Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Twf Llenyddiaeth Cymru, X. BEIRDD Y LLYFRGELL Daú ysgolhaig oedd Edward Richard \a leuan Fardd, a'r ddau o Sir Aberteifi. Fe ganodd y naill yn ber o noddfa'i lyfrgell. Fe osododd y llall sylfeini ysgolheictod Gymraeg. YMAE canolfan ail ran y mudiad clasurol yng Nghymru yn symud o Sir Fôn i Sir Aberteifi, a chylch dylanwad Lewis Morris a'i frodyr yn lledu a ffrwythloni. Nid yw beirdd Aberteifi mor enwog nac mor doreithiog â'u'cyfoeswyr o Fôn, ond tybiaf mai iawn yw dweud bod eu dysg a'u diwylliant yn fwy ysgol- heigaidd. Ysgolheigion yn hytrach na beirdd oedd gwyr Aberteifi yn y bôn, ac fe gollir grym a newydd-deb y Morrisiaid, a cheir yn eu lle fyfyrdod a thawelwch y Hyfrgell. Ganed Edward Bichard yn Ystrad Meurig yn 1714, ac yno, heb fawr grwydro oddi yno, y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Ychydig a wyddom am ei fywyd cynnar. Teiliwr a thafarnwr oedd ei dad ac ni sonia'r bardd fawr amdano, ond yn ei gerdd gyntaf cawn ddarlun o'i fam. Bu ei frawd hynaf yn Rhydychen a daeth yn ôl yn ysgolfeistr i Ystrad Meurig, ac yno, ganddo ef, y dysgodd Edward Richard ei Roeg a'i Ladin, er iddo fyned i ym- berffeithio i Ysgol Ramadegol Caerfyrddin. Yn 1736 pan oedd yn 22 oed daeth yn ôl i'w bentre yn athro ar yr ysgol, ac yno y bu'n dysgu trwy gydol ei oes hyd 1777. Ganed Evan Evans (neu Ieuan Fardd ac Offeiriad, neu Ieuan Brydydd Hir) yn 1731 ym mhlwyf Lledrod, yn Sir Aberteifi, ac addysgwyd ef yn Ystrad Meurig gan Edward Richard. Yn ddiweddarach bu yng Ngholeg Merton, Rhyd- ychen (1751) ond bu raid iddo adael y brifysgol heb raddio, mae'n debyg am nad oedd ganddo'r modd i aros yno'n hwy. Urddwyd ef yn offeiriad yn Eglwys Lloegr, ac fe'i cawn yn gurad mewn gwahanol rannau o Gymru a Lloegr, Sir Aberteifi, Sir Kent, Sir Ddinbych a Sir Fynwy. Yr oedd yn gyfaill i'r Morrisiaid ac i Oronwy Owen ac eraill o feirdd Cymraeg ei gyfnod, yn fardd, hynafieithydd ac ysgolor ac, fel y ceir gweled, yr oedd ei ddylan- wad ar ei gyfoeswyr yn Lloegr a Chymru yn fawr a phwysig. Yn wir, nid yw'n ormod dilyn ysgolheictod Gymreig yn 61 iddo, canys ef, yn anad neb, a ddechreuodd astudiaeth fanwl a gofalus hen farddoniaeth Cymru. Bu farw yn 17sf yn ei hen gartre, y Gynhawdref, Lledrod, a chladdwyd ef ym mynwent Lledrod, er nad oes faen i ddangos ym mha Ie. Gwelodd farw ei hen athro Edward Richard, a'i gyfeillion Lewis Morris a William Morris, a marwnadodd iddynt. Gwelodd ddechreuad oes o farddoniaeth newydd yn Lloegr a Chymru, ac y mae ei waith yntau yn rhyw flaenffrwyth ohoni. EDWARD RICHARD. (ĵ HOLL feirdd y ddeunawfed ganrif, Edward Richard yw'r un oedd agosaf o ran ysbryd i'r mudiad clasurol oedd mewn bri yn Lloegr ac ar y cyfandir yn yr oes honno. Gallwn ddychmygu ei weld yn darllen Theocritus, Fersil a Horas bob dydd, gan bigo yn awr ac yn y man i weithiau gwyr enwocaf Lloegr yn ei ddydd-Pope ac Addison, neu weithiau Spenser a Milton. Heblaw'r awduron hyn, gwyddom oddi wrth ei waith a'i lythyrau a rhestr a wnaeth o'r llyfrau oedd yn ei lyfrgell iddo ddarllen gwaith rhai o feirniaid poblogaidd yr oes. Bywyd tawel, digyffro oedd ei fywyd ef, wedi'i fyw ymhlith gwladwyr ei fro ei hun, a'u bywyd a'u helyntion hwy a roddodd yn ei farddoniaeth. Ond nid eu bywyd hwy oedd yr hyn a'i cynhyrfodd i sgrifennu am danynt. Yn hytrach i'r gwrthwyneb-ei astudiaeth o weithiau beirdd eraill oedd ei symbyliad, a myfyrdod gŵr yn encilio oddi wrth ruthr a symudiad bÿwyd yw ei waith. Ychydig iawn o'i waith sydd ar gael. Ysgrifennodd yn y mesurau caeth pan oedd yn llanc, ond nid oes dim yn aros. Efallai iddo eu