Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU. Cefndir Bywyd Richard Hughes Williams "TORRWR TIR" Y STORI FER GYMRAEG Gan ÉATE ROBERTS Storiau RICHARD Hughes WILLIAMS, gyda rhagymadrodd gan E. MORGAN HUMPHREYS. Hughes a'i Fab, 2s. 6d. "iyTID wyf am geisio ysgrifennu adolygiad ar y casgliad newydd hwn o storïau Mr. Richard Hughes Williams-dywedais lawer am ei waith o dro i dro mewn erthyglau ar y stori fer ac wrth siarad arni, ac mae Mr. E. Morgan Humphreys wedi rhoi beirniadaeth deg ar y Storïau yn y rhagair. Hoffwn ddywedyd ychydig am ardal a chysylltiadau bore Mr; R. Hughes Williams ­pethau a deifl oleuni, efallai, ar lawer o wendid a chryfder y Storïau hyn. Golygfa odidog. Pentref yn Arfon yw Rhosgadfan (er y cyfrifid ef yn etholaeth Eifionydd), ar odre Moel Tryfan a Moel Smythew, rhyw bedair milltir i'r dê-ddwyrain o dref Caernarfon. Gwarchaea Eryri ef o'r dwyrain i'r dê, a rhyngddo â gwlad Llyn mae'r Eifl. Rhyngddo â Môr Iwerydd ac Afon Menai mae gwastadedd o ffermydd da. O'r braidd y gellir gweled golygfa mor eang o unman. O'r Eifl i Lanfair y Borth ac i Sir Fôn a thros Fôr Iwerydd i Iwerddon ar ambell ddiwrnod clir. Mae Môr Iwerydd, Afon Menai, Tref Caernarfon a Sir Fôn yno o'ch blaen bob amser, yn llwyd yn y gaeaf ond yn las a heulog yn yr haf. Anodd gennyf gredu bod godidocach golygfa i'w chael yn y byd na'r olygfa hon o Rosgadfan ar ddydd o haf, ac yn enwedig hwyrddydd haf pan â'r haul i lawr dros Fôr Iwerydd a thaflu ei lewyrch hir ar y tonnau. Ardal lom. Ardal lorn yw'r ardal. Tir mynydd oedd y tir ar y cyntaf. Hyd oni ddaeth moduron i'r ardal, yr oedd llidiart ar draws y ffordd rhwng Rhostryfan a Rhosgadfan-Y Llidiart Coch-hen lidiart y mynydd gynt a gadwai'r defaid rhag dyfod i lawr. Mae Rhostryfan yn hyn na Rhosgadfan o gryn dipyn. Nid wyf yn meddwl bod llawer o dai os oedd yno rai o gwbl, yn Rhosgadfan ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Adeiladwyd llawer o'r tai gan y chwarelwyr. Yna prynent dir-H tir awdud fel y'i gelwir- gan y llywodraeth yn rhad, a chaeent ef i mewn â chloddiau pridd. O'r wlad. 0 Lŷn y daeth llawer o ddynion i Rhos- gadfan = gweision a meibion ffermydd yn symud o'r ardaloedd amaethyddol i'r Pentref Rhosgadfan. Y tu ol i'r capel y mae Hyfrydle, lle y trigai Mr. R. Hughes Williams. chwareli, ac ymbriodent â merched Waun- fawr neu Rostryfan neu rai o'r ardaloedd cylchynnol onid oeddent yn briod eisoes. Credaf mai o Lyn y daeth tad a mam R. H. Williams. Daeth teulu fy nhad oddi yno yn gynt, yn nyddiau fy hen-daid. Efallai i deulu Mr. Hughes Williams ddyfod oddi yno cyn hynhy — ond.y syniad sy gennyf yw, mai ei dad a'i fam oedd y rhai cyntaf o'i deulu ef i ymfudo o Lyn. Bywyd caled. Gellir dychmygu mai bywyd caled a gafodd ein cyndadau wrth weithio yn y chwarel drwy'r dydd, ac yr oedd diwrnod yn hwy nag o olau i olau y pryd hynny: cau cloddiad a thrin y tir gyda'r nos ac ar brynhawn Sadyrnau. Y pryd hynny âi chwarelwyr i'r