Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PRYNU CANERI Gan Dr.T.H. Parrq-Willìam$. 4 DRO'N ôl, ar awr wan mewn hwyl hysbysol, cyfaddefais a chyhoeddais imi fod yn boddi cath gyda chyfaill imi. Ni waeth imi ddywedyd y cwbl bellach. Gyda'r un cyfaill a thua'r un adeg y bûm yn prynu caneri, ac nid oes dim fel mynd gyda'i gilydd i foddi cath a phrynu caneri i gleinsio cyfeillgarwch rhwng dau ddyn. Gyda'r naill y mae naws anturiaethol a lled ymdeimlad o dynged- fennaeth, a chyda'r llall y mae ysfa hanner naturiaethol yn gymysg ag ymdeimlad amhendant o fod ar berwyl drwg. Y mae peth boddhad ansicr yn y ddau orchwyl, ond am nad yw'n ddiledryw hollol, rhaid cael dau ddyn-dau gyfaill — i'w profì'n debyg i gyflawn. Gwyddwn i raddau paham yr oedd angen boddir gath, eglurasai fy nghyfaill hynny mor glir a diamwys ag y gallai, — ond, o ran hynny, nid oedd raid, oherwydd y mae ar bron bob dyn eisiau boddi cath rywdro yn ei hanes. Ond deuai yswildod rhyfedd arno a phyliau o chwerthin nerfus drosto pan geisiai dorri drwodd i ddywedyd bod arno awydd mynd i brynu'r aderyn. Nid oedd raid iddo anesmwytho, oherwydd y mae dydd prynu aderyn yn dyfod i ran dynion yn ddigon aml. Mi wyddwn o'r gorau fod adar yn ei deulu; hynny yw, yr oedd ei dad, er enghraifft, wedi bod yn cadw amryw ohonynt, ac yr oedd yr ystraeon disgrifiadol o driciau a nodweddion adar ei dad ymysg ei stoc ddihysbydd o ddiddanwch." Erbyn hyn, 'debygwn, yr oedd yr hen anian wedi ymgodi yn ei fab ieuanc yntau, a rhaid oedd cael caneri. Yr oedd traddodiad y teulu, chwi welwch, yn galw am hynny, ond yr oedd y rheswm yn ehangach a mwy cyffred- inol, yn wir, sef yr anian gadw creaduriaid sydd i'w chael yn y rhan fwyaf o fechgyn. Dyna anian neu nwyd ná bu erioed ynof i fy hun yn ifanc. Bûm cyn waethed â neb am ddal a hela, ond ni bu ynof erioed lawer o ysfa i gadw creadur, oherwydd yr oedd rhyw atgasrwydd aflan i mi mewn peth felly. Yr oedd hwyl mewn dal, ond nid oedd dim hwyl mewn cadw. Gwych yw hela'r pry, ond atgas yw ei gaethiwo. Efallai, er hynny, mai'r hela ydyw'r creulonaf o'r ddau wedi'r cwbl. Beth bynnag, ni ddofir byth greadur gwyllt yn llwyr. Ni chytuna gwylltineb a dofdra, mwy na'r "hen ddyn" a'r "dyn newydd," fel y dengys profiad y gŵr hwnnw a gawsai dro, ond a achwynai fod yr hen ddyn yn trechu'r dyn newydd ynddo er pob ymdrech i'w tawelu, ac ychwanegu nad oedd hynny'n beth rhyfedd, "oherwydd y fô (sef yr hen ddyn ") oedd yma gyntaf." A chwarae teg i'r bechgyn hefyd, nid caethiwo er mwyn caethiwo ydyw eu hamcan i gyd. Pan geisiodd y person hwnnw gynt ddychryn y bachgen oedd yn dal adar â gogr-a hynny ar y Sul-trwy ofyn iddo a oedd arno ddim ofn dal y Diafol, atebodd yntau, Dim ots gen i, os gwnaiff o ganu." A RHYW brynhnawn Sadwrn, yr adeg pan fydd dyn fel rheol yn teimlo'n anghyfrifol ac yn barod i ymffoli, aethom ein dau, yn dalog braf i bob golwg, ond yn ofnus euog oddi mewn, i brynu caneri. Y mae agwedd sneclyd, amheus a llech- wraidd ar y gwaith. Oni bydd siop adar barchus, agored i'w chael (fel yr un fyd- enwog honno yn Tottenham Court Road), rhaid holi'n gynnil ac ar ddieithr pa Ie y mae dyn y caneris yn by,w, fel gyda dyn milgwn a chreaduriaid amharchus felly. Efallai y bydd raid mynd i ryw ystryd gefn neu i ryw heol amheus i ddyfod o hyd iddo. Ac erbyn i ni ymholi, a hynny'n betrus- gar, felly yr oedd gyda ninnau. I dy oedd yn un o res ar lan yr afon ac o'r neilltu y cyfeiriwyd ni gan y gwybodusion." Cerddem tuag yno yn hamddenol fel pe na baj dim arbennig yn bod, a rhyw edrych o gwmpas yn ddidaro. Ond nid hawdd yw ymddangos yn ddigyffro wrth fynd i brynu caneri fel hyn. Ac yr oedd un peth