Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Byd y Ddrama. RHYS PUW Y MAE'N dda gennyf fedru hysbysu ffrindiau'r ddrama yng Nghymru am symudiad newydd gwerthfawr. Fe' wyddoch ei bod yn arferiad cy- hoeddi'r Eisteddfod Genedlaethol flwyddyn ym mlaen llaw; ac eleni, yn yr wythnos gyntaf neu'r ail wythnos o Orffen- naf, fe welir Gorsedd y Beirdd yn gorym- daith tua Wrecsam i gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 1933. Digwyddiad un prynhawn ydyw hyn, gyda chyngerdd, fel arfer, yn yr hwyr. Ond y mae Pwyllgor Drama Wrecsam wedi taro ar y syniad gwych o wneud yr holl wythnos honno yn Wyl Ddrama. Dyma ymgais i gychwyn peth newydd yn hanes yr Eistedd- fod Genedlaethol, ac os ceir brwdfrydedd y tro hwn, y mae'n fwy na thebyg y bydd Gŵyl Ddrama'r Cyhoeddi yn ddigwyddiad blynyddol, er mawr les i'r ddrama. Nid cystadlu. Nid cystadleuaeth y bwriada Pwyllgor Wrecsam iddi fod, ond gẃyl. Disgwylir cael pigion y cwmnïau drama i berfformio, ac fe geir gŵr cyfarwydd, mae'n debyg, i siarad am ryw bum munud ar ôl pob per- fformiad, yn symio i fyny y gwaith,- ond nid beimiadu y bydd, h.y., nid cym- haru'r cwmnïau â'i gilydd a'u dosbarthu, ond eu hyfforddi hwy a'r gwrandawyr ar linellau cyffredinol. Clywais ei bod yn bosibl y rhoddir tarian am y perfformiad arbenicaf o ddrama hir, a tharian arall am y perfformiad arbenicaf o ddrama fer, ond ni allaf roddi sicrwydd am hyn. Ond credaf fod sicrwydd y rhoddir tystysgrifau clod gan yr Wyl i'r cwmniau. Ysgol a chynhadledd. Y mae Undeb Drama Gogledd Cymru eisoes wedi rhoddi ei fendith yn swyddogol i'r symudiad, ac fe geir ei gyd-weithrediad eiddgaraf. Disgwylir y bydd ffyddloniaid y Dê hefyd yn rhoddi nerth braich ac ysbryd i'r syniad. Nid wythnos o actio dramâu yn unig fydd hi. Bwriedir cael ysgol ddrama a chynad- leddau ynglyn â hi, fel y bo hi'n gyfle ar- bennig i holl weithwyr y maes drama ddyfod ynghyd ac adnabod ei gilydd, dysgu gan y bobl fwyaf priodol, ac efallai glywed recital gan rhyw seren neu'i gilydd. Yn fyr, gobeithir i'r wythnos hon fod yn rally gofiadwy i'r egnïon drama sydd yng Nghymru, ac yn ffynhonnell gwir ysbrydiaeth iddynt. Yng nghanol cyd-weithwyr. Meddyliwch am y cyfle a rydd yr wyl hon i'r cwmnÏau a ddewisir i berfformio yng nghystadleuaeth derfynol yr Eisteddfod Gwyl. Ddrama Genedlaethol GAN Genedlaethol ym Mhort Talbot ym mis Awst nesaf. Cânt gyfle i berfformio dramâu ger bron y cyhoedd fis union cyn y gystad- leuaeth de rfynol. Hefyd, dyna gyfle i'r cwmniau fu'n gweithio'n ddygn ar gyfer Port Talbot ond na ddewisir i actio yno wythnos yr Eisteddfod, i roddi perfformiad cyhoeddus o'u gwaith mewn gŵyl lle y cânt y sylw dyladwy, a chydymdeimlad a chefn- ogaeth cyd-weithwyr. Yr' wyf yn wir yn diolch i Bwyllgor Wrecsam am yr yingais brisfawr hon o blaid y ddrama, ac yn eu llongyfarch. Wrth gwrs, fe ddibynna popeth ar y gefnogaeth a gânt gan gwmnïau a charedigion y ddrama ledled y wlad. ond yr wyf yn gobeithio y bydd yr Wyl yn un ddisglair, ac anogaf bawb sy'n cymryd diddordeb i ysgrifennu'n ddiymdroi at ysgrifennydd y Pwyllgor Drama-Mr. W. R. Williams. 