Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hywel Harris yn "fodrwy ar fys bach Coleg Trefeca, Talgarth, Sir Frycheiniog. HYWEL HARRIS. Drama Bcdair Aci, gan Cynají. Hughes a'i Fab, Wrccsam, 1932. Pris 2s. 6d. HOFFAIS amryw bethau yn y ddrama hon. Mae'n agor yu effeithiol a thybiaf y bydd yr act gyntaf ar ei liyd yn chwarae'n dda ar lwyfan. Un o gymer- iadau byw y ddrama yw Jimmy Ingram, gwas Hywel Harris. Ef yw arwr yr act gyntaf, a thrwy gydol y pedair act y mae ei ystumiau a'i ddywediadau ffraeth yn goleuo'r ffwdanau ac yn ysgafnhau'r rhediad. Cymeriad a amlinellwyd yn graff yw Williams Pantycelyn. Beimiadaeth sy'n argyhoeddi'r neb a'i clywo ei bod yn gywir vw hon: Mae'n well gen i Williams y bardd na Williams y dyn. Yn ei farddoniaeth, er mor ddiofal ydi ei arddull o, y mae yna angerdd a beiddgarwch. Yn ei fywyd bob dydd, 'ŵyr o ddim mwy am feiddgarwch nag sy'n ddigon i droi ei deithiau cenhadol yn gyfle i hel ordors am gistiau o dê." ("Cistiau tê" a ddywedid yn y 18fed ganrif. Ni ddywedid "y mae yna" chwaith, ac ni ddywedid ar ddechrau brawddeg, Ddau can mlynedd i heno. eithr yn gywir Dau can mlynedd i heno. Ond ar y cyfan i mae iaith y ddrama yn naturiol ac yn cyflawni pob rhaid). Gwrthdaro. Gwych oedd y weledigaeth a gafodd Cynan pan wnaeth ef Madam Gruffydd yn Mynrychiolydd yr hen ddiwylliant Cymreig iic yn gofleidydd ysbryd cenedlaetholdeb. 'jwna hynny yr elyniaeth rhyngddi hi a Williams Pantycelyn yn gwbl naturiol ac anorfod, canys fe ellir bod yn hyderus iawn mai osgo ddiystyrllyd Williams tuag at y pethau hynny oedd gwir achos yr anghydfod rhyngddo ef a Theophilus Evans. Madam Gruffydd" BEIRNIADAETH ARi DDRAMA CYNAN Gan SAUNDERS LEWIS Yr eiyniaeth rhwng Madam Gruffydd a Williams yw un o ragorfreintiau'r ddrama hon. Y mae'n reddfol,yn lüinfod yn natur y ddau. ond cyfyd yn naturiol hefyd o'r gwrth- daro r h w n g tueddiadau meddyliol y ddau. Hynny yw gwir gnewynyn y ddrama oll. Madam Gruffydd, yng ngweled- igaeth Cynan ohoui, yw dadeni llenyddol a chenedlaethol yr ugeinfed ganrif yn brwydro yn erbyn arall-wladoldeb diwygiad y ddeunawfed ganrif. Gwych yw cloi'r ddrama gyda'r weledigaeth broffwydol lionno. Araith enbyd. Ofnaf y caiff y neb a drefno'r ddrama ar lwyfan oiid diddiwedd gyda'r ail act. Peth go aflwyddiannus, mi dybiaf. yw canu emyn mewn drama. Ond gwaeth na hynny, a pheth beiddgar enbyd, yw peri i areithiwr areithio. Os areithiwr huawdl yw prif gymeriad drama, gellir ei ddangos ef ym mha osgo bynnag a fynner ond peidio â'i ddangos yn areithio. Petli i'w grybwyll, i'w ddisgrifio. i'w wneud yn gredadwy drwy fynych sôn amdano yw ei huodledd. Os dangoswch ef yn huawdl, os rhoddwch iddo areithio gerbron cynulleidfa, dyna ddinistrio'i euw a chwalu pob ffydd yn ei athrylith. Dyna'i brofi ef yn ffug. A hynny sy'n digwydd i Hywel Harris yn y ddrama hon. Ar ôl y bregeth yn yr ail act ni synnais o gwbl ei fod yn greadur mor lleban drwy weddill y ddrama. Harris ei hun. Canys