Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

STORI FER GORFFENNODD y gawod yn sydyn. Aeth ymaith dros y môr fel gwawn arian. Gan edrych o'i gwmpas, camodd dyn, â sach ar ei war, allan o gysgod gwrych lIe y cysgodasai rhag y gawod. Byth er pan gafodd glefyd crydcymalau rai blynydd- oedd yn ôl roedd yn rhaid i Ifan Roberts gymryd gofal ohono'i hun, a hwyrach y buasai gwlychu o dan y gawod ysgafnaf yn ddigon i'w anfon i'w wely, os nad yn ddigon am ei einioes. Wrth gamu allan i'r llwybr yn ei ôl dylasai weled yr holl wlad o'i amgylch wedi gweddnewid o dan effaith y gawod. Yr oedd pob gwelltyn a deilen sychedig wedi eu diodi; a'r haul, oedd ar fachludo, yn disgleirio ar y defnyn- nau. Yr oedd yr awyr wedi ei buro, a'r glaw wedi gostwng y llwch. Deuai arogl newydd o'r eithin a'r banadl. Edrychai'r glaswellt a'r rhedyn fel pe baent wedi deffro o rhyw gwsg. Dis- gleiriai'r cerrig ar y llwybri a chrogai diferynnau glaw fel perlau yma ac acw ar y weiren bigog a redai hyd ben y clawdd. Yr oedd y môr yn dawel, yn rhy ddiog bron i dorri'n don ar y traeth, a'r gawod erbyn hyn ond megis tawch ar y gorwel. Ond, i feddwl di-farddoniaeth Ifan Roberts, nid oedd dim byd yn wahanol. Taflodd y sach oddi ar ei war, gan ei gario ar ei fraich. Newydd orffen ei ddiwrnod gwaith yr oedd, ac yn troi tuag adref. Er yn flin ar ôl llafur caled y dydd, edrych ymlaen at drannoeth yr oedd. Nid oedd gwedd- newidiad yr amgylchiad ar ol y glaw yn ddim iddo ef; yn hytrach dyfalai sut dywydd a fyddai drannoeth. Yr unig beth a'i poenai oedd ei fod yn myned i deimlo'n hen. Ni allai wneud cymaint o waith mewn diwrnod â chynt. Cofiai nad oedd neb yn y fro ynghynt ei aradr yn y ddaear, ynghynt â'i ýd yn y gadlas, nag ef ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Daeth llawer tro ar fyd ers hynny. Trwy ddichell y stiward Seisnig hwnnw collasai ei fferm, ac nid oedd ganddo ond rhyw dyddyn bychan erbyn hyn. Yr oedd yno ddigon o waith, gormod efallai, i un dyn, yn enwedig pan oedd yn gallu cyfrif ei flynyddoedd fel hyn a hyn a thrigain. VB, oedd ei swper yn barod pan gyr- haeddodd y tý. Ychydig oedd ganddo i'w ddweud, fel arfer, ond yr oedd gan Margiad ei wraig ychydig o newyddion wedi eu pigo i fyny wrth siopio yn y pentref y pnawn hwnnw. Rhaid oedd ail-adrodd popeth, pa un bynnag a deimlai ei gŵr ddiddordeb .vn y peth ai peidio. Trodd Mrs. Roberts at ei gweill ar ôl swper, ac Ifan at ei bapur newydd. Yr un fath y darllenai y papur bob amser. Eis- Noswylio teddai yn ôl yn ei gadair freichiau, ei liniau ar led, y papur yn unionsyth o'i flaen. Dechreuai ddarllen yn y ddalen gyntaf, heb edrych a oedd rhywbeth diddorol ar y tudalen nesaf. Darllenai o'r pen uchaf i'r gwaelod ar hyd y golofn, â'r papur o hyd yn syth o'i flaen, heb blygu'r un ddalen na'i gwyro'n ôl. Darllenodd Ifan ymlaen am Darlun gan H. L. H u w s. tuag awr, gan anghotío'i ludded a'i gyn- lluuiau tros drannoeth, gan anghofio'r dyddiau gynt. Dyna besychiad sydyn o gyfeiriad y wraig. Daeth hynny ag ef yn ôl i fyd real ei aelwyd ei hun. Yr oedd pesychiad Margiad Roberts