gwaith yn fore iawn ar ddydd Sadwrn, gadael y ty am bedwar. Cerddai rhai ohonynt i chwareli Llanberis a Dyffryn Nantlle. Erbyn heddiw mae pethau'n well neu'n waeth (oblegid nid oes weithio yn y chwareli bychain hyn er yn agos i ddwy flynedd). Mae tai gwell yn yr ardal, ac mae'r ffermydd bychain fel llecynnau gwyrdd yn yr anialwch, a grug a llus ac eithin yn tyfu hyd y cloddiau. Ond credaf fod effaith gweithio caled a thai gwael yn yr ardal o hyd. Dyma un o'r ardaloedd gwaethaf yng Nghymru am y diciâu (y darfodedigaeth). Yn y chwarel. Bu Mr. R. H. Williams yn gweithio yn y chwarel ei hunan am ychydig pan oedd yn llanc, ar gyfnod hynod wan ar y chwarel- rhywdro 0 1890 ymlaen. 0 hynny hyd y Rhyfel oedd y cyfnod salaf a welodd chwareli bychain Sir Gaernarfon, mi gredaf. Rhowch y ddau beth yna at ei gilydd, y darfodedig- aeth a byd gwan-ac fe gyfrif am lawer o dristwch y storîau hyn. Gwn fod bywyd y chwarelwr y pryd hwnnw yn galed, ond tybiaf fod yr awdur wedi ei baentio yn rhy ddu. Yr oedd yno lawer o ddioddef, ond nid hyd at lwgu a mynd i'r wyrcws mi gredaf. Hyd yn oed petasai felly, nid doeth o safbwynt llenydd- iaeth yw ei roi fwy nag unwaith mewn stori. Er i beth fod yn wir, rhaid iddo fod yn debygol ac nid yn anodd ei gredu. Mae yna ochr arall i fywyd chwarelwyr. Byd gwan neu beidio, caiff ambell chwarelwr sgram o hyd yn ei dun bwyd. Yn yr un cyfnod ag yr ysgrifennodd Mr. Hughes Williams amdano y dywedodd y chwarelwr hwnnw a gai damaid amheuthun bob dydd i'w ginio, talai pwy a dalai, Myn diawl, 'daiff beili byth i 'mol i." Dioddef at angau. Mae yna ochr fel yna i fywyd chwarelwr. Diangen dywedyd nad i'r teip arall yna y perthynai R. H. Williams. Teip arall ydoedd ef, a dioddefai hyd at angau cyn yr ai i ddylêd. Ond, gwaith awdur yw gosod ei lygad ar y ddau deip a'u disgrifio. Gwir bod yn yr ardal farw mawr o'r diciâu. Ond, eto, o safbwynt llenyddiaeth, nid da dyfod a hynny i mewn i stori ar ôl stori. Nid gwirionedd llythrennol y dylid ei gael mewn stori ond y gwirionedd tebygol. Mewn geiriau eraill, nid tynnu llun gyda chamera yr ydym ond gyda phwyntil. Ei storiau. Gresyn na buasai'n bosibl cael y storïau yn ol trefn eu hysgrifennu fel y gellid gweled twf a datblygiad yr awdur. Yr oedd hynny'n amhosibl mae'n debyg, gan mai'r awdur ei hun a allasai ddywedyd hvnnv. Er mai yn 1915 yr enillodd Y Colledig," "Noswylio" a'r "Hogyn Drwg" yn Eisteddfod Bangor, digon posibl ysgrifennu rhai ohonynt cyn hynny. Yn wir, mae'n fwy na thebyg nad yr un amser yr ysgrifennwyd Noswylio a'r" Hogyn Drwg." Mae gwaith Mr. Hughes Williams yn bwysig iawn yn hanes y stori fer yng Nghymru. Efe oedd y cyntaf i edrych ar y gelfyddyd o ddifrif. Rhywbeth i ddiddori oedd y stori fer cyn hynny. Gwelodd Mr. R. H. Williams fod posibilrwydd celfyddyd ynddi. Ac oherwydd hynny, aeth ati i roi ei deimladau personol ef am fywyd ynddi; ac i wneud darlun o hynny. Yr oedd yn rhaid carthu popeth nad oedd a wnelo â'r [Trosodd.