Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y FFjASIYNAU Gwisgo Scaffiau—Sut i drin lliwiau. Gan MEGAN ELLIS. Y MAE scarffiau'n bwysig iawn yng nghynlluniau gwisgo 1932—o scarffiau hardd at gyda'r nos hyd y rhai sobrach ar gyfer fîrociau dydd a siwtiau cerdded. Rhai a'u gwlan ffein ydyw'r rhai mwyaf poblogaidd at eu gwisgo yn y dydd; neu bunting cyn feined â phapur, a'r cwbl yn ysgafn, hawdd eu clymu, a pherffaith eu Iliwiau. Fe welwch rai brown golau, brown tywyll, coch cynnes ac orens meddal, ac arnynt bob math o gynlluniau — deimonds mawr, siec ìnân, neu streipiau a deimonds ynghyd. Gellir eu cau o'r tu mewn i goleri siacedi, neu eu defnyddio i ysgafnhau ffrociau gwlan plaen brown neu las tywyll neu ddu. Y inae'r rhan fwyaf o'r scarrfiau wedi eu torri'n groes ac felly fe blygant yn union fel y mynnwch. Y mae eraill yn wastad ac yn amrywio o ran hyd a lled yn ôl fel y bônt ar gyfer gwisgoedd neu gotiau. SYNIAD NEWYDD. Mi welais un syniad newydd-tiwb hir o sidan rhesog wedi ei wneud yn gylch a'i basio ddwywaith rownd y gwddw, nes bod un plyg yn disgyn at y gwregys y tu blaen ac un ychydig yn uwch. Y mae'n gylch mawr cyn ei basio rownd y gwddw, bron cymaint â chylchyn plentyn, ac fe'i deín- yddir ar ffrociau gwlan plaen neu ffrociau sidan. CYNLLUN LLIWIAU. Pan fo rhyw liw wedi taro'n ffansi mor anodd ydyw ei adael. Côt arall, siwt arall, RYR ydyw gwallt o hyd, a dyma dair ffordd ddel o'i drwsio: yn gyrliau fflat yn troi i mewn oddi- tanodd; yn donnau wedi eu pinio'n agos at y pen; ac yn donnau llac, isel ar y naill ochr ac wedi eu codi'n 61 dros y glust ar yr ochr arall. ffroc arall. y cwbl bron yn yr un lliw— dyna'r hanes o hyd nes bod eich ffrindiau yn dyfod i feddwl mai merch ydych heb ddim ond un syniad am wisg. Cynllun da ydyw dal at yr un lliw fel sylfaen; brown tywyll cyfoethog, brown- goch, du neu las tywyll. Ond ei am- rywio cymaint ag y gellir â darnau eraill. Fe edrych ffroc goch ddisglair yn dda dan gôt frown, ddu neu las. Fe edrych ffroc las golau cystal. Fe allech hyd yn oed gael pedair ffroc o wahanol liwiau a phedair het, gydag un gôt wedi ei thorri'n dda yn eich hoff liw tywyll. Prynwch gymaint a fedrwch o berlau g w d d w, scarffiau, menyg ac esgidiau, ond rhowch i bob un ei le ei hun yn eich cynllun gwisgo, i gyfateb â rhywbeth arall. Da ydyw cael puU-overs a jumpers, gyda sgyrtiau'n mynd gyda'r gôt neu gyda'r pull- overs, ond peidiwch â'u prynu oni fyddant yn cynghaneddu â'r gweddill o'ch dillad. Er enghraifft os gwyrdd olewydd ydyw'r gôt hir, gellwch gael sgyrt wyrdd olewydd, a pull-over mewn gwyrdd ychydig yn oleuach neu o'r un lliw'n union. Ond os dewiswch pull-over coch (coch geranium, dyweder) rhaid i'r sgyrt ateb y jumper ac nid y gôt. Felly cewch gyferbyniaeth yn y siwt goch a'r siwt werdd. Ond ni fyddai'r gyferbyn- iaeth yn ddel pe na bai dim ond y jumper yn wahanol; dilledyn di-gyswllt fyddai, ac nid oes ar neb eisiau peth felly heddiw. Gwyn fy myd pe cawn 'i ddweud Helo'r hen frawd, 'ddoi di am dro? wrth bob rhyw gi bach digartref a llygaid ymbilgar a chynnon isel. Mae gen i job dda gyson i chwi gyfaill," wrth bob dyn di-waith a welaf wrth y cyfnewidfeydd Llafur. Bendith arnoch, fy mhlant, 'rwy'n gobeithio y byddwch yn hapus! CYMYSGU'R LLIWIAU: Dwy ffordd hapus o ddwyn Uiwiau i ddülaé di-liw. Cap, scarff a handbag ydyw'r set gyntaf, y cyfan mewn sidam rhesog cochddu, ac ymyl y cap ac ymylon y scarff a thu blaen y bag wedi eu trimio 8 rhiban Petersham lliw orens a lemon, o wahanol led. Set was ydyw'r llall, mewn sidan crip gwyrdd emrald, gyda rhesi sengl neu ddwbl o sidan 0 liw gwahanol wedi ei weithio i mewn. wrth bob cwpwl ifanc sydd a'r tadau a'r mamau yn erbyn. Anfonwch y biliau i mi, ma'm. wrth bob gwraig dlawd sy'n methu gwybod b'le i droi am arian i dalu i'r cigydd, y pobydd a'r groser. 'Chei di ddim rhyfela! ac felly ddwyn heddwch, heddwch i barhau, i'r byd. 'Ddywedais i erioed gelwydd na niweidio cyd-greadur o wirfodd! a gwybod fy mod i'n dweud y gwir. Dewch i mewn a dewis!" wrth bob plentyn bach fydd yn gwasgu'i wyneb ar wydr ffenestr siop dda-da. Ymgymodwch a dechrau etol" wrth bob cwpwl ar fin y llys ysgar. Actiwch eich oed, hen wraig! Yr ydych yn edrych yn llawer gwell wrth fod yn debyg i chwi'ch hun! wrth bob gwraig dros 55 sy'n paentio ei gwefusau, lliwio'i gwallt, a cheisio ym mhob dull a modd orchfygu Amser. Edrych ar ol Ffyriau. Os oes gennych goler ffwr wedi bod yn y glaw neu'r niwl, dylid ei sychu â thywel glân a'i sychu mewn ystafell gynnes. Peidiwch â'i dodi yn agos i dân poeth, neu fe â'n stiff.