20, Cilcen Grove. Acton. Wrecsam. Gwaith yr Eisteddfod. Ni wn pa Ie y mae pwyllgor Wrecsam arni ar ei waith ar gyfer yr eisteddfod ei hun, ond, gan obeithio fy mod mewn pryd i ymresymu â hwynt, mi ddywedaf air neu ddau o brofiad. Mae'r Ddrama erbyn hyn wedi hel at ei gilydd ei chynulleidfa ei hun. Profiad pob Pwyllgor Drama yn yr Eis- teddfod Genedlaethol ydyw dyfod, yn hwyr neu hwvrach, i wrthdarawiad â'r Pwyllgor Cerdd! Fel rheol, ofna'r cerddorion y bydd y eynulleidfaoedd a â i wrando'r ddrama yn tynnu oddi wrth gynulliadau'r Pafiliwn, ac o ganlyniad y gwneir drwg i'r cyngherddau. Eithr nid felly! Daw cannoedd i'r Eistedd- fod i wrando'r Ddrama-yn un pwrpas i wrando'r ddrama. Ni fuasent yn dod o gwbl onibai amdani hi. Nid ydyw chwaraedy llawn a phafiliwn gwag yn unrhyw brawf fod y naill yn achosi'r llall. A chan mai i'r un pwrs yr â'r holl dderbyniadau nid wyf i erioed wedi deall paham yr ofnir i'r ddrama droi yn fath ar wrthdyniad. Atdyniad ychwanegol i'r Eisteddfod ydyw-yn chwanegu at yr hyn sydd ynddi i ddenu cynulleidfaoedd, nid tynnu oddi wrthynt. Pafiliwn drama? Anhawster mawr pob pwyllgor ydyw problem theatr. Fe dalodd Eisteddfod Genedlaethol Bangor y llynedd £ 150 o rent am y County Theatre am yr wythnos a thalodd yn dda iddynt. Cafwyd cynulliad da nos Lun, ac yr oedd y lle yn orlawn weddill yr wythnos--degau lawer yn methu cael lle. Yr un modd yn Lerpwl. Nid oedd y Crane Hall agos ddigon o faint i ddal y rhai oedd eisiau lIe. Yn y mannau lle nad oes theatr a honno yn un hwylus, a digon o faint--credaf fod yr amser wedi dod i godi adeilad dros dro," tebyg o ran egwyddor i'r pafiliwn mawr a godir ar gyfer yr ŵyl. Fe geid felly theatr y gellid ei symud-o fan^i fan gyda'r Eisteddfod. u Y mae chwaraedy gwael yn milwrio yn erbyn cael cwmni'au da i berfformio. Pa eisteddfod tybed, fydd y gyntaf i dorri tir newydd yn hyn o beth? Wrecsam, ai chwychwi? Y cystadleuon actio. i Credaf mai gwell bob amser ydyw gadael y cystadleuon actio i gyd yn agored, h.y., perfformio unrhyw ddrama. Os nodir drama, anodd llenwi'r theatr nos ar ôl nos i weled yr un peth. Ond da fyddai rhoddi cystadleuaeth actio i blant dan 18 oed-un- rhyw ddrama un act. Drama un-act. Nid wyf yn gwybod paham, ond yn ystod blynyddau diweddar methiant ydyw cystad- leuaeth actio drama un act wedi bod. Fe ddisgwyliech mai fel arall y byddai-, ddrama fawr yn fethiant, a'r ddrama fach yn llwyddo. Ond nid felly. Ar y llaw arall, mae dramâu un act Eis- teddfod yr Urdd yn rhyfeddol o dda. Dysgir y plant yn yr ysgolion, a cheir safon ucheL Dyna paham y tueddir fi i awgrymu newid cystadleuaeth y ddrama un act am ddrama i rai dan 18 oed (oed yr Urdd). Os carai pwyllgor wneud mwy o bres, gellid cadw y ddrama un act i rai mewn oed; a chynnal y gystadleuaeth i'r plant yn j prynhawn. Mentro mwy. Fe dalodd y ddrama ym Mangor y llynedd yn well na dim, a sicrheir fi gan rai sy'n gwybod y talsai yn well byth pe bai'r pwyll- gor wedi mentro mwy. Fe ddylid cael recital ar brynhawn o'r wyl gan Miss Gwen Ffrancon Davies neu rywun tebyg. Fe fyddai'n dda i ni yng Nghymru ymgydna- byddu ag actio o'r safon uchaf posibl, a'r Eisteddfod ydyw ein hunig siawns. Fe ddylid hefyd gael cwmni dethol pigion o oreugwyr y Gogledd neu'r Dê-i berfformio drama safonol. Rhyw gychwyn i gwmni cenedlaethol a fyddai hwn. Drama newydd. Deallaf fod drama Cynan, Hywel Harris," bron dyfod allan o'r wasg. Y mae disgwyl mawr amdani. Cynan ydyw sensor dramâu Cymraeg. Tybed a sensrodd ef ei ddrama'i hun? Neu a ddylai'r Arglwydd Siamrlaen yn Llundain gael rhywun arall i sensro'r sensor?! Drama fach (un act) a ddarllenais yn ddi- weddar ydyw Lluest y Bwci," gan D. Mathew Williams. Cyhoeddir hi gan Wasg Aberystwyth, ond nid wyf yn sicr o'r pris- tua swllt, mae'n debyg. Yn nhafodiaith Sir Aberteifi y mae hi, a cheir ynddi ddrychiolaeth yn dychryn dau hen greadur doniol mewn tafarn. Y mae eisiau rhagor o ddramau byrion yn Gym- raeg.