Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYDDIADUR DAFYDD HUWS LLUN, CHWEFROR 1 Catrin a minnau yn Llan-y-ddwy-fuwch-wen. Prynu motor arall, All Noise 1890 "model." Dod adre ynddo. Catrin yn gofyn pa fynwent oeddym yn myned drwyddi. Egluro iddi mai cerrig milltir oeddynt. Paun Plas Coch yn ceisio stopio'r motor. MAwRTH, CHWEFROR 2: Cael cig paun i ginio. Diwrnod prysur yn y siop. Mwy o drafaeliwrs na chwsmeriaid. Ordro deg dwsin o dyllau botymau, a hanner tunell o sinsir caled. Catrin yn edliw fy mod wedi ordro digon tan ddydd y farn ac ymhellach na hynny, ond na fyddai raid i mi boeni am sinsir yr amser hwnnw, gan y byddwn mewn Ile digon cynnes. MERCHER, CHWEFROR 3: Anfon am beiriant wneud sausages. Llythyr oddi wrth Huw fy mrawd, yn holi am y parrot. Anfon gair iddo, a dweud wrtho fod y parrot wedi bwrw ei blu. Erfyn arno anfon rhyw- heth mwy cigog y tro nesaf. Jau, CHWEFROR 4: Gwraig y drws nesaf yn fy atgoffa nad oeddwn wedi rhoddi almanac iddi. Dweud mai hi oedd y cwsmer gorau. Yma beunydd yn chwilio am newid, ac yn disgwyl tri chwech am swllt bob tro. GwENER, CHwEFRoR 5: Prynu moch bach. "Eu bwydo bob yn ail ddydd," meddai'r gwerthwr, "os am gael cig brith." SADWRN, CHwEFRoR 6: Derbyn gwŷs i fod yn un o'r rheithwyr yn y Frawdlys. Pen blwydd Mari y ferch. Rhoddi beic iddi yn anrheg. Sul, CHWEFROR 7: Seion y nos. Cysgu'n drwm. Pregeth dda odiaeth. Cael gwasgfa. Dod allan cyn y casgliad. LLUN, CHwEFRoR 8: Y peiriant sausage yn* cyrraedd. Dim cig i ecsperimentio. Mewn penbleth lIe i gael crwyn sausage. Mwydo macaroni a'i chwythu hefo pwmp beic yn fethiant. Allan hyd y pentref yn hwyr. MAWRTH, CHwEFRoR 9: Dydd Mawrth crempog. Prysur iawn. Gwerthu allan o flawd, plastar paris ac wyau. Isaac y gwas yn gwerthu Vitrol yn lle essence of lemon. Cael archebion am ddeg padell ffrio a pedair grât newydd. Addaw codiad yng nghyflog Isaac. MERCHER, CHWEFROR 10: Allan hyd y pent.ref ers dau y bore. Derbyn y crwyn, a dfichrau o ddifrif ar y sausages. Prysur iawn, Gwerthu allan mewn awr. Swper yn gynnar. Allan hyd y nentref tan hanner nos. Dod adref heibio'r Ffactri. Iau, CHwEFRoR 11: Gwraig y Red Bull yn marw. Clywed sisial yn y pentref mai'r wsages oedd yn cael y bai. GWENER, CHWEFROR 12: Anfon at bobl yr Insiwrans i ddweud fod Herod y ceffyl wedi fìrffen ei yrfa. Cwynion yn y pentref fod rhywun yn dwyn eu cathod a'u cŵn. Gwraig 3 drws nesaf yn holi a wyddwn rywbeth o hanes ei chath. SIOP NEWYDD, LLANARFON SADwRN, CHwEFRoR 13: Gŵr y Ffactri yn galw, wedi colli'r mul. Gofyn a welais ef yn ddiweddar. Dyn yr insiwrans yn gwrthod talu am Herod, gan nad oedd gennyf ond y croen i'w ddangos, fel tystiolaeth o'i ymad- awiad. Dweud wrthyf mai hawdd fyddai dangos croen, wedi ei brynu am goron efallai. Dod i'r penderfyniad mai dyn drwg ydoedd. Sul, CHwEFRoR 14: Seion. Cwrdd gweddi y bore. Oedfa flasus, gartre'r prynhawn yn gwneud "accounts." Seion yr hwyr. Myned o amgylch gyda'r plât, ac arbed ceiniog. Teimlo'n nerfus, a phasio sêt Catrin a Mari heb feddwl. LLUN, CHwEFRoR 15: Mari yn cael damwain hefo'r beic. Ei chludo i'r ysbyty. Anymwybodol am oriau. Ei holi ynglýn â'r digwyddiad. Dod o'r Bettws ydoedd, y nos yn dywyll, ac iddi weled dau olau tanbaid o'i blaen. Mewn penbleth, pen- droni, ffaelu gwybod ffordd i fyned. Er bod yn sicr, meddwl mai gwell fyddai myned rhwng y ddau olau. Canlyniad, ysbyty. MAwRTH, CHwEFRoR 16: Yn y Frawdlys. Llanc wedi lladd ei rieni. Teimlo'n dosturiol wrtho pan glywais ef yn eiriol am drugaredd, gan ei fod yn amddifad o dad a mam. MERCHER, CHWEFROR 17: Plannu hadau mân yn yr ardd. Ieir y drws nesaf yn dod i archwilio fy ngwaith. Iau, CHwEFRoR 18: Yn yr ardd. Ail blannu hadau mân. Gwraig y drws nesaf yn holi beth oeddwn yn ei wneud. Dweud mai ail blannu hadau 