Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PAN oedd y cenhedloedd duon yn herwa hyd y glannau, yn yr wythfed a'r nawfed ganrif, byddai eu hofn ar lawer yn Iwerddon a Chymru. Un noswaith ystormus, meddai'r Athro T. Gwynn Jones yn Awen y Gwyddyl, gwrandawai rhyw hen fynach Gwyddelig ar vu'r gwynt, a chollodd ei ofn am y nos honno. Gwnaeth bennill bach, a'i ysgrif- ennu ar ymyl dalen llyfr Chwerw ei rhu yw'r chwa'r awr hon, Rhwyga wyn wallt yr eigion;- Trwy y dwfn nid rhaid ofni Gwŷr Llychlyn i'n herbyn ni! Gwewyr a chyffro. Y Vikings oedd y cenhedloedd duon hyn a dywed Mr. Timothy Lewis, Coleg Aber- ystwyth, yn ei lyfr newydd, Mabinogi Cymru (Gwasg y Fwynant, Aberystwyth, pris 10s. 6d.): Nid yn unig heigiai'r Vikings i lawr i draethau Cymru-traethau sydd ag enwau'r Vikings hyd heddiw ar bob milltir o ` Borth Caer hyd Borth Ysgewin,' eithr heidiai gwyr y traethau hyn i fyny i'r Gogledd hefyd. Yr oedd gwewyr a chyffro ymhob man yma-ae achos da am hynny." Hanes, nid chwedlau. Y mae llyfr Mr. Lewis yn trin Mabinogi Cymru o safbwynt hollol newydd fel hanes yn lle fel chwedlau. Gwyddom oll am y storïau-Pwyll Pendefig Dyfed, Branwen ferch Llyr, Math fab Mathonwy, a Manwydan. Y duedd hyd yn hyn fu ystyried bod deunydd y chwedlau yn mynd yn ôl i gyfddydd pell ein geni paganaidd, ac mai cysgod duwiau ydyw'r cymeriadau. Y diweddar Syr John Bhys, prifathro Coleg Iesu, Rhydychen, oedd yn gyfrifol am gadarnhau'r gred hon mai hen dduwiau ydyw pobl y Mabinogion. Dywed Mr. Timothy Lewis mai Heb dduw heb ddim oedd arwyddair Syr John. Ein diwylliant o Uffern 0 drin y Mabinogi fel chwedloniaeth," meddai, gellir galw duwiau i mewn, neu droi dynion yn dduwiau, neu droi dynion a duwiau yn dduwiesau, a pheri iddynt chwarae â natur fel y tybir weithiau fod y duwiau^ yn ei thrin ymhell bell yn ôl. Y mae'r esbonwyr sy'n gweithio ar hyd y llwybr hwn yn annibynnol ar amser, a Ihrefn, a gallu dyn." Pe bai degwm y dyfaliadau am y Mabinogi a Llyfr Taliesin yn wir, meddai Mr. Lewis, fe fyddai'n rhaid i Gymro ddweud mai uffern ydoedd nefoedd ei hendud ef, ac mai o'r pwll diwaelod y cawsid prifiau diwylliant Cymru." Ac meddai ymhellach Darllen y dyfaliadau hyn, ond odid, barodd i Dr. Douglas Bruce lefain yn ei ing fod gan bob Cymro ddigon o ddychymyg i hanner cant o feirdd, heb ddigon o synnwyr i un. CYMRU'N CONCRO'R CENHEDLOEDD DUON Y Mabinogion mewn goleuni newydd Yn wir yn wir, nid o dryblith felly y codasai Cymrii dylyaidd gynt. Yr oedd ei meddwl hi yn rhy braff, a'i llygad hi yn rhy olau i fod yn etifeddes afagddu. Nid mewn byd lle yr oedd duw yn unlliw â diawl tyfasai hi yn genedl dywysogaidd. Chwilier ei hanes o fryniau halen Hallstadt hyd draeth heli Aran More, ac ni cheir lled troed yn y teirmil blynyddoedd hynny pan na wyddai r Celt ragor rhwng ei nefoedd a'i uffern. Gwelir yfory mai chwarae â rhyw deganau bach o dduwiau y buwyd am ganrifoedd, yn lle chwilio i hen draddodiadau mawr yr hen genedl fu a'i Derwyddon yn enwog ymhell cyn Cred, a'i hathroniaeth a'i chrefydd yn ddihareb. Beth sy gan Mr. Timothy Lewis i'w gyn- nig yn lle'r hen ddyfaliadau hynny? Hyn: -fod y Mabinogi yn hanes dilys ymdrech fawr lwyddiannus Cymry vn erbyn y Vikings (800-1100). Y llongeidiau anwar. Syller bellach," meddai, ar y Mabinogi yn tyfu o ymdrech Cymru wâr yn erbyn llongeidiau anwar y Gogledd oer ddeg canrif yn ol. Pa Gymro na lawen- ycha wrth weld concwest Cymru ar epil Dan a Don, a phwy na orfoledda wrth weld henog Dyfed