Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

profiad yr oedd ef am ei fynegi. Mae ei storïau yn gynnil hyd at foelni bron-y rhai gorau ohonynt. Pobl od a phobl wael. Pobl wahanol i bobl eraill yw ei gymer- iadau, oddieithr Huw Huws y blaenor, pobl â rhywbeth od yn eu cymeriad neu yn eu hymddangosiad, neu ynte bobl wael. I un na threuliodd ond ychydig amser yn y chwarel, a hynny pan oedd yn llanc, dyna'r bobl a fuasai'n cael ei sylw. Prin y daw hogiau ifanc i adnabod dynion canol oed heb ddim yn anghyffredin ynddynt, nes dyfod ohonynt hwythau yn ganol oed. Tosturio wrth y cymeriadau a wna'r awdur, efallai dosturio gormod. Rhaid wrth rywfaint o galon galedwch i ysgrifennu. Ei ferched. Ni cheir yn y storïau ddim merched o bwys, ond "Martha," a dynes od yw hithau. Nid dyna 'r teip cyffredin o wraig chwarelwr. Ni cheir yma chwaith ddim disgrifiadau o'r ardal ei hun na'i phrydferthwch. Mewn dynion yr ymddiddorai'r awdur, a gallodd gyfleu llymdra a thlodi'r ardal wrth ddis- grifio'i phobl. A disgrifiodd y bobl wrth roi inni eu siarad. Nid oes yma baragraffiau o ddisgrifio megis yn nofelau Daniel Owen. Sgwrs, a dyna'r cwbl. Mae'r dynion yn y sgwrs. Siarad dau. Ni wn am neb eto a fedrodd wneud i'w bobl siarad mor naturiol â Richard Hughes Williams. Cafodd help y canrifoedd i wneuthur hynny. Dyma Gymraeg â chanrifoedd o draddodiadau tu ôl iddo. Mae llawer o'r idiomau wedi marw gyda'r cymer- iadau a'u siaradai ysywaeth. Mae Cymraeg eto yn yr ardal, ond nid y Gymraeg gref a siaradai cymeriadau Richard Hughes Williams. Cymraeg Glasynys, Gwyndaf Eryri a Thryfanwy oedd eu Cymraeg hwy. Ac nid disgrifio cymeriadau yn unig a wna'r awdur gyda siarad," Gall gyfleu awyrgylch drwyddo. Nid oes un gair yn storir Hogyn Drwg yn disgrifio'r lefel. Ond drwy siarad Harri a Dic gallodd yr awdur gyfleu holl dduwch a thrymder y twll di- obaith hwnnw. Medrodd hefyd, drwy'r siarad, gyfleu inni holl ddigrifwch y chwarelwr. Yn y storïau digrif, anodd peidio a thorri allan i chwerthin dros bob man. Ac eto digrifwch hollol naturiol yw'r digrifwch. Efallai bod Mr. R. H. Williams wedi adnabod digrifwch y chwarelwr yn well na'i dristwch. Llenor cywir. Ni ellir dywedyd bod yma arddull gain. Ac eto mae yna rywbeth yn ei ysgrifennu. Fe wyr beth i'w ddweud a pheth i beidio â'i ddweud. Praw yw hynny o'i gywirdeb fel llenor. Nid oes ganddo le i ridens am nad oes arno eu heisiau i ddangos y chwarelwr a adnabu ef. Sonia am chwarelwr yn sefyll yn nrws y caban a sach dros ei war. Mae hynny'n ddigon. Fe welsoch y chwarelwr. Y storïau gorau gennyf i yn y llyfr hwn yw Pitar a'r Hogyn Drwg. Ond, ond, ond, paham nad yw stori'r Gath i mewn? Dyna'r stori orau a ysgrifennodd Richard Hughes Williams erioed — stori a ymddangosodd yn y Faner ar ôl ei farw. Ac nid yw gadael y Straeon Gwynfor STRAEoN, gan GWYNFOR. Gwasg Aber- ystwyth; td. 81. Pris 2s. 6d, CYFROL o saith o straeon yw hon, gan ŵr sydd adnabyddus yng Nghymru am ei waith gyda'r ddrama. Y mae o leiaf un o'r straeon wedi ei gwobrwyo yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac un neu ddwy o'r lleill wedi eu cyhoeddi yn Y Llenor. Straeon wedi eu geni ymhlith morwyr yn un o drefi'r môr ydynt oll, ac y mae cymeriad a llawnder y bywyd a geisiant ddisgrifio yn torri drwy'r straeon ou ac yn rhoddi cip-olwg ar oes a phobl ddigrif, fentrus. Ond er bod y sylfaen yma, ac er cymaint gwybodaeth yr awdur am ei bobl, nid yw'n gwneud y defnydd gorau o'i ddeunydd heblaw mewn un stori-" Y Simpil Idiot" — sydd ac unoliaeth a marciau di-os stori dda arni. Y mae'r lleill braidd yn rhy wasgaredig i'w|falẃ yn straeon gwir afaelgar; nid yw'r awdur wedi gallu plethu holl ffeithiau a chymeriadau ei stori yn ddigon clos, ac am hynny, er bod diddordeb yn y deunydd, nid oes digon o wasgu wedi bod arno cyn ei ysgrifenuu, ac y mae'n llac. Gwychder Morgan Llwyd E. fS?LS!