Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Myfyrdod Gwyl Ddewi Gan J. Williams Hughes Ymaith dr Menig GwynìofP "C'EL yr â'r blynyddoedd heibio, daw neges bywyd Dewi Sant yn fwy-fwy i'r golwg, nid yn unig i'w oes a'i genedl ei hun, ond i bob oes ac i holl genhedloedd y byd. Nid Cymro bychan cartrefol mohono, ond un o arweinwyr meddwl y byd. Nid chwedl wag yw ei hanes. Mynach oedd ei dad, a Mynaches o'r enw Non-neu Nona — oedd ei fam, a rhyfedd fod enw mor brydferth wedi colli ymysg enwau merched Cymru. Goleuni Dewi. Wedi crwydro trwy Brydain, gan adael goleuni a hapusrwydd mewn lleoedd na fu ond tywyllwch ac anobaith o'r blaen, daeth galwad arno i fyned i Ddeheudir Ffrainc, a bu am ysbaid mewn coleg yno yn addysgu dynion o bob cwr o'r byd oedd yn adna- byddus y pryd hynny. Daeth ei neges fel peth rhyfedd a newydd iawn i fyd na welodd erioed ond rhyfela a chweryla. Fel milwr y daethai pob ym- welwr o wlad ddieithr, a dinistr fel arfer a'i canlynai. Ond fel cennad hedd yr aeth Dewi i Ewrop ac fe'i dilynwyd gan oleuni newydd a brawdgarwch. Yn lle dinistrio, bu'n gymorth i osod i lawr sylfaeni gwar- eiddiad newydd. Pan rag-ddywedwyd am farw Dewi, daeth ei ddisgyblion o'i amgylch gan wylofain a gofyn, Pwy a'n dysg ni? Pwy a'n cynorthwya ni?" Pwy a'n hurdda ni? Pwy fydd dad cyn drugar- oced â Dewi? Pwy a weddïa drosom ar ein Harglwydd? Ar fin cyfnod newydd. Aeth y canrifoedd heibio. Anghofiwyd Dewi gan ei genedl ei hun pan oedd hi'n sylfaenu ei chymdeithas ac yn trefnu ei bywyd. Daeth y cledd yn fwy ei rym nag athrylith. Aeth arian ac aur yn gryfach na brawdgarwch. Boddwyd llais Dewi gan ddwndwr cynnydd a llwyddiant. Heddiw, pan a'r byd wyneb yn wyneb â EISTEDDFOD Y DDYLLUAN CYSTADLEUAETH RHIF 7. Un arall o freuddwydion y Ddylluan. FE'M gwelwn fy hun wedi'm gwahodd i ginio Gwyl Ddewi dan nawdd un o gym- deithasau gwlatgar a chiniawgar Cymru. Daeth adeg yr areithiau gwasail-neu, a defnyddio iaith llawer o'r rhai oedd yn bresennol the toasts." Er nad oedd cof gennyf fy mod erioed wedi clywed cysylltu enwau 'r areithwyr hyn â dim Cymreig, yr oedd yn syndod canfod effaith cinio da er ennyn brwdfrydedd a chariad angerddol at hen Gymru wen. Yr oedd llawer iawn o sôn am Wlad y breintiau mawr," am Wlad y Gân ac am Ddewi Sant, Owain Glyn Dŵr, etc., etc. methiant, efallai y cawn amser i wrando ar ei neges. Yr ydym ar fin cyfnod newydd yn hanes y byd ac yn hanes dynoliaeth. Mae'r wawr yn torri, yn ddigon llwydaidd efallai, ond fe dyr am fod synnwyr cyffredin a chariad o'i phlaid. Pan ddaw'r dydd newydd pan na ddysgir rhyfel mwy bydd y byd yn edrych am arweiniad. Nid nerth milwyr na llyngesau mwyach fydd y grym, ond athrylith, gwybodaeth, a gweledigaeth. Ysbryd Dewi Sant. Pan fydd Ffrainc yn gweiddi Pwy a'n dysg ni? a'r Almaen yn gweiddi Pwy a'n cynorthwya ni? a brenhinoedd y ddaear yn gweiddi Pwy a'n hurdda ni?" pan fydd Rwsia yn gofyn Pwy