Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYMRU AR WERTH I GAN JOHN DAVIES CAERDYDD Dangosir yma fel y mae dynion ang- hymwys yn rheoli uchel lysoedd addysg Gymru, a pherygl hynny i'n diwylliant ni a'n lles ni fel cenedl. Y MAE Llyfrgell Cymru, yn Aber- ystwyth, ac Amgueddfa Cymru, yng Nghaerdydd, yu cyhoeddi adroddiadau ar eu gwaith bob blwyddyn. Wrth eu darllen, fe welwn faint ac amrywiaeth y gwaith, ac y maent yn adlewyrchu'n dda iawn ar yr holl swyddogion sy'n gysyllt- iedig â hwynt. Ond yn Saesneg y mae'r ddau adroddiad. Pe meddid y parch dyladwy gan y ddau sefydliad i'r genedl roddodd fod iddynt, fe gyhoeddid y cyfan yn iaith y genedl honno. Paham nas gwnaethpwyd ? Am fod mwyaf- rif mawr o Saeson a Chymry Seisnigaidd ar > Llys. Anghymwys i'w swydd. Gwyddom i uchelwyr Cymru, ac eithrio dau neu dri o deuluoedd, droi eu cefnau ar y Gymraeg, a'u bod heddiw heb ddim gwir gydymdeimlad â'n gwlad ni a'i diwylliant gwerinol, diwylliant na cheir dim cyffelyb iddo o gwbl yn Lloegr. Pa fodd, gan hynny, y mae'n bosibl iddynt drefnu ar gyfer gwerin nad oes ganddynt hwy un- rhyw syniad priodol am ei hangenion? Mae diwylliant Cymru yn un â'r iaith. Fe ellir diwylliant. heb yr iaith Gymraeg. ond na alwer ef yn ddiwylliant Cymreig. Yn awr y mae gennym ormod o ddim rheswm o'r dosbarth uchod ar lysoedd y sefydliadau a enwyd, a throir awyrgylch lywodraethol y ddau le yn Seisnigaidd. Pobl urddasol, wiwbarch, hael a dymunol ydynt, lawer ohonynt, yn bersonol; fe'u beimiedir, nid oherwydd eu safle, ond oblegid coleddu ohonynt syniadau sy'n eu anghymwyso i ddeall bywyd Cymru a'i hangenrheidiau. Yn y Senedd. Pan gollai rhywun o bwys ei sedd yn Lloegr neu Ysgotland gynt, fe'i gyrrid i Gymru, oedd y pryd hwnnw yn fath ar gartref i anifeiliaid crwydr. Canlyniad hyn oedd ein cynefino â chymryd Saeson, o ran nith, i'n cynrychioli yn y Senedd. Ffrwyth hyn oll yw fod nifer o ddynion >mhlith ein haelodau seneddol heb rithyn o wir gydymdeimlad â'n delfrydau fel cenedl, '>nd a etholir yn herwydd eu gwybodaetb Gellir prynu sedd ar iys Uywodraethwyr Amgueddfa Cymru (Caerdydd). am wleidyddiaeth Lloegr, a'u gallu i siarad ar economeg. Fe â pob aelod seneddol wrth ei swydd ar lys Ilywodraethwyr y Llyfrgell a'r Amgueddfa felly gan ein bod yn pigo Saeson o flaen Cymry, daw adgyfnerthiad o du'r werin ci hun i'r cwmni gwrth- Gymreig sy yno eisoes. Y mae'n ymddangos i mi, nad ydym eto wedi dechrau sylweddoli nerth ac effeith- iau dinistriol yr arglwyddiaeth addysgol, feddyliol, a hollol estronol yma arnom, a thybiwn druan o honom ein bod yn rhydd, yn enwedig wrth wrando areithiau brwdfrydig a gwladgarol y cyfeillion hyn, yn dangos mor bell ymlaen yr ydym ar y ffordd i feddiannu true culture." 