Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SI WT fach smart o frethyn siec du a gwyn, gyda thicts o satin du ar y gwddw a'r penelin. Fe ddylid glanhau ffwr yn aml, gan eu bod yn hel baw a llwch. Y ffordd hawsaf a chyflymaf i lanhau ffwr cyffredin ydyw taenu tipyn o flawd poeth yn ysgafn drosto. a'i rwbio'n drwyadl, gan ofalu rhwbio yr un ffordd â'r blew Ei adael am ddiwrnod neu ddau wedi ei lapio mewn tywel; yna'i ysgwyd yn dda, a'i guro â ffon fain,.i symud y powdr. Gellid glanhau ffyriau tywyll iawn â magnisia neu fran poeth. Taenwch y ffwr ar bapur (ar ôl brwsio ac ysgwyd i ffwrdd unrhyw lwch rhydd), rhwbio'r bran yn drwyadl i mewn i'r croen, gan gymryd dyrnaid newydd bob tro, ysgwyd, a gorffen gyda brws meddal. Dylid hongian pob ffwr (ond rhai gwyn) mewn cydau glas tywyll neu borffor, nid eu gosod mewn drorau. Dylid cadw ffyriau gwynion mewn papur sidan glas i'w cadw rhag melynu. 'Ddaw pryfed dillad ddim i'r ffwr os lapiwch chwi ef mewn papur newydd, yn enwedig os bydd tipyn o gamffor yn agos. Y mae lwmpiau o gamffor mewn wardrob yn syphu pob lleithder, ac felly'n dda i ffyriaù. DEUNAW MIS YN DARTMOOR O dudalen 102. Rhed y meddyliau i bob cyfeiriad. Llawer gwaith, wrth deimlo beth oedd carchar, meddyliwn am ynadon, ac mor barod yr oedd rhai ohonynt i yrru eraill i'r jêl. Fe ddylai pob ynad serfio tymor mewn jêl ei hun-dywedais hynny lawer gwaith. Hiraeth-a chwerthin. Ar brydiau fe ddeuai hiraeth angerddol arn gartref, am gyfeillion, am ryddid, am Gymru. A phan fyddai hwnnw gryfaf, fe fentrai dyn bopeth i ddianc pe ceid y cyfle lleiaf. Ac ar bnawn Sul yn y gell, meddwl am gartref, dyheu am gwpaned o de a smôc, yn lle yfed dŵr o'r piser bach oedd ar lawr. Troi am gysur mewn llyfr. Colli yn hwnnw am amser go dda. Gweld yr ochr ddigrif yn ogystal â'r ddiirif; y dillad gwrthun — un hosan fawr ac un hosan fechan, trôs oedd llawn hirach na'r trowsus ac yn ddigon i gadw teulu o'i fewn o ran ei gwmpas, a'i rwymo fel plus fours dan ei ben glin. Cofio am Charles yn cerdded rownd yr exercise ground yn y bore — un bychan, byr, tenau yw Charles, ond dillad a luniwyd i gawr helaeth o gorff. Ychydig oddi wrtho cerddai Jim—dyn tal â throwsus hwnnw yn darfôd hanner y ffordd rhwng pen ei lin a'i droed, a'r gôt yn darfod hanner y ffordd rhwng ei grwmp a'i ysgwyddau. Sut oedd modd peidio chwerthin Nos Sul braf. Meddwl am Tom yn cael ei hun mewn helynt y diwrnod cynt am wenu yn wyneb y swyddog. Ond ni byddai Tom byth heb wên ar ei wyneb. Ni fedrai beidio gwenu, 'roedd y wên yn gymaint rhan o'i wyneb ag oedd ei drwyn neu ei geg. Nos Sul braf. Haul yn mynnu cyrraedd cyrion y gell, trwy'r barrau haem a'r ffenestr fach. Hiraeth am y crwydro hapus i lan y môr gyda chyfoedion. Oerni annioddefol gaeaf wedyn yn Dart- moor. Eira'n mynnu dod i mewn drwy'r ffenestr. Gosod,y sachau oedd yn y gell ar y gwely. Helynt y mis o'r blaen. Gall .y geiriau I arbed y rhai a drechwyd fod uwchben y porth, ond nid yw diolchgarwch am yr arbed yn llenwi calonnau'r rhai a gaethiwir. Darn o farddoniaeth Vergil ydyw'r geiriau Lladin uwchben y porth. Dyma'r frawddeg lawn: Hae tibi erunt artes; pacisgue imponere morem, PARCERE SUBJECTIS et debellere superbos. Ei hystyr yn ll&wn ydyw Boed y rhain yn gelfyddydau gennych-sefydlu trefn heddwch, arbed y rhai a drechwyd, a dar- ostwng y balch." Heb yn wybod iddynt eu hunain, nod carcharorion Dartmoor yn y terfysg y mis diwethaf oedd gwirio geiriau olaf y frawddeg —darostwng ybalch. Mr. Owen E. Roberts, Lerpwl. Awdur y stori "Noswylio," ar dudalen 109. Annerch at Gymry'r Byd. OS wyt Gymro, hoff o'th Sant, A hoff o'r cysegredig, Cadw ŵyl er mwyn dy blant, I Ddewi, ŵyr Ceredig, Cas yw'r gŵr na châr ei wlad, Bocd dlotyn neu bendefig. DYMA eiriau Eifion Wyn, a dywedwn ninnau yr un peth wrth Gymry gartref ac oddi cartref Cedwch ŵyl i gofio'n Nawddsant. ond cofiwch fod i chwi gyfrifoldeb anhraethol fwy i'ch gwlad, sef anwesu iaith. defion a delfrydau Cymru, a thrwy hynny gynnal breichiau'r rhai sydd yn brwydro beunydd dros fywyd y genedl. Nid ffordd deilwng i gofio'r Sant ydyw cynnal cyfarfod a gwledd a dywedyd Oes y byd i'r iaith Gymraeg rhyw unwaith mewn blwyddyn, ac anghofio na all iaith, mwy na dyn. fyw ar bryd neu ddau, ond bod rhaid iddi hithau, fel ninnan. wrth fara beunyddiol. Rhaid ei siarad bob dydd, a'r ffordd orau. mi gredaf. i ennyn sêl a brwd- frydedd tuag ati ydyw darllen ei hanes yn y gorffennol. Ceir heddiw lu o lyfrau megis "Llyfrau'r Ford Gron ac eraill sydd yn dwyn y gorffennol yn fy w ger ein bron. Ernes o'n cariad atoch ac o'n dymuniadau da i chwi ydyw ein hannerch o ŵyl i ŵyl, a mawr hyderwn y bydd gair fel hyn yn eich calonogi, ac yn creu ynoch benderfyuiad cadarn i barhau o wasanaeth diflin i'n hiaith ac i'n cenedl ym mysg y cenhedloedd y trigwch yn ou plith. Ydym. dros Undeb y Cymdeithasau, MEIRIONA. Aberffraw, Sir Fôn. Gohebydd "Cymru ar Wasgar. (Henadur) WM. GEORGE, Llywydd; JAMES CLEMENT, Trysorydd: CECIL WILLIAMS, Trefnydd; D. ÁRTHEN TVANS, Ysgrifennydd, Barri, Morgannwg.