Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DR. T. H. PARRY-WILLIAMS YM MANCEINION. Gan HENRY ARTHUR JONES. NI rydd unrhyw ddigwyddiad fwy o hyfrydwch i Gymry Manceinion na derbyn ymweliad <ran lenor neu fardd Cymraeg o fri. Y maent yn nodedig am eu croeso ar am- gylchiad o'r fath, fel y gwelwyd llawer iro. Pan ymwelodd Dr. T. H. Parry- Williams å hwy ddechrau y mis di- wethaf, cododd yr hwyl yn uchel, ac atebodd ei ysbryd yntau yn ardderchog iawn i'r awyrgylch brwd, yn arbennig felly yng nghinio blynyddol Cym- deithas y Ford Gron. Yng ngweithdy'r llenor. Ymgomiodd yr athro'n ddiffuant a rhydd ar ogwydd a theithi llên ddi- weddar Cymru, yn farddoniaeth a rhyddiaith. Traethodd yn feistrolgar iawn ar gelfyddyd y delyneg, y soned, a'r stori a'r ysgrif fer. Cymerodd ei wrandawyr, fel petae, i mewn i weithdy'r bardd a'r llenor, i'w gweled yn dilyn eu crefft, a sylweddoli gyw- reinied oedd honno. Beirniadodd beth ar un neu ddwy o delynegion o sonedau adnabyddus, ond yr oedd yn eglur fod ganddo syniad uchel iawn am feirdd heddiw, ac am ysgrifenwyr y stori fer. Un o'r pethau mwyaf diddorol ac awgrym- iadol yn ei anerchiad oedd ei ddadan- soddiad o gelfyddyd yr ysgrif fer. Yn ei ddarlith yn y Gymdeithas Gen- edlaethol ar Hen Benillion," am y penillion telyn y BOniai-" pethau bach hen ffasiwn y'i galwodd. Ond dangosodd fod digon o gelfyddyd ynddynt i'w cyfrif yn llenyddiaeth bur. Darlith Dr. Fleure. Ar Chwefror 19 traddododd Dr. H. J. Fleure ddarlith i'r Gymdeithas Genedlaethol ar Hanes Hilion y Cymry." Cadeiriwyd gan Mr. W. O. Lester Smith, Cyfarwyddwr Addysg y Ddinas, a thraddododd araith Gymraeg. Parodd hyn syndod a llawenydd i'r cynulliad, oherwydd yr oedd argraff ar led nad oedd yn ddigon hyddysg yn yr iaith i areithio ynddi. Pan eglurodd iddo dreulio ei fachgendod yn Llan- brynmair, cafwyd esboniad ar ei grap dda ar yr iaith. Gwyl Ddewi. Darlithiodd y Parch. D. Gwynfryn Jones yng nghapel Bore St., Chwefror 13, ar ei ymweliad diweddar â rhannau helaeth o Ganada a'r Unol Dalaethau. Yr oedd cystadleuwyr lluosog yn Eisteddfod y Ddraig Goch, yn ysgoldy Moss Side, nos Sadwrn, Chwefror 27. Dr. Tom Richards, Bangor, fydd gwr gwadd y Gymdeithas Genedlaethol yn ei chinio Gŵyl Ddewi, Mawrth 1. Llywyddir gan y Parch W. J. Jones. GAIR 0 NEW ZEALAND. TVTID ydych yn clywed yn ami o New Zealand ond gallaf eich sicrhau fod yma lawer o Gymry trwyadl, rhai sydd yn cadw eu hiaith ac hefyd yn dal yn bur i draddodiadau eu cenedl. Mae Cymdeithasau Cymraeg mewn amryw o fannau ac yr ydym yn cael cyfarfodydd pur dda. Nid yw y tan Cymreig yn debyg o ddiffodd am y rhawg. Mae Y FORD GRON yn cael croeso ■"ynnes i'n plith a mawr yw'r pleser a gawn wrth ei darllen. LLEW ap G. JONES. Dargavüle, New Zealand. YMOSODIAD DI-SAIL AR GYMRY LLUNDAIN BEIRNIADWYD C y m r y Llundain y dydd o'r blaen (mewn ymgom â gohebydd newyddiadur dyddiol) gan ysgrif- ennydd un o'r Cymdeithasau Siroí. Cyhuddir hwynt o fod yn araf a di- gychwyn ynglŷn â mudiadau cenedl- aethol. Sais ydyw'r beirniad ac ategir ei syl- wadau gan un o glercod ei swyddfa- Sais arall. Pa