Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Breintiau wrth ein Drws Gwyrth yr 20 mlynedd diwethaf yn addysg Cymru A ydym-nin rhoi mwy o sylw i'n meibion syn mynd dros Glawdd Offa nag i'r rhai sy'n aros gartreff Y MAE'E FORD GRON yn gwylio tyfiant mudiadau addysg Cymru. Darllen- odd ugeiniau erthygl ddiddorol Mr. Percy Ogwen Jones yn rhifyn Tachwedd, Peryglon y Dosbarthiadau." Y mae'n amlwg fod awdur yr erthygl wedi astudio adroddiadau Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (y W.E.A.) yn fanwl, ond trueni na bai wedi cyffwrdd ag un o'r peryglon mwyaf, sef y parlys sydd eisoes wedi meddiannu rhai siroedd ac yn achosi i Gymru lithro'n ôl o'i safle uchel ym mudiadau addysg heddiw, gan adael i ardaloedd mwy effro feddiannu'r breintiau y mae Cymru'n sychedu amdanynt. Oni bai fod aelodau r W.E.A. yn aberthu dros y mudiad byddai'n rhaid cwtogi'r gwaith. Fe gyfran- nodd un dosbarth o weith- wyr y llynedd dros 18 er mwyn i'r manuau gwan, lle y mae llawer allan u waith, gael dosbarthau. Gwaith awdurdodau sir yw darparu ar gyfer addysg o'r math hwn, ac y mae rhai o siroedd Cymru wedi gweld y gwerth sydd ynddo. Pe gwnâi pob awdnrdod addysg yr un modd fe fyddai'r cang- hennau'n rhydd i ddwyn eu gwaith eu hunain ymlaen, sef dyrchafu diwylliant cyff- redinol. Nid Cymru, o bob gwlad, a ddylai fodloni i ostwng safon addysg ei gwerin. Ond dyna a ddigwydd os caniatâ'r bobl i'w cynrvch- iolwyr lwgu'r Brifysgol a'r Gymdeithas Addysg y bu'r tadau'n llafurio mor galed er eu mwyn. Y golled. Holed Y FoRD GRON a ydyw yn wir heddiw fod y Brifysgol yn methu agor dosbarthau tair blynedd oherwydd fod awdurdodau addysg yn rhoddi pumpunt lle y dylent roddi pumpunt ar hugain? Tybed fod Cymru a'i bryd ar arwain Prydain ar y goriwaered yngìýn ag addysg y gweithwyr? Holed hefyd pa sawl deunaw disglair lane sy'n gorfod bodloni ar ddosbarth tymor lIe y dylid cael dosbarth tair blynedd? Colled i fywyd gorau Cymru ei hun ydyw hyûv Yn yr ardaloedd mynyddig yr erys y Uanclau hyn. Allan o olwg a dwndwr y byd, rhoddant wasanaeth gwerthfawr i Gymru. Gan Mrs. Silyn Roberts Pa faint y mae Cymru'n ei wario'n ddi- warafun ar y rhai sy'n mynd dros Glawdd Offa? Onid diwylliant aelwydydd Cymru heddiw a benderfynu pa fath Gymru a fydd yfory? Diddorol sylwi ym mha le y mae'r cynnydd mwyaf. Gwelir dosbarthau'n magu awydd am ddosbarth mewn pwnc gwahanol yn yr un ardal, a lle bo poblogaeth gref y inae dichon cael amryw o ddos- barthau yn yr un dref. Coleg Harlech, Ue y bydd y W.E.A. yn cynnai ambell ysgol fwrw Sul. Mewn ardal wledig, He y mae'r boblog- aeth yn rhy wasgaredig, hoff bwnc y mwyaf- rif a ddewisir y flwyddyn gyntaf, ond teiml- ant yn aml y dylid newid y testun er mwyn y lleill yr ail flwyddyn. Nid diffyg trefn na mympwy mo hyn, ond brawdgarwch caredig ac annwyl. 0 fewn terfynau, y dosbarth sy'n dewis eu hathro, a'r anhawster yw cael athro 0 gwbl a all ddod â'r Brifysgol i gyrraedd ambell ardal wledig. Y mae'n wyrthiol bron fod yng Nghymru heddiw gynifer o athrawon galluog o fewn cyrraedd ardaloedd anghys- bell, ond y mae o leiaf ddau neu dri dos- barth na ddylid o gwbl eu hanwybyddu, heb athro eleni. Y gweinidogion. Er mai tyrru i drefi'r gwastadedd y mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr y Brifysgol, y mae'r barchus ac arswydus swydd o fugeilio eglwysi gwledig Cymru yn rîal i ddenu rhai o'r goreuon, ac y mae'r dosbarthau'n gweld eu gwerth. Nid y dosbarth yn unig sydd wedi manteisio ar y gweinidog fel athro. Cafodd Cymru rai llyfrau gwerthfawr o ganlyniad. Un o'r rhai cyntaf oedd Hanes Gicareiddiad, gan y Parch. G. A. Edwards, ac y mae eu nifer yn cynyddu bob blwyddyn Dewisir yr athro, nid am ei fod yn eglwyswr, nac yn ymneilltuwr, nac am ei fod yn addoli wrth allor y duw nid adwaenir, ond am ei gymhwyster i'r gwaith. Cofiwn mai dosbarth dros dymor yw'r rhan fwyaf o lawer o'r dosbarthau, ac oherwydd hyn nid oes fawr o berygl i nac athro nac un dyn arall athrawiacthu nac awdurdodi ar neb yn hir. A oes ar Gymru ofn Llenyddiaeth y Testament Newydd heddiw? Efallai na fwriadwyd 1 fudiad aaaysg y rhai mewn oed gynorth- wyo gwaith yr eglwysi, ond a fedr ef beidio os yw'r eglwys yr hyn y dylai fod? Gwaith ac amcan y Gym- deithas yw dwyn gweithwyr i gyrraedd addysg uchaf ein gwlad heb iddynt orfod gadael eu gorchwylion beu- nyddiol, ac y mae'n rhaid chwilio am athro o fewn cyrraedd. Gwneir hyn gyda chynorthwy'r myfyrwyr eu hunain trwy chwilio am ysgolheigion disglair y Brif- ysgol yn y mannau mwyaf eyfleus i ofalu am y gwa- hanol ddosbarthau. Gwyliwn rhag llygadrythu ar y peryglon sydd ar y gorwel nes parlysu ein gallu i ymgryfhau trwy ddefn- yddio breintiau addysg wrth ein dôr. Gwlad ddiwylliedig. Gorfoledda un o newyddiaduron pwysicaf Lloegr: Girls and youths in some of the mills have formed groups to study religious problems, meeting generally in the canteen or warehouse during the dinner-hour. This is one of the results of the recent campaign iu the district by Cambridge University students. Nid oes eisiau ymgyrch yng Nghymru i waith fel hyn. Ond efallai nad ydym eto wedi sylweddoli bod y Brifysgol a'r Gym- deithas Addysg yn dawel yn gwneud yng Nghymru heddiw beth y credem 20 mlynedd yn ôl yn amhosibl-sef dod â'r enwadau ynghyd i gyd-astudio a deall gwirioneddau dyfnaf diwinyddiaeth. Er ein mwyn ein hunain fel cenedl fechan yn y byd rhyfedd hwn heddiw, sydd fel pe bai ar ymylon rhyw ddibyn erchyll, trown ein hegnïon i godi gwerin ddiwylliedig fyddo'n deall cyfrifoldeb cenhedloedd y byd tuag at ei gilydd.