yn arwydd i'w gŵr roddi ei bapur newydd o'r neilltu, ail-osod y spectol ar ei drwyn, a chodi i gyrchu'r Beibl mawr. Rhoddodd ef i lawr ar y bwrdd o'i flaen ac agorodd ef. Erbyn hyn rhoddasai ei wraig ei gwau o'r neilltu hefyd, ac eisteddai â'i dwylo ymhleth yn gwylio'i gŵr. Darllenwn yn awr air yr Arglwydd." meddai Ifan yn ddefosiynol, gan ail-osod ei spectol dracliefn, a phesychu i glirio'i wddf. Dechreuodd ddarllen yn araf a chroyw, ond undonog. Yr oedd pob adnod cyn bwysiced â'i gilydd i Ifan a'i wraig, a phob gair yn gofyn yr un pwyslais. Cadwent wasanaeth fel hyn bob nos, Sul, gwyl a gwaith, ac er mor anodd oedd gan Ifan adael ei newydd- iadur ar nos Lun, unwaith y deuai'r Beibl i'r bwrdd anghofiai'r newyddion a ddar- llellasai-hap a digwydd y dydd, pris yr Gan OWEN E. ROBERTS anifoiliaid, pris yr ymenyn a'r wyau, a hanes ambell i ocsiwn-ac addolai â'i holl galon. Ymlaen y darllenai yn araf, a'i fys cyntaf yn arwain o air i air ar hyd y llinellau. Ambell dro, pan ddarllenai Ifan adnod wybyddus iddi hi, symudai gwefusau ei wraig wrth adrodd y geiriau wrthi hi ei hun. Heno, o'r Salmau y darllenid. Yr Aralwi/dd yw fu muaail. ni bydd cisiau arnaf. Efe a wna i mi jrwedd mewn porfcydd gwelltog; Efe a'm tywys gerllaw y dyfroedd tawel. Efe a ddychwel fy enaid; Efe a'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw. Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnwn niwed; canys yr wyt Ti gyda mi; dy wialen a'th ffon a'm cysurant. Ti a arlwyi Wedi gorffen darllen y Salm pen- liniodd y ddau i weddio'n ddistaw. Yna goleuwyd y gannwyll, a chlowyd y drws. Rhaid i mi gael diod o laeth euwyn," meddai Ifan, wrth droi oddi wrth y drws, yr ydw'-i'n sychedig iawn." Beth! Eisia' diod o laeth yr adeg yma o'r nos? 'Chlywais i'r fath beth erioed, a chitha ar fynd i'ch gwely. Mi fyddwch yn siwr o fod yn sal, ddyn." Peidiwch a lolian. Wedi chwysu cryn dipyn ydw' i heddiw; dyna sy'n fy ngneud i'n sychedig." 'Ddylech-chi ddim yfed wrth fynd i'ch gwely. Ydach chi ddim yn cofio Morris Owen y Pant- Ia, ia; ond 'dydw i ddim am yfed peintiau. Dim ond rhyw hanner cwpanaia. meddal yntau, ac i r gegm gefn ag ef i chwilio am laeth enwyn. J^YW dro, yn y plygain, deffrodd Ifan o ganol breuddwyd erchyll i deimlo bod rhywbeth gwirioneddol o'i le. Teimlai'n boeth, rhedai chwys i lawr ei wyneb. Heblaw hynny yr oedd rhyw deimlad rhyfedd o'i fewn. Ceisiodd godi ar ei eistedd, ond gwaethygodd y boen a syrthiodd yn ôl yn wysg ei gefn fel pe bai rhywun wedi ei daro. Aeth y boen yn annioddefol, a deffrodd ei wraig yn sydyn wrth ei glywed yn griddfan. Teimlai Ifan nad oedd ei fywyd yn ddim ond poen erchyll, a phob anadl a gymerai yn ei waeth- ygu. Collodd ymwybodaeth o bopeth ond ei boenau. Gwelai, megis mewn breuddwyd, wyneb ei wraig yn edrych arno yng ngolau'r gannwyll, a'r wyneb hwnnw'n welw o ddychryn. Siaradai'n esmwyth wrtho, ond ni allai ef ddeall yr hyn a ddywedai. Aeth yn dywyllwch wedyn. Ymdroai yntau gan riddfan yn y gwely. Yna sylweddolodd fod ei wraig yno drachefn, yn ceisio ganddo yfc-d rhywbeth oedd ganddi, (1 dudalen 122.