hawl sydd gan y ddeu- ddyn hyn i feirniadu, a pha sail sydd i'r cyhuddiad? Gwnaed y sylwadau ynglyn â'r bwriad i ffurfio Undeb o'r cymdeithasau sirol, a thebyg y tybiai'r brodyr hyn y dylasai fod awydd angerddol am yr undeb, a brys i'w ddwyn i ben. Dwy ochr i'r pwnc. Y mae, wrth gwrs, ddwy ochr i'r cwestiwn ac, yn wyneb y llu o gym- deithasau o bob math sy gennym yn barod, nid heb lawer o ystyriaeth y dylesid dwyn un arall i fod ac felly nid oedd rhaid wrth benderfyniad buan ar y mater. Diau y gwna'r ddau ŵr a grybwyll- wyd eithaf gwaith ynglŷn â chym- deithas sir eu mabwysiad, ond safant y tu allan i'r bywyd Cymreig yn y Brifddinas ac ni wyddant ond y nesaf peth i ddim am dano. Cynghorwn y ddau i fynnu ac astudio Llawlyfr Cymry Llundain a'r Ddolen, ac efallai y gwnai darllen y golofn hon yn fisol ychwanegu at eu gwybodaeth os nad at eu doethineb. Brwdfrydedd. Gwyr darllenwyr Y FORD Gron am bybyrwch a brwdfrydedd Cymry Llun- dain ynglŷn â phob mudiad cen- edlaethol, a'r gwaith mawr a wneir gan yr Eglwysi, y Cymdeithasau Llen- yddol, Cymdeithas y Cymry Ieuainc a'r amrywiol gymdeithasau eraill, ac ystyriwn ei bod yn haerllugrwydd ar ran personau sy'n anwybodus o hyn 011 i gyhoeddi beirniadaethau a gwneuthur cyhuddiadau di-sail ar led gwlad. Wrth sôn am y cymdeithasau sirol, gallaf ddwyn tystiolaeth i'r modd y trefnant gyfarfodydd sylweddol a thynna gynulleidfaoedd mawrion. Yr Athro D. Hughes Parry. Cafwyd dwy enghraifft o hyn mewn un wythnos. Trefnodd Cymdeithas Sir Gaernarfon i gael darlith gan eu Llywydd, yr Athro D. Hughes Parry, yng nghapel Brunswick ac agorodd yntau i'r aelodau Bennod yn hanes yr hen Sir." Hyderaf yn fawr y bydd iddo barhau'r gwaith a chyhoeddi ffrwyth ei Gan LLUDD. lafur mewn llyfr. Y mae eisoes yn awdur a golygydd amryw weithiau safonol ar agweddau o'r gyfraith ac yn llanw cadair bwysig ym Mhrifysgol Llundain ac yn aelod o'r Senate. Coffa Syr Henry Jones. Yr un wythnos bu'r Prif-athro Hetherington, o Brifysgol Lerpwl, yn darlithio i aelodau Cymdeithas Sir Ddinbych yn neuadd y Cymry Ieuainc, a Dr. Tom Jones yn y gadair. Galwyd sylw at y casgliad i sicrhau coffa teilwng yn Llangernyw o'i mab enwog, a phenodwyd Dr. Tom Jones yn gadeirydd, Mr. Cecil Williams yn ysgrifennydd, Syr J. T. Davies yn drysorydd a nifer o frodyr yn bwyllgor i gydweithredu â'r cyfeillion yn Llan- gernyw, Bangor a Glasgow, i ddwyn y gronfa i ben. Gwobr f50. Hysbyswyd yn ystod y cyfarfod y rhoddir gwobr o £ 50 yn Eisteddfod Gwrecsam gan Gymdeithas Sir Ddinbych yn Llundain ar destun yn dwyn cysylltiad â'r Sir. Yr Athro W. J. Gruffydd. Yng Nghymdeithas Sir Fôn tra- ddododd y Llywydd (Mr. E. W. Cemlyn Jones) ddarlith ar ei daith i Rwsia a chafwyd ganddo oleuni gwerthfawr ar sefyllfa pethau yn y wlad ryfedd honno. DeaIIaf hefyd i aelodau'r Gymdeithas gael hwyl anarferol yn eu cinio blyn- yddol. Yr Athro W. J. Gruffydd ydoedd y gwr gwadd, ac efe y noswaith gynt wedi darlithio i aelodau Cym- deithas y Cymry Ieuainc ac Undeb y Cymdeithasau Diwylliadol yn lle'r Athro Edward Edwards, Aberystwyth, a rwystrwyd gan waeledd. Gwaith y