Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DADL MANCEINION YN ERBYN LERPWL. Gan HENRY ARTHUR JONES. COLLODD Manceinion ei dinesydd mwyaf, a'r byd un o'i gewri, ym marw C. P. Scott. DylanwwâoMjj yn lawr, trwy ei newydditàifr enwog. ar feddwl Cymru, a bu yn dŵr cadarn i ddelfrydau gorau y genedl. Ni chyffyrddodd erioed ag un cweijàwn Cymreig heb ei ardderch- ogi, a lleâii gorwelion y Cymry mewn pertbynas iddo. Mr, John Rhys. Bù Mr. John Rhys (Hymyr) yn annercBjCymdeithas y Ddraig Goch ar Bellí A allwn ei wneuthur er mwyn Cym0t" Y petà cyntaf a nododd oedd derbyn lleàyddiaeth gyfnodol a chyfrannu ysgrifau o amrywiol nodwedd i'r lenydd- iaeth honno. Yn ail, gan mai crefyddol. oedd anianawd y Cymro, anogai ei wrandawyr i fynnu argyhoeddiadau dyfnion ar athrawiaethau crefydd. Ni ellid hynny heb lafur meddyliol caled. Yn drydydd, bod yn Gymry ymhob man ac ar bob achlysur, fel y deuai cen- hedloedd eraill i adnabod nodweddion y genedl ar amrantiad. Rhoddwyd perfformiad effeithiol o'r ddrama Bechgyn y Colega Ma' (D. R. Jones), gan gwmni drama Heywood St., nos Calan. Y Ddadl. Aeth cynrychiolaeth dda o Gymdeith- as Genedlaethol Cymry Manceinion, i Lerpwl, nos Wener, Ionawr 15, i gyfar- fod Cymdeithas Genedlaethol Gymreig Lerpwl, mewn dadl, ar y testun-"Fod Llên ac Addysg Cymru er y 18 ganrif yn fwy dyledus i'r Cymry ar Wasgar nag i'r Cymry gartref." Agorwyd o blaid y cynnig gan Mr. J. Llew. Jones (Manceinion) a Mrs. Francis Williams (Lerpwl). Arwein- iwyd yn erbyn y cynnig gan y Parch. W. A. Lewis (Lerpwl) a Mr. J. Ceinionydd Roberts (Manceinion). Croesawyd y dieithriaid yn hapus iawn gan y Llywydd (Mr. H. Humphreys Jones) a Mr. R. Vaughan Jones, Ysgrifennydd Cymdeithas Lerpwl. Yr oedd yr areithiau ar y naill ochr â'r Hall yn gryfion a brwd, ac yn arwyddo meistrolaeth lwyr ar y mater. Yn y bleidlais ar y terfyn cafwyd mwyafrif o blaid cyfraniad y Cymry ar Wasgar. Y mae Cymdeithas Lerpwl i dalu'r pwyth yn 61 ym Manceininon y tymor nesaf. CYMDEITHAS OLDHAM. Gan JOHN ROBERTS. CYNHALIODD y Gymdeithas gyfarfod nos Wener, Ionawr 8, 1932, pryd y cafwyd anerch- iadau gan y Parch. Idris G. Jones ar Henry Richard," a chan Mr. Joseph Hesketh ar Robert Owen." Cadeir- ydd y cyfarfod ydoedd Mr. Glyn Thomas. Daeth cynulliad da, a mwynhawyd hanes yr arwyr hyn yn fawr. Diolch- wyd gan Mr. Percy 0. Jones a Mr. John Hughes. Mae'n hyfrydwch gweled y diddor- deb a gymerir yng ngwaith y Gym- deithas mewn tref fel Oldham, a'r gefnogaeth a roddir i'r cyfarfodydd gan yr aelodau. Bydd y Parch. Edward Owen a Mr. Percy Ogwen Jones yn annerch y Gymdeithas y mis nesaf; ac yna bydd pawb yn edrych ymlaen at Ginio Gŵyl Ddewi sydd i ddigwydd ar y 4 0 Fawrth. Y DDWY HAEN OGYMRY LLUNDAIN DAW ton ar ôl ton o Gymry ieuainc i Lundain bob blwyddyn, a'u Cymraeg yn loyw. Yno deuant wyneb yn wyneb â Chymry ieuainc a fagwyd yn y ddinas, a'u Cymraeg heb fod yn rhwydd ond â'u calonnau Cymreig yn curo'n gynnes. Sut y mae asio'r ddwy elfen? Dyna un o broblemau Cymry Llundain. V MAE dau anhawster mawr ynglýn â'r bywyd Cymreig yn y Brifddinas. Cyfyd un o'r dylifiad ieuenctid o Gymru: bechgyn a merched yn dyfod o'r ardaloedd