Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

110 Y FORD GRON ACTRES GYMREIG ETO MISS CATHLEEN NESBITT. NOSON o'r blaen mi euthulli i Wyndham's Theatre, Llundain, i weld The Case of the ddrama o waith Mr. Edgar Wallace. Yn hon chwaraeir rhan Lord Lebanon gan Mr. Emlyn Williams a rhan Lady Lebanon gan Miss Cathleen Nesbitt. Yr oedd y ddau'n actio'n ddisglair. Yr wyf wedi sôn yn aml o'r blaen am Mr. Emlyn Williams (y Cymro o Dreffynnon, Sir Fflint), ond 'soniais-i ddim o'r blaen am Miss Cathleen Nesbitt. Cymraes ydyw hithau hefyd. Ar y ffilmiau. TV7YRES ydyw Miss Nesbitt i'r diwedd- ar Gapten Parry. Caergybi, a adwaenid yng nghylchoedd y môr ym Môn fel "Parry Spanish Consul," oherwydd ef oedd Consular Agent Sbaen ym mhorth- ladd Caergybi lawer blwyddyn yn ôl. Yr oedd gwraig Capten Parry yn ferch Plas-vn-glyn, Llanfwrog, Sir Fôn. Miss Elias oedd ei henw cyn priodi, os wyf yn cofio'n iawn, ac yr oedd teulu nain Miss Nesbitt, fel teulu ei thaid, yn adnabyddus tua Chaergybi. Y mae Miss Nesbitt ers blynyddoedd yn adnabyddus iawn i filoedd lawer o theatre- goers Llundain fel actres o'r radd flaenaf. Fel aml i seren y llwyfan arall y mae hi'n awr yn gweithio ar y ffilmiau hefyd. Fe'i gwelais hi'n ddiweddar yn actio yn y ffilm Canaries Sometimes Sing, gyda'r seren ddisglair arall, Mademoiselle Yvonne Arnaud. Mr. T. Ifor Rees. T>AN oeddwn yn Abermo y diwrnod o'r blaen, mi gwrddais â Mrs. Rees, gwraig Mr. T. Ifor Rees, Consul Prydain yn Bilbao, Sbaen. Ar ôl bod yn teithio'r byd gyda'i gwr (bu 'n byw nid yn unig yn Sbaen ond hefyd yn Venezuela a Nicaragua, Deheudir America), y mae Mrs. Rees wedi dyfod i aros i Abermo am ysbaid, a'u plant yn mynd i'r Ysgol Ganolradd yno. y Gwyl Ddewi yn Sbaen. MAB i Mr. J. T. Rees, y cerddor adna- byddus o Aberystwyth, ydyw Mr. T. Ifor Rees, ac fe wyr degau o Gymry erbyn hyn am y croeso a geir yng Nghonswlfa Prydain yn Bilbao. Dethlir Dydd Gŵyl Dewi bob blwyddyn mewn ffordd Gymreig yn y tý, ac y mae'r plant bob un yn siarad Cymraeg mor groyw ac mor bur ag y siaradant Sbaeneg a Saesneg. Miss KATHLEEN NESBITT. Tila chwe blynedd yn ôl yr aeth Mr. Rees i Bilbao, ar ôl gwasanaethu ym Marseilles (Ffrainc), Caracas (Venezuela), a Managua (Nicaragua). Ymgais Mr. Rees ym mhob gwlad fu myned i mewn i fywyd y trigolion a'i gadw ei hun ar yr un pryd yn Gymro pur. Dringo mynyddoedd. I MR. REES y mae'r Prydeinwyr yn ddyledus am y fynwent hardd sydd yn Bilbao. 'Does neb a ŵyr y pris a roddir ar hyn mewn gwlad Babyddol. Dringo mynyddoedd ydyw hobi Mr. Rees yn.ei oriau hamdden, ac y mae wedi dringo rhai o fynyddoedd llosg enwog y byd'. Un o blant Ceredigion ydyw Mrs. Rees hefyd—merch i'r diweddar Mí*. a Mrs. Phillips, Tre-iaes-ac y mae awyrgylch Gymreig o gwmpas ei chartref ym mha le bynnag y bydd. Maer yn Llundain. MI soniais y mis diwethaf am Arglwydd Faer Sheffield, Mr. T. H. Watkins, a bûm yn sôn o'r blaen am feiri eraill yn Lloegr sy'n Gymry. Cymro ydyw Mr. W. Pierce Davies, Maer newydd bwrdeisdref Hammersmith, Llun- dain hefyd. Yn Llandudno y ganed ef, ond fe symudodd ei rieni i fyw i Lanfairtalhaearn, gerllaw Abergele. Rhai o gyffiniau Llan- rwst, Sir Ddinbych, oedd teulu ei fam, ac y mae amryw ohonvnt yn byw yn y dref o hyd. Hen Ysgol. YNG Ngholeg Deganwy ac Ysgol Ramadeg Llanrwst (ysgol a waddol- wyd gan yr enwog Syr John Wyn o Wydir ac ysgol y bu Ieuan Glan Geirionydd yn ddisgybl ynddi ac y canodd mor swynol iddi) y cafodd Mr. Davies ei addysg. Ar ôl ei gyfaddasu ei hun fel cyfreithiwr yn Llanrwst, fe symudodd yn 1895 i Lundain. Erbyn hyn mae ei fab hynaf yn bartner gydag ef yn y ffyrm ac mae'r mab ieuengaf yn ysgolor yng Ngholeg Balliol, Rhydychen. Mae'r ddau fab yn bregethwyr cynorthwyol gyda'r Wesleaid. Mrs. Davies hefyd. ETHOLWYD Mr. Davies ar Gyngor Hammersmith gyntaf yn 1903, ac er hynny bu'n aelod o dro i dro am dros ddeuddeng mlynedd. Diddorol yw deall bod Mrs. Davies hefyd yn aelod o'r un cyngor ers naw mlynedd. Bu'r ddau'n flaenllaw iawn gyda gwahanol fudiadau yn y cylch. Mr. Davies oedd y cyfreithiwr a amddiffynnai yn yr achos cyfreithiol a ddaeth yn enwog fel achos Three Brides in the Bath yn 1915. Yn hwnnw hefyd y gwnaeth bargyfreithiwr enwog, y diweddar Syr E. Marshall Hall, K.C., enw iddo'i hun. Cyfarfod yn Affrica. MI gefais air y diwrnod o'r blaen oddi wrth Prof. John Hughes, y gŵr a aeth o Goleg Aberystwyth y llynedd i fod yn Athro Addysg yng Ngholeg Prifysgol Rhodea, Grahamstown, De Affrica, fel olynydd i Syr John Adamson.