yn ysgrifennu hanes y Llyfrau Bwrdd Gwasg y Brifysgol YN ystod y deufis neu dri diwethaf y mae Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru (Caer- dydd) wedi cyhoeddi amryw lyfrau sy'n hynod werthfawr i astudwyr llenyddiaeth Gymraeg a hanes Cymru. Dyma rai ohonynt: Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg, gan yr Athro J. Lloyd Jones, Dulyn. Rhan I. (A hyd Cacrawc). Pris 12s. 6c., neu 10s. i danysgrifwyr. Gwnaethpwyd y llyfr hwn ar yr un dull a Dictionary of the Irish Language (Marstrander) ac y mae'n dangos ôl Ilafur a manyldra mawr. Llawysgrif Richard Morris o Gerddi, wedi cu golygu gan yr Athro T. H. Parry- Williams. Pris 7s. 6c. Dyma'r casgliad gorau liyd yn hyn (yn wir efallai'r unig gasgliad o werth) o'r hen gerddi gwlad-y cerddi gwasael, cerddi gwirod, cerddi Mari Lwyd, êtc, oedd mor gyffredin yng Nghymru gynt. Argraffiad ysgolheigaidd vdyw, ac yn cadw yn fanwl at orgraff ìlichard Morris (tua 1730). Daeth tri llyfr allan yng Nghyfres y Brif- ysgol a'r Werin yn ddiweddar: Diwydiant a Masnach Cymru Heddiw, gan J. Morgan Rees. Y Tir a'i Gynnyrch, gan R. Alun Roberts. Yr Hen Destament, gan yr Athro Thos. Lewis. Hanner coron yr un ydyw'r tri. Croes- awaf Y Tir a'i Gynnyrch yn arbennig. O 'r holl lyfrau ar economeg sydd yn v gyfres lion, dyma'r unig un sy mewn gwirionedd yn siarad Cymraeg. Deallaf mai cael ei goncwest honno mewn Mabinogi gotìr tra bo Cymro yn cofio dim? Agor llwybrau. Ac ymlaen â Mr. Lewis i ysgrifennu llyfr sy'n dangos gwybodaeth enfawr am fywyd cymdeithasol Cymru gynt ac am Gymraeg Canol (er iddo ef ei hun ddweud mai y gwir yw-na wyr neb onid y peth nesaf i ddim am gynnwys Cymraeg y Canol Oesoedd "). Yn lle ymresymu o'r gair at y peth, y mae Mr. Lewis yn ymresymu o'r peth at y gair. Nid yw'n honni ei fod yn gywir ar bob mân bwynt, ond dyry'r argraff mai agor pennau llwybrau yn unig y mae, a bod ganddo stôr anferth arall o wybodaeth wrth ei benelin. Y mae'n yrnresymu'n gadarn, ac mewn ysbryd iach. Llyfr ar ein hanes ydyw yn hytrach na llyfr ar ein llenyddiaeth. Y mae'n debyg ei fod yn rhy agos atom i neb fedru ei farnu'n iawn ar hyn o bryd, ond y mae'n bosibl y gwêl yr oes nesaf mai dyma un o'r darnau mwyaf nodedig o ymchwil gwreiddiol a wnaethpwyd eto yng Nghymru. J. T. J. gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg a wnaeth llyfr Mr. Morgan Rees, a llyfr Mr. J. M. .Tones ar Economeg Amaethyddiaeth," a llyfr yr Athro W. J. Roberts ar "Economeg. Ond y mae Y Tir a'i Gynnyrch yn llyfr Cymraeg a Chymreig trwyadl. Carwn longyfarch Dr. Roberts arno ac annog pob ffermwr i'w brynu. Yn sicr nid edifarhânt. Buasai map neu ddau o Gymru, un i ddangos gwahaniaeth ansawdd y tir, a'r llall i ddangos pwy biau'r tir (map landlordiol o Gvmru!) vn vchwanegiadau diddorol. E. W. PERSONOLIAETH. PERSONALITY, its nature, its opcration, and its dcvelopmcnt. By J. Louis Orton. Thorsons, 5s. Fe gaiff cantorion ac areithwyr Cymru lawer o oleuni yn y llyfr hwn ar y ffordd sy'n arwain i lwyddiant. Beth ydyw per- sonoliaeth, y naws rhyfedd hwnnw sy'n gwneud y fath wahaniaeth rhwng datganiad neu araith un gŵ'r neu wraig a datganiad neu araith gŵr neu wraig arall Ceisio chwilio i mewn i'r pwnc yma, mewn dull eithaf darllenadwy, y mae awdur y llyfr hwn. Y mae ganddo benodau ar Seiliau Llais," Lleferydd a Gwneud Areithiau," Meithrin y Llais," Cymer- iad ac Amcan," ac amryw agweddau defn- yddiol eraill ar y pwnc, ac y mae mewn gwirionedd yn cyffwrdd gwreiddyn y mater.