dinistrio oll am nad oeddent yn ddigon caboledig a gofalus. Y Bugeilgerddi. Ei brif waith oedd ei Fugeilgerddi, ac o ddarllen ei lythyrau gellir gweled mor ofalus ydoedd am eu iaith a'u dull; mor fanwl yr astudiodd ei batrymau ac mor drwyadl y dilynodd y canonau rhagosodedig. Nid oedd yn bwriadu gwneuthur math newydd ar ganu. Er iddo roddi newydd- deb yn ei ganiadau, dilynwr hen batrymau oedd, ond yr oedd ei ddawn farddonol yn ddigon i'w achub rhag bod yn ddim ond efelychwr. Yn ei Fugeilgerdd gyntaf, sydd hefyd yn Farwnad i'w fam, cawn Gruffydd a Meurig yn ymddiddan ynghyd. Gwêl Gruffydd ei gydnabod, Meurig, yn dod ato'n fawr ei drafferth a cheisia ddeall achos ei drueni. A laddodd y bleiddiaid yn ddifwyn dy ddefaid Neu a giliodd dy goelaid, loer gannaid, o'i 1e? O'r ŵyn aeth i Frwyno, 'does un nad oes yno Pob un ar a grwydro geir adre. Ond nid ei braidd oedd achos tristwch Meurig ond colli Gwenllian: Fy nyddiau'n anniddan a'n 011 o hyn allan, Gosodwyd Gwenllian mewn graean a gro. ac oddi wrth hyn â Meurig ymlaen i fyfyrio ar freuder einioes, a chawn y pennill adna- byddus sy'n llawn o fwynder tristwch clasurol y bardd: Fy nydd sydd yn nyddu yn fanwl i fyny A'r nos sydd yn nesu i roi'n isel fy mhen, Ac un nid oes genny', er wylo ar oer wely, Pan fo im glafychu, glyw f'ochen. A'r ddadl ymlaen rhwng y ddau fugail, ac o'r diwedd cawn Gruffydd yn gwahodd Meurig i aros gydag ef Mae'n bwrw yng Nghwmberwyn a'r cysgod yn estyn, Gwna heno fy mwthyn yn derfyn dy daith, Cei fara a chawl erfin iachusol a chosyn A menyn o'r enwyn ar unwaith. Mae mwynder y penillion hyn yn esiampl dda o holl waith Edward Richard. Gellir, o'u darllen, ddychmygu'r gŵr tawel myfyriol a'u hysgrifennodd: gŵr yn derbyn bywyd fel y deuai, yn gweld digrifwch yma ac acw ac yn sgrifennu pennill lawn hiwmor amdano, weithiau'n pigo beiau ond heb eu ceryddu'n rhy lym, yn cael mwy o bleser mewn geiriau nag mewn natur ac mewn llyfrau nag mewn dynion. Gan EDWARD FRANCIS. Y mae rhywbeth cryno, trefnus yn holl waith y bardd. Y mae popeth yn orffen- edig ac yn ei Ie, ac mewn un englyn ysgrif- ennodd un o farwnadau gwychaf Cymru, sydd yn dangos perffeithrwydd ei ddull tawel, di-stwr. Ei Farwnad Plentyn yw'r englyn hwnnw: Trallodau, beiau bywyd-ni welais, Nac wylwch o'm plegyd; Wyf iach o bob afiechyd Ac yn fy medd, gwyn fy myd. Beirniad da. Heblaw ei fod yn fardd, yr oedd Edward Richard yn feirniad da hefyd, ac yn ei lythyrau at Ieuan Brydydd Hir a'r Morrisiaid cawn ef yn trin damcaniaethau llenorion ei oes a phroblemau barddoniaeth Gymraeg, a gallwn weled yr un ysbryd rheolaidd a rhesymegol yn treiddio trwvddvnt. Arwydd ysgolheictod yn Sir Aberteifi 200 mlynedd yn 01. Yr Academi, Neuadd-Iwyd. IEUAN BRYDYDD HIR. Fel y gellid disgwyl gan ddisgybl i Edward Richard, chwaraeodd clasuron Groeg a Rhufain ran helaeth yn addysg Evan Evans, Ieuan Fardd, ac fe ysgrifen- nodd un o'i weithiau pwysicaf ar yr hen feirdd Cymreig yn Lladin, a chyfieithodd o'r ddwy iaith ac o'r Saesneg. Pan oedd yn llanc yn Rhydychen cawn ef yn cyfansoddi barddoniaeth Ladin ac yn cyfieithu Horas i Gymraeg, ond, beth sydd bwysicach, cawn ef hefyd wedi darganfod Dafydd ap Gwilym ac yn ceisio ei efelychu. Er trymed dylanwad Groeg a Rhufain arno, y dylanwad terfynol a phwysig oedd gwaith y beirdd Cymreig, o'r cynfeirdd hyd' at William Lleyn. Pan oedd eto yn Rhyd- ychen, pwysai Lewis Morris arno i gopïo yr hen lawysgrifau Cymreig oedd yn y llyfr- gelloedd yno, ac o dipyn i beth gwelwn ei ddiddordeb yng ngwaith cynnar Cymru yn mynd yn gryfach, gryfach, a'i wybodaeth yntau a'i ysgolheictod yn cynyddu ac aedd- fedu. ÍTrosodd.