Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BRYN Y FYNWENT i ysbryd, ac ni roddwn yr un gred i'r siarad a'r adrodd amdano. Ofergoeledd ydyw'r cwbl, meddwn. Yn Llangannog y syrthiais mewn cariad am y tro cyntaf. Merch brydferth oedd Morfudd Owain, gyda phleth o'r gwallt duaf a glanaf a welodd neb erioed. Fe ddywedir na roddir dedwyddwch perffaith i ddaear- olion, ond pan edrychwn i yn llygaid Morfudd, a chanfod cariad yn fflachio yn- ddynt, a deall mai myfi oedd gwrthrych y cariad hwnnw, yr oeddwn yn berffaith dded- wydd. Lawer noson y cerddasom, fraich ym mraich, ar hyd hen ffyrdd gwledig Llangan- nog. Dacw ni. Mae'r nos yn dawel a'r lleuad yn olau. Mae Morfudd a minnau wedi bod yn siarad am ein cartref. 'Nawr ac eilwaith y mae'n codi ei llygaid ataf. Maent yn llawn dagrau llawenydd. Sôn am ddedwyddwch! Morfudd oedd fy nedwyddwch. Hyhi ydoedd holl obaith fy mywyd. Ddiwrnod ar ôl diwrnod, wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis, fe ddaeth felly yr un dedwyddwch imi. Ac yr oedd Morfydd a minnau am briodi. Bryd hynny y digwyddodd yr amgylch- iad sydd wedi aredig fy ngruddiau a chrychu fy nhalcen; yr amgylchiad a arian- nodd fy ngwallt cyn fy mod yn ddeg ar hugain oed ac a ddug oddiarnaf bopeth ag sydd yn werth mewn bywyd. Nid byw mohonof oddi ar hynny eithr bod yn unig. Maddeuwch i mi, fy mhlant annwyl, os ydwyf yn rhyfygu. Yn awr, bron hanner cant o flynyddoedd ar ôl y digwyddiad y mae'r peth mor fyw yn fy meddwl â phe wedi digwydd ddoe. Pe byddai i'm meddwl a'm cof ballu, eto i gyd credaf y byddai yn amhosibl dileu digwyddiadau'r noson honno. Maent yn rhan anwahanadwy o'm bywyd. Fe gyrhaeddodd rhyw nos Iau ym mis Mehefin, 1852. Yr oedd Morfudd a minnau i briodi drannoeth. I ddianc rhag y cyffro oedd yn y ty y noson honno, fe aeth hi a minnau am dro. Yr oedd hi'n noson serog, elau. Nid oedd dim ond sŵn y sofliar i dorri ar ddistawrwydd y nos honno o haf. Yr oeddym mor ddedwydd nes mynd filltir- oedd o gartref cyn sylweddoli mor hwyr ydoedd. Troesom yn ein holau a thuag adref ar hyd ffordd arall, ond pan oeddym tua milltir o'r pentref fe gofiodd Morfudd yn sydyn y byddai'n rhaid inni fyned heibio'r fynwent wrth ddyfod y ffordd honno, ac ni feiddiai neb o drigolion Llangannog fyned heibio'r fynwent wedi nosi. Fe geisiodd Morfudd gael gennyf droi'n ôl a mynd adref ar hyd ffordd aralf tua dwy filltir yn ychwaneg i gerdded. Ond 'doedd dim ofn arnaf i, a 'doeddwn i ddim yn credu'r fath ofergoel. Do, gwae fi Mi wrthodais wrando arni hi. Duw a faddeuo imi. Yn ein blaen â ni. Yr oedd Morfudd yn crynu fel dalen. Tua hanner canllath o'r fynwent, dyma rywbeth mewn gwisg ddu yn ymddangos ar y ffordd, mor sydyn â phe bai wedi disgyn o'r awyr. Mae'n cerdded (0 dudalen 85.) yn araf. Mae'n dyfod tuag atom. Mae ei ben wedi ei ogwyddo ar ei fynwes. Y mae'n griddfan rhyw ochenaid ddistaw, fain. Mae'n codi ei ben. Duw mawr, fy nhad! Ie, fy nhad, yr un fath yn union ag y gwel- som ef ddydd ei farw. Mae ei lygaid yn ym- wthio allan o'i ben. Mae gwaed yn llif ar ei dalcen, a'i dafod allan. Gafaelodd ynom, a dyma Morfudd yn syrthio i'r llawr gan fy nhynnu innau ar ei hôl. Mi ddihunais drannoeth a gweld y Doctor Huws, meddyg y pentref, wrth ochr fy ngwely. Mi lefais am fy Morfudd, drachefn a thrachefn, ond atebodd hi mohonof. Daeth gwraig y ty i'r ystafell ataf, ac ar ôl imi hir holi arni, mi ddywed- odd wrthyf o'r diwedd fod Morfudd yn farw. Y noson gynt tua hanner nos, gan nad oedd sôn am Forfudd a minnau yn dychwel- yd adref, fe benderfynodd rhai o'r trigolion fyned i chwilio amdanom. Fe ddihunwyd holl bobl y gymdogaeth, ond yn ofer, ac y mae'n debyg fod y wawr wedi torri cyn i'r chwilwyr ein cael. Yr oeddem ein dau ar yr heol, gerllaw'r fynwent. Yr oeddwn i yn anadlu ond yr oedd Morfudd yn