'roeddwn. Hithau'n dweud fod rhywbeth tebyg i un o'i ieir oeddwn yn blannu. Egluro iddi hod yr hadau yn yr iâr. GwENER, CHwEFRoR 19: Yn wael. Annwyd trwm. SADWRN, CHWRFROR 20: Yn wael iawn. Ffliw. Sul, CHWEFROR 21: Gwael ofnadwy. Ofni fod dwbl amonia arnaf. Breuddwydio am gwn a chathod, a bod mul y ffactri yn sefyll â'i ddwy goes flaen ar fy mrest. LLUN, CHwEFRoR 22: Gwaeth o lawer. Clywed y doctor yn sôn am rhyw geranium trimminga. neu rywbeth cyffelyb. Breu- ddwyd erchyll. Fy mod wedi cyrraedd adref,—hen Ie mawr myglyd. Cyfarfod â hen berson Llanarfon, a dau flaenor sentars. Cwyno 'r oeddynt am y bwyd. Dim amryw- iaeth. "Cinders on toast beunydd, ond disgwyl i bethau wella, gan fod eu tad wedi ordro peiriant "ice cream. Dim hanes am Wil y potsiar. Ofni cyfarfod â gwraig y Red Bull. Ceisio dianc allan, ond rhywun yn lluchio llond rhaw o ludw poeth amaf. Deffroi, a Catrin yn ochain, wedi colli gwydraid o frandi poeth am fy mhen. MAwRTH, CHWHFROR 23: Yn well. Codi i'r gadair. Mercher, Chwefror 24: Yn llawer gwell. Cael cinio a the i lawr. Llythyr oddi wrth Mr. Rees, y banc, yn holi am yr over-draft." Anfon yn ôl i ddweud fy mod yn llawer gwell, a bod Catrin wedi cau pob twll a chornel lIe'r oedd drafft. Iau, CHwEFRoR 25: Catrin a minnau am drip yn y motor. Talu swllt a deg am de i ddau. Catrin yn cwyno ei fod yn ddrud. Dweud wrthi fy mod wedi cael bargen dda, i mi gael ambarelo newydd bron, a het llawer gwell, ond ei bod braidd yn fychan, fel discownt. GwENER, CHWEFROR 26: Trip arall er lles fy iechyd. Prynu het newydd i Catrin. Prynu meuyg i mi fy hunan. Cael trafferth i gael tair. Y siopwr yn gofyn paham tair. Egluro fod gennyf eisiau un am bob llaw, a'r llall i'w chario, fel pob gwr bonheddig arall. Sadwrn, CHwEFRoR 27: Trip eto i wynt y niôr. Catrin yn ei het newydd. Minnau yn fy het discownt a'r menyg. Clywed rhywun yn gofyn i'r plismon a oedd carnifal yn y dref heddiw. SUL, CHwEFRoR 28: Seion, bore, nawn a hwyr. Y gweinidog yn hysbysu'r eglwys fod angen mawr am flaenor arall. Codi i gynnig ein bod yn symgd ymlaen i ddewis blaenor arall, a phwysleisio'r ffaith mai dyn busnes fyddai'r dyn gorau i'r eglwys. Neb yn eilio. LLUN, CHwEFRoR 29: Llythyr oddi wrth Huw fy mrawd, yn dweud ei fod yn anfon mwnci imi. Annog Isaac y gwas i ddweud wrth y cwsmeriaid y byddai gennym gig oen i'w werthu tua'r Pasg. (I barhau). What About Your Future ? Are you content with the position you occupy now-with the money you are earning or do you wish for some- thing better and some- thing more? Ask yourself these questions; then ser- iously consider what you ought to do. The one thing more than any other that enables a man to nse above his fellows and win a way into the better-paid jobs is a soond and practical technical training. He cannot possibly get such a training in the course of his everyday work. One hour a day spent the I.C.S. spare-time way will give you the best training of its kind in the world. During the last 40 years, tens of thousands of I.C.S. Students have won remarkable success. Why not you also? Let us tell you how you can improve yourself in your calling. Our 400 Courses include the following: Aeeountancy& Book-k'pg Insurance Advertlslng Professlonal Exams. Architecture & Building Salesmanshlp Commereial Art Scientific Management Commerelal Training Shorthand-Typewriting Draughtsmanship Teitiles Engineering, all branehes Window Dressing Freneh and Spanish Wireless Engineering General Edneation Woodworking Write to-day for Booklet containing full inform- ation regarding the Courses in which you are most interested. It will be sent gratis and post free, and will place you under no obligation. International Correspondence Schools, Ltd., DEPT. 163. International Buildings, Eingsway, London, W.C.2