Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Twf Llenyddiaeth Cymru, XI. Ei fywyd anhrefnus, trist, ai farddoniaeth drefnus, gadarn. YR oedd Lewis Morris, a driniwyd yn y Ford Chon y mis diwethaf, eisoes yn ŵr ifanc 63 oed, ac wedi ennill clod fel prydydd, pan aned Goronwy Owen yn 1728. Yn Llanfair Mathafam Eithaf, Ynys Môn, y ganed ef. Cafodd ysgol trwy gymorth y Morrisiaid, ac fe'i hurddwyd yn ddiacon. Bu'n gurad ym mro ei eni am ychydig, ond bu rhaid iddo adael oherwydd fod gan Esgob Bangor young clergyman of very great fortune i'w osod yn ei Ie. Alltud fu wedi hynny, yn hiraethu am ei Fôn dirion dir." Bu'n gurad yn Selattyn, yn athro yn ysgol ramadegol Croesoswallt, ac yn gurad Uppington, Sir Amwythig (lle yr ysgrifennodd, neu y cwblhaodd, rai o'i ddarnau gwychaf). Bu wedi hynny yn Walton, Lerpwl, ac yn 1755, ar gais Lewis a Richard Morris, aeth i Lundain i fod yn gaplan i'r Cymmrodorion. Ond ni thyciodd y bwriad o gael Eglwys Gymraeg i'r bardd, ac ymhen ychydig fisoedd aeth yn gurad Northolt, Middlesex. Syrthiodd i ddyled, ffraeodd â Bichard Morris, gwnaeth elynion o rai o'i hen gyfeillion ymhlith aelodau'r Cymmrodorion, ac yn 1757 gadawodd Northolt i gychwyn ar daith i'r America, lle'r oedd wedi cael curadiaeth ac ysgol yn Williamsburgh. Bu farw ei wraig yn y llong ar y daith. FFARWELIO A PHRYDAIN. PAN adawodd Goronwy Brydain nid oedd ond rhyw 34 oed, gŵr ifanc ym mlodau'i ddyddiau, wedi sgrifennu digon i brofi ei allu a'i fawredd fel bardd, ond gŵr siomedig er hynny, yn cyfrif ei waith yn ddim ac yn gorfod rhoddi heibio'i dalent er mwyn cael sicrwydd am fodd i fagu ei deulu. Nid oes ar gael ddarlun o Goronwy Owen ac y mae'n rhaid ceisio'i ddychmygu oddi wrth hynny o wybodaeth bersonol a geir yn ei lythyrau ef a'r Morrisiaid. Anodd pender- fynu pa un ai gwr hoff a driniwyd yn galed gan ffawd a'i gyd-ddynion ydoedd, ai gŵr anodd, di-ddiolch yn derbyn mwy nag a haeddai ac yn pwdu â'i gyfeillion pan geisient ganddo drefnu i fyw yn ôl ei foddion. Ar ôl iddo adael y wlad hon ni chlywsom fawr oddi wrtho, ond mewn rhyw ddeng mlynedd ar ôl myned cawn lythyr at RichardMorrÌB sydd yn dangos yn bur eglur nad oedd wedi anghofio'r gwŷr a fu'n cyd- fyw ag ef. Bwriad a threfn. Mae gwrthgyferbyniad rhyfedd rhwng bywyd trafferthus, afreolus y bardd, a'i farddoniaeth-y mae un yn ymddangos fel petai heb blan, yn dibynnu'n hollol ar ddigwyddiadau ffawd, y mae'r llall yn gadarn a chaboledig, yn llawn bwriad a threfn. Canys dyna un o ryfeddodau barddoniaeth Goronwy Owen, fod ei wybodaeth o'i iaith, ei astudiaethau, ei ddarllen, popeth yn cael eu troi at anghenion ei linellau a'i gywyddau. Adeiladwaith yw ei holl brydyddiaeth yn dibynnu i raddau helaeth ar ei fawredd a'i urddas ar gynllun a ffurf a