farw. Ymhen blwyddyn wedi hyn, a'm calon yn rhwyg, mi ddychwelais i Fachynlleth. Yno mi gyfarfûm â Morgan Prys, ac y mae ef yn gwybod y gweddill o'm hanes, er na wyddai am y rhan yma ohono cyn heno. A'R dagrau'n treiglo dros ei ruddiau, rhoddodd Morgan Prys ei law yn dyner ar ysgwydd Dafydd. Sychodd y genethod eu gruddiau llaith. Dychwelais innau'n llwfr, i'r llofft, i'm hystafell wely. Yr oedd popeth yn ddistaw, ac nid oedd yr un sŵn ond y glaw yn disgyn y tu allan, a gwynt y nos yn rhuo yn y llwyn. TAITH Y PERERIN, gan T. Gwynn Jones (o dud. 83). Owen neu Tegla Davies!), eto, fel y deuir i wybod ryw dro, efallai, oni wyddis pan fyddis yn ymfflamychu ar y feirniadaeth ar fywyd, y mae rhai o'r pethau tragywydd yn Nhaith y Pererin. Ac am hynny, da oedd cael argraffiad newydd prydferfh fel hwn ohono yn Gymraeg. Efallai mai gwell oedd cyfieithu o'r newydd yn hytrach na diwygio hen gyf- ieithiad-llid oes ond gadael i bawb ei farn ei hun ar hynny. Am y cyfieithiad hwn, y mae'n syml, yn glir a dealladwy, ac yn cynnwys llawer o ddarnau sy'n rymus ac effeithiol iawn. Buaswn beth yn fodlonach arno, o ran fy mympwy fy hun, pe troesid rhai o'r brawddegau Saesneg mwyaf am- gylchog yn Gymraeg cwteuach a mwy car- trefol, brawddegau fel gŵr wedi ei bechu ei hun tu hwnt i obaith am drugaredd rhai a ddaeth ag adroddiad anffafriol am y tir da gall dyn lefain yn erbyn pechod o bolisi (y mae'r ystyr yma yn aneglur); hyrwyddo santeiddrwydd yn y byd yr wyt yn anwybodus o beth yw cyfiawn- der yr ofn o boenedigaeth." Gellid diwygio 'r gramadeg a'r gystrawen a'r briod-ddull yma ac acw, megis drwy O AM FFYDD S.R. (0 dudalen 79). Ond ni chollwyd y cwbl. Unwaith eto rhaid i ni atgofiö'n gilydd fod y mannau mwyaf ffrwythlon y gellir gweithio ynddynt dros achos heddwch yn aros fel cynt. Yn ysgolion y wlad rhaid dyblu egnïon a gweithio'n ddyfalach nac erioed. Dau beth yn unig y dymunwn eu nodi yma. № Yn y lle cyntaf, ni sylweddolwyd eto^ff* eithaf y pwysigrwydd o aü-ysgrifenrm hanes y gwledydd. Nid pennod i'w hysgrif- ennu fel atodiad i lyfr hanes yw'r bennod sy'n trin am Gynghrair y Cenhedloedd, ond pennod y dylid ei rhoddi ar y dechrau, ac ysbryd y bennod honno a ddylai roi bywyd i'r cwbl a ysgrifennir ar ei hôl. Dangos yn bendant mai hanes dynoliaeth, hyd yn hyn, yw hanes creaduriaid yn y tywyllwch yn ceisio taflu oddi wrthynt lyffetheiriau rhyfel a'i erchylldra, — dyna'n gwaith ni oll, ac nid gwaith bach ydyw. Y Plant. Yn yr ail Ie, dylid rhoddi llawer mwy o gyfleustra i blant Cymru a Lloegr i gyfarfod â phlant y gwledydd eraill. Dylai cannoedd lawer, bob blwyddyn, gael y cyfle hwn; ac wedi cyfarfod â'i gilydd, gwn o'm profiad i fy hun, na chyll llawer ohonynt y cyfle o gynhyddu'r wybodaeth am ei gilydd trwy ohebu. Y plant, ynte, unwaith eto. Dyna'n gobaith pennaf, ac am a wn i ein hunig obaith. beidio â chydweddu rhif berf a'i sylfon ar ôl rhagenw perthynasol, a thrwy beidio á chyfieithu 'r dull Saesneg fel y gwneir yn y frawddeg hon er enghraifft Ac i ddywedyd y gwir (yn lie A dywedyd y gwir "). Damwain yn ddiau oedd yr un ddau (yr un dau) ac "A! druan ẃr! (druan -gŵr). Gwir fod y brawddegau hyn a'u tebig yn ddealladwy, ond byddai'r gwaith fel gwaith ar ei ennill pe bai'r cyfieithu yn awr ac eil- waith yn llai llythrennol ac yn nes i gys- trawen Cymraeg llafar. Mantais, yn ddiau, oedd hepgor y darnau mydryddol. Mantais hefyd fuasai peidio â dilyn y Saesneg trwy ddodi enw cymeriad ar ddechrau brawddeg mewn ymddiddan lie cynhwyso'r frawddeg rywbeth heblaw union leferydd y cymeriad, megis yn hon: CRISTIoN Rhyw gilwenu a wnaeth Cristion, a dywedyd, Y mae'r gŵr hwn yn sicr o gamarwain â'r tafod, &c." Nid oes reswm dros nodi rhyw fâri bèthau fel hyn amgen na'u bod yn groes i safon ofalus a graenus y llyfr, drwodd a thro.