'Raid imi ddim dweud beth yw hwnnw, ond gellir bod yn siwr nad oes dim gwir Gym- reig yn agos ato. Ar werth. Y peth mwyaf torcalonnus yw y gall unrhyw un sy'n berchen cyfoeth gael mynediad helaeth i blith y gwyr parchus y cyfeiriwyd atynt. Etholir pob un a gyf- ranna £ 500 — gwna rhoddion o'r gwerth hwnnw y tro — neu a yrr £ 10 y flwyddyn at y Llyfrgell Genedlaethol etholir ef, meddaf, ar ei Llys. Gwelir felly fod seddau ar y Llys hwnnw ar werth, ac y gall gŵr anghymwys ymhob modd allu llywodraethu un o'n sefydliadau pwysicaf. Mae'n hen bryd inni wynebu ffeithiau annymunol fel hyn, a darparu meddyginiaeth cyn iddi fyned yn rhy ddi- weddar ac i'r haint ein parlysu. Pump y llynedd. Yr un fath gyda'r Amgueddfa. Yn ôl yr adroddiad, etholwyd pump ar y Llys — amryw ohonynt yn Saeson trwy rinwedd eu cyfraniadau, un ai mewn arian neu mewn rhoddion. Dylid, bid sicr, barchu pawb a gyf- ranna'n hael at leoedd fel hyn, a'u hanrhydeddu hefyd, ond nid trwy eu gwneud yn rheolwyr, pa un bynnag ai cymwys ai anghymwys fyddont. Os nad wyf yn camgymryd-er anrhydeddu pob rhoddwr haelionus-ni adawa Llyfrgell Bodley yn Rhydychen i rai felly gael unrhyw ran yn ei llywodraeth. Y mae'r geiriau Ar dy dor y cerddi bron mor gymwys atom ni fel cenedl ag oeddynt at hen gydymaith ein mam ni oll. Y Brifysgol hefyd. Y mae'r un gwaseidd-dra yn Llys y Brif- ysgol. Mae gan y gwyr hyn bob cymhwyster ond un, sef y gallu i ddeall y bobl y maent yno er eu mwyn. Pan yw Prifysgolion yn India yn mynnu cael yr iaith briod fel cyfrwng addysg, fe oddefwn ni i Lys ein prifysgol ni gael ei lenwi â dynion na wyddant-ac ar hyn o bryd heb allu i wybod-pob elfen yn y broblem sy ganddynt i'w dadrys. Y syndod yw fod yr ychydig Gymry sy'n eu plith wedi llwyddo mor rhyfeddol, a chofio'r fath bwn o anwybod- aeth (tra dysgedig) y bu raid iddynt gario ar eu cefnau ar hyd y blynyddoedd. Fe ddylai pob cyngor sy'n meddu hawl i ddewis cynrychiolwyr ar Lys y Brifysgol ofalu am benodi dynion cymwys; dynion yn deall Cymraeg a Chymru; nid gweithredu fel pe gwnaethai rhywun y tro, os yn berchen golud, yn meddu safle gymdeithasol foddhaol, neu yn Sais. 'Wn i ar y ddaear paham y penodir pob Arglwydd Raglaw ac Uchel Sirydd yng Nghymru ar bwyllgorau o'r fath! Y rhai cymwys. Paham nad ydyw athrawon yr adrannau Cymraeg ar Lys yr Amgueddfa a'r Llyfr- gell? Paham yr anwybyddir hwynt? Onid dynion cyfarwydd sy'n eisiau ar y ddau Lys? Amhosibl i Sais uniaith fod yn expert ar unrhyw bwnc Cymreig. Ffolineb noeth gan hynny yw eu gyrru yno ar draul cadw allan ddynion cymwys. Byddai presenoldeb yr athrawon Cymreig yn rhyw ernes y caffai materion Cymreig chwarae teg. [I dudalen 120.