>AN8 LLYTHYR τ'н CYMRY CARIADUs, gan Morgan LLWYD. Llyfrau'r Ford Gron, Rhif 11. Pris 6d. BYDD rhywbeth o'i le ar ben a chalon Cymru os daw galw byth ar i'r Golygydd ei amddiffyn ei hun am restru hwn ymhlith Trysorau'r Iaith Gymraeg." I ddechrau, saif Morgan Llwyd ar ei ben ei hun yn holl hanes ein Llên, heb na neb o'i flaeni nac ar ei ôl, nac yn y golwg, yn debyg iddo. Un Morgan Llwyd sydd. Gyda golwg ar y Trysor hwn, teimlir bod y Llythyr megis yn ei ddewis ei hun, eithr am y farddoniaeth, dangosodd y Golygydd farn gytbwys a chwaeth ddigyf- eiliorn. Peth rhyfedd, onid e, na buasai'r stori hon allan ond un enghraifft o'r dull afler y casglwyd y llyfr hwn at ei gilydd. Ni wnaed dim ond hel y straeon o'r llyfrau a'r cylchgronau fel yr oeddynt heb gywiro eu hiaith na dim. Dylesid ar bob cyfrif adael brawddegau olaf Yr Hogyn Drwg allan. Yn ôl fel y clywais nid y diwedd yna a ysgrif- ennodd yr awdur i stori. Torrwr tir. Hefyd, buasai'n gaffaeliad mawr cael geirfa i egluro'r termau chwarel ar y diwedd, termau megis trafel, mwrw, cowntis, ladis wyth &c. Mae eglurhad ar y rhai hyn i gyd yn llyfr Tecwyn Parry ar Lanberis. A gadael y beiau yna o'r neilldu gwnaeth y cyhoeddwyr wasanaeth mawr i lenydd- iaeth Gymraeg trwy gyhoeddi'r storïau gyda'i gilydd-stoñau y torrwr tir ym myd y stori fer Gymraeg, a storîau sy'n dangos gwell crefft a chelfyddyd na'r rhan fwyaf o stoñau a ysgrifennir heddiw. Adolygiad gan EDWARD FRANCIS Bûm unwaith, ar ôl darllen y storïau Y Môr yn galw a'r Onor Bach," yn meddwl mai gorffen yn rhy ystrydebol oedd y bai ar y ddwy stori hon, ond wedi ail feddwl dois i'r casgliad nad dyma oedd, canys y mae digon o straeon da iawn yn ystrydebol yn eu deunydd ond fod yr ysgrif- ennu yn eu codi allan o'r cyffredin ac yn eu gosod ar binacl, fel.delw gain wedi'i gwneud o bethau digon cyffredin ynddynt eu hunain; a daeth yn gliriach mai'r llacrwydd dweud oedd yn tynnu oddi wrth eu heffeith- iolrwydd. Ond na thybied neb ar ôl dweud hyn nad oes dim da yn y chwedlau, canys tynnu casgliad hollol anheg fyddai hynny. Y mae'r wybodaeth o fywyd tref Gymreig, a'r modd y darlunid ef, yn ddiddorol a newydd -ac o sylweddoli gallu'r awdur yn Y Simpil Idiot y gwelir y mannau lle na bu cymaint ei lwyddiant yn y straeon eraill. Fe ddyry'r gyfrol gronicl o agwedd newydd ar fywyd Cymreig a da iawn yw ei gael yn enwedig fel y mae yma, yn ffres o'r awyr agored, heb drafferthion y gegin, sydd mor aml yn llenwi straeon Cymru. Gan y Parch. Caniadau (td. 21) wedi eu cynnwys yn yr holl Lyfrau Emynau Cymraeg, a rhyfeddach fyth i'r Cymro ollwng gafael ar Hymn o Hiraeth am Baradwys." Nid yw'r naill yn fwy Beiblaidd na Pwy welaf o Edom yn dod," a cheir yn y llall fyfyrdod didwyll ar y sicrwydd am fywyd gwell. Gwych iawn ydoedd eu rhoi yma, a thrueni 'sobr na buasai'r gân "Morris William Powell" (td. 29) yn batrwm, ers llawer dydd, i holl ganu marwnadol Cymru. Diddorol, ie, ac anhepgor hefyd, ydoedd cael Hunangofiant Morgan Llwyd ynddo, sef y gân honno Hanes Rhyw Gymro (td. 25-28), ac nid y lleiaf o'i ragoriaethau ydyw y Rhagair cynhwysfawr a diwastraff. Min ei feddwl. Dylai'r Llythyr, y tro hwn, gerdded hyd ymhell, a bod yn gychwyn ymhyfrydu newydd yn y meddwl â'r min mwyaf ysbrydol a lefarodd erioed yn Gymraeg. Y mae'n amheus gennyf a oes mwy na dwsin o bobl yng Nghymru a ddarllenodd y Gweithiau I, II, ddwywaith drosodd, ac eto rhown ein pennau dros y clawdd gan ymestyn at y rhoncwellt, fel y gwneir at ddysgeidiaeth Barth, er enghraifft, ac ang- hofio bod Morgan Llwyd yn llawer amgen arweinydd i'r borfa îr, a'r dyfroedd byw. Oni ddywedodd ef y gwir am genedl y Cymry? Ac wedi danfon y plant i ysgolion llygredig i gasglu rhai o flodau'r ieithoedd mae eu briallu hwy yn gwywo cyn y delont adref at Ddnw, neu atynt eu hunain. (G. M. LL. ii., 93). Yn wir, gellir dywedyd am y gyfres hon, fel y dywedodd gŵr o'r Pentre lle ni ddaw Bws," am ei wyau: Os ydyn' hw'n fach ma'n' hw'n rhai bachllawn iawn.'