chytbwysedd. GORONWY OWEN Hen Ysgoldy Croesoswaüt, Ue bu Goronwy'n athro. Fel y dywed ef ei hun wrth sôn am ei fwriad i sgrifennu epig, unwaith y ceir y cynllun nid oes drafferth adeiladu wedi gosod v grwndwal yn ei feddwl nid anodd codi'r muriau a'u caboli a'u trwsio. Y dylanwadau arno. Y mae'r agwedd hon ar ei farddoniaeth yn rhoddi lIe i gredu bod Goronwy tan ddylan- wad ysbryd yr oes yn Lloegr yr oes Augustaidd a edrychai at Roeg a Rhufain am batrymau meddwl a barddoniaeth. a diamau i'r ysbryd hwnnw ddylan- wadu'n drwm arno, fel y gellir gweled yn astudiaethau Mr. Saunders Lewis. Ond ar wahân i'r dylanwad hwn, yr oedd tro meddwl y bardd a'i awen naturiol ef ei hun yn troi at drefn a meddwl, at glasuraeth nid at ramantiaeth; geiriau, nid syniadau, oedd mater ei gân, megis yr hen feirdd Cym- reig yn amser aur y cywydd; ffurf, nid ys- brydiaeth; ond, er hynny, gan mor gyfrin yw'r cysylltiad rhwng geiriau caboledig â meddyliau, y mae mwy o urddas ac o fawredd yn aml yng ngwaith meddwl Goronwy nag yng ngwaith mwy "ysbrydol" ond esgeulusach beirdd diweddar fel Islwyn. Y Farn Fawr. Y mae'r gyneddf hon ym marddoniaeth y bardd i'w weld yn glir iawn yng Nghywydd y Farn Fawr. Dechreuodd ei hysgrifennu pan oedd ond gwr ifanc rhyw 34 oed, ac yr oedd wedi ei gorffen erbyn 1752. Yr oedd y testun yn un digon hoff gan feirdd y cyfnod yn Lloegr; heblaw hynny gwyddai Goronwy am waith Sion Kent yn Gymraeg, ond nid oes raid ond cymharu gwaith Goronwy â gwaith y beirdd eraill a ganodd ar y testun i weled Gan EDWARD FRANCIS. paham y mae ei gywydd ef yn para'n farddoniaeth fawr a'r lleill yn ddim ond esiamplau diddorol i'r hanesydd. Cnewyllyn y cywydd yw'r urddas sydd yn ei eiriau a'i syniadau; y mae ei symudiad yn araf ac yn orffenedig Y dydd, diogel y daw, Boed addas y byd iddaw: Diwrnod anwybod i ni, A glanaf lu goleuni Nid oes, f'Arglwydd, a wyddiad Ei dymp onid ef a'i Dad. Llen o'r ffurfafen a fydd Mal cynfas, mil a'i cenfydd, Ac ar y llen wybrennog E rydd Grist arwydd ei Grog. Yr angel a'i gorn. Disgrifia'r angel yn canu'r caniad olaf a ddywed am ddyfod yr awr: Angel a gân, hoywlan lef Felyslais, nefawl oslef Wrth ei fant, groywber gantawr, Gesyd ei gorn, mingorn mawr; Corn anfeidrol ei ddolef Corn ffraeth o saernîaeth nef. Ac felly â ymlaen yn araf ond yn sicr i ddisgrifio terfysg môr a thir ac awyr, y meirw'n cyfodi ac yn dyfod i'r Farn, syniadau digon adnabyddus i'r neb a ddar- llennodd ei Feibl ond a godwyd yn y cywydd i radd uchel o ddisgrifiad. Fel enghraifft o allu prydyddol Goronwy cymharer ei linellau Ìle ceir Duw yn rhoddi barn ar yr anghyfiawn, â'r llinellau lle y rhoddir i'r da eu gwobrwy, y naill yn llym a didostur, y lleill yn fwyn a melys, gyda llinellau tawel yn llawn o'r cydseiniaid 1, r ac n. [Trosodd.