gwledig i gadw i fyny'r traddodiad Cym- reig yn y fasnach laeth, a llu mawr o blant yr ysgolion canol a'r Brifysgol a ddaw i fod yn athrawon neu i weithio yn swyddfeydd y Llywod- raeth a chwmnîau masnachol. Wedi cyrraedd yma ymuna'r mwyaf- rif â'r Eglwysi Cymreig a buan y deuant i wybod bod haen arail o ieu- enctid yma plant wedi eu geni a'u magu yn Llundain, rhai ohonynt yn rhugl yn y Gymraeg ond y mwyafrif mawr, er yn dymuno aros yn y cylch Cymreig, yn ami heb fedru fawr o'r hen iaith. Croesawu a mwynhau. Yr anhawster ydyw asio'r rhai hyn yn ei gilydd a gwneir ymgais dda at hynny gan yr eglwysi trwy eu trefn- iadau Cymdeithasau a chan Gymdeith- as y Cymry Ifainc. Amcanu at hyn hefyd a wna'r Cym- deithasau Diwylliadol wrth drefnu Cartref Oddicartref yn y gwahanol eglwysi tua'r Nadolig a bu gryn hwyl ym mhob lle ar groesawu a mwynhau; y Cymry a anwyd yma yn gwneuthur eu gorau i fwrw hiraeth o galonnau eu cymrodyr o'r hen wlad. Ceir hefyd bod mwyafrif o'r Cym- deithasau yn cynnal un cyfarfod arben- nig yn ystod y tymor i groesawu newydd-ddyfodiaid y deuddeng mis, a thrwy y trefniadau hyn daw rhywbeth tebyg i asio, er, wrth gwrs. na all fod yn gyflawn. Yr iaith. Anhawster arall ydyw pwnc yr iaith ymhlith plant Cymry Llundain, ond y mae hwn wedi dyfod yn broblem bellach mewn rhai ardaloedd yng Nghymru. Gwneir yma ymdrech deg yn yr Eglwysi a'r Ysgolion Sul i ddysgu'r Gymraeg, a chynhelir dosbarthiadau at y pwrpas a threfnu arholiadau, ond prin ydyw'r amser a roddir ac ni ellir dis- gwyl llawer iawn o ffrwyth. Er hynny, y mae'n ffaith bur arwyddocaol-y ceidw y plant hyn eu cysylltiad â'r Eglwysi Cymreig ac y mynychant yr oedfaon, a'u bod, er gweithio mewn cysylltiad parhaus à Gan LLUDD. Saeson, yn llawn cariad at yr hen wlad ac mewn perffaith gydymdeimlad â'i dyheadau. Plant wedi eu geni a'u magu yn y Brifddinas ydyw cadeirydd, ysgrifen- nydd a thrysorydd Cymdeithas y Cymry Ifainc, a phob un ohonynt yn weithgar hefyd yn eu heglwysi. Gwyl Ddewi. Bydd Gŵyl Ddewi wrth y drws cyn y cawn amser i droi bron, ac eisoes gwnaed trefniadau y dathlu. Yn y Cinio Cenedlaethol bydd Mr. Lloyd George a Dr. Ben Davies, y cerddor enwog, yn wyr gwâdd, a Mr. J. B. Sackville Evans, a ddaeth yma dros hanner canrif yn ôl, yn y gadair. Pregethir yn yr Wyl yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul gan Dr. Maurice Jones, Prifathro Coleg Dewi Sant, Llanbedr, ac yng ngwasanaeth yr Eglwysi Ymneillduol yn y Citv Temple gan y Parch. John Thomas, Blaenwaun, a'r Parch. Philip Jones. Porthcawl. Y Cymdeithasau. Bu Undeb y Cymdeithasau a Chym- deithas y Cymry Ieuainc yn dadlau'n frwd y nos o'r blaen Bod bywyd y genedl Gymreig yn dibynnu ar gadwr- aeth yr iaith Gymraeg." Bu'r Prifathro Emrys Evans, o Goleg Bangor, yn annerch Cymdeithas Sir Gaernarfon yn eu Swper Blynyddol, a thalodd wrogaeth uchel i ymdrechion brodorion y sir dros addysg, ac yn en- wedig ar sicrhau teyrngarwch i'r ysbryd Cymreig yn yr ysgolion elfennol a chanol. Diolchai hefyd am gefnog- aeth y sir drwy hanner canrif ei fod- olaeth i Goleg y Brifysgol ym Mangor. EISTEDDFOD DONCASTER. Y MAE Cymry Doncaster, Sir Efrog. yn edrych ymlaen