Hywel Harris yw pwynt methiant y ddrama. Yn yr act gyntaf yn unig yr ymddengys yn deilwng o'i enw. Yn y ddwy olaf nid yw ef ond modrwy ar fys bach Madam Gruffydd. Bid sicr, gallasai hynny hefyd fod yn destun campus i ddrama. Gellid dangos ysbryd gwrol, blaengar, di- lywodraeth ac ystormus yn pydru dan gyffyrddiad bysedd merch. Digwyddodd peth felly'n aml, a byddai'n ddarlun garw ond hollol gredadwy. Ni cheir na hynny na dim arall yn y ddrama hon. Ni allaf gytuno'n llwyr â dedfryd Mr. R. T. Jenkins a ddyfynnir yn y rhagair. Dywed ef Nid wyf yn gweled o gwbl fod y ddrama'n taflu unrhyw anfri (na gwir na gau) ar Hywel Harris, nac yn debyg o fychanu syniad y wlad amdano." Bychanu Hywel Harris yw ei lunio mor anniddorol ag yr ymddengys ef yn y ddrama hon. Beth bynnag oedd Hywel Harris, nid llo ydoedd. Y gwir, mi dybiaf, yw bod Cynan wedi medru deall a phortreadu bardd, sef Pantycelyn, a'i fod hefyd wedi deall merch dduwiol-gnawdol yn colli ei chalon i bregethwr, ond ni fedrodd ddeall meistrolwr ac anturiwr yn caru dofi meirch a thyrfaoedd a merched a phopeth rheibus arall. Y ddwy wraig. Siomedig hefyd yw agoriad y drydedd act. Fel yma y terfyna'r act flaenorol: Ar dy union i Drefeca o'n blaenau ni, Jimmy, a gofyn i Meistres Harris ddar- paru'r ystafell orau ar gyfer Madam Gruffydd, Cefnamwlch." Wel, ar f'ened i," ebr Jimmy, a ninnau gydag ef. Yn act 3, gan hynny, disgwyliem ar unwaith gael ein taflu i ganol ffrwgwd rhwng y ddwy wraig. Ni cheir dim o'r fath. Egyr y drydedd act mor dawel a hamddenol â phetai'n gartref Mr. Joseph Smith, patriarch y Mormoniaid. Pob parch, wrth gwrs, i Mr. Joseph Smith; diau mai ychydig o wyr a gafodd fywyd priodasol mor hapus; ond yn union oherwydd hynny yr amheuaf i a fyddai ei aelwyd ef yn olygfa ddramatig iawn. Pa fodd y daeth y ddwy wraig yn nhý Hywel Harris yn gyfeillion? Dyna'r cwestiwn anorfod i'r dramaydd yn Act III, yr hyn a alwai'r hen grefftwyr yn scène à faire,"—yr olygfa y rhaid ei dangos. Ond yn y ddrama hon wele'r ddwy wraig yn ddihangol o gyrraedd yr olygfa ac yn nofio mewn cariad a hedd. Felly y bydd dyn wrth fynd yn hwyr i'r llofft yn codi troed i gyrraedd y gris uchaf, ac yn cael cwymp disymwth oblegid iddo gamgyfrif a bod ei droed eisoes ar y gwastad. "Diddorol drwyddi." Yn fy marn i nid yw hon yn ddrama bwysig ac nid oes mawredd ynddi. Dywedaf hynny yn unig oblegid bod ei chlod hi eisoes wedi hawlio'r rhinweddau uchaf iddi. Ond wedi amddiffyn cymaint â hynny ar safonau beirniadaeth, brysiaf i ychwanegu bod Hywel Harris yn ddrama ddiddorol drwyddi, yn ysgafn, yn llawn cyffyrddiadau effeithiol, yn llawn golygfeydd manteisiol i drefnydd llwyfan craff, ac yn llawn elfennau poblogrwydd y tu hwnt i'r mwyafrif dramâu Cymraeg. At hynny, fel y ceisiais ddangos eisoes, y mae ynddi ddau gymeriad a welwyd ac a luniwyd yn wir ddramatig, sef Pant- ycelyn a Madam Gruffydd, a'r gwrthdaro rhwng y ddau hyn yw'r cyfraniad a wnaeth gwelediad athrylith i'r ddrama.