Llywydd. Wrth sôn am Undeb y Cymdeith- asau, carwn dalu gwrogaeth i'r Llywydd, Syr Percy Watkins, ysgrif- ennydd Adran Gymreig y Bwrdd Addysg, am ei waith yn ymweled â'r gwahanol gymdeithasau. Gwnaeth ei fwriad i wneuthur hyn yn hysbys yng nghyfarfod cyntaf y tymor, ac o hynny ymlaen nid oes wythnos na welwyd Syr Percy ac un neu ddau o swyddogion yr Undeb ar ymweliad â rhyw gymdeithas neu'i gilydd. Mr. Lloyd George yn y capel. Yng nghapel Castle Street y gwnaeth Mr. Lloyd George ei ym- ddangosiad cyhoeddus cyntaf ar 61 ei waeledd a llawenydd gan bawb ydoedd ei weled yn edrych mor rhagorol. Y gweinidog, y Parch. James Nicholas, a bregethai, a chafwyd gair pwrpasol gan Mr. Lloyd George ar ddiwedd y gwasanaeth. EISTEDDFOD PRIFYSGOL LERPWL. CYMYSGEDD o'r difrif a'r gwamal a gafwyd yn Eis- teddfod Cymdeithas Cymry Prif- ysgol Lerpwl y mis diwethaf. Digrif dros ben oedd y rhaglen a rhestr y testunau, a direidus iawn oedd ystranciau'r efrydwyr yn y cyfarfod. Eto i gyd, cafwyd cystadlu caled a chynhyrchion graenus, a bu'r wyl yn llwyddiant ymhob ystyr. Yr oedd yr ystafell eang yn llawn, ac yr oedd yn amlwg fod lliaws mawr o Gymry sydd y tu allan i furiau'r coleg yn cymryd diddordeb mawr yn yr eis- teddfod. Y buddugwyr. Wele'r buddugwyr: Hir-a-thoddaid, Y Gwyddonydd, Gwilym Deudraeth. Telyneg, Rhamant yr Hwyr, R. Gwespyr Jones, Treffynnon. Adrodd, dan 21 oed, 1, Megan Jones, Belvidere Road. Unawd ar y piano, Mabel Carring- ton, Birkenhead, a Rita Burton, Waterloo (cydradd). Canu penillion. W. P. Williams, Bootle. Cystadleuaeth chwibannu i ferched, Eileen Roberts. Traethawd, Sut i loywi ardaloedd gwledig Cymru, Owen Elias Roberts, Llanymstumdwy. Cyfansoddi drama (uu act). Ceiriog Williams, Llangollen, ac O. Elias Roberts (cydradd). Cystadleuaeth areithio, W. P. Williams, Bootle. Cystadleuaeth adrodd (agored), Olwen Thomas, Caerwys, a R. Ellis Roberts, Bermo (cydradd). Beddargraff Bwci, Gwilym Deu- draeth. Y Limeric, Hywel Jones, y Brif- ysgol. Croesangerdd, Hywel Jones, y Brif- ysgol. Y brif unawd, Violet Jones Nant- clwyd, Rhuthyn. Cyfieithu, Gildas. GWYL DDEWI YN UGANDA. YR wyf yn ysgrifennu i ofyn bendith Y FoRD GRON ar ein Cymdeithas Gymraeg newydd, hynny yw, Urdd Dewi Sant Uganda (De Affrica) ac yn arbennig i gael eich dymuniadau da i'n calonogi i ddathlu gŵyl ein Mabsant am y tro cvntaf yn y parthau hyn o'r byd. Y mae yma griw go lew o Gymry, ac yr ydym yn edrych ymlaen at wledd hwvlus. Tebyg y bydd tua 40 ohonom. GORONWY ap GRIFFITH. Kampala, Uganda. (Gynt o Dalwrn, Llangefni, Ynys Môn). Edrychir ymlaen at ei ymweliad ef â chinio Gŵyl Ddewi. Tymor ciniawa. Daeth tymor y ciniawa ar ein gwarthaf ac am rai wythnosau bellach fe ymgyferfydd y dinasyddion i ddathlu hyn ac arall â chyllyll a ffyrc a chyda areithiau gwladgarol tanllyd. Ceir hefyd ginio mawr y Cymmrod- orion, a'r Tywysog Sior, mab y Brenin, yn westai. Y ddrama. Gwelaf bod mwy o fri nag arfer ar y gystadleuaeth chwarae drama a drefnir gan Undeb y Cymdeithasau. Daw Gwynfor yma i feirniadu ac am ddwy noson ym mis Mawrth fe ber- fformir drama fer gan saith o gwmnïau.