at eu heistedd- fod, sydd i'w chynnal ar y 27 o'r mis hwn. Ymhlith y beirniaid y mae Pedrog, Dr. Caradog Roberts, a Mr. J. Owen Jones. The Voyage" (Dr. T. Hopkin Evans) ydyw'r darn cystadlu i'r corau plant: Hyd fedd hi gâr yn gywir (D. Pughe Evans) i'r unawd soprano neu denor; a Ceisiwch yr Arglwydd (D. D. Parry) i'r unawd contralto neu bariton. Eglwys Gymraeg Gobaith," Doncaster, sydd wrth wraidd yr Eis- teddfod. LERPWL A MR. J. H. JONES. Gan W. EILIAN ROBERTS. MAE'N debyg mai'r digwydd- iad mwyaf diddorol yn hanes Cymry Lerpwl ym mis Ionawr ydoedd y newid a gymerodd Ie yng ngolygyddiaeth y Brython. Wedi dros chwarter canrif o wasanaeth ym- neilltuodd Mr. J. H. Jones a phenod- wyd Mr. Gwilym Jones, oedd yn golygu argraffiad Môn o'r Herald Cymraeg yn ei ie. Enillodd Mr. J. H. Jones barch Cymry'r glannau, a gwnaeth Ie iddo ei hun yn y cylch Cymreig. Yr oedd yn sefyll bob amser yn ddewr dros yr iaith, a phob amser yn elyn ang- hymodlon i Ddic Siôn Dafydd." Disgwyliai'r cylch lawer gan y golyg- ydd newydd. A thra bwyf yn sôn am y byd newyddiadurol, mae amryw o Gymry'r cylch yn disgwyl yn eiddgar am y papur newydd i Gymru sydd i ddod o wasg Wrecsam. Dadlau. Daw Cymry Manceinion yn nes at Gymry Lerpwl, ac onid cyfnerthu ei gilydd a wna'r cydgyfarfod? Yr un yw eu problemau, yr un yr anawsterau. Yn Ionawr, ar aelwyd y Gymdeithas Gen- edlaethol, fe gafwyd Cymry'r ddinas gotwm yn dadlau yn erbyn Cymry Lerpwl ar y pwnc Fod llên ac addysg Cymru er y 18fed ganrif yn fwy dyledus i Gymry ar wasgar nag i'r Cymry gartref." Côr poblogaidd yn ein mysg yw Côr Meibion y Cymric, a daw adeg dathlu Jiwbili'r côr yn agos. Mr. J. T. Jones yw'r arweinydd, ac y mae cyfarfod i ystyried y modd y dethlir yr achlysur eisoes wedi'i gynnal, a diau y clywir am y mater hwn eto yn y dyfodol agos. Ar aelwyd y Gymdeithas yn Bootle croesawyd Mr. William George, Cricieth, a phwnc ei anerchiad ydoedd Y Pentref-rhai o'i bobl a'i bethau." Nos Wener, yr 22 o'r mis, cafwyd cyfarfod sefydlu gweinidog newydd eglwys (M.C.) Douglas Road, sef y Parch. Llewelyn Jones. CYMRU CREWE YN TRIN EIN CERDDORION. Gan R. EMRYS JONES. CAFODD Cymry Crewe noson ddifyr iawn yn ddiweddar dan ofal Mr. D. Haydn Evans, brodor o Llanelli, a Mr. Glyn Williams, brodor o Gaernarfon. Llywydd y noson oedd Mr. T. Salisbury Jones. Darllenwyd papur yn gyntaf gan Mr. Evans ar y testun Miwsig a Cherdd- orion Cymru," a chafwyd briwsion o weithiau rhai o gerddorion yr hen wlad gan y côr, dan ofal Mr. J. Beynon, a chan unawdwyr eraill. Yna cafwyd papur doniol dros ben gan Mr. Glyn Williams ar Hiwmor neu Hwyl a Chân." Pwysai arnom fel Cymry i ddatblygu mwy o hiwmor ac i edrych fwyfwy ar yr ochr ddigrif a doniol. Noswaith arall cafwyd darlith gan y Dr. T. D. Jones, dan lywyddiaeth Mr. John Davies, Crewe. Ei destun oedd GIo," a hawdd deall fod y meddyg yn feistr ar ei waith. Dangosodd inni trwy slides ddat- blygiad gwaith glo, a hefyd ddaeareg y glo. Yr oedd hon yn un o'r nosweithiau mwyaf difyr a gawsom eto. Y mae Dr. Jones yn frodor o Aber- honddu, a'i waith ydyw gwneuthur ym- chwiliadau gwyddonol i nwyon ac yn y blaen yng ngweithfeydd glo Swydd Stafford.