Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NOSWYLIO-o dud. 109. ac yn ceisio rhoddi potel dẁr poeth wrth ei ochr. Clywodd hi'n dweud, megis o bell, bell, ei bod yn mynd i gyrchu'r meddyg. Yr oedd yntau'n rhy wael i ateb na diolch. Ond wedi iddi fyned daeth i deimlo'n esmwyth. Dychwelodd digwyddiadau 'r dydd i'w feddwl. Cofiodd y llafur caled, y gawod law, 3 swper a'r newyddiadur. Cofiodd am y Salm a ddarllenasai: Yr Arglwydd yw fÿ mugail Yna, yn sydyn, daeth chwys mawr drosto a chrynodd —deuthai i 'w gof y geiriau" pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau Ychydig o adnodau a lynai yng nghof Ifan, ond yn awr ni allai dynnu ei feddwl oddi wrth y geiriau dychrynllyd "cysgod angau." Tybed a oedd ef i îarw heno? Dyehwelodd y boen. Griddfanai yntau, ond uwehlaw'r cwbl clywai'r geiriau: "pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau." Collodd bob cyfrif ar amser. Gwelodd y meddyg yn sefyll uweh ei ben a theimlodd ef yn gafael yn ei law. Gwelodd wyneb gwelw ei wraig a'r dagrau'n disgyn dros ei gruddiau. Clywodd y meddyg yn gofyn rhywbeth, ond ni allai yn ei fyw ateb. Ni wyddai beth a ddywedaîV meddyg oblegid yn ei glustiau elywai beunydd y gair "angau." Rhoddodd y meddyg rywbeth i'w esmwytho. Teimlai Ifan y boen yn lliniaru. Daeth ychydig o'i hen nerth yn ôl, a gallai siarad ychydig. Dwedwch wrthi," meddai wrth y meddyg, mai nid ar y llaeth enwyn y mae'r baí." "O, mae hi'n deall hynny, Ifan Roberts. "Faínt ydi hi o'r gloch? gofynnodd ymhen yehydig. Pump," oedd yr ateb. Arhosai geiriauV adnodau yn ei feddwl o hyd, ond wedi clywed ei bod yn bump o'r gloch sylweddolodd mai dyma'r amser yr arferai godi bob bore, a daeth meddyliau am y ffarm i gymysgu ag adnodau'r Salm. Eisteddai'r meddyg ger y gwely. Safai Margiad wrth ochr y gwely yn ei wylied ac yn gwrando'n astud ar bob gair a ddywedai Ifan. IV Arglwydd yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf. Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog '—Margiad, cofia droi'r gwartheg i'r cae o dan y ty ar ôl eu godro. Efe a'm tywys gerllaw paid ag anghojio'r ceffyl a'r ferlen — y dyfroedd tawel Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau — Doctor, ydach-chi'n meddwl fy mod i am wella? "0, ydych, Ifan Roberts. Fe â'r boen cyn bo hir," meddai'r rneddyg yn groyw, ond ail-ddechreuodd y dagrau lifo i lawr gruddiau Margiad. Ie. pe rliodiwn ar hyd glyn cysgod angau teimlo'n bur smala 'rydw i doctor. Y mae'r adnod yna yn dwad yn ól i'm meddwl i o hyd. Yr ydw inna'n mynd at y glÿn cysgod angau yna rnae'r adnod yn sôn am dano: ydw, wir, doctor.' Aeth yn ddistaw a chaeodd ei lyga'd. Teimlai'r boen yn dychwelyd, ond rywsut teimlai ei fod ar wahân i'r boen. Yn araf, araf, collodd ymwybyddiaeth o bresenoldeb ei wraig a'r meddyg; collodd ymwybydd- iaeth o'r poenau o'i fewn. PENTREF LLANBEDR MEIRION-o dud. 114. Sir yn y Bermo, gan deithio bob dydd gyda'r trên. Nid oes stesion yn agos i'r pentref; Llanbedr and Penaarn gwaith rhyw chwarter awr—ydyw'r nesaf, ond yn ddiweddar adeiladwyd Halt Talwrn Bach, sydd o fudd mawr i'r pentref- wyr. Chwery'r Cyngor Plwyf ran bwysig ym mywyd y trigolion. Y mae yno hefyd Undeb Amaethwyr, a cheir sale anifeiliaid bob hyn a hyn. Yr oedd gan y pentref feddyg hyd yn ddi- weddar, ond yn awr fe'i cipir ar fyr rybudd o'r Bermo neu o Harlech. Y mae nyrs i'r pentref a'r ardal gylchynol, a cheir gweith- g.irwch a sêl hynod yn ystod misoedd y gaeaf ynglýn â chodi sosial neu "Jumble Sale i gadw'r gwaith da i fyned ymlaen. Eglwys y plwy. Er na ellir dywedyd bod golwg hynafol ar y pentref ei hunan, y mae'n rhaid bod i'r ardal o gwmpas bwysigrwydd mewn oesoedd bore. Y mae olion mur a chutiau crynion rhyw bobl cynnar iawn ger Plas Gwynfryn Cafwyd wrn gladdu ger Pensarn, a llestr chwe ochrog yng Nghae Nest, ond ni wyddys fawr iawn ynghylch y rhain. Dar- ganfuwyd olion hen adeilad ger Tynycoed, a berthynai o bosibl i'r Canol Oesoedd. Cafwyd yno gerrig llyfn a darn 0 lestr caboledig, a chredir mai math ar eglwys ydoedd yno. Fel y gwelir oddi wrth enw'r pentref, cysegrwyd eglwys y plwyf i Bedr. Gellir bod yr adeilad cyn hyned â'r bymthegfed PRYNU CANERI, gan T. H. Parry Williams-o dud. 105. Ni chanodd yr aderyn. Ond ymhen ychydig wythnosau, ar ryw brynhawn Sul digynnwrf, canfuwyd wy bach gwelw a thor- calonnus ar waelod y caets; ac ym mrig yr hwyr llesgaodd yr aderyn, a marw ym machlud haul.