a weddïa drosom ar ein Harglwydd? oni ddichon i Gymru ddangos mai ysbryd Dewi Sant ym mywyd ei genedl a rydd yr arweiniad? Y mae'r byd yn troi at y wawr. A gaiff Cymru ei arwain tuag ati? Y menig gwynion." Bu canu hwyliog flynyddoedd yn ôl am Gymru, gwlad y menig gwynion. Gresyn na fuasai mwy o ôl gwaith ar fenig gwynion yr hanner can mlynedd diwethaf. Gwelwyd cenhedloedd o Gymry yn eistedd i lawr i ganmol ei gilydd ac i segura tra rhedai eu hiaith yn frysiog i dir angof ac y disberid ei diwylliant i'r gwynt. Menig gwynion segurdod y cyfnod hwn sy'n cyfrif mai brwydro y mae Cymru heddiw i ail-ennill ei sefyllfa ymhlith cen- hedloedd y byd yn lle'i bod yn ymladd i ennill tir newydd. Gadawn i Gymru heddiw dynnu ei menig gwynion a thorchi ei llewys, i'w rhoi ei hun mewn trefn ac i helpu rhoddi trefn ar y byd. Rhowch addysg i blant y mynyddoedd, Na hidiwch am lawer o stâd, A chwi sydd yn sôn am hen oesoedd Rhowch drem ar ddyfodol ein gwlad. Yn ddisymwth gwelwn ddrws yr ystafell yn agor, a rhywun dieithr yn dyfod i mewn. Wrth sylwi ar ei wisg meddyliais ar y cyntaf fod y chef wedi dyfod i fyny o'r gegin, ond gwawriodd arnaf yn ddisymwth nad oedd ef yn neb llai na Dewi Sant ei hun. Daeth ymlaen at y bwrdd ac annerch y gwahoddedigion. Gwnaeth araith fer bwr- pasol, a gwawdlyd. Cynigir gwobr o 7s. 6d. am gyfansoddi araith Dewi Sant (heb fod dros 400 o eiriau) ar yr achlysur. Os bydd o unrhyw help i'r cystadleuydd, rhodded yr araith yng ngenau Owain Glyn Dŵr yn lle Dewi Sant. Anfoner yr areithiau i mi, c/o Y FoRD GRON, Swyddfa Hughes a'i Fab, Wrecsam, erbyn dydd Iau, Mawrth 10. Y DDYLLUAN. Gweithiau'r Athro T. Gwynn Jbnes Y mae'r gyntaf o'r chwe chyfrol unfiurf yn awr ar y farchnàd-un o'r llyfrau Cymraeg harddaf erioed. MANION Yn cynnwys peth o farddoniaeth orau'r athro, Pris 5s. Dechreuwch heddiw gasglu gweithiau prif ffigiwr llenyddol ein hoes ntN HDGHE8 A'I FAB, CYHOEDDWYR, WRECSAM. YN AWR AR WBRTH. HYWEL HARRIS, gan CYNAN A oedd Madam Gruffydd yn caru Hywel Harris? A oedd Hywel Harris-yn caru Madam Gruffydd? Beth oedd agwedd Nansi, gwraig Harris at fywyd ei gẃr? Drama ydyw hon am y serch a'r nwyd a'r antur oedd ym mywydau sefydlwyr Methodistiaeth. Y mae Williams Pantycelyn. yn un o'r cymeriadau ynddi. Bydd mwy o drafod hon nag unrhyw lyfr Cymraeg a gyhoeddwyd ers tro byd. Drama i'w darllen. Y mae'n afaelgar fel nofel. Pri» 28. 6d. STORIAU RICHARD HUGHES WILLIAMS Pedair-ar-bymtheg o storiau penigamp. Ni bu'r stori fer Gymraeg yr un fath wedi i -Hughes Williams weithio arni," meddai Mr. E. Morgan Humphreys yn ei ragymadrodd. Dangosodd lwybr newydd a dull newydd. Cymerodd ei grefft ddifrif, a bu fyw er ei mwyn. Os anghofiwyd ef, erys ei ddylanwad ar lenyddiaeth Cymru o hyd. A gobeithiaf y bydd i'r casgliad newydd hwn ei ddwyn i gof ei gydwladwyr eto." Prú: Lliain, 28. 6d. HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYB, WREOSAM.