arall yn peri ein bod braidd yn anghyffyrddus ar brynhawn Sadwrn y mae pawb yn rhywle ac wedi crynhoi at ei gilydd yn y fan yma a'r fan arall yn y lleoedd mwyaf cyhoeddus, ac felly y mae ystrydoedd a rhesau tai fel y rhai yr oeddem ni'n cyfeirio atynt, yn fwy preifat nag arfer, ac fe nodir crwydriadau i leoedd felly gan rywun a fo ar siawns yn digwydd bod yn sylwi. Gwelem ambell wyneb syn a rhuslyd y tu ôl i gyrten yn edrych yn chwilfrydig arnom, a phlentyn neu ddau oedd yn digwydd bod yn chwarae'n enciliol yng nghysgod y wal, yn llygad- rythu'n ddychrynedig, fel petaem ysbiwyr, -a dyna oeddem, o ran hynny. Bethbynnagi cawsom y ty, ac arweiniwyd ni gan ferch i ystafell ffrynt fechan oedd yn orlawn o'r mân bethau rhyfeddaf dan haul, a'r rheiny ar bob modfedd ysgwâr bosibl. Yn ystod ychydig funudau yn y fan honno, teimlem fel dynion wedi ei gwneud hi," a blinid ni gan bangfeydd cymysglyd o gywilydd ac eisiau chwerthin. Ceisiem ddychmygu pa Ie yr oedd yr adar, tybed. Mewn ty adar yn rhywle yn y cefn, 'debyg. Daeth yr adarwr i mewn toc; dyn fel rhywun arall ydoedd wedi'r cwbl. Wedi ymgyfarch yn foesgar, ond busnesol, ar- weiniwyd ni i fyny i lofft fach gefn ar ben y grisiau. Ni allem yn ein byw beidio â chrynu wrth fynd i fyny, ond sadiasom ychydig wedi mynd i lofft yr adar a gweld a chlywed ac arogleuo. Yr oedd yr adarwr, yn anffodus, newydd werthu ei oreuron, ac yr oedd llawer o'r caetsys oedd yn gorchuddio'r muriau i gyd, yn wag, ond yr oedd yno amryw ar ôl o adar o bob math. Difyr oedd ei weled yn tynnu'r adar allan a'u gyrru o'r naill gaets i'r llall mor ddeheuig a chelfydd. Aethpwyd i siarad yn wybodus ac yn nhermau hanner technegol ffansiwyr adar, ac o'r diwedd, ar ôl ymgynghori'n ddifrifol, dewiswyd aderyn. Ceiliog a brynir gan rai sydd am aderyn i ganu ~~ond nid oedd yr adarwr yn sicr ynglŷn â'r aderyn a gymer- adwyid ac a ddewiswyd. Yr oedd, os cotiai'n iawn, wedi bod yn canu, ond am nad oedd yn hollol sicr, addawodd ei newid os digwyddai, ar ôl cyfnod cytunedig o dreial, mai iâr ydoedd. Buwyd yn trafod y pris, a chofiwn innau'n fyfyrgar am yr adnod yn yr Ysgrythur sydd yn gofyn, Oni werthir dau aderyn y to er ffyrling?" Ond dyma un aderyn bychan llai cyffredin ond mwy rhywiog nag aderyn y to yn costio llawer iawn o sylltau. Talwyd y pris a dodwyd yr aderyn mewn bocs bychan oedd a thyllau awyr ynddo. Wedi dyfod allan sleifiasom i fysg pobl wedyn gan deimlo fel rhai wedi cael dihangfa. MYND i brynu caets oedd y gorchwyl nesaf. Wrth fynd cariai fy nghyfaill y bocs yn ofalus dan ei gesail gan wynebu pawb yn eofn erbyn hyn. Diau fod ynddo'r ymdeimlad buddugoliaethus a ddaw i'r galon ar ôl gwneuthur rhyw wrhydri; hynny a'i cynhaliai ac a roddai iddo'r dewrder a faidd gydfyned ag Anian." Ond yr oedd wedi gwneuthur camp fwy na hon, gorchest fwy na chario aderyn mewn bocs dan ei fraich, — a hynny wrtho'i hunan. Onid oedd unwaith wedi dyfod â dau bysgodyn aur yr holl ffordd gyda thrên sgyrsion o Abertawe, mewn powlen wydr yn llawn i'r ymylon o ddwfr,- a hynny heb sylweddoli y buasai'n llawer haws ac yn sychach, mewn trên jerclyd, iddo fod wedi gadael i'r bowlen hongian yn naturiol wrth y llinyn oedd am ei hymylon, a'i dal â'i fys, na'i chynnal yn ei ddwylo rhwng ei liniau? Wedi prynu caets mewn siop barchus a'i lapio mewn papur llwyd, aeth fy nghyfaill, dan fy mendith, â'r aderyn adref. Euthum innau tua thref wedi cael profiad newydd pendant a digamsyniol, a chan deimlo fel un wedi cael rhyddhad a gwaredigaeth, megis y gwneir gyda phrofiad mentrus felly sydd wedi bod yn un "diogel." Hynny yw, nid oedd y profiad, drwy drugaredd, wedi bod yn brofedigaeth. [I dudalen 122.