Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BWTHYN BACH ANRHEG CYMRU I PRINCESS ELIZABETH. Y DARLUN OEL O'R DUCHESS OF YORK. GWAITH MISS MARGARET LINDSAY WILLIAMS YR UNIG DDARLUN YN YSTAFELL FYW Y BWTHYN HACH. AR Y DDE, YR YSTAFELL FYW. A'R BWRDD WEDI EI OSOD SYLWER AR Y CLOC, A'R DARLUN MAM Y PERCHENNOG. AR Y CHWITH, Y BATHRWM, YN CYNNWYS BATH PORCELAIN," A THAPIAU DŴR POETH AC OER. RYBAR YDYW'R LLAWR. UCHOD, Y BWTHYN O'R TU ALLAN, GYDA'R GEIRIAU Y BWTHYN BACH UWCHBEN Y DRWS, A CHWT I IANTO, Y CI TERRIER BACH CYMREIG, A RODDIR GYDA'R TY. Y MAE Cymru am roddi anrheg hael a hyfryd i'r Dywysoges Elizabeth ar ei chweched pen blwydd (Ebrill 21, 1932). Model ydyw (tua hanner maint) o fwthyn to gwellt Cymreig a phedair ystafell ynddo. Y mae ynddo bob dim a geir mewn tŷ, ac y mae'n siwtio plentyn chwech oed i'r dim. Ynddo fe all y Dywysoges ddysgu pob peth am gadw tŷ, a byw bywyd cartrefol llawn. Y mae'r bwthyn yn 22 troedfedd o hyd, 15 o uchter, ac 8 o'r ffrynt i'r cefn. Y mae'r tair prif ystafell yn 7 troedfedd o led, 7#ILL E# o hyd, a 4 troedfedd N modfedd o uchder. Yng Nghymru y gwnaethpwyd ef a'i ddodrefn. Dywedir bod dodrefn derw yr ystafell wely yn ddarn godidog 0 grefft- waith. Gwaith llaw ydynt, yn yr hen ddull, a gwnaethpwyd hwy gan Mr. William Edwards, Abertawe. Nid ydyw Princess Elizabeth i gael gweld y tŷ tan ddiwrnod ei phen blwydd. 'Wyr hi ddim amdano ar hyn o bryd.