni mewn rhyw fodd, ar un o'r features neu agweddau ar fywyd a ym- ddengys yn rheolaidd yn Y FoRD GRON, neu, os mynner, rhaid i'r dyfyniad fod yn un pwrpasol i'w osod uwchben un o'r llithiau rheolaidd hyn, e.g., "Ymysg Pobl" gan Syr Bedwyr; Ein Barn Ni," gan y Golygydd; "Eisteddfod y Ddylluan;" "Byd y Ddrama," gan Rhys Puw; Y Ffasiynau," gan Megan Ellis, etc. Er enghraifft, hwyrach y byddai'r dyfyn- iad a ganlyn yn un cymwys i ddisgrifio rhai o'r ffasiynau a ddarlunir gan Megan,Ellis: Cot ffwrr Cati a'i ffroc gwta— Drysu dyn dirodres da. (-T. Gwynn Jones), Rhaid cyfyngu'r dyfyniad i 25 o eiriau, a rhaid i'r gwaith a ddyfynnir fod yn adna- byddus a safonol. Ond cofier mai'r cyfan sydd eisiau yw dyfyniad,—enw'r awdur a'r gwaith, ac enw'r llith neu agwedd ar fywyd a ymdrinir yn Y FoRD GRON. GeUir rhoi'r cwbl sydd yn angenrheidiol ar ddwy fodfedd sgwar o bapur. Y GW-DI-HW.