—" a tiny ball of feather and bone." Ond ni ddileai hynny 'r ffaith fy mod wedi profi o gyffroadau mawr prynu caneri gyda chyfaill. Yr wyf wedi gwneuthur cannoedd a miloedd o bethau-pwysig ac amhwysig- erioed. ond un neu ddau o bethau fel hyn sy'n aros ymysg profiadau heb eisiau trafferth nac ymdrech i'w dwyn ar gof. Y maent felly, yn sicr, yn eithriadol. Anodd yw egluro hynny i eraill sydd heb gydym- Cododd y meddyg ar ei draed. Wylai Margiad yn hidl, erbyn hyn ar ei gliniau wrth y gwely. Symudai gwefusau Ifan yn awr ac yn y man, ond ni chlywai'r ddau a'i gwyliai beth a ddywedai. Bu felly am ychydig ac yna agorodd ei lygaid drachefn, a chlywent ef yn dweud yn ddistaw: "Efe a ddychwcl fy enaid; Efe a'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw; Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed; canys yr wyt Ti gyda mi­ canys yr wyt Ti gyda mi—yr wyt Ti gyda mi-gyda mi—." neu'r unfed ganrif ar bymtheg, ond oher- wydd ail-adeiladu darnau mawr ohoni, nid erys ond ychydig iawn o'r adeilad gwreiddiol. Yri yr eglwys hon y claddwyd Elis Wynne o'r Lasynys, awdur Gweled- igaethau'r Bardd Cwsg." Carreg yn dawnsio. Mewn cae ger y pentref saif dwy garreg hynod a elwir Y Meini Hirion,"—rhyw- beth yn debyg o ran golwg i gerrig "Stone- henge." Hwyrach mai olion hen garnedd neu gylch o ryw fath ydynt, ond ni ellir bod yn sicr. Y mae hen ddywediad mai yma y dechreuwyd adeiladu Eglwys y Plwyf, ond bod yr adeiladwyr wedi methu cario'r gwaith ymlaen, oherwydd i ryw fodau an- weledig fod wrthi'n brysur bob nos yn cludo ffrwyth eu llafur i'r lle y saif yr Eglwys bresennol. Y mae stori ryfedd iawn am y ddwy garreg yma, sef bod y garreg fach yn dawnsio o gwmpas yr un fawr pan glyw gloch yr Eglwys yn canu! Haf a gaeaf. Os yn yr haf yr ymwelir â'r fangre ramantus, ni ellir dymuno prydferthwch mwy na natur yn ei gwisgoedd amryliw yn hulio'r fro, gyda'r awel falmaidd »'r aroglau pêr. Os gaeaf a fydd, ceir golyg- feydd bendigedig, yn enwedig o'r bont,—y llethr eiräóg, y bryniau îs, a'r coed dulas rhyngom â hwy,-rhywbeth tebyg, ond ar raddfa lai, i ambell olygfa yn y Swisdir, medd rhyw deithiwr. deimlad. Ac mewn difrif calon pwy a all ddatguddio cyfrinach a chyfriniaeth y peth? Ac atolwg hefyd, pa beth ydyw'r dwyster creulon a'r annihangfa anesgor sydd o gylch unrhyw aderyn mewn caets? Cofiwn nad yw'r môr i un bardd o Gymro ond y durtur Iwyd a gaeodd Duw tu hwnt i dwyni'r tywod mawr," ac nad yw ambell aderyn, er agor drws ei garchar, yn awyddus o gwbl i ddianc. Ond er mai i bethau fel hyn y mae prynu aderyn yn arwain, eto nid yr effeithiau a'r canlyniadau yma sy'n gwneuthur yr argraff annileadwy ar yr ymwybyddiaeth, ond y prynu ynddo'i hun, a hynny gyda chyfaill. Ac er bod ias hanner hyfryd ynglŷn â chyn- hyrfiad y profiad hwn, nid yw'n un o'r profiadau y dymunir eu hailbrofi. Fel gyda boddi cath, un waith y prynir caneri. Y mae un gorchwyl arall gyda'n gilydd yn aros i'w gyflawni, sef lladd mochyn, neu weithred gytras gyffelyb. Dylai'r cymun- deb rhyngom fod yn berffaith wedyn, — a chyda llaw yn ychwanegiad at y Trioedd. Os byth y daw'r diwrnod hwnnw, bydd yn sicr o fod yn un o ddyddiau coch calendr fy mywyd. Ond, ysywaeth, wedi i ddyn foddi'r gath, prynu caneri a lladd ei fochyn, -y tri hyn,-ni bydd dim yn aros ond ter- fynoldeb diflas a di-ias. Arhoswn felly ronyn bach yn nifyrrwch gogleisiol y gohirio.