Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y mae geiriau uwchben y porth. —" I arbed y rhai a drechwyd." PARCERE SUBJECTIS." Sef yw hynny yn Gymraeg I arbed y rhai a drechwyd." Dyma'r geiriau welais uwch fy mhen wrth imi gael fy nwyn i mewn i garchar Dartmoor. Y maent wedi eu torri ar y maen uwchben y porth. I gadw carcharorion rhyfel yn 1809 y codwyd carchar Dartmoor, ac yn 1850 y trowyd ef yn lle i gadw troseddwyr. Ond yr un geiriau sydd uwchben y porth o hyd, ac efallai nad ydynt yn anghymwys. Onid rhai wedi eu trechu a anfonir yno? Llawer, efallai, wedi eu trechu gan amgylch- iadau a throi'n droseddwyr, llawer wedi eu trechu gan nwydau a greddfau a thorri rheolau cymdeithas. A'r gorau a wna cym- deithas yw eu harbed. Yn yr hen arnser eu crogi a gawsai bron bob un—eu eosbi, nid eu diwygio. Ond am dymor, y mae cymdeithas wedi eu trechu, a rhaid dwyn hynny ar gof iddynt wrth iddynt fynd trwy'r porth o ryddid i gaethiwed. Mis Mawrth oer. 0 garchar Wormwood Scrubs yr euthum i Dartmoor ac yr oedd y pedwar mis o lafur caled (gyda mis ar fy mhen fy hun) a gawswn yn Wormwood Scrubs wedi blino fy nghorff a phylu fy ysbryd a'm meddwl. Mis Mawrth oedd hi, a digalon iawn yr edrychai'r bryniau moel gydag eira'n drwch ar y mannau uchaf. Yr oedd hi'n oer iawn. Wedi i'r trên fynd i fyny'r lein bach trwy'r moots mi sylweddolais mor unig ac anghysbell oedd y lle yr oeddwn yn mynd iddo, a meddyliwn am y modd y gyrrid carcharorion yn Rwsia i alltudiaeth yn Siberia, a thybiwn mai Siberia Prydain oedd Dartmoor. Fel caer ar ganol cors anobaith yr edrychai'r earchar. Ac wrth fynd drwy'r porth, sylwi ar y geiriau Parcere Subjectis ar y maen uwchben, I arbed y rhai a orchfygwyd." Rhaid i mi addef nad fel un wedi ei orchfygu yr euthum i drwy'r porth. Nid oedd modd osgoi'r ddedfryd, a rhaid oedd gwneud y gorau o'r caethiwed. Ond am y rhyddhad a ddeuai ryw ddiwrnod y medd- yliwn, am y rhyddhâd a'r dychwelyd i Gymru. Gobaith. Am ryddhâd y breuddwydia bron bob carcharor. Dyna pam y bydd carcharorion yn coelio'r straeon mwyaf anhebyg. Y mae rhywbeth yn sicr o ddigwydd; gall unrhyw ddedfryd gael ei chwtogi, ac nid yw pardwn allan o'p cwestiwn. Mae'n wir na lwyddodd neb i ddianc eto o Dartmoor, ond faint o'r rhai a gaewyd o fewn i'r muriau sy'n coelio bod dianc yn amhosibl? Y mae popeth yn bosibl, ac nid oes dim na ellir ei goelio. Cyn dyfod moduron, dim ond carcharor, gyda'i alhi i obeithio yn erbyn gobaith, a goeliai fod modd cael ymaith o'r fath gaer anghysbell. Rhaid fuasai i'r neb a geisiai ddianc nid yn unig osgoi tonennydd brad- wrus ar y mawnogydd. ond ymladd ag anawsterau'r niwl sy mor gyffredin. Galla; dyn gerdded am ddyddiau, a darganfod ei fod wedi cerdded mewn cylch a'i fod yn ól yng nghyffiniau'r carchar; yna cael ei ddal a'i roddi'n ôl mewn caer tu fewn i'r gaer gadarn. Mis yn Dartmoor Gan CONVICT A2/87 Beth yw teimladau carcharor? Yma y mae Cymro ieuanc yn dweud hanes ei fywyd yn y carchar anghysbell a daniwyd gan y carcharorion ychydig wythnosau'n ol. Y teimlad wedi mynd trwy'r porth oedd fy mod wedi fy nhorri ymaith yn llwyr oddi wrth y byd. Pa hyd. tybed, y byddaf yma? i Dyua y mae'n debyg, oedd yn mynd trwy feddwl y rhan fwyaf ohononi. Y mae'r confict yn gwybod ei ddedfryd, ond deil i feddwl: Tybed am faint y byddaf yma—am dair, saith, neu ddeng mlynedd? Ar ôl mynd trwy'r porth cyntaf, deuir at borth arall a gwylwyr yn ei warchod ddydd a nos. Unwaith y cloir y drws yina y tu ôl i'r truan. y mae mwyach yn gyd-ddinesydd â throseddwyr, a phob symudiad o'i eiddo yn cael ei wylio'n ofalus gan swyddogion Gan mor bell ag anghysbell y lle, teimlwn yn awyddus i longyfarch yr awdurdodau am daro ar le mor dda i yrru'r troseddwyr a flinai gymdeithas. fel ag i'w hanghofio, yn wir i'w lluchio o fywyd cymdeithas bron Rhes uwchben rhes o gelloedd, a rhwyd weiren ar draws, rhag i rywun daflu pethau